Canlyniadau Refferendwm yr UE yng Nghymru

Cyhoeddwyd 24/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

24 Mehefin 2016 Erthygl gan Gregg Jones, Helen Jones and David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Yn dilyn y bleidlais i adael yn refferendwm yr UE a gynhaliwyd ar 23 Mehefin, rydym wedi paratoi'r Papur Ymchwil (PDF, 1780KB) hwn i drafod goblygiadau hyn ar gyfer Cymru ac ar gyfer gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Dyma'r cyntaf yn yr hyn rydym yn disgwyl y bydd yn gyfres reolaidd o ddiweddariadau wrth i'r broses o dynnu allan ddatblygu dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Mae’r ffeithlun isod yn rhoi dadansoddiad manwl o’r bleidlais ledled y DU, gan gynnwys canlyniadau Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Rydym hefyd wedi cynnwys ffeithlun yn dangos dadansoddiad o’r bleidlais fesul awdurdod lleol yng Nghymru. Pleidleisiodd y DU yn ei chyfanrwydd gan 51.9% i adael yr UE. Yng Nghymru, roedd y bleidlais i adael yn 52.5%. Lloegr oedd y rhan o’r DU â’r bleidlais adael uchaf (53.4%), tra mai’r Alban  oedd â’r bleidlais adael isaf (38.0%). Yng Nghymru, Blaenau Gwent oedd â’r bleidlais adael uchaf (62.0%) tra mai Caerdydd oedd â’r bleidlais adael isaf (40.0%). Roedd y ganran a bleidleisiodd yng Nghymru yn 71.7%, o’i gymharu â 72.2 ledled y DU. Yng Nghymru, Sir Fynwy oedd â’r ganran uchaf a bleidleisiodd (77.7%) a Merthyr Tudful oedd â’r ganran isaf a bleidleisiodd (67.4%). Ffeithlun sy’n dangos canlyniadau refferendwm yr UE fesul awdurdod lleol