cy

cy

Sedd wrth y bwrdd: cynrychioli Cymru yn y berthynas newydd rhwng y DU a’r UE

Cyhoeddwyd 02/12/2021   |   Amser darllen munudau

Mae cysylltiadau rhwng y DU a’r UE yn cael eu rheoli’n bennaf gan ddau gytuniad:

Mae’r Cytundeb Ymadael yn pennu’r telerau ar gyfer ymadawiad y DU â’r UE; ac

Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA) yn sefydlu eu perthynas newydd.

Mae’r ddau gytuniad yn cynnwys materion datganoledig (fel pysgodfeydd, iechyd, yr economi a’r amgylchedd) y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am eu gweithredu.

Gyda’i gilydd, maent yn sefydlu 32 o fforymau newydd i’r DU a’r UE drafod a phenderfynu sut i weithredu’r cytundebau, gan gynnwys ar faterion sydd wedi’u datganoli i Gymru a/neu’n effeithio ar Gymru. Dim ond dechrau yw’r broses hon ac mae Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid wedi pwysleisio pwysigrwydd bod gan Gymru â sedd wrth y bwrdd.

Er mai Llywodraeth y DU sy’n cynrychioli’r DU yn bennaf, mae’r llywodraethau datganoledig wedi bod i rai cyfarfodydd. Y Comisiwn Ewropeaidd sy’n cynrychioli’r UE, er bod yr UE wedi cytuno ar drefniadau mewnol i ganiatáu i Aelod-wladwriaethau fod yn bresennol.

Mae’r erthygl hon yn nodi’r trefniadau newydd ac yn egluro sut mae Cymru wedi cael ei chynrychioli hyd yn hyn. Mae ein herthyglau blaenorol yn rhoi trosolwg o’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ac yn dangos cyfrifoldebau Gweinidogion Cymru mewn cysylltiadau rhwng y DU a’r UE.

Y Cytundeb Ymadael

Mae’r Cytundeb Ymadael yn sefydlu wyth fforwm newydd rhwng y DU a’r UE. Y prif fforwm yw’r Cyd-bwyllgor a gefnogir gan chwe Phwyllgor Arbenigol ar y canlynol:

  • Hawliau dinasyddion;
  • Y Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon;
  • Y Protocol yn ymwneud â’r Ardaloedd Safleoedd Sofran yng Nghyprus;
  • Y Protocol ar Gibraltar;
  • Darpariaethau ariannol; a
  • Darpariaethau gwahanu eraill.

Sefydlwyd gweithgor ymgynghorol ychwanegol ar y cyd i gynorthwyo’r Pwyllgor Arbenigol ar y Protocol ar Ogledd Iwerddon.

Mae ein ffeithlun yn dangos y fforymau rhwng y DU a’r UE a sefydlwyd gan y Cytundeb Ymadael.

Fforymau’r DU-UE: Y Cytundeb Ymadael

Diagram yn dangos y fforymau rhwng y DU a’r UE a sefydlwyd gan y Cytundeb Ymadael. Haen uchaf: Cyd-bwyllgor. Haen ganol: pwyllgorau arbenigol. Haen waelod: Iwerddon-Gogledd Iwerddon (cefnogir gan weithgor); hawliau dinasyddion; darpariaethau ariannol; ardaloedd gorsafoedd sofran yng Nghyprus; Gibraltar a darpariaethau gwahanu eraill.

 

Hyd yma, cafwyd wyth cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor, a chyhoeddwyd ei Adroddiad Blynyddol 2020 ym mis Gorffennaf. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o weithgarwch y Cytundeb Ymadael o’r adeg y daeth i rym ar 1 Chwefror 2020 tan ddiwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr 2020.

Y Cytundeb Masnach a Chydweithredu

Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn sefydlu 24 fforwm newydd rhwng y DU a’r UE gyda'r opsiwn i sefydlu rhagor. Defnyddiwch y cwymplenni isod i gael gwybod mwy.

Goruchwylio

Y prif fforwm yw’r Cyngor Partneriaeth, sy’n cael ei gefnogi gan y canlynol:

  • 11 o Bwyllgorau Masnach, sy’n cynnwys un Pwyllgor Partneriaethau Masnach a 10 o Bwyllgorau Masnach Arbenigol;
  • Wyth Pwyllgor Arbenigol ar feysydd ar wahân i fasnach, megis ynni, pysgodfeydd a thrafnidiaeth;
  • Pedwar Gweithgor i gefnogi pwyllgorau ar faterion penodol, megis cynhyrchion meddyginiaethol. Gellir sefydlu rhagor o Weithgorau, fel sy’n cael ei ystyried gan y Pwyllgor Arbenigol ar Bysgodfeydd.
Cymdeithas sifil

Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn sefydlu mecanweithiau i’r UE a’r DU ymgysylltu â chymdeithas sifil ar y cyd ac yn rhinwedd eu hunain. Gwneir hyn drwy:

  • Fforwm Cymdeithas Sifil newydd y DU-UE; ac
  • Ymgynghoriad uniongyrchol â’u Grwpiau Cynghori Domestig eu hunain, a all ddod i’r Fforwm.

Ymgynghorodd Llywodraeth y DU ar y gwaith ymgysylltu â grwpiau busnes a chymdeithas sifil, a chyhoeddwyd Mynegiant o Ddiddordeb am aelodaeth ar gyfer Grŵp Cynghori Domestig unigol y DU. Cynhelir cyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori Domestig ym mis Rhagfyr.

Fforwm seneddol ar y cyd rhwng y DU a’r UE

Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn cynnwys opsiwn i sefydlu Cynulliad Partneriaeth Seneddol rhwng Senedd y DU a Senedd Ewrop. Gallai’r Cynulliad Partneriaeth Seneddol wneud argymhellion a gofyn am wybodaeth gan y Cyngor Partneriaeth a bydd yn cael gwybod am ei benderfyniadau.

Ar 21 Medi, ymatebodd cynrychiolwyr o Senedd y DU, yr Arglwydd Kinnoull a Syr Oliver Heald, i gais gan bwyllgorau yn y deddfwrfeydd datganoledig, gan ddweud y byddent yn ceisio eu cynnwys yng ngwaith y Cynulliad Partneriaeth Seneddol.

Ar 16 Tachwedd, cadarnhaodd Tŷ'r Arglwyddi y bydd dirprwyaeth y DU yn cynnwys 21 o ASau ac 14 aelod o Dŷ’r Arglwyddi, ac y bydd "arsylwyr" o'r deddfwrfeydd datganoledig yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol, yn amodol ar gytundeb Senedd Ewrop.

Cytunodd Senedd Ewrop yn ffurfiol i benodi ei dirprwyaeth a fydd yn cynnwys 35 Aelod ar 5 Hydref.

Mae ein ffeithlun yn dangos y fforymau newydd rhwng y DU a’r UE a sefydlwyd gan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ac a yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan ynddynt.

Fforymau’r DU-UE: Y Cytundeb Masnach a Chydweithredu

Diagram yn dangos fforymau’r DU-UE a sefydlwyd gan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ac a yw Llywodraeth Cymru wedi bod ynddynt. Cewch afael ar y manylion llawn ar y linc i’w lawrlwytho isod.

Ffynhonnell: Y Comisiwn Ewropeaidd, Cyfarfodydd Cyngor Partneriaeth yr UE-DU a Phwyllgorau Arbenigol o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu

Lawrlwytho fel tabl

Llywodraethau datganoledig

Mater i’r DU a’r UE yw dethol eu dirprwyaethau eu hunain ar gyfer cyfarfodydd. Ar 1 Gorffennaf, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y bydd nifer yr aelodau yn ei dirprwyaethau’n amrywio o ran nifer, yn dibynnu ar yr agenda.

Yn dilyn hyn anfonwyd llythyr gan Arglwydd David Frost o Lywodraeth y DU at y llywodraethau datganoledig, a oedd yn nodi sut y mae’n bwriadu eu cynnwys yn fforymau’r DU-UE a sefydlwyd gan y ddau gytundeb. 

Cadarnhaodd y llythyr y byddai mwyafrif yr fforymau yn cael eu cyd-gadeirio gan swyddogion o’r Adran arweiniol gyfatebol yn Whitehall, gyda chefnogaeth tîm Swyddfa Gabinet yr Arglwydd Frost, ond y gallai llywodraethau datganoledig fod yn bresennol lle mae eitemau sydd o gymhwysedd datganoledig ar yr agenda.

Fodd bynnag, mae hyn yn ddarostyngedig i ddisgresiwn terfynol cyd-gadeirydd y DU. Dylai gwaith paratoi ar gyfer cyfarfodydd o’r fath gynnwys cynrychiolwyr o'r llywodraethau datganoledig hefyd ‘fel mater o drefn arferol’.

Defnyddiwch y cwymplenni isod i gael gwybod mwy am bresenoldeb Llywodraeth Cymru yng nghyfarfodydd y DU-UE.

Cyngor Partneriaeth (Cytundeb Masnach a Chydweithredu) a’r Cydbwyllgor (Cytundeb Ymadael)

Ar 9 Mehefin, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cyngor Partneriaeth y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Roedd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, yn y cyfarfod fel arsylwr. Ar ôl y cyfarfod, ysgrifennodd at yr Arglwydd Frost gan ddisgrifio’r sefyllfa fel un hynod anfoddhaol na all Llywodraeth Cymru ei chefnogi.

Yng nghyfarfodydd Cyd-bwyllgor y Cytundeb Ymadael, nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd iddynt, ailadroddodd y Gweinidog ei gais i fod yn rhan o’r cyfarfod pan drafodir materion yn ymwneud â Gogledd Iwerddon, o ystyried eu goblygiadau i borthladdoedd Cymru. Ar 23 Tachwedd, cadarnhaodd y Prif Weinidog fod y cais hwn wedi’i wrthod.

Pwyllgorau (Cytundeb Masnach a Chydweithredu)

Roedd dirprwyaeth y DU i bwyllgorau’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn cynnwys swyddogion o Lywodraeth Cymru ar gyfer y cyfarfodydd cyntaf ar gydgysylltu nawdd cymdeithasol, ynni, pysgodfeydd a’r rhan fwyaf o gyfarfodydd yn ymwneud â masnach. Nid oeddent yn rhan o ddirprwyaeth y DU yn y cyfarfod ar gaffael cyhoeddus, sef maes datganoledig, nac ar eiddo deallusol, sef mater a gadwyd yn ôl.

Nid yw’r wybodaeth am y rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfodydd sy’n weddill a gynhaliwyd ers hynny ar gael i’r cyhoedd eto.

Cyswllt uniongyrchol rhwng y llywodraethau datganoledig a’r UE

Pwysleisiodd llythyr yr Arglwydd Frost y dylai’r llywodraethau datganoledig hysbysu Llywodraeth y DU o ffaith a chynnwys eu cyswllt uniongyrchol â sefydliadau’r UE a/neu Aelod-wladwriaethau.

Mae cyswllt uniongyrchol rhwng Cymru a’r UE wedi parhau. Ym mis Ionawr, ysgrifennodd y Prif Weinidog at Ursula von der Leyen, Llywydd Comisiwn yr UE, yn nodi ei weledigaeth gadarnhaol ar gyfer ymgysylltiad adeiladol rhwng Cymru a'r UE. Dywedodd wrth y Senedd yn ddiweddar hefyd sut mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cadw cysylltiad ffurfiol â sefydliadau’r UE ac ASEau, a:

Bydd penodi Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop cyn hir, a hysbysebwyd yn ddiweddar, yn ychwanegu dimensiwn ychwanegol cadarnhaol a sylweddol at hyn.

Mae rhanddeiliaid wedi nodi pwysigrwydd cynrychiolaeth o Gymru yn strwythurau’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Mewn ymateb ar y cyd i ymgynghoriad, dywedodd Canolfan Llywodraethiant Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wrth y Senedd:

Given the intersections between the TCA and devolved competence, it is important that UK representation in [UK-EU] structures is inclusive of perspectives from Wales.

Bydd y Senedd yn parhau i fonitro sut mae Cymru yn cael ei chynrychioli yn y berthynas newydd rhwng y DU a’r UE.


Erthygl gan Sara Moran a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru