Esboniad o Fil Protocol Gogledd Iwerddon

Cyhoeddwyd 20/09/2022   |   Amser darllen munudau

Mae’n rhaid i’r Senedd benderfynu’n fuan a ddylid cydsynio i Fil Protocol Gogledd Iwerddon.

Mae ein papur briffio’n esbonio y byddai’r Bil yn datgymhwyso rhannau o Brotocol Gogledd Iwerddon a'r Cytundeb Ymadael mewn cyfraith ddomestig, yn grymuso Gweinidogion y DU i ddatgymhwyso mwy o rannau yn y dyfodol ac i roi trefniadau newydd ar waith heb gydsyniad neu fewnbwn yr UE.

Câi Gweinidogion y DU drosglwyddo'u pwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru, a byddai'r Bil yn caniatáu i Weinidogion y DU bennu trefniadau craffu yn y Senedd.

Defnyddiwch ein hofferyn rhyngweithiol ar gyfer trosolwg byr o bob un o 26 chymal y Bil. Dewiswch bob cymal neu gallwch eu gweld yn ôl categori a chlicio ar rif cymal ar gyfer disgrifiad. 

Dewis categori:

* CJEU = Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd

Dewis cymal:

Cymal 1

Mae Cymal 1 yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau’r Bil.


Erthygl gan Sara Moran a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru