Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir: ble ydym ni nawr?

Cyhoeddwyd 16/11/2023   |   Amser darllen munudau

Daeth Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (“y Ddeddf”) yn gyfraith ar 29 Mehefin, ar ôl proses seneddol oedd yn llawn dadleuon bywiog, gwelliannau mawr a sawl rownd yn ôl ac ymlaen. Ac er y bu’r Bil yn destun newid mawr pan gafodd ei fachlud awtomatig ei ddileu, roedd yn parhau i fod yn gyfan, gan mwyaf, gyda dyletswydd i adrodd yn rheolaidd yn cael ei ychwanegu.

Mae'r erthygl hon yn cyflwyno ein hadnoddau wedi'u diweddaru:

Crynodeb o gyfraith yr UE a ddargedwir

Er mwyn lleihau'r tarfu wrth ymadael â'r UE, newidiodd y DU gyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig a'i galw'n gyfraith yr UE a ddargedwir. Roedd hyn yn golygu bod cyfreithiau cyn Brexit yn parhau i fod ar waith i osgoi bylchau mewn meysydd pwysig fel safonau cynhyrchion, lles anifeiliaid a chyfraith cyflogaeth. Daeth cyfraith yr UE a ddargedwir yn gorff penodol o gyfraith ac mae gwahaniaeth barn am yr hyn y dylid ei wneud am y sefyllfa.

Crynodeb

Mae'r Ddeddf yn rhoi rhai o gynlluniau Llywodraeth y DU ar waith ar gyfer cyfraith yr UE a ddargedwir ac yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU wneud newidiadau yn y dyfodol.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru wrthwynebu'r ddeddfwriaeth o'r dechrau, gan gredu bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithio'n dda ac y gellid ei diweddaru yn ôl yr angen.

Gwnaeth y Senedd wrthod rhoi cydsyniad i’r Bil ar ddau achlysur, ym mis Mawrth 2023 a Mehefin 2023.

Mae’r Ddeddf yn:

  • dirymu rhywfaint o gyfraith yr UE a ddargedwir fel ei fod yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2023. Dyma’r gyfraith a restrir yn Atodlen 1, hawliau sy’n deillio o’r UE, egwyddor goruchafiaeth ac egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE;
  • ailenwi cyfraith yr UE a ddargedwir sy'n weddill yn “gyfraith a gymathwyd” o 1 Ionawr 2024;
  • rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru ddiwygio, diddymu a disodli cyfraith yr UE a ddargedwir a chyfraith a gymathwyd yn haws;
  • rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru ail-greu effaith goruchafiaeth cyfraith yr UE a ddargedwir i raddau cyfyngedig mewn perthynas ag offerynnau penodol;
  • darparu rhagor o ddisgresiwn i lysoedd domestig ymadael â chyfraith achosion cyfraith yr UE a ddargedwir; a
  • diddymu’r Targed Effaith Busnes fel rhan o ddiwygiadau rheoleiddiol eraill.

Llinell amser

Mae'r Ddeddf yn gosod y llinell amser isod.

Allwedd:
Dileu
Arbed
Cadw
Diwygio
Gweithdrefnol
31 Hydref 2023
Daeth pwerau i esemptio cyfraith yr UE a ddargedwir o Atodlen 1 i ben.
23 Rhagfyr 2023 (+30 diwrnod)
Cyfnod adrodd 1. Rhaid i Lywodraeth y DU adrodd i Senedd y DU o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad hwn.
31 Rhagfyr 2023
Daw’r gyfraith UE a ddargedwir ganlynol i ben:
(i) cyfraith yr EU a ddargedwir a restrir yn Atodlen 1,
(ii) hawliau sy’n deillio o’r UE etc.,
(iii) egwyddorion goruchafiaeth a
(iv) egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE.
01 Ionawr 2024
Ailenwir cyfraith yr UE a ddargedwir yn “gyfraith a gymathwyd”.
23 Mehefin 2024 (+30 diwrnod)
Cyfnod adrodd 2. Rhaid i Lywodraeth y DU adrodd i Senedd y DU o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad hwn.
23 Rhagfyr 2024 (+30 diwrnod)
Cyfnod adrodd 3. Rhaid i Lywodraeth y DU adrodd i Senedd y DU o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad hwn.
23 Mehefin 2025 (+30 diwrnod)
Cyfnod adrodd 4. Rhaid i Lywodraeth y DU adrodd i Senedd y DU o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad hwn.
23 Rhagfyr 2025 (+30 diwrnod)
Cyfnod adrodd 5. Rhaid i Lywodraeth y DU adrodd i Senedd y DU o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad hwn.
23 Mehefin 2026
Daw mwyafrif pwerau Gweinidogol y Ddeddf i ben.
Cyfnod adrodd 6. Rhaid i Lywodraeth y DU adrodd i Senedd y DU o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad hwn.

 

Cyfnodau adrodd: Rhaid i Lywodraeth y DU gyflwyno adroddiad bob chwe mis i Senedd y DU o fewn 30 diwrnod i ddyddiadau'r cyfnod adrodd a restrir uchod. Rhaid i’r adroddiadau roi crynodeb o'r dangosfwrdd cyfraith yr UE a ddargedwir, egluro newidiadau a wnaed i gyfraith yr UE a ddargedwir a nodi cynlluniau i ddileu neu ddiwygio cyfraith yr UE a ddargedwir yn y cyfnod adrodd canlynol.

Enghreifftiau o’r Ddeddf yn ymarferol

Dyma rai enghreifftiau o’r Ddeddf yn ymarferol yn y Senedd.

Fframwaith Windsor

Cafodd y weithdrefn ar gyfer rheoliadau sy'n gweithredu rhannau o Fframwaith Windsor ei newid o'r weithdrefn gadarnhaol i'r weithdrefn negyddol. Ystyr hyn oedd, yn lle bod angen cymeradwyaeth y Senedd i ddod yn gyfraith, fod gan yr Aelodau 40 diwrnod i wrthwynebu cyn i'r rheoliadau ddod yn gyfraith yn awtomatig.

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)

Roedd Bil Llywodraeth Cymru fel y'i cyflwynwyd yn diffinio pa ddeddfwriaeth y dylid ei hystyried yn ddeddfwriaeth sylfaenol a oedd yn cynnwys cyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir. Yn ôl y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gallai cynnwys cyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir fel deddfwriaeth sylfaenol achosi dryswch oherwydd bod y Ddeddf yn israddio cyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir i is-ddeddfwriaeth. Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r diffiniad yn y Bil o ganlyniad i hynny.

Datganoli a chydsyniad deddfwriaethol

Gellir osgoi Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn ystod diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir oherwydd gall Llywodraeth y DU a Senedd y DU wneud newidiadau mewn meysydd datganoledig heb gael cydsyniad gan Weinidogion Cymru na'r Senedd.

Fodd bynnag, mae sefyllfa ryfedd wedi codi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am dair sefyllfa lle mae Gweinidogion y DU wedi ceisio cydsyniad, ac wedi ei gael, gan Weinidogion Cymru i wneud newidiadau i gyfraith yr UE a ddargedwir.

Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ymchwilio i a oes trefniadau cydsyniad wedi cael eu cytuno y tu allan i'r arferion datganoli presennol. Hyd yn hyn, mae tri Gweinidog wedi disgrifio eu profiadau:

  1. Rhannodd y Gweinidog Materion Gwledig a’r Trefnydd ym mis Gorffennaf ohebiaeth gan yr Arglwydd Benyon yn gofyn am gydsyniad ffurfiol i weithredu rhannau o Fframwaith Windsor.
  2. Cadarnhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ym mis Medi fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i beidio â defnyddio ei phwerau mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad. Dywedodd pe bai Gweinidogion Cymru wedi gwrthod rhoi cydsyniad neu heb roi eu penderfyniad mewn pryd, ni fyddai'r rheoliadau wedi cael eu gosod yn Senedd y DU. Ychwanegodd y Gweinidog y rhoddwyd cyfnod amser tyn iawn i Weinidogion Cymru ystyried cydsyniad.
  3. Cadarnhaodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar 12 Hydref nad oes mecanwaith wedi'i gytuno ond pwysleisiodd yn ysgrifenedig i Lywodraeth y DU fod angen proses glir.
Atodlen 1

Yn lle cymal machlud y Bil, a fyddai wedi dirymu’r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir yn awtomatig, rhoddwyd restr o 587 o ddarnau o ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir a fydd yn dod i ben ar ddiwedd 2023, sef Atodlen 1. Gall Gweinidogion y DU a Gweinidogion Cymru esemptio cyfreithiau’r UE a ddargedwir a restrir yn Atodlen 1, sydd felly’n ei arbed, ond rhaid gwneud hynny erbyn 31 Hydref 2023.

Yn ystod adolygiad cychwynnol Llywodraeth Cymru, ni chanfuwyd unrhyw broblemau gyda chynnwys Atodlen 1 a nodwyd nad oes angen iddi ddefnyddio ei phwerau i eithrio unrhyw beth ohoni. Yn ddiweddarach, hysbysodd bwyllgorau ei bod am arbed rhai eitemau, gan gynnwys ar gynhyrchion bioleiddiadol a llygredd aer.

Arbedodd Llywodraeth y DU bob un o’r rhain ac eithrio’r Rheoliadau Terfynau Uchaf Allyriadau Cenedlaethol y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod am eu harbed ond nad yw Llywodraeth y DU am wneud hynny. Mae ClientEarth a 47 o randdeiliaid eraill yn disgrifio’r rhain fel rhai sy’n hanfodol ar gyfer lleihau llygredd aer. Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y byddai’n rhoi gwybod i bwyllgorau am ddatblygiadau, ac atebodd gwestiynau am y mater hwn yng nghyfarfod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar 26 Hydref, ond mae amser wedi dod i ben er mwyn i Weinidogion Cymru ddefnyddio eu pwerau i arbed y rheoliadau.

Ffeithlun

Mae’r ffeithlun isod yn dangos sut y gallai Gweinidogion Cymru neu Weinidogion y DU newid cyfraith yr UE a ddargedwir o dan y Ddeddf.

Cynhyrchydd cymalau

Defnyddiwch ein cynhyrchydd cymalau i gael crynodeb byr o adrannau’r Ddeddf. Dewiswch y cyfan neu edrychwch arnynt fesul thema, yna cliciwch ar rif adran i gynhyrchu crynodeb.

Dewis categori:

Dewis adran:

Adran 1

Mae Adran 1 yn gosod machlud ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r UE a deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a restrir yn Atodlen 1 ar 31 Rhagfyr 2023 oni bai bod Gweinidogion yn eu cadw.

Mae adran 1(4) yn darparu opsiwn i esemptio cyfraith yr UE a ddargedwir o Atodlen 1, a thrwy hynny ei gadw rhag cael ei ddirymu ar 31 Rhagfyr 2023. Rhaid bod hyn wedi’i wneud erbyn 31 Hydref 2023 naill ai gan Weinidogion y DU neu Weinidogion Cymru, neu’r ddau yn gweithredu ar y cyd.


Erthygl gan Sara Moran a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru