Prif ddelwedd yr erthygl yw cloc brics coch adeilad Pierhead y Senedd gydag awyr las y tu ôl iddo ar ddiwrnod heulog

Prif ddelwedd yr erthygl yw cloc brics coch adeilad Pierhead y Senedd gydag awyr las y tu ôl iddo ar ddiwrnod heulog

Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Cyhoeddwyd 28/06/2024   |   Amser darllen munudau

Pan gyfarfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf ar 12 Mai 1999, roedd y DU wedi bod yn un o Aelod-wladwriaethau'r UE ers dros 26 mlynedd.

Am yr 20 mlynedd, 8 mis ac 19 diwrnod cyntaf o’r 25 mlynedd yn ei hanes, roedd y Senedd yn bodoli yng nghyd-destun aelodaeth o’r UE.

Ar 23 Mehefin 2016, pleidleisiodd Cymru i adael yr UE o 52.5% i 47.5%.

Roedd y refferendwm yn ddechrau cam cyntaf Brexit – proses ddeddfwriaethol gymhleth i dynnu Aelod-wladwriaeth o’r UE am y tro cyntaf. Ymdriniodd yr ail gam â’r hyn a ddaeth nesaf – sefydlu perthynas newydd rhwng y DU a’r UE sy’n dal yn ei dyddiau cynnar heddiw. Tra bod y ddau gam allweddol hyn yn mynd rhagddynt ar lefel y DU a’r UE, rhoddodd y DU drefniadau newydd ar waith ar gyfer ei marchnad fewnol, ei chysylltiadau rhynglywodraethol ac ar gyfer cyfraith yr UE a oedd yn parhau ar y llyfrau statud.

Fe wnaeth gadael yr UE newid yn sylweddol y ffordd y mae cyfreithiau'n cael eu gwneud yng Nghymru a sut y mae’r broses yn gweithio.

Nid oedd cyfraith yr UE yn gymwys yn awtomatig mwyach a dilëwyd y ddyletswydd ar Weinidogion i gydymffurfio â hi. Roedd yn golygu bod cyfraith ryngwladol wedi disodli cyfraith yr UE fel prif ffynhonnell cyfraith allanol y DU. Rhoddwyd y grym i weinidogion wneud newidiadau i gyfraith yr UE a oedd yn parhau, tra bod Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 a fframweithiau cyffredin yn ychwanegu dimensiwn pwysig arall at y sefyllfa ar ôl Brexit.

Am y tro cyntaf mewn un lle, rydym yn cyflwyno amserlen y broses o adael yr UE yn y Senedd. Mae pob dyddiad ar y llinell amser:

  • yn crynhoi datblygiad allweddol;
  • yn esbonio sut y newidiodd y ffordd y caiff cyfraith ei chreu a sut y mae'n gweithio; a/neu
  • yn cadarnhau a gafwyd pleidlais yn y Senedd, a chanlyniadau’r bleidlais.
23 Mehefin 2016: Cymru yn pleidleisio i adael yr UE

Ar 23 Mehefin 2016, gofynnwyd i bleidleiswyr y DU:

A ddylai’r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?

Yng Nghymru, pleidleisiodd 854,572 i adael a 772,347 i aros - rhaniad o 52.5% / 47.5% o blaid gadael. Ym Mlaenau Gwent y cafwyd y bleidlais uchaf dros adael (62.0%) ac yng Nghaerdydd y cafwyd y bleidlais isaf (40.0%).

Roedd y ganran a bleidleisiodd yng Nghymru yn 71.7% o gymharu â 72.2% yn y DU gyfan. Roedd y ganran a bleidleisiodd ar ei huchaf yn Sir Fynwy (77.8%) ac ar ei hisaf ym Merthyr Tudful (67.4%).

24 Ionawr 2017: Y Goruchaf Lys yn dyfarnu y dylai Senedd y DU benderfynu tanio Erthygl 50 (achos “Miller”)

Mae'r Goruchaf Lys yn cytuno mai Senedd y DU (nid Llywodraeth y DU) ddylai benderfynu tanio Erthygl 50 o Gytundeb yr UE. Byddai gwneud hynny yn hysbysu’r UE o fwriad y DU i adael a dechrau cyfnod dwy flynedd o gyfri'r dyddiadau cyn ymadael.

Roedd y dyfarniad yn arwyddocaol ar gyfer datganoli am ddau reswm:

  1. ailddatganodd yn ddiamwys yr egwyddor o sofraniaeth seneddol (DU), gan ladd unrhyw syniad o sofraniaeth ar y cyd â’r deddfwrfeydd datganoledig; a
  2. roedd yn golygu nad oedd dim amheuaeth mai confensiwn gwleidyddol, ac nid cyfreithiol, yw Confensiwn Sewel, a oedd felly'n golygu nad oedd modd i'r llysoedd ei orfodi.

Ers Brexit, gwelwyd cynnydd sylweddol yng nghyfreithiau’r DU sy'n cael eu pasio heb gydsyniad datganoledig. Nid yw'n hysbys i ba raddau y cyfrannodd dyfarniad Miller at hyn.

16 Mawrth 2017: Senedd y DU yn rhoi pŵer i’r Prif Weinidog hysbysu’r UE o fwriad y DU i adael

Ni chynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd.

Cafodd Deddf yr UE (Hysbysiad am Ymadael) 2017 Gydsyniad Brenhinol ar 16 Mawrth 2017. Mae'r Ddeddf yn cynnwys dau gymal sy’n awdurdodi’r Prif Weinidog i hysbysu’r UE o fwriad y DU i adael.

29 Mawrth 2017: Y DU yn tanio Erthygl 50, gan ddechrau cyfnod dwy flynedd o gyfri'r dyddiau cyn gadael yr UE

Mae Prif Weinidog y DU, Theresa May, yn hysbysu Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, o fwriad y DU i adael yr UE ac Euratom. Mae gweithredu Erthygl 50(2) o’r Cytuniad ar yr UE yn dechrau cyfnod o ddwy flynedd o gyfrif y dyddiau cyn gadael y DU.

16 Hydref 2017: Llywodraethau'r DU yn cytuno i sefydlu fframweithiau cyffredin mewn meysydd a gyd-gysylltwyd neu a lywodraethwyd yn flaenorol gan yr UE

Cytundebau rhwng pedair llywodraeth y DU ar sut i reoli gwahaniaethau rhwng y pedair gwlad mewn meysydd a lywodraethwyd neu a gydlynwyd yn flaenorol ar lefel yr UE yw fframweithiau cyffredin. Dylai newidiadau a gynigir i ddeddfwriaeth gan unrhyw un o’r pedair gwlad yn un o’r 26 o feysydd a gwmpesir gan fframwaith cyffredin gael eu trafod gan y grwpiau rhynglywodraethol a sefydlwyd gan y fframwaith perthnasol cyn i lywodraeth eu cyflwyno i’w deddfwrfa. Mae hyn yn newid sylweddol i'r broses ddeddfu yn y DU.

6 Mehefin 2018: Cyfraith frys a basiwyd gan y Senedd yn cael Cydsyniad Brenhinol

Cafodd y Ddeddf ei phasio yn y Senedd ar 21 Mawrth 2018.

Canlyniad y bleidlais: O blaid 39, Yn erbyn 13, Ymatal 1.

Dechreuodd Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 fel Bil Brys a gyflwynwyd ar 7 Mawrth 2018 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y pryd, a’r cyn Brif Weinidog, Mark Drakeford AS.

Byddai’r Ddeddf yn:

  1. diogelu cyfraith yr UE sy’n ymwneud â phynciau sydd wedi’u datganoli i Gymru pan fyddai'r DU yn gadael yr UE;
  2. sicrhau bod deddfwriaeth sy’n cwmpasu’r pynciau hyn yn gweithio’n effeithiol ar ôl i’r DU adael yr UE;
  3. galluogi Gweinidogion Cymru i ddeddfu i sicrhau cyfatebiaeth rheoleiddiol â’r UE er mwyn sicrhau bod busnesau Cymru yn parhau i gael mynediad i farchnad yr UE;
  4. creu sefyllfa ddiofyn yn y gyfraith lle yr oedd angen cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn i unrhyw newidiadau gael eu gwneud gan Weinidogion y DU i ddeddfwriaeth ddatganoledig o fewn cwmpas cyfraith yr UE.

Byddai’r Ddeddf yn cael ei diddymu’n ddiweddarach ar 22 Tachwedd 2018 (gweler y dyddiad hwn isod am ragor o wybodaeth).

Aeth deddfwriaeth debyg yn ei blaen yn yr Alban a chafodd Gydsyniad Brenhinol ar 29 Ionawr 2021. Mae Deddf Ymadael â'r UE (Parhad) (Yr Alban) 2021 yn dal i fod mewn grym heddiw.

26 Mehefin 2018: Deddf yr UE (Ymadael) 2018 yn cael Cydsyniad Brenhinol

Cynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd a rhoddwyd cydsyniad ar 15 Mai 2018.

Canlyniad y bleidlais: O blaid 46, Yn erbyn 9, Ymatal 0.

Mae tair prif swyddogaeth i Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018. Mae'n:

  1. diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a oedd yn gwneud cyfraith yr UE yn gymwys yn awtomatig yn y DU;
  2. trosi cyfraith yr UE i gyfraith y DU ar y diwrnod yr oedd y DU yn gadael yr UE (11pm, 31 Ionawr 2020) a chreu categori newydd o gyfraith y DU, sef cyfraith yr UE a ddargedwir; a
  3. rhoi pwerau dros dro i Weinidogion y DU a Chymru i ymdrin â diffygion fel bod y gyfraith yn gweithredu’n effeithiol.

Diwygiodd Deddf yr UE (Ymadael) 2018 Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn unol â hynny, gan gynnwys dileu’r gofyniad i Ddeddfau'r Senedd fod yn gydnaws â chyfraith yr UE.

Yn wreiddiol, argymhellodd Llywodraeth Cymru y dylai'r Senedd atal ei chydsyniad i Fil yr UE (Ymadael). Yn dilyn diwygiadau a chytundeb rhynglywodraethol gyda Llywodraeth y DU, argymhellodd Llywodraeth Cymru y dylai'r Senedd gydsynio i’r Bil.

22 Tachwedd 2018: Llywodraeth Cymru yn diddymu cyfraith frys

Yn dilyn cytundeb rhynglywodraethol rhwng y DU a llywodraethau datganoledig ar Fil yr UE (Ymadael) a sefydlu fframweithiau cyffredin, cytunodd Llywodraeth Cymru i ddiddymu Deddf Cyfraith sy’n Deillio o'r UE (Cymru) 2018.

Daeth Rheoliadau Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018 i rym ar 22 Tachwedd 2018. Diddymodd y rheoliadau y Ddeddf yn ei chyfanrwydd.

17 Hydref 2019: Y DU a’r UE yn cytuno ar Gytundeb Ymadael

Ni chynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd.

Mae'r Cytundeb Ymadael yn gytuniad cyfraith ryngwladol rhwng y DU a’r UE. Mae ond yn ymdrin â gwahanu’r DU oddi wrth yr UE ac Euratom.

Mae cytuniadau rhyngwladol yn destun proses graffu yn Senedd y DU ond cafodd hyn ei ddatgymhwyso ar gyfer y Cytundeb Ymadael gan adran 32 o Ddeddf yr UE (Cytundeb Ymadael) 2020.

Roedd y Cytundeb Ymadael yn nodi y byddai’r DU yn dechrau ar gyfnod pontio pan fyddai’n gadael yr UE tra bod telerau’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol yn cael eu negodi. Byddai hyn yn parhau o 1 Chwefror 2020 tan 31 Rhagfyr 2020.

Mae'r Cytundeb Ymadael yn cynnwys Protocol Gogledd Iwerddon. Mae’n diogelu hawliau dinasyddion y DU a’r UE sy’n byw yn nhiriogaeth y llall ac yn nodi rhwymedigaethau ariannol y DU i’r UE. Sefydlodd drefniadau llywodraethu i oruchwylio ei weithrediad. Nid yw llywodraethau Cymru a’r Alban yn mynychu’r cyfarfodydd hyn.

Newidiwyd rhannau o'r Protocol gan Fframwaith Windsor ym mis Chwefror 2023. Er bod y Protocol yn dal i fodoli, yn aml cyfeirir at y ddau gytundeb gyda’i gilydd fel Fframwaith Windsor.

23 Ionawr 2020: Deddf yr UE (Cytundeb Ymadael) 2020 yn cael Cydsyniad Brenhinol

Cynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd a chafodd cydsyniad ei atal ar 21 Ionawr 2018.

Canlyniad y bleidlais: O blaid 15, Yn erbyn 35, Ymatal 0.

Mae Deddf yr UE (Cytundeb Ymadael)

  1. yn rhoi effaith i'r Cytundeb Ymadael mewn cyfraith ddomestig; a
  2. delio â materion eraill yn ymwneud â gwahanu, megis sut y byddai cyfraith yr UE yn berthnasol yn y DU yn ystod ac ar ôl y cyfnod pontio. Un enghraifft bwysig yw y byddai corff newydd o gyfraith, a elwir yn gyfraith yr UE a ddargedwir, yn cael ei greu ar ddiwedd y cyfnod pontio.

Argymhellodd Llywodraeth Cymru y dylai'r Senedd atal ei chydsyniad i Fil yr UE (Cytundeb Ymadael).

31 Ionawr 2020: Y DU yn gadael yr UE ac yn dechrau ar y cyfnod pontio

Gadawodd y DU yr UE am 11pm GMT ar 31 Ionawr 2020 pan ddaeth y Cytundeb Ymadael i rym am hanner nos CET. Dechreuodd hyn gyfnod pontio Brexit a fyddai’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020.

Yn ystod y cyfnod pontio, arhosodd y trefniadau yr un fath at ei gilydd. Er enghraifft, arhosodd y DU yn rhan o Farchnad Sengl yr UE a’r undeb tollau, cyfrannodd at gyllideb yr UE a pharhaodd i gymhwyso cyfreithiau a rheolau’r UE. Fodd bynnag, nid oedd y DU bellach yn cael ei chynrychioli yn sefydliadau’r UE ac nid oedd ganddi hawliau pleidleisio. Gadawodd 73 ASE y DU, gan gynnwys pedwar o Gymru, eu seddi ar 31 Ionawr 2020.

Dechreuodd y cyfnod pontio broses o gyfri'r dyddiadau i'r DU a’r UE gytuno ar delerau eu perthynas ar ôl Brexit, a fyddai’n dechrau ar 1 Ionawr 2021.

Parhaodd y negodiadau drwy gydol 2020 ar yr hyn a fyddai'n dod yn ddiweddarach yn Gytundeb Masnach a Chydweithredu, a gyhoeddwyd ar 24 Rhagfyr 2020.

17 Rhagfyr 2020: Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 yn cael Cydsyniad Brenhinol

Cynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd a chafodd cydsyniad ei atal ar 8 Rhagfyr 2020.

Canlyniad y bleidlais: O blaid 15, Yn erbyn 36, Ymatal 0.

Mae Deddf Marchnad Fewnol y DU:

  1. yn sefydlu’r rhagdybiaeth (yn gyffredinol) y dylai nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau proffesiynol y gellir eu gwerthu neu eu cydnabod mewn un rhan o’r DU allu cael eu gwerthu neu eu cydnabod mewn unrhyw ran arall o'r DU, hyd yn oed os yw’r gyfraith yn wahanol;
  2. yn cyflwyno “egwyddorion mynediad i'r farchnad” ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Mae’r rhain yn golygu, hyd yn oed os bydd y Senedd yn pasio cyfraith i wahardd neu reoleiddio cynnyrch penodol, dim ond ar rywbeth a gynhyrchir yng Nghymru neu a gaiff ei fewnforio’n uniongyrchol i Gymru o’r tu allan i’r DU y gellir ei gorfodi. Nid oes rhaid i unrhyw beth sy’n dod i Gymru o ran arall o’r DU gydymffurfio â’r gyfraith hon os yw’n dod o fewn cwmpas y Ddeddf, oni bai ei fod wedi’i eithrio’n benodol;
  3. yn sefydlu Swyddfa'r Farchnad Fewnol a all ymchwilio i effaith deddfwriaeth a gynigir neu a wneir gan unrhyw un o bedair deddfwrfa’r DU ar weithrediad Marchnad Fewnol y DU; ac
  4. yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru mewn perthynas â Phrotocol Gogledd Iwerddon a lle Gogledd Iwerddon ym marchnad fewnol y DU.

Nid yw Deddf Marchnad Fewnol y DU yn effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ond mae'n effeithio ar effaith ymarferol ei chyfreithiau pan fyddant mewn grym.

Cytunwyd ar welliant allweddol yn ystod taith y Bil drwy Dŷ’r Arglwyddi sy’n galluogi meysydd a lywodraethir gan fframwaith cyffredin i gael eu heithrio o gwmpas y Ddeddf. Fodd bynnag, dim ond Gweinidogion Llywodraeth y DU all ychwanegu eithriadau at y Ddeddf. Mae rhagor o wybodaeth yn ein crynodeb o'r Ddeddf.

Argymhellodd Llywodraeth Cymru y dylai'r Senedd atal ei chydsyniad i'r Bil. 

24 Rhagfyr 2020: Y DU a'r UE yn cytuno ar Gytundeb Masnach a Chydweithredu

Ni chynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd.

Cytuniad rhyngwladol rhwng y DU a’r UE yw'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Mae ond yn ymdrin â’u cydweithrediad ar ôl Brexit.

Cytunwyd arno ar 24 Rhagfyr 2020 ac fe’i llofnodwyd ar 30 Rhagfyr 2020. Roedd yn gymwys dros dro o 1 Ionawr 2021 a daeth i rym yn llawn ar 1 Mai 2021, ar ôl cael ei gymeradwyo gan Senedd Ewrop a’r Cyngor Ewropeaidd.

Cytunwyd ar gytundebau cydweithredu ar faterion niwclear a diogelwch gwybodaeth gyfrinachol ochr yn ochr â'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu.

Mae cytuniadau rhyngwladol yn destun proses graffu yn Senedd y DU ond cafodd hyn ei ddatgymhwyso ar gyfer y Cytundeb Masnach a Chydweithredu gan adran 32 o Ddeddf yr UE (Perthynas yn y Dyfodol) 2020.

31 Rhagfyr 2020: Deddf yr UE (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn cael Cydsyniad Brenhinol

Ni chynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd.

Cafodd y Senedd ei galw'n ôl o doriad y Nadolig ar 30 Rhagfyr 2020 i drafod diwedd y cyfnod pontio. Cynhaliwyd pleidlais ar gynnig a oedd yn nodi nad oedd y Senedd mewn sefyllfa i benderfynu ar gydsyniad.

Canlyniad y bleidlais ar y cynnig: O blaid 28, Yn erbyn 24, Ymatal 0.

Mae'r Ddeddf:

  1. yn gweithredu'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu, y Cytundeb Niwclear Sifil a'r Cytundeb Diogelu Gwybodaeth, mewn cyfraith ddomestig;
  2. yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru weithredu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu mewn meysydd datganoledig;
  3. yn gosod gweithdrefnau ar gyfer arfer pwerau Gweinidogion Cymru yn y Senedd;
  4. yn gwneud darpariaeth bellach yn ymwneud â’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r holl ddeddfwriaeth ddomestig gael ei darllen yn unol â’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn ôl-weithredol.
31 Rhagfyr 2020: Diwedd cyfnod pontio Brexit

Daeth cyfnod pontio Brexit i ben ar 31 Rhagfyr 2020.

Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar bethau a chynnal y status quo, troswyd cyfraith yr UE fel yr oedd ar y dyddiad hwn yn gyfraith ddomestig, gan greu ciplun mewn amser o gyfraith yr UE. Galwyd y corff newydd hwn o gyfraith y DU yn gyfraith yr UE a ddargedwir.

Yn 2023, byddai Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth yn rhoi pwerau eang i Weinidogion y DU a Chymru i wneud newidiadau i gyfraith yr UE a ddargedwir. Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 yw hon.

1 Ionawr 2021: Perthynas newydd rhwng y DU a'r UE yn dod i rym

Daeth y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a’r cytundebau cysylltiedig i rym dros dro ar 1 Ionawr 2021 a daethant i rym yn llawn ar 1 Mai 2021, ar ôl cael eu cymeradwyo gan Senedd Ewrop a’r Cyngor Ewropeaidd.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad o oblygiadau’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE i Gymru a busnesau Cymru ar 12 Chwefror 2021.

1 Mai 2021: Y Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn dod i rym yn llawn

Daeth y Cytundeb Masnach a Chydweithredu i rym yn llawn ar 1 Mai 2021, ar ôl cael ei gymeradwyo gan Senedd Ewrop a’r Cyngor Ewropeaidd.

13 Mehefin 2022: Cyflwyno Bil Protocol Gogledd Iwerddon, a gafodd ei oedi'n ddiweddarach

Cynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd a chafodd cydsyniad ei atal ar 22 Tachwedd 2022.

Canlyniad y bleidlais: O blaid 15, Yn erbyn 35, Ymatal 0.

Mae Protocol Gogledd Iwerddon yn rhan o’r Cytundeb Ymadael, sef cytundeb rhyngwladol rhwng y DU a’r UE.

Byddai’r Bil:

  1. yn datgymhwyso rhannau o Brotocol Gogledd Iwerddon a’r Cytundeb Ymadael mewn cyfraith ddomestig;
  2. yn grymuso Gweinidogion y DU i ddatgymhwyso mwy o rannau yn y dyfodol ac i roi trefniadau newydd ar waith heb fewnbwn gan yr UE a heb ei gydsyniad;
  3. yn galluogi Gweinidogion y DU i drosglwyddo eu pwerau i wneud rheoliadau i Weinidogion Cymru; a
  4. yn caniatáu i Weinidogion y DU benderfynu ar drefniadau craffu yn y Senedd.

Argymhellodd Llywodraeth Cymru y dylai'r Senedd atal ei chydsyniad i'r Bil. Arweiniodd y gwaith craffu ar y Bil at ddadl ddigynsail ar rôl cyfraith ryngwladol yn y Senedd a sut y dylai ymateb.

Nid aeth y Bil yn ei flaen fel un o amodau Fframwaith Windsor.

27 Chwefror 2023: Y DU a'r UE yn cytuno ar Fframwaith Windsor

Ni chynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd.

Mae Fframwaith Windsor wedi newid rhannau o Brotocol Gogledd Iwerddon mewn perthynas â masnach, marchnad fewnol y DU, a llais Gogledd Iwerddon wrth wneud penderfyniadau.

Cytunodd Llywodraeth y DU i beidio bwrw ymlaen gyda Bil Protocol Gogledd Iwerddon. Cytunodd yr UE:

Mae’r Fframwaith yn cael y clod am wella’r berthynas rhwng y DU a’r UE ac yn gyffredinol cafodd ei chroesawu gan Lywodraeth Cymru er nad ymgynghorwyd â hi ynghylch y newidiadau. Yn ddiweddarach, byddai Llywodraeth Cymru yn cydsynio i reoliadau’r DU i roi’r Fframwaith ar waith.

Mae rhagor o wybodaeth yn ein herthygl, Cymru a Fframwaith Windsor.

29 Mehefin 2023: Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 yn cael Cydsyniad Brenhinol

Cynhaliwyd dwy bleidlais ar gydsyniad yn y Senedd a chafodd cydsyniad ei atal ar 28 Mawrth 2023 a 6 Mehefin 2023.

Canlyniad y bleidlais gyntaf: O blaid 13, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad yr ail bleidlais: O blaid 17, Yn erbyn 36, Ymatal 0.

Er mwyn sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl yn sgil gadael yr UE, trodd y DU gyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig a'i galw'n gyfraith yr UE a ddargedwir. Roedd hyn yn golygu bod cyfreithiau a oedd ar waith cyn Brexit yn aros yn eu lle gyda’r nod o osgoi bylchau mewn meysydd pwysig megis safonau cynnyrch, lles anifeiliaid a chyfraith cyflogaeth. Daeth cyfraith yr UE a ddargedwir yn gorff penodol o gyfraith ond mae gwahaniaeth barn o hyd ynghylch yr hyn y dylid ei wneud â hi.

Mae’r Ddeddf yn rhoi rhai o gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cyfraith yr UE a ddargedwir ar waith ac yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Chymru wneud newidiadau yn y dyfodol.

Argymhellodd Llywodraeth Cymru y dylai'r Senedd atal ei chydsyniad i'r Bil ym mhob un o'i bump Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol. Caiff Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol eu gosod yn y Senedd pan fydd Bil y DU yn ymdrin â meysydd polisi sydd wedi’u datganoli i Gymru. Yna bydd yr Aelodau’n pleidleisio ar a ddylai’r Senedd roi cydsyniad i Senedd y DU ddeddfu ar ei rhan ai peidio.

Mae'r Ddeddf yn:

  1. dirymu rhai o gyfreithiau'r UE a ddargedwir, a daethant i ben ar 31 Rhagfyr 2023. Mae hyn yn cynnwys y 587 o eitemau cyfraith yr UE a ddargedwir a restrir yn Atodlen 1, hawliau sy’n deillio o’r UE, egwyddor goruchafiaeth ac egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE;
  2. ailenwi cyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn weddill yn “gyfraith a gymhathwyd” o 1 Ionawr 2024;
  3. rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Chymru sy'n ei gwneud yn haws iddynt ddiwygio, diddymu a disodli cyfraith yr UE a ddargedwir a chyfraith a gymhathwyd;
  4. rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Chymru ail-greu effaith goruchafiaeth cyfraith yr UE a ddargedwir i raddau cyfyngedig mewn perthynas ag offerynnau penodol;
  5. rhoi mwy o ddisgresiwn i lysoedd domestig wyro oddi wrth gyfraith achosion cyfraith yr UE a ddargedwir; a
  6. diddymu'r Targed Effaith Busnes fel rhan o ddiwygiadau rheoleiddio eraill.

Nid oes unrhyw ofyniad ar Lywodraeth y DU i gael cydsyniad gan Weinidogion Cymru, na’r Senedd, wrth wneud newidiadau mewn meysydd datganoledig.

Mae rhaglen diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir/cyfraith a gymhathwyd Llywodraeth y DU yn mynd rhagddi ac mae trefniant cydsynio anffurfiol ar waith lle y gofynnir am gydsyniad Llywodraeth Cymru, beth bynnag. Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi cydsyniad anffurfiol ar y sail hon i reoliadau’r DU wneud newidiadau mewn meysydd datganoledig, megis yr amgylchedd. Hyd yn hyn, defnyddiwyd offerynnau statudol unigol i ddirymu hyd at 93 darn o gyfraith yr UE a ddargedwir ar y tro.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen we, Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir: ble ydym ni nawr?

31 Ionawr 2024: Cyhoeddi Papur Gorchymyn Safeguarding the Union

Ni chynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd.

Tyngodd aelodau o Weithrediaeth Gogledd Iwerddon lw am y tro cyntaf ers dwy flynedd ar 3 Chwefror 2024. Roedd hyn yn dilyn cyhoeddi'r Papur Gorchymyn Safeguarding the Union gan Lywodraeth y DU ar 31 Ionawr a phasio rheoliadau newydd ar 1 Chwefror. Mae'r rhain yn gwneud newidiadau er mwyn mynd i'r afael â phryderon y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP) am Fframwaith Windsor.

Fe wnaeth y ddogfen Safeguarding the Union:

  • sefydlu strwythurau llywodraethu newydd rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr;
  • newid rheolau masnach i gymell a hybu masnach rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr;
  • darparu dros £3 biliwn i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon i fynd i’r afael â'r pwysau ar gyflogau yn y sector cyhoeddus a darparu fformiwla Barnett wedi’i diweddaru ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Fe wnaeth un rheoliad ymestyn egwyddorion mynediad i'r farchnad Deddf Marchnad Fewnol y DU i nwyddau o Ogledd Iwerddon. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion y DU gyhoeddi canllawiau ar sut i gydymffurfio â'r ddyletswydd yn adran 46 o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU gan roi sylw arbennig i le Gogledd Iwerddon ym marchnad fewnol a thiriogaeth dollau'r DU. Rhaid i weinidogion y gweinyddiaethau datganoledig bellach ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni swyddogaethau perthnasol.

Mae rhagor o wybodaeth yn ein herthygl, Cymru a Diogelu'r Undeb.

Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru