Llun o ddau Dŷ'r Senedd

Llun o ddau Dŷ'r Senedd

Beth sy’n digwydd pan fydd y Senedd yn dweud ‘na’ i Filiau’r DU?

Cyhoeddwyd 23/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/06/2023   |   Amser darllen munudau

Mae niferoedd cynyddol o gyfreithiau ar gyfer Cymru yn cael eu gwneud yn Senedd y DU. Gofynnir i’r Senedd am gydsyniad i wneud hyn, ond beth sy’n digwydd pan na chaiff cydsyniad ei roi?

Mae’r erthygl hon yn edrych ar y broses hon, ac yn benodol ar sut mae Senedd y DU yn ymateb pan fydd cydsyniad yn cael ei wrthod. Wrth drafod y mater, byddwn yn canolbwyntio ar daith un o Filiau’r DU sydd bellach yn Ddeddf, sef  Deddf Masnach (Awstralia a Seland Newydd) 2023; ac un o Filiau’r DU sy'n parhau ar ei daith drwy Senedd y DU, sef y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

Y broses o ofyn am gydsyniad, a’r broses o’i wrthod

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei osod yn y Senedd pan fydd Bil y DU yn cael ei gyflwyno sy’n ymdrin â meysydd polisi sydd wedi’u datganoli i Gymru. Yna, mae’r Aelodau’n bwrw pleidlais ynghylch a ddylai’r Senedd roi ei chydsyniad i San Steffan ddeddfu ar ei rhan ai peidio.

Mae nifer cynyddol o Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Yn ystod dwy flynedd gyntaf y Chweched Senedd, mae 85 o Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol, sy’n gysylltiedig â 37 o Filiau’r DU, wedi cael eu gosod. Mewn cymhariaeth, yn ystod y Bumed Senedd yn ei chyfanrwydd, gosodwyd 48 o Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol, a oedd yn gysylltiedig â 32 o Filiau’r DU.

Er nad yw penderfyniadau’r Senedd ar gydsyniad deddfwriaethol yn gyfreithiol rwymol, mae Confensiwn Sewel yn datgan na fydd Senedd y DU “fel arfer” yn deddfu os bydd deddfwrfa ddatganoledig yn gwrthod cydsyniad.

Yn ogystal â’r niferoedd cynyddol o Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol, mae nifer y Biliau a gyflwynir gan y DU sy’n dod yn gyfreithiau er gwaethaf y ffaith bod y Senedd wedi gwrthod cydsyniad ar eu cyfer hefyd yn cynyddu. Yn ystod dwy flynedd gyntaf y Chweched Senedd, pleidleisiodd y Senedd i wrthod cydsyniad, naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl, mewn perthynas â chwech o Filiau’r DU sydd wedi cael Cydsyniad Brenhinol ers hynny.

Deddf Masnach (Awstralia a Seland Newydd) 2023

Cafodd Deddf Masnach (Awstralia a Seland Newydd) 2023 ei chyflwyno ar ffurf Bil yn Nhŷ’r Cyffredin ar 11 Mai 2022. Bil byr a thechnegol oedd hwn, yn ymwneud â phenodau caffael yn y cytundebau masnach rydd ehangach a wnaed rhwng y DU ac Awstralia a’r DU a Seland Newydd.

Cafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei osod gan Lywodraeth Cymru ar 25 Mai 2022. Nid oedd Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu diben cyffredinol y Bil ar y pryd. Fodd bynnag, argymhellodd fod y Senedd yn gwrthod cydsyniad yn sgil y ffaith bod pwerau cydredol wedi’u cynnwys yng nghymal 1.

Pwerau cydredol

Mae pŵer cydredol yn bŵer y caiff Gweinidogion Cymru neu Weinidogion y DU ei arfer mewn perthynas â Chymru.

Gwnaeth Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, ysgrifennu at Weinidog y DU ar 16 Mai 2022 yn gofyn am gynnwys pwerau cyfatebol neu bwerau ‘cydredol plws’, yn hytrach na'r pwerau cydredol sydd wedi'u cynnwys ar hyn o bryd. 

Pwerau ‘cydredol plws’

Mae pŵer cydredol plws yn bŵer y gellir ei arfer mewn perthynas â Chymru gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU, ond dim ond gan Weinidogion y DU os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad yn gyntaf.

Yn ystod ail ddarlleniad y Bil yn Nhŷ’r Cyffredin, gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol ar y pryd, sef Anne-Marie Trevelyan, ddweud:

…[the UK Government] are committed to not normally using the concurrent power in this Bill without the devolved administrations’ consent, and never without consulting the Administrations first.

Cafodd y geiriau hyn eu hailadrodd gan Weinidogion y DU drwy gydol taith y Bil drwy’r cyfnodau seneddol. Ar sawl achlysur, gwnaeth Gweinidog y DU ailddatgan yr ymrwymiad i ymgynghori â Llywodraeth Cymru cyn defnyddio’r pwerau yng nghymal 1, ond ni wnaeth sôn o gwbl am geisio cydsyniad. Ni chyfeiriodd Gweinidogion y DU at bryderon penodol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phwerau cydredol.

Cysylltiadau rhynglywodraethol

Cyfeiriwyd at y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach, a sefydlwyd fel rhan o'r cytundeb rhynglywodraethol newydd, dro ar ôl tro gan Weinidogion y DU fel fforwm ar gyfer trafod y Bil. Fodd bynnag, o ran y tri chyfarfod a gynhaliwyd gan y grŵp hyd yma, nid oes unrhyw sôn am y Bil mewn unrhyw un o'r hysbysiadau perthnasol, ac nid oes unrhyw dystiolaeth bod trafodaethau wedi’u cynnal ynghylch y pwerau cydredol sydd wedi'u cynnwys ar wyneb y Bil.

Mewn gohebiaeth gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, dywedodd Gweinidog yr Economi nad oedd Llywodraeth y DU wedi cynnig unrhyw drafodaethau pellach o ran gwneud gwelliannau i’r Bil. Yn ogystal, dywedodd y Gweinidog nad oedd wedi cael ymateb i’w lythyr dyddiedig 16 Mai 2022, pan wnaeth gais am gynnwys pwerau cyfatebol neu bwerau cydredol plws yn y Bil.

Gwnaeth y Senedd bleidleisio i wrthod cydsyniad ar gyfer y Bil ar 31 Ionawr 2023. Erbyn y dyddiad hwnnw, roedd y Bil wedi cwblhau ei daith drwy gyfnodau Tŷ'r Cyffredin, a hynny heb gael ei ddiwygio, ac roedd yn aros am y cyfnod adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

Byddai’r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol bennu lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer rhai gwasanaethau cyhoeddus yn ystod cyfnodau o streic yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.  

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn anghytuno ar yr angen am gydsyniad y Senedd ar gyfer y Bil. Gwnaeth Llywodraeth y DU ddadlau bod y Bil yn ymwneud â hawliau cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol, sy’n feysydd polisi a gedwir yn ôl. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’r Bil yn cael effaith negyddol ar y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, gan gynnwys iechyd, addysg, a gwasanaethau tân ac achub.

Cyflwynwyd gwelliannau yn Nhŷ’r Cyffredin a fyddai wedi rhoi’r hawl i’r Senedd gynnal pleidlais gydsynio ar gyfer y Bil cyn iddo ddod yn weithredol yng Nghymru. Fodd bynnag, gwrthodwyd y gwelliannau hynny, gyda Gweinidog y DU yn dadlau nad oedd angen cydsyniad ar gyfer y Bil.

Gwnaeth y Senedd bleidleisio i wrthod cydsyniad ar gyfer y Bil ar 25 Ebrill 2023. Yn ystod ei araith ar y bleidlais gydsynio, dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol, nad oedd Llywodraeth y DU wedi dangos “unrhyw barch at gonfensiwn Sewel”.

Penderfyniadau cydsynio yn fwy amlwg yn Nhŷ’r Arglwyddi

Yn dilyn adroddiad gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi, ac argymhelliad dilynol gan y Pwyllgor Gweithdrefn a Breintiau, mae Papur Trefn yr Arglwyddi (y ddogfen sy’n nodi’r busnes ar gyfer y diwrnod dan sylw) bellach yn cynnwys tagiau ar gyfer penderfyniadau cydsynio.

Mae effaith hyn i'w weld yng nghyfnod adrodd Tŷ’r Arglwyddi ar Ddeddf Masnach (Awstralia a Seland Newydd) 2023 – y cyfnod cyntaf a gynhaliwyd ar ôl i’r Senedd bleidleisio i wrthod cydsyniad. Yn ystod y cyfnod hwnnw, dywedodd yr Arglwydd Purvis o Tweed, un o Arglwyddi’r Democratiaid Rhyddfrydol:  

Today’s Order Paper notes that Welsh legislative consent has been withheld. We should take seriously why the Welsh Government and Parliament have not been able to provide legislative consent in these areas.

Mae penderfyniadau cydsynio hefyd yn ymddangos ym Mhapur Trefn Tŷ’r Cyffredin. Mae Tŷ’r Arglwyddi hefyd wedi sefydlu gweithdrefn i’r perwyl y dylai Gweinidog, mewn achos pan fo cydsyniad deddfwriaethol wedi’i wrthod neu heb gael ei roi erbyn trydydd darlleniad Bil, dynnu’r mater at sylw’r Tŷ cyn cychwyn y trydydd darlleniad.

Dull o dorri confensiwn Sewel sydd bellach wedi’i normaleiddio?

Cafodd Deddf Masnach (Awstralia a Seland Newydd) 2023 Gydsyniad Brenhinol ar 23 Mawrth 2023, er bod y Senedd wedi pleidleisio i wrthod cydsyniad. Dyma’r chweched Ddeddf mewn dwy flynedd i gael ei phasio heb gydsyniad llawn y Senedd. Mae Prif Weinidog Cymru wedi mynegi pryderon ynghylch y ffaith bod y dull o fynd yn groes i gonfensiwn Sewel yn cael ei ‘normaleiddio’. Dywedodd wrth y Senedd:

…ar ôl i chi [ddefnyddio’r dull hwn i dorri confensiwn Sewel] unwaith, daw ei ddefnyddio eto'n haws, ac mae'r eildro yn arwain at y trydydd tro yn gyflym iawn.


Erthygl gan Philip Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru