Dathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb: rhethreg neu realedd?

Cyhoeddwyd 22/09/2023   |   Amser darllen munudau

Dyma’r seithfed erthygl ein cyfres ddeg rhan sy’n edrych ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ei Rhaglen Lywodraethu. Yma, rydym yn archwilio’r amcan i “Ddathlu amrywiaeth a symud tuag at ddileu anghydraddoldeb yn ei holl ffurfiau”.

Mae 9 o ymrwymiadau penodol o dan yr amcan eang hwn ar gyfer y Cabinet cyfan, y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi diweddariad yn ei gylch yn ei Hadroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu. Mae yna hefyd ymrwymiadau gweinidogol perthnasol.

Porwch drwy ein cyfres #RhaglenLywodraethu lawn, a gyhoeddwyd hyd yma.

O'i chymharu â chyfartaledd y DU, mae poblogaeth Cymru yn hŷn, yn dlotach, mewn iechyd gwaelach ac mae ei chyrhaeddiad a sgiliau addysgol yn is.

Mae Llywodraethau olynol Cymru wedi ymrwymo i leihau anghydraddoldeb a dathlu amrywiaeth. Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 yn nodi amcanion y llywodraeth flaenorol i gefnogi'r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o wahaniaethu, gan gynnwys uchelgeisiau beiddgar i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau

Un o 'nodau llesiant' Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw "Gymru fwy cyfartal", sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau.

Er gwaethaf rhywfaint o gynnydd, datgelodd y pandemig ddyfalbarhad anghydraddoldebau dwfn a systemig, a chyfyngiadau polisïau’r gorffennol a gynlluniwyd i wella canlyniadau.

A yw cynlluniau gweithredu wedi'u targedu yn gweithio?

Er mwyn cyflawni’r amcan o Gymru fwy cyfartal, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu nifer o gynlluniau gweithredu. Mae’r Prif Weinidog wedi pwysleisio'r angen am weithredu ymarferol:

…strategies are not a substitute in the current context for a focus on the things that actively can happen and make a difference to people who are struggling every day.

Fodd bynnag roedd ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn tynnu sylw at ddyfalbarhad 'bwlch gweithredu' rhwng dyheadau deddfwriaeth a pholisi cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a realedd bywyd i unigolion, grwpiau cymdeithasol a chymunedau. Dywedodd 70 y cant o randdeiliaid a gymerodd ran yn yr ymchwil fod diffyg adnoddau i gefnogi gweithredu.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ym mis Mehefin 2022. Addawodd y cynllun "wneud rhywbeth gwahanol ynghylch hiliaeth ym mhob un o’r meysydd y mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth neu ddylanwad drostynt" a "chymryd camau radical yn hytrach na rhai graddo [fel yn] y gorffennol".

Yn ôl Llywodraeth Cymru un o lwyddiannau cynnar y cynllun yw cyflwyno dysgu proffesiynol am ddim ynghylch amrywiaeth a gwrth-hiliaeth (DARPL), sydd ar gael i bob gweithiwr addysg proffesiynol. Ond mae rhai sydd â phrofiad byw o hiliaeth wedi mynegi pryderon nad yw'r hyfforddiant hwn yn orfodol felly, nid yw'n cael ei ystyried yn flaenoriaeth. 

Ym mis Mawrth 2023, cyfarfu Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd â rhanddeiliaid o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector (gan gynnwys sefydliadau cydraddoldeb hiliol) i drafod gweithredu'r cynllun. Rhannodd rhanddeiliaid eu pryderon am gynnydd hyd yn hyn gan ddweud nad oedd camau gweithredu wedi'u cymryd eto mewn meysydd polisi allweddol. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad yn nhymor yr hydref i archwilio’r modd y gweithredir y Cynllun ac y caiff ei gyflawni.

Mae'r camau gweithredu a nodir yn y cynllun yn uchelgeisiol. Mae anghydraddoldebau hiliol yn parhau i fod yn dreiddiol ar draws cymdeithas; a daeth arolwg diweddar gan Ymddiriedolaeth Runnymede, a oedd yn trafod anghydraddoldeb hiliol yn y DU, i'r casgliad nad yw Prydain yn agos at fod yn gymdeithas hiliol deg.

Menywod

Ym mis Mai 2022, er mwyn cyflawni ei huchelgais o "wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw", cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r strategaeth Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) 2022-26. Ers ei chyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu chwe ffrwd waith (fel y nodir yn ei Glasbrint (camau lefel uchel i'r strategaeth).

Mae gweithredu'r strategaeth, wedi cynnwys darparu'r llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gyfer holl ddioddefwyr a goroeswyr VAWDASV, lansio ymgyrchoedd i fynd i'r afael â chasineb at fenywod a thrais yn erbyn menywod a sefydlu cronfa argyfwng i gefnogi menywod na allant gael gafael ar arian cyhoeddus.

Mae'r dull Glasbrint yn seiliedig ar gydweithio rhwng y llywodraeth, cyrff nad ydynt wedi'u datganoli a'r sectorau cyhoeddus a phreifat.. Ond mae honiadau am rywiaeth, casineb at fenywod, homoffobia a hiliaeth yn Undeb Rygbi Cymru wedi tynnu sylw at gyn lleied y gall Llywodraeth Cymru  ei wneud i sicrhau bod sefydliadau'n gweithio i wneud y "strategaeth yn fyw ar draws cymdeithas gyfan Cymru".

LHDTC+

Cafodd cynllun gweithredu i gefnogi'r gymuned LHDTC+ ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2023. Mae diweddariad ym mis Mehefin yn nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn nifer o'r camau gweithredu a amlinellir yn y Cynllun, gan gynnwys sefydlu gweithgor i gynghori ar gamau arfaethedig i wahardd therapi trosi LHDTC+.

Fodd bynnag, nid yw'n glir pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran ei hymrwymiad i "geisio datganoli unrhyw bwerau ychwanegol angenrheidiol." i wahardd therapi trosi. Mae Llywodraeth y DU wedi  ymrwymo i gyhoeddi Bil drafft ar wahardd arferion trosi, ond ym mis Mai 2023 cadarnhaodd Llywodraeth Cymru nad oedd wedi derbyn unrhyw wybodaeth ynghylch yr hyn y mae'r Bil drafft yn ei gynnwys.

Dywedwyd yn y Rhaglen Lywodraethu y bydd hefyd yn ceisio datganoli Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 (sy’n caniatáu i bobl drawsryweddol wneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd fel bod eu rhyw yn cael ei gydnabod yn gyfreithiol ac yn cael ei adlewyrchu ar eu tystysgrif geni). Fodd bynnag, o dan y rheolau datganoli presennol, dim ond Senedd y DU all newid y gyfraith ar gydnabod rhywedd yng Nghymru ac mae Llywodraeth y DU wedi dweud nad yw trosglwyddo pwerau yn mynd i ddigwydd.

Pobl anabl

Ym mis Mai 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu 2022 i 2026 sy'n ceisio mynd i'r afael â materion allweddol a nodwyd gan Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anableddau Dysgu (LDMAG). Wrth groesawu'r cynllun, mynegodd Anabledd Dysgu Cymru fod angen bod yn 'ofalus' a dywedodd nad oedd manylion ynddo am "sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni ei nodau".

Roedd diweddariad ym mis Mehefin 2023 yn tynnu sylw at lawer o feysydd lle roedd cynnydd yn cael ei wneud, ond nid oedd rhai gweithredoedd, gan gynnwys gwaith ar ddarparu canllawiau a chyngor mewn perthynas â chyfeillgarwch a pherthynas rywiol i bobl ag anabledd dysgu wedi cychwyn eto.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu Tasglu Hawliau Pobl Anabl ac wedi dweud mai ei "nod” fydd cyhoeddi Cynllun Gweithredu ar Hawliau Pobl Anabl ym mis Mawrth 2024.

Mae adroddiad blynyddol y Rhaglen Lywodraethu yn cyfeirio at gynnydd a wnaed i "sicrhau bod ein trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch". Fodd bynnag, yn ei adroddiad yn edrych ar gostau byw, dywedodd Anabledd Cymru bod pobl anabl yn gwario llai ar gostau fel trafnidiaeth. Maen nhw'n dweud bod hyn wedi gadael pobl yn ynysig yn gymdeithasol ac nad ydyn nhw'n gallu cyrraedd canolfannau cynnes ac apwyntiadau ysbytai.

O ran cyflogaeth, mae'r 'bwlch cyflogaeth anabledd' yng Nghymru yn uwch o'i gymharu â chyfartaledd y DU, er gwaethaf ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gau'r bwlch hwn.

Nid yw Llywodraeth Cymru chwaith wedi amlinellu sut a phryd y bydd yn cyflawni ei hymrwymiad i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru, sy’n symudiad y mae sefydliadau anabledd yn galw amdano ers amser maith.

A yw cymdeithas Cymru'n dathlu amrywiaeth?

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid mewn sawl maes sydd â'r nod o ddathlu amrywiaeth. Fel rhan o'r Cynllun Gwrth-hiliol, mae wedi darparu gwerth £4.5m o fuddsoddiad i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r nodau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon.

Mae hefyd wedi ehangu'r Gronfa Balchder Llawr Gwlad i gynnwys ardaloedd mwy gwledig a threfi llai a "helpu i gefnogi digwyddiadau i greu amgylchedd diogel a chroesawus ar gyfer pobl LHDTC+". Mae'r cyllid hwn wedi cael ei groesawu gan sefydliadau, gan gynnwys Cyngor Hil Cymru a Tai Pawb sy'n cyflawni prosiectau fel y Ganolfan amlddiwylliannol yn Wrecsam

Fodd bynnag, er gwaethaf camau cyllido i ddathlu amrywiaeth, mae nifer y troseddau casineb a gaiff eu hdrodd wedi codi.

Mewn ymateb i brotestiadau gan grwpiau gwrth-fewnfudo a grwpiau asgell dde eithafol dros gartrefu ceiswyr lloches a ffoaduriaid, mae academydd blaenllaw wedi rhybuddio fod safbwyntiau eithafol yn "llawer mwy prif ffrwd" a bod "rhethreg asgell dde eithafol ar gynnydd yng Nghymru".

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cydnabod bod yna faterion yn ymwneud â thwf y dde eithafol, a dywedodd “nad yw Cymru yn ddiogel rhag y casineb a'r anoddefgarwch yr ydym ni wedi eu gweld mewn mannau eraill”.

Pa mor bell y gall Llywodraeth Cymru "ddileu anghydraddoldeb"?

Gall Llywodraeth Cymru (a'r Senedd) gyfarwyddo cydraddoldeb, a dylanwadu arno drwy ddeddfwriaeth a pholisi. Ond mae Atodlen 7A o Ddeddf Llywodraeth Cymru (GOWA 2006) i raddau helaeth yn cadw deddfwriaeth ar 'gyfle cyfartal' i Senedd y DU. Mae hyn yn golygu, nad oes gan Lywodraeth Cymru, mewn rhai meysydd (er enghraifft gwahardd trosi rhywedd) y cymhwysedd deddfwriaethol i wneud unrhyw newidiadau.

Mewn rhai meysydd polisi a gadwyd yn ôl, fel mewnfudo a chyfiawnder troseddol, mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi anghytuno â deddfwriaeth Llywodraeth y DU sy'n ymwneud ag ymdriniaeth o grwpiau penodol (gan gynnwys ceiswyr lloches a Sipsiwn a Theithwyr). Ond er gwaethaf gwrthwynebiad, mae nifer cynyddol o Filiau’r DU wedi pasio heb gydsyniad y Senedd.

Fodd bynnag, gall Llywodraeth Cymru barhau i roi arweiniad ar gydraddoldeb. Mae wedi darparu cymorth costau byw drwy fuddsoddi yn y Gronfa Cymorth Dewisol a Chyngor Sengl. Mae hefyd wedi rhoi cefnogaeth i aelwydydd incwm isel drwy ei Chynllun Cymorth Tanwydd. Mae’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl sy’n Gadael Gofal hefyd yn tynnu sylw at ei pharodrwydd i gymryd agwedd newydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau.

Fel y dangoswyd drwy ei chynlluniau gweithredu, mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a dathlu amrywiaeth. Ond mae faint y gall leihau anghydraddoldeb yn dibynnu ar sut mae'n mynd i'r afael â'r "datgysylltiad rhwng polisi ac ymarfer" a nodwyd yn yr ymchwil i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.

Dysgwch am y Rhaglen Lywodraethu, ei hamcanion a’i hymrwymiadau

Erthygl gan Dr Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru