Daw'r brif ddelwedd o glogwyn uwchben traeth yn Sir Benfro sy'n edrych allan i'r môr ar fachlud haul

Daw'r brif ddelwedd o glogwyn uwchben traeth yn Sir Benfro sy'n edrych allan i'r môr ar fachlud haul

Cymru a Fframwaith Windsor

Cyhoeddwyd 11/05/2023   |   Amser darllen munudau

Mae Fframwaith Windsor ("y Fframwaith"), sy'n newid rhannau o Brotocol Gogledd Iwerddon ("y Protocol"), yn nodi carreg filltir arwyddocaol arall mewn cysylltiad â Brexit. Cafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU a'r UE ddiwedd mis Chwefror.

Mae'r prif newidiadau'n ymwneud â masnach, marchnad fewnol y DU, a’r hyn sydd gan Ogledd Iwerddon i’w ddweud yn y Protocol. Mae'r erthygl yma’n esbonio beth rydyn ni'n ei wybod hyd yma am ei effaith yng Nghymru.

Cam tuag at wella cysylltiadau rhwng y DU a'r UE

Dywedodd y Prif Weinidog bod y Fframwaith yn “gam tuag at” well cysylltiadau sydd er ein lles ni i gyd. Mae'n disgrifio'r UE fel cymydog agosaf a phwysicaf Cymru, â'i phartner masnachu pwysicaf.

Gallai'r datrysiad a drafodwyd i rai o faterion y Protocol ddatgloi mwy o gydweithredu rhwng y DU a'r UE ar faterion sy’n bwysig i Gymru. Mae Llywodraeth y DU yn ei disgrifio yn y Papur Gorchymyn fel ffordd newydd ymlaen.

Gobaith y Prif Weinidog yw y bydd y Fframwaith yn arwain at newidiadau i rannau mwy anffodus cytundeb masnach y DU gyda'r UE, y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, ond ni ddywedodd pa rannau na pha newidiadau yr hoffai eu gweld.

Soniodd hefyd am yr effaith ar borthladdoedd Cymru sydd eisoes yn profi dargyfeiriadau masnach ers Brexit, sy’n bryder y bydd yn ei wylio'n ofalus.

Gyda'i gilydd, mae'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu a’r Cytundeb Ymadael, sy'n cynnwys y Protocol, yn llywodraethu sut mae'r DU a'r UE yn gweithio gyda'i gilydd ar ôl Brexit. Mae gan bob un o Weinidogion Cymru gyfrifoldebau i’w cyflawni, er bod hynny'n fwy felly i rai nag eraill. Mae'r Fframwaith yn bennaf yn dod o fewn portffolios yr economi, materion gwledig, cysylltiadau rhyngwladol a materion cyfansoddiadol .

Beth sydd wedi newid?

Mae'r Fframwaith yn symleiddio neu'n dileu anghenion ar gyfer tollau, bwyd amaeth, TAW a thollau, symudiadau anifeiliaid anwes, nwyddau wedi'u gweithgynhyrchu, meddyginiaethau a chymorthdaliadau. Mae gan y Sefydliad Llywodraethu esboniwr manwl o'r newidiadau hyn.

Mae'n creu’r hyn a elwir yn "Stormont Brake" newydd, lle gallai Cynulliad Gogledd Iwerddon wrthwynebu newidiadau i gyfraith yr UE a fydd yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn amodol ar ofynion penodol, gan gynnwys cefnogaeth 30 MLA o ddwy blaid wleidyddol.

Cytunodd Llywodraeth y DU hefyd i beidio bwrw ymlaen â Bil Protocol Gogledd Iwerddon. Gwrthododd y Senedd gydsyniad ar gyfer y Bil a galwodd am ddatrysiad wedi’i drafod yn ystod gwaith craffu.

Cytunodd yr UE:

A gafodd Llywodraeth Cymru neu'r Senedd lais yn y Fframwaith?

Yn fyr, na.

Cadarnhaodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, nad ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith. Ac er ei fod yn ymddangos fel cam pragmatig ymlaen, dywedodd bod rhannau o hyd y mae angen eu datrys.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad hefyd:

Regrettably, the UK Government did not engage the Welsh Government on the detail of the Framework in advance of the announcement; and has not so far done so in assessing the implications of the Framework for trade flows across the Irish Sea. This remains a concern that we continue to pursue with the UK Government.

Serch hynny, bydd Llywodraeth a Senedd Cymru yn rhoi rhannau o'r Fframwaith mewn lle.

Efallai y bydd angen i'r Senedd hefyd basio deddfau, neu gydsynio i Senedd y DU basio deddfau i Gymru. Er enghraifft, dywed Papur Gorchymyn Llywodraeth y DU bod angen iddi ddiwygio Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 a deddfwriaeth TAW. Gweinidogion Cymru sy'n hefyd yn gyfrifol am rai gwiriadau masnach.

Nid oedd angen pleidlais ar y Fframwaith ond fe allai ASau Cymru bleidleisio ar reoliadau ar gyfer y ‘Stormont Brake’ yn Senedd y DU ar 22 Mawrth, gyda 515 pleidlais o blaid a 29 yn erbyn. Dywedodd llefarydd y Prif Weinidog y byddai'n cael ei hystyried yn bleidlais ar y Fframwaith cyfan.

Cytunodd y DU a'r UE yn ffurfiol ar y Fframwaith yn y Cydbwyllgor, sy'n goruchwylio'r Cytundeb Ymadael ar 28 Mawrth.

A yw Llywodraeth Cymru yn mynd i’r Cydbwyllgor?

Nid yw Llywodraeth Cymru yn mynd i'r Cyd-bwyllgor, na'i Bwyllgorau Arbenigol, yn wahanol i gyfarfodydd y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, lle maen nhw'n mynd fel arsylwyr. Cyfarfu Pwyllgor Arbenigol newydd i weithredu'r Fframwaith am y tro cyntaf ar 27 Ebrill.

Ar o leiaf ddau achlysur yn 2021, gofynnodd Llywodraeth Cymru am gael mynd i gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor pan drafodwyd unrhyw beth yn ymwneud â'r Protocol a oedd yn effeithio ar borthladdoedd Cymru.

Yn ddiweddarach, cadarnhaodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod y cais hwn. Mynegodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad bryderon am y mater hwn i Bwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi ac fe'i cynhwysodd yn ei adroddiad newydd.

Ar ôl Brexit, sefydlwyd grŵp rhyngweinidogol ar gysylltiadau rhwng y DU a'r UE ac yr aeth y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd iddo ar 20 Mawrth. Mae’r datganiad cysylltiedig yn cadarnhau na chafodd llywodraethau Cymru na'r Alban wahoddiad i'r Cyd-bwyllgor ar 28 Mawrth.

A yw Cymru'n cael ei thrafod mewn cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor?

O dan Erthygl 6 y Protocol, mae’n rhaid i'r Cyd-bwyllgor gadw masnach rhwng Gogledd Iwerddon a rhannau eraill y DU o dan adolygiad cyson. Wyddon ni ddim i ba raddau yr ystyrir buddiannau Cymru na Chymreig oherwydd nad yw'r cyfarfodydd yn gyhoeddus.

Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi galw ar lywodraethau'r DU i wella tryloywder o ran yr hyn sy'n digwydd yng nghyfarfodydd y DU a'r UE ar gyfer y Senedd, rhanddeiliaid a'r cyhoedd. Gallwch ddarllen rhagor am hyn yn ein herthygl flaenorol.

Y Fframwaith yn y Senedd

Mae'r Senedd wedi cymryd camau i ddeall goblygiadau'r Fframwaith yn well.

Mae’r Aelodau wedi trafod ei effeithiau posibl yn y siambr, ac mae'r Fframwaith yn estyn ar draws tri phwyllgor. Defnyddiwch y cwymplenni i gael gwybod rhagor.

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn cwmpasu llywodraethiant y DU-UE ac mae wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth am y Fframwaith. Mae hefyd yn gyfrifol am gytundebau rhyngwladol anfasnachol, er bod newidiadau i'r Cytundeb Ymadael yn annhebygol o sbarduno prosesau craffu ar gytnuiadau.

Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cafodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol dystiolaeth ar y Fframwaith ar gyfer ei ymchwiliad presennol i Gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon. Dywedodd y Prif Weinidog wrth yr ymchwiliad na fydd mynediad Horizon "yn cael ei wireddu yn y tymor agos".

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Ar y Fframwaith, dywedodd Gweinidog yr Economi wrth y Pwyllgor ei fod am:

get to a position where there is a common approach to the western seaboard of the UK and its relationship with the island of Ireland, and that would help all of us.

Dywedodd fod ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar hyn wedi bod yn gadarnhaol ac y bydd yn dweud mwy pan fydd yn gallu.

Mae cwestiynau allweddol yn parhau

Dywed Prif Weinidog y DU bod y fframwaith yn ddechrau pennod newydd mewn cysylltiadau rhwng y DU a'r UE.

Er ei bod yn croesawu'r cytundeb, nid oedd gan Lywodraeth Cymru ddim mewnbwn o ran ei chynnwys ac mae’n amlwg bod ganddi rai pryderon am borthladdoedd Cymru a'r amserlen ar gyfer ymuno â Horizon.

Mae'r Fframwaith yn rhoi ffocws ar sut mae Cymru’n cael ei chynrychioli ym mhenderfyniadau'r DU a’r UE, a'r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a'r Senedd i gyflwyno safbwynt Cymreig.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru