Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020: Crynodeb o’r Ddeddf

Cyhoeddwyd 05/08/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/08/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r papur briffio hwn yn crynhoi'r prif ddarpariaethau ym mhob rhan o'r Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020 ac yn rhoi enghreifftiau damcaniaethol o sut y mae'r Ddeddf yn debygol o weithio'n ymarferol.

Gosododd Llywodraeth y DU Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (248KB) ar 9 Medi. Roedd hyn yn dilyn ymgynghoriad pedair wythnos ar y Bil rhwng mis Gorffennaf a mis Awst 2020.

Cafodd y Bil y Cydsyniad Brenhinol ar 18 Rhagfyr 2020. Gwnaed nifer o welliannau i'r Bil yn ystod ei hynt drwy Dŷ'r Arglwyddi. Ni roddodd Senedd Cymru na Senedd yr Alban eu cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil.

Mae'r Ddeddf yn cynnwys:

  • darpariaethau sy'n gosod rheolau newydd ynghylch sut y gall deddfwrfeydd a llywodraethau yn y DU ddeddfu i reoleiddio nwyddau a gwasanaethau yn y dyfodol;
  • darpariaethau ar reoleiddio cymwysterau proffesiynol yn y DU;
  • darpariaethau ar weithredu’r protocol ynghylch Iwerddon a Gogledd Iwerddon;
  • darpariaethau i roi pwerau gwario newydd i Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig;
  • darpariaethau i gadw'n ôl bwerau sy'n gysylltiedig â rheoli cymorthdaliadau.

Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru