Ynys Llanddwyn

Ynys Llanddwyn

Cymru gartref a thramor

Cyhoeddwyd 29/09/2023   |   Amser darllen munudau

Dyma’r olaf yn ein cyfres o ddeg erthygl sy’n edrych ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ei Rhaglen Lywodraethu (PfG). Yma, rydym yn edrych yn fanwl ar yr amcan i “Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang.”

Mae saith ymrwymiad penodol o dan yr amcan eang hwn ar gyfer y Cabinet cyfan, y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn eu cylch yn ei Hadroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu. Mae yna hefyd ymrwymiadau Gweinidogol perthnasol.

Porwch drwy ein cyfres #RhaglenLywodraethu lawn, a gyhoeddwyd hyd yma.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi camau gweithredu i ddiwygio trefniadau cyfansoddiadol Cymru ac i gryfhau ei phresenoldeb rhyngwladol.

Dyfodol cyfansoddiadol Cymru

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn gwneud nifer o ymrwymiadau ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Bydd yr erthygl hon yn edrych ar dri o'r ymrwymiadau hyn:

  • sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru;
  • cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd; a
  • diwygio etholiadau llywodraeth leol i leihau’r diffyg democrataidd.

Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Mae llawer o'r drafodaeth ar y pwnc hwn wedi'i arwain gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Plaid Cymru. Mae ei waith yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio. Sefydlwyd y Comisiwn i ystyried a datblygu dewisiadau ar gyfer diwygio cyfansoddiad y DU ac i gryfhau democratiaeth Cymru.

Mae’r Comisiwn yn casglu tystiolaeth gan wleidyddion, academyddion, sefydliadau cymdeithas sifil ac eraill sydd â diddordeb yn nyfodol cyfansoddiadol Cymru. Mae hefyd wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus agored ac mae'n ymgysylltu'n uniongyrchol â sefydliadau cymunedol.

Canfu adroddiad interim y Comisiwn, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022, bod “problemau sylweddol gyda’r ffordd mae Cymru yn cael ei llywodraethu ar hyn o bryd”. Mae’n nodi tri opsiwn “hyfyw” ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru y bydd y Comisiwn yn edrych ymhellach arnynt yn ei adroddiad terfynol, sydd i’w gyhoeddi erbyn diwedd 2023:

  • atgyfnerthu datganoli;
  • strwythurau ffederal; ac
  • annibyniaeth

Roedd ein herthygl fis Rhagfyr diwethaf yn trafod canfyddiadau'r Comisiwn yn fanylach.

Diwygio'r Senedd

Ymrwymiad arwyddocaol arall yn y Rhaglen Lywodraethu yn y maes hwn oedd cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cynyddu maint y Senedd i rhwng 80 a 100 o Aelodau; yn mabwysiadu system bleidleisio sydd yr un mor gyfrannol – neu’n fwy cyfrannol – na’r un bresennol; ac yn cyflwyno cwotâu rhywedd wedi’u pennu mewn cyfraith.

Sefydlwyd Pwyllgor diben arbennig y Senedd ym mis Hydref 2021 i wneud argymhellion ar gyfer y ddeddfwriaeth hon. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ym mis Mai 2022.

Cyflwynwyd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar 18 Medi 2023. Mae’r Bil yn bwrw ymlaen â llawer o argymhellion y Pwyllgor, gan gynnwys:

  • cynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd o 60 i 96;
  • newid y ffordd y caiff Aelodau eu hethol i system rhestr gaeedig; a
  • sefydlu mecanweithiau i adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd.

Roedd ein herthygl yn gynharach y mis hwn yn edrych ar y Bil yn fanylach.

Yn dilyn y Bil hwn bydd deddfwriaeth ar wahân yn ddiweddarach eleni a fydd â’r nod o wella amrywiaeth y Senedd, gan gynnwys cyflwyno cwotâu rhywedd o ran ymgeiswyr sydd am gael eu hethol i’r Senedd.

Etholiadau llywodraeth leol

Mae'r Rhaglen Lywodraethu hefyd yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i ddiwygio etholiadau llywodraeth leol. Mae'r camau a gymerwyd hyd yma yn cynnwys treialu pleidleisio hyblyg, cyflwyno Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, a chynigion ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig.

Cynhaliwyd treialon o bleidleisio cynnar yn yr etholiadau llywodraeth leol yn 2022 mewn pedwar awdurdod lleol. Canfu’r gwerthusiad o'r cynlluniau peilot hyn nad oeddent yn rhoi hwb sylweddol i nifer y pleidleiswyr, ond dywedodd y Cwnsler Cyffredinol y gwnaethant ddangos y gellir darparu ffyrdd “hyblyg a mwy cyfleus” o bleidleisio yn ddiogel a chan ennyn hyder pleidleiswyr.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn ddiweddarach yn 2023 i “wireddu ymrwymiad y Llywodraeth i leihau’r diffyg democrataidd yng Nghymru, a datblygu system etholiadol sy’n addas i’r unfed ganrif ar hugain”. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn debygol o fod yn seiliedig ar Bapur Gwyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2022.

Mae’r erthygl hon gan Ymchwil y Senedd yn edrych yn fanylach ar y cynigion yn y Papur Gwyn.

Cymru ar y llwyfan byd-eang

Felly beth yw’r cynllun i roi’r “presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang” o ran Cymru? Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi tri cham penodol y bydd yn eu cymryd.

Sefydlu Academi Heddwch

Sefydlwyd yr academi gan brifysgolion a sefydliadau ar 21 Medi 2020 i nodi Diwrnod Heddwch y Byd. Cytunwyd ar gyllid o £220,000 yn gynharach eleni ar gyfer gweithgareddau treftadaeth ac addysgol.

Lansio rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol gwerth £65 miliwn

Mae'r Rhaglen Taith yn galluogi pobl i ddysgu, i astudio ac i wirfoddoli yng Nghymru a thramor. Dyfarnwyd £11.5 miliwn i’r Rhaglen yn ei blwyddyn gyntaf.

Adfywio perthnasoedd gefeillio ar draws yr UE drwy Gronfa Gefeillio Pobl Ifanc

Mae hon yn cynnwys dau gam; Bydd Cam 1 yn archwilio'r trefniadau presennol ar gyfer llywio Cam 2 ar sut i sefydlu’r gronfa.

Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru

Nid yw'r Rhaglen Lywodraethu yn croesgyfeirio at y Strategaeth Ryngwladol bum mlynedd 2020, a blaenoriaethau allweddol y Strategaeth yw codi proffil rhyngwladol Cymru a’i sefydlu fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Mae'r Strategaeth Ryngwladol hefyd yn un o saith nod llesiant ar gyfer dyletswyddau Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddar y caiff y Strategaeth Ryngwladol ei diweddaru yn 2025 i gwmpasu’r amser sy’n weddill cyn etholiad y Senedd yn 2026.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn adrodd yn benodol ar ei strategaeth ryngwladol. Ceir gwybodaeth am ei rhwydwaith o swyddfeydd tramor, ei chostau a’i chyllideb, ei pherthnasoedd â blaenoriaeth, a’i chytundebau dwyochrog rhyngwladol mewn dogfennau ar wahân ac mewn lleoedd gwahanol ar ei gwefan.

Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol, mae’r Prif Weinidog yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar gyfer sesiwn craffu blynyddol, yn ogystal â sesiwn i graffu ar y gyllideb adrannol sef £8.38 miliwn.

Cytunodd y Pwyllgor yn ddiweddar i adrodd yn flynyddol ar waith rhyngwladol Llywodraeth Cymru, a disgwylir yr adroddiad cyntaf yn hyn o beth yn ddiweddarach eleni.

Rydyn ni wedi ysgrifennu am Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru a sesiwn ddiweddaraf y Pwyllgor ynghylch cysylltiadau rhyngwladol gyda’r Prif Weinidog.

Gweld y darlun ehangach

Nid yw lle Cymru ar y llwyfan byd-eang wedi'i gyfyngu i'r amcan a drafodir yma, ac mae i'w weld mewn mannau eraill yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae materion rhyngwladol, fel bioamrywiaeth, y polisi ffoaduriaid ac ymgorffori cytuniadau yng nghyfraith Cymru wedi’u gwau drwyddynt draw, ac maent hwythau hefyd â rhan bwysig yn stori ryngwladol Cymru.

Bydd y diweddariad i Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru yn 2025 yn ein helpu i weld i ba gyfeiriad yr aiff Cymru.

Mae’r stori am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru eto i’w hadrodd yn llawn, o gofio bod deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol ar y gorwel, ac adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i’w gyhoeddi erbyn diwedd 2023.

Mae un peth yn sicr, bydd y materion hyn yn parhau’n bynciau llosg drwy weddill cyfnod y Senedd hon ac yn y cyfnod sy’n arwain at yr etholiad yn 2026.

Dysgwch am y Rhaglen Lywodraethu, ei hamcanion a’i hymrwymiadau


Erthygl gan Sara Moran a Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru