Staff o ysbyty'r Tywysog Siarl yn cymryd rhan yn y clap wythnosol i weithwyr allweddol yn ystod y pandemig

Staff o ysbyty'r Tywysog Siarl yn cymryd rhan yn y clap wythnosol i weithwyr allweddol yn ystod y pandemig

A yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i wireddu ei gweledigaeth o Gymru iachach?

Cyhoeddwyd 08/09/2023   |   Amser darllen munudau

Dyma'r erthygl gyntaf mewn cyfres o ddeg sy’n edrych ar gynnydd Llywodraeth Cymru wrth gyflawni ei Rhaglen Lywodraethu. Yn yr erthygl hon, rydym yn archwilio'r amcan llesiant i “Ddarparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel”.

Rhestrir 11 ymrwymiad penodol ar gyfer yr holl Gabinet o dan yr amcan hwn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi diweddariad ar yr amcan hwn yn ei hadroddiad blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu. Mae hefyd ymrwymiadau sy’n berthnasol i’r Gweinidogion.

Porwch drwy ein cyfres #RhaglenLywodraethu lawn, a gyhoeddwyd hyd yma.

Mae'r amcan 'gofal iechyd' yn nodi nifer o ymrwymiadau eang, gan gynnwys darparu triniaethau a ohiriwyd yn sgil y pandemig a chamau i wella iechyd meddwl (gweler ein herthyglau diweddar Lleihau'r ôl-groniad o ran rhestrau aros y GIG a Ffocws y Senedd ar iechyd meddwl i gael rhagor o wybodaeth am hyn).

Fodd bynnag, bydd cyflawni ymrwymiadau gofal iechyd Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar argaeledd gweithlu medrus a chynaliadwy.

Roedd pwysau'r gweithlu yn faes allweddol o bryder i randdeiliaid y sector iechyd ar ddechrau'r Chweched Senedd. Roedd nifer o’r rheini a ymatebodd i ymgynghoriad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd yn tynnu sylw at effaith y pandemig ar weithlu sydd eisoes o dan bwysau, gan alw am gamau i fynd i'r afael â phrinder staff, i wella recriwtio a chadw, ac i fynd i'r afael â materion o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae materion sy’n ymwneud â'r gweithlu wedi parhau i gael eu codi ym mhob rhan o raglen waith y Pwyllgor hyd yma, gan gynnwys wrth drafod: yr ôl-groniad o ran amseroedd aros (2022); rhyddhau cleifion o ysbytai (2022); anghydraddoldebau iechyd meddwl (2022); gwasanaethau endosgopi (2023), a deintyddiaeth (2023).

Gyda phwysau cynyddol ar wasanaethau'r GIG a lefelau llesiant staff ar eu hisaf erioed, mae rhai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi mynd ar streic yn ystod y misoedd diwethaf, fel rhan o anghydfodau parhaus ynghylch cyflog teg a diogelwch cleifion.

Beth mae'r Rhaglen Lywodraethu yn ei ddweud am y gweithlu?

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn addo “darparu gwell mynediad at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill”, ac mae'n cynnwys ymrwymiad penodol i sefydlu ysgol feddygol newydd yn y Gogledd.

Yn ei hadroddiad cynnydd blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu (a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023), mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at ei gwaith i ddiwygio contractau gyda deintyddion, fferyllfeydd cymunedol a meddygon teulu. Mae'n dweud mai’r contract meddygon teulu newydd yw’r diwygiad pwysicaf a wnaed ers 20 mlynedd.

O ran ysgol feddygol y Gogledd, dywed Llywodraeth Cymru fod “cynnydd sylweddol wedi’i wneud” a bod disgwyl i'r ysgol groesawu’r grŵp cyntaf o fyfyrwyr uniongyrchol yn nhymor yr hydref 2024. Mae'n dweud y bydd y niferoedd yn cynyddu'n raddol nes bod yr ysgol yn cyrraedd ei chapasiti llawn (140 o fyfyrwyr y flwyddyn) yn 2029.

Mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn tynnu sylw at fuddsoddiad o £5 miliwn i gynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn y gymuned (fel ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol). Roedd y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi yn croesawu’r ffocws ar wasanaethau cymunedol, ond pwysleisiodd fod angen mwy o gefnogaeth ar weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sydd eisoes yn gweithio o dan bwysau enfawr yn GIG Cymru.

Ym mis Mawrth 2023, wrth roi datganiad ar fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, cydnabu'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y galw am wasanaethau gofal sylfaenol yn fwy na'r gallu i’w darparu, sy’n golygu ei bod yn heriol gwella’r mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol. I gael rhagor o wybodaeth am ddiwygio gofal sylfaenol, gweler Rhaglen strategol GIG Cymru ar gyfer gofal sylfaenol.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu hefyd yn ymrwymo i barhau i ariannu bwrsariaeth GIG Cymru. Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai'r pecyn cymorth presennol ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd yn cael ei ymestyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/2024, ac y bydd ymgynghoriad ynghylch cymorth yn y dyfodol. Mae'r Gweinidog wedi dweud ers hynny y caiff amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad ei nodi ym mis Medi 2023.

Beth yw rhai o’r meysydd lle y mae pwysau ar y gweithlu?

Deintyddion

Yn ôl yr adroddiad cynnydd ar y Rhaglen Lywodraethu, mae bron 174,000 o gleifion newydd wedi cael mynediad at ofal deintyddol y GIG dros y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, un o’r prif bryderon ymhlith rhanddeiliaid yw nad oes darlun clir o faint o bobl yng Nghymru sy'n dal i aros i weld deintydd y GIG. Canfu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd fod anghydraddoldeb sylweddol o ran mynediad hefyd:

Yn anochel, y bobl y mae angen gwasanaethau arnynt fwyaf yw’r bobl sydd lleiaf tebygol o fod yn gallu cael gafael arnynt.

Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr opsiynau ar gyfer creu rhestr aros ganolog er mwyn deall y galw yn well, a thargedu adnoddau i’r mannau priodol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn.

Tynnodd adroddiad y Pwyllgor sylw hefyd at bryderon am ddiffyg data ynghylch y gweithlu. Yn ei ymateb i adroddiad y Pwyllgor, nododd Llywodraeth Cymru y câi strategaeth ar gyfer y gweithlu deintyddol ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf (nid oedd wedi'i chyhoeddi ar adeg ysgrifennu’r erthygl hon.)

Fferyllwyr

Ym mis Mawrth 2023, dywedodd y Gweinidog Iechyd wrth Aelodau o'r Senedd fod fferyllwyr, o dan y contract diwygiedig ar gyfer fferylliaeth gymunedol yng Nghymru, bellach yn gallu rhagnodi a chyflenwi meddyginiaethau ar gyfer ystod estynedig o gyflyrau:

…gan ddarparu mwy o fynediad i'r cyhoedd at wasanaethau, ac ysgafnu'r pwysau ar wasanaethau meddygon teulu a gwasanaethau eraill y GIG.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiwygio contractau fferylliaeth, gweler dogfen bolisi Llywodraeth Cymru, Presgripsiwn newydd (Rhagfyr 2021).

Mae wedi bod yn uchelgais ers amser maith i ddefnyddio gwasanaethau fferylliaeth yn fwy i wella iechyd a llesiant, ond mae'r rhan hon o'r gweithlu hefyd o dan bwysau. Noda Fferylliaeth Gymunedol Cymru fod prinder fferyllwyr ym mhob rhan o Gymru (problem a welwyd mewn ardaloedd mwy gwledig yn hanesyddol). Mae'n tynnu sylw at brinder mwy cyffredinol o fferyllwyr yn y DU, y tu hwnt i fferylliaeth gymunedol, a’r ffaith bod rôl fferyllwyr bellach wedi'i hychwanegu at restr y Swyddfa Gartref o alwedigaethau lle ceir prinder.

Meddygon teulu a'r gweithlu meddygol ehangach

Yn 2019, cytunodd Llywodraeth Cymru y dylid cynyddu nifer y meddygon teulu sy’n cael eu hyfforddi i adlewyrchu maint y boblogaeth yn well ym mhob ardal bwrdd iechyd. Y targed oedd recriwtio 160 o hyfforddeion meddygon teulu y flwyddyn, hyd at uchafswm o 200 pe bai digon o ymgeiswyr cymwys.

Yn ôl Cynllun Addysg a Hyfforddiant 2023/24 Addysg a Gwella Iechyd Cymru, mae nifer yr hyfforddeion meddygon teulu wedi cynyddu'n raddol ers 2019, ond mae proffil y carfannau sy’n cael eu hyfforddi yn newid. Mae'n nodi bod meddygon hefyd ar restr o alwedigaethau lle ceir prinder bellach a bod nifer gynyddol uchel o hyfforddeion meddygon teulu yn raddedigion meddygol rhyngwladol:

Er enghraifft, o'r nifer a dderbyniwyd ym mis Awst 2021 a mis Chwefror 2022, o gyfanswm o 184 o hyfforddeion roedd 54% yn IGMs [graddedigion meddygol rhyngwladol]. Yr arwyddion ar gyfer derbyniad Awst 2022 a Chwefror 2023 yw y bydd nifer yr IMGs yn uchel.

Mae hwn yn fater sy’n effeithio ar y DU yn ehangach. Dywed y Cyngor Meddygol Cyffredinol fod mwy o geisiadau gan raddedigion meddygol rhyngwladol bellach na graddedigion o’r DU i ymuno â chofrestr feddygol y DU. Mae hefyd yn nodi bod y profiad a gaiff graddedigion rhyngwladol o feddygaeth yn waeth, yn rhy aml, na'u cydweithwyr o’r DU, a’u bod yn teimlo wedi'u heithrio ac yn teimlo nad ydynt yn cael eu cefnogi yn ystod eu haddysg a'u gyrfa.

Er bod ein systemau gofal iechyd ar flaen y gad o ran amrywiaeth y staff, ni ellir dweud hynny o ran cynhwysiant.

Cynhwysiant yw un o themâu canolog strategaeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol y gweithlu – “Bydd creu diwylliant o wir gynhwysiant, tegwch a thegwch ar draws ein gweithlu wrth wraidd y strategaeth hon”. Fel y nodwyd yn y strategaeth, mae cysylltiad uniongyrchol rhwng cynhwysiant, ymgysylltiad a llesiant y gweithlu ac ansawdd y gofal a gaiff cleifion.

Nyrsio

Mae ambell gyfeiriad at nyrsio yn yr adroddiad blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu, ac eto dyma’r grŵp mwyaf o blith gweithlu’r GIG – mae staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd yn cyfrif am 40% o weithlu GIG Cymru.

Mynegwyd pryderon am recriwtio a chadw nyrsys ers amser maith. Mae prinder nyrsys yn broblem fyd-eang. Mae nifer o swyddi gwag mewn gwledydd eraill hefyd ac mae dibyniaeth gynyddol ar staff asiantaeth a recriwtio o dramor i lenwi swyddi. Gallwch ddarllen rhagor am y gweithlu nyrsio yn ein herthygl o fis Chwefror 2023 Ydy nyrsio yn weithlu mewn argyfwng?.

Roedd sicrhau cyflenwad cynaliadwy o nyrsys bob amser yn mynd i fod yn allweddol i wireddu uchelgeisiau deddfwriaeth lefelau staff nyrsio Cymru. Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrthi’n cynnal gwaith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, er mwyn edrych ar ba mor dda y mae'r Ddeddf yn gweithio'n ymarferol a'i datblygiad posibl yn y dyfodol.

Canolbwyntio ar gadw staff

Mae Cynllun gweithredu cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y gweithlu (Ionawr 2023) yn cydnabod y gellid dadlau mai gwella’r sefyllfa o ran cadw staff profiadol yn y gweithlu yw un o'r heriau pwysicaf i'w datrys:

Nid recriwtio yn unig yw’r ffordd allan o'r sefyllfa […] bydd yn parhau i fod yn hanfodol ein bod yn cefnogi iechyd a lles ein gweithlu presennol, yn canolbwyntio ar gadw ein gweithlu ac yn sicrhau ein bod yn datblygu'r sgiliau a'r gallu sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y Prif Weinidog fod y Rhaglen Lywodraethu, yn bennaf oll, yn ymwneud ag adfer ar ôl y pandemig, a sicrhau y gall y GIG ofalu am bawb sydd angen ei gymorth. Bydd atebion staffio cynaliadwy yn allweddol i hyn. Fel y mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi clywed dro ar ôl tro, ni fydd unrhyw swm o gyllid ychwanegol yn gallu mynd i’r afael â’r ôl-groniad o gleifion os nad oes modd dod o hyd i’r gweithlu.

Dysgwch am y Rhaglen Lywodraethu, ei hamcanion a’i hymrwymiadau


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru