Ar 23 Mehefin 2016, pleidleisiodd Cymru i adael yr UE o 52.5% i 47.5%.
Roedd y refferendwm yn ddechrau cam cyntaf Brexit – proses ddeddfwriaethol gymhleth i dynnu Aelod-wladwriaeth o’r UE am y tro cyntaf. Ymdriniodd yr ail gam â’r hyn a ddaeth nesaf – sefydlu perthynas newydd rhwng y DU a’r UE sy’n dal yn ei dyddiau cynnar heddiw.
Tra bod y ddau gam allweddol hyn yn mynd rhagddynt ar lefel y DU a’r UE, rhoddodd y DU drefniadau newydd ar waith ar gyfer ei marchnad fewnol, ei chysylltiadau rhynglywodraethol ac ar gyfer cyfraith yr UE a oedd yn parhau ar y llyfrau statud.
I nodi deng mlynedd ers y diwrnod hwnnw, mae ein hofferyn rhyngweithiol yn egluro canlyniad y refferendwm yng Nghymru a datblygiadau cyfansoddiadol yn y degawd ers hynny. Cliciwch ar y blychau am fwy o wybodaeth am yr hyn a roddwyd ar waith rhwng y DU a'r UE (gwyrdd tywyll), neu o fewn y DU (gwyrdd golau).
Dewis categori:
Y Cytundeb Ymadael
Mae’r Cytundeb Ymadael yn gytuniad cyfraith ryngwladol rhwng y DU a'r UE. Mae ond yn ymdrin â gwahanu’r DU oddi wrth yr UE ac Euratom.
Roedd y Cytundeb Ymadael yn nodi y byddai’r DU yn dechrau ar gyfnod pontio pan fyddai’n gadael yr UE tra bod telerau’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol yn cael eu negodi. Byddai hyn yn parhau o 1 Chwefror 2020 tan 31 Rhagfyr 2020.
Mae'r Cytundeb Ymadael yn cynnwys Protocol Gogledd Iwerddon. Mae’n diogelu hawliau dinasyddion y DU a’r UE sy’n byw yn nhiriogaeth y llall ac yn nodi rhwymedigaethau ariannol y DU i’r UE. Sefydlodd drefniadau llywodraethu i oruchwylio ei weithrediad. Nid yw llywodraethau Cymru a’r Alban yn mynychu’r cyfarfodydd hyn.
Mae cytuniadau rhyngwladol yn destun proses graffu yn Senedd y DU ond cafodd hyn ei ddatgymhwyso ar gyfer y Cytundeb Ymadael gan adran 32 o Ddeddf yr UE (Cytundeb Ymadael) 2020.
Ni chynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd.
Daeth y Cytundeb Ymadael i rym ar 1 Chwefror 2020.
Yn ôl i'r brigProtocol Gogledd Iwerddon
Mae'r Cytundeb Ymadael yn cynnwys Protocol Gogledd Iwerddon. Sefydlodd drefniadau newydd ar gyfer tir y DU-UE sy’n ffinio rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, un o Aelod-wladwriaethau’r UE.
Newidiwyd rhannau o'r Protocol gan Fframwaith Windsor ym mis Chwefror 2023. Er bod y Protocol yn dal i fodoli, yn aml cyfeirir at y ddau gytundeb gyda’i gilydd fel Fframwaith Windsor.
Yn ôl i'r brigCyfnod pontio Brexit
Yn ystod y cyfnod pontio, arhosodd y trefniadau yr un fath at ei gilydd. Er enghraifft, arhosodd y DU yn rhan o Farchnad Sengl yr UE a’r undeb tollau, cyfrannodd at gyllideb yr UE a pharhaodd i gymhwyso cyfreithiau a rheolau’r UE. Fodd bynnag, nid oedd y DU bellach yn cael ei chynrychioli yn sefydliadau’r UE ac nid oedd ganddi hawliau pleidleisio. Gadawodd 73 ASE y DU, gan gynnwys pedwar o Gymru, eu seddi ar 31 Ionawr 2020.
Dechreuodd y cyfnod pontio broses o gyfri'r dyddiadau i'r DU a’r UE gytuno ar delerau eu perthynas ar ôl Brexit, a fyddai’n dechrau ar 1 Ionawr 2021.
Parhaodd y negodiadau drwy gydol 2020 ar yr hyn a fyddai'n dod yn ddiweddarach yn Gytundeb Masnach a Chydweithredu, a gyhoeddwyd ar 24 Rhagfyr 2020.
Yn ôl i'r brigY Cytundeb Masnach a Chydweithredu
Cytuniad rhyngwladol rhwng y DU a’r UE yw'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Mae ond yn ymdrin â’u cydweithrediad ar ôl Brexit.
Cytunwyd arno ar 24 Rhagfyr 2020 ac fe’i llofnodwyd ar 30 Rhagfyr 2020. Roedd yn gymwys dros dro o 1 Ionawr 2021 a daeth i rym yn llawn ar 1 Mai 2021, ar ôl cael ei gymeradwyo gan Senedd Ewrop a’r Cyngor Ewropeaidd. Cytunwyd ar gytundebau cydweithredu ar faterion niwclear a diogelwch gwybodaeth gyfrinachol ochr yn ochr â'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu.
Mae cytuniadau rhyngwladol yn destun proses graffu yn Senedd y DU ond cafodd hyn ei ddatgymhwyso ar gyfer y Cytundeb Masnach a Chydweithredu gan adran 32 o Ddeddf yr UE (Perthynas yn y Dyfodol) 2020.
Ni chynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd.
Roedd yn gymwys dros dro o 1 Ionawr 2021 a daeth i rym yn llawn ar 1 Mai 2021.
Yn ôl i'r brigFframwaith Windsor
Mae Fframwaith Windsor wedi newid rhannau o Brotocol Gogledd Iwerddon mewn perthynas â masnach, marchnad fewnol y DU, a llais Gogledd Iwerddon wrth wneud penderfyniadau.
Cytunodd Llywodraeth y DU i beidio â bwrw ymlaen â Bil Protocol Gogledd Iwerddon. Cytunodd yr UE:
- i beidio â bwrw ymlaen gyda saith achos tor-cyfraith yn erbyn y DU; a
- bwrw ymlaen â rhoi mynediad i'r DU i raglenni gwyddoniaeth ac ymchwil yr UE, gan gynnwys rhaglen Horizon gwerth €96 biliwn.
Ni chynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd.
Mae’r Fframwaith yn cael y clod am wella’r berthynas rhwng y DU a’r UE ac yn gyffredinol cafodd ei chroesawu gan Lywodraeth Cymru er nad ymgynghorwyd â hi ynghylch y newidiadau. Yn ddiweddarach, byddai Llywodraeth Cymru yn cydsynio i reoliadau’r DU i roi’r Fframwaith ar waith.
Mae rhagor o wybodaeth yn ein herthygl, Cymru a Fframwaith Windsor.
Daeth Fframwaith Windsor i rym o 1 Hydref 2023. Cafodd rhai trefniadau eu cyflwyno'n raddol yn ddiweddarach, gan gynnwys ar gyfer cyflenwi meddyginiaethau, masnach a symud parseli.
Yn ôl i'r brigDealltwriaeth gyffredin
Ar 19 Mai, cyhoeddodd y DU a'r UE eu cytundeb diweddaraf, Common Understanding. Mae'n paratoi'r ffordd ar gyfer trefniadau newydd yn y pum maes a ganlyn:

Fel gyda phob un o’r prif gytundebau rhwng y DU a'r UE, mae ‘Common Understanding’ yn ymdrin â meysydd lle y mae cyfrifoldeb wedi’i ddatganoli y bydd angen i Lywodraeth Cymru, y Senedd ac eraill eu rhoi ar waith.
Ymhlith pethau eraill, mae'r cytundeb yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cyfranogiad y DU yn Erasmus+ a Marchnad Drydan Sengl yr UE, cytundeb masnach Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) rhwng y DU a'r UE, a chysylltu systemau masnachu allyriadau'r DU a'r UE.
Ymrwymodd y DU hefyd i ddilyn rheolau’r UE mewn tri maes: SPS, masnachu allyriadau a thrydan. Ar gyfer y ddau gyntaf, cytunodd y DU i wneud cyfraniad ariannol i wneud hynny. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu rhoi’r trefniadau hyn ar waith drwy Fil Partneriaeth yr UE.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein herthygl, Beth allai’r cytundeb diweddaraf rhwng y DU a’r UE ei olygu i Gymru?
Yn ôl i'r brigRefferendwm Brexit
Ar 23 Mehefin 2016, gofynnwyd i bleidleiswyr y DU:
A ddylai’r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?
Yng Nghymru, pleidleisiodd 854,572 i adael a 772,347 i aros – rhaniad o 52.5% / 47.5% o blaid gadael. Ym Mlaenau Gwent y cafwyd y bleidlais uchaf dros adael (62.0%) ac yng Nghaerdydd y cafwyd y bleidlais isaf (40.0%).
Roedd y ganran a bleidleisiodd yng Nghymru yn 71.7% o gymharu â 72.2% yn y DU gyfan. Roedd y ganran a bleidleisiodd ar ei huchaf yn Sir Fynwy (77.8%) ac ar ei hisaf ym Merthyr Tudful (67.4%).
Yn ôl i'r brigFframweithiau cyffredin
Yn 2018, cytunodd llywodraethau'r DU i sefydlu fframweithiau cyffredin. Mae fframweithiau cyffredin yn gytundebau rhwng pedair llywodraeth y DU ar sut i reoli ymwahanu rhwng y pedair gwlad mewn meysydd a lywodraethwyd neu a gydlynwyd yn flaenorol ar lefel yr UE.
Dylai newidiadau a gynigir i ddeddfwriaeth gan unrhyw un o’r pedair gwlad gael eu trafod gan y grwpiau rhynglywodraethol a sefydlwyd gan y fframwaith perthnasol cyn i lywodraeth eu cyflwyno i’w deddfwrfa. Ceir 26 fframwaith cyffredin mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru.
Y bwriad gwreiddiol oedd iddynt fod ar waith erbyn mis Ionawr 2021, ond nid yw llawer o'r fframweithiau wedi'u cwblhau eto. Ym mis Mai 2026, dim ond pedwar o'r 26 sy’n ymwneud â meysydd datganoledig yng Nghymru sydd wedi'u cwblhau.
Yn ôl i'r brigDeddf yr UE (Ymadael) 2018
Mae tair prif swyddogaeth i Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018. Mae’n:
- diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a oedd yn gwneud cyfraith yr UE yn gymwys yn awtomatig yn y DU;
- trosi cyfraith yr UE i gyfraith y DU ar y diwrnod yr oedd y DU yn gadael yr UE (11pm, 31 Ionawr 2020) a chreu categori newydd o gyfraith y DU, sef cyfraith yr UE a ddargedwir; a
- rhoi pwerau dros dro i Weinidogion y DU a Chymru i ymdrin â diffygion fel bod y gyfraith yn gweithredu’n effeithiol.
Diwygiodd Deddf yr UE (Ymadael) 2018 Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn unol â hynny, gan gynnwys dileu’r gofyniad i Ddeddfau'r Senedd fod yn gydnaws â chyfraith yr UE.
Yn wreiddiol, argymhellodd Llywodraeth Cymru y dylai'r Senedd atal ei chydsyniad i Fil yr UE (Ymadael). Yn dilyn diwygiadau a chytundeb rhynglywodraethol gyda Llywodraeth y DU, argymhellodd Llywodraeth Cymru y dylai'r Senedd gydsynio i’r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd a rhoddwyd cydsyniad ar 15 Mai 2018.
Canlyniad y bleidlais: O blaid 46, Yn erbyn 9, Ymatal 0.
Cafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol ar 26 Mehefin 2018.
Yn ôl i'r brigY Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Roedd yn rhaid i ddinasyddion yr UE a oedd yn byw yng Nghymru cyn Brexit wneud cais i aros drwy’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae dinasyddion yr UE, gwladwriaethau’r AEE-EFTA a’r Swistir ac aelodau o’u teulu yn gymwys ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae dinasyddion Gwyddelig wedi’u heithrio.
Mae’r Cynllun yn parhau i fod ar agor i gael ceisiadau hwyr y tu hwnt i’w ddyddiad cau gwreiddiol o 30 Mehefin 2021. Roedd mwy na 116,000 o ymgeiswyr llwyddiannus o Gymru erbyn diwedd mis Mawrth 2026.
Bu Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Chweched Senedd yn monitro ceisiadau i'r Cynllun yng Nghymru, gan gyhoeddi adroddiad terfynol ym mis Tachwedd 2025, Yn sefydlog ond heb fod yn saff? Dinasyddion yr UE a arhosodd ar ôl Brexit. Daeth yr adroddiad i bedwar casgliad yn rhybuddio am ail Windrush, diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, cymhlethdod y system a phroblemau ynghylch data penodol i Gymru. Galwodd y Pwyllgor am waith craffu parhaus yn y Seithfed Senedd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein herthygl, Faint o ddinasyddion Ewrop wnaeth gais i aros yng Nghymru ar ôl Brexit?
Yn ôl i'r brigDeddf yr UE (Y Cytundeb Ymadael) 2020
Mae Deddf yr UE (Y Cytundeb Ymadael) 2020:
- yn rhoi effaith i'r Cytundeb Ymadael mewn cyfraith ddomestig; a
- yn delio â materion eraill yn ymwneud â gwahanu, megis sut y byddai cyfraith yr UE yn berthnasol yn y DU yn ystod ac ar ôl y cyfnod pontio. Un enghraifft bwysig yw y byddai corff newydd o gyfraith, a elwir yn gyfraith yr UE a ddargedwir, yn cael ei greu ar ddiwedd y cyfnod pontio.
Argymhellodd Llywodraeth Cymru y dylai'r Senedd atal ei chydsyniad i Fil yr UE (Cytundeb Ymadael).
Cynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd a chafodd cydsyniad ei atal ar 21 Ionawr 2020.
Canlyniad y bleidlais: O blaid 15, Yn erbyn 35, Ymatal 0.
Cafodd Deddf Cymru 2017 Gydsyniad Brenhinol ddeuddydd yn ddiweddarach ar 23 Ionawr 2020.
Yn ôl i'r brigY DU yn gadael yr UE
Gadawodd y DU yr UE am 11pm GMT ar 31 Ionawr 2020 pan ddaeth y Cytundeb Ymadael i rym am hanner nos CET. Dechreuodd hyn gyfnod pontio Brexit a fyddai’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020.
Yn ôl i'r brigDeddf Marchnad Fewnol y DU 2020
Mae Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020:
- yn creu rhagdybiaeth y dylai (yn gyffredinol) nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau proffesiynol y gellir eu gwerthu neu eu cydnabod mewn un rhan o'r DU allu cael eu gwerthu neu eu cydnabod mewn unrhyw ran arall, hyd yn oed os yw’r gyfraith yn wahanol;
- yn cyflwyno “egwyddorion mynediad i'r farchnad” ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Mae’r rhain yn golygu, hyd yn oed os bydd y Senedd yn pasio cyfraith i wahardd neu reoleiddio cynnyrch penodol, dim ond ar rywbeth a gynhyrchir yng Nghymru neu a gaiff ei fewnforio’n uniongyrchol i Gymru o’r tu allan i’r DU y gellir ei gorfodi. Nid oes rhaid i unrhyw beth sy’n dod i Gymru o ran arall o’r DU gydymffurfio â’r gyfraith hon os yw’n dod o fewn cwmpas y Ddeddf, oni bai ei fod wedi’i eithrio’n benodol;
- yn sefydlu Swyddfa'r Farchnad Fewnol a all ymchwilio i effaith deddfwriaeth a gynigir neu a wneir gan unrhyw un o bedair deddfwrfa’r DU ar weithrediad Marchnad Fewnol y DU; ac
- yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru mewn perthynas â Phrotocol Gogledd Iwerddon a lle Gogledd Iwerddon ym marchnad fewnol y DU.
Nid yw Deddf Marchnad Fewnol y DU yn effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ond mae'n effeithio ar effaith ymarferol ei chyfreithiau pan fyddant mewn grym.
Argymhellodd Llywodraeth Cymru y dylai'r Senedd atal ei chydsyniad i'r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd a chafodd cydsyniad ei atal ar 8 Rhagfyr 2020.
Canlyniad y bleidlais: O blaid 15, Yn erbyn 36, Ymatal 0.
Cafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol ar 17 Rhagfyr 2020.
Cytunwyd ar welliant allweddol yn ystod taith y Bil drwy Dŷ’r Arglwyddi sy’n galluogi meysydd a lywodraethir gan fframwaith cyffredin i gael eu heithrio o gwmpas y Ddeddf. Fodd bynnag, dim ond Gweinidogion Llywodraeth y DU all ychwanegu eithriadau at y Ddeddf.
Hyd yn hyn, cytunwyd ar dri eithriad drwy fframweithiau cyffredin: cynhyrchion plastig untro, trapiau glud ar gyfer dal anifeiliaid a chynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diod.
Yn 2025, cynhaliodd Llywodraeth y DU adolygiad o Rannau 1, 2 a 4 o'r Ddeddf a hefyd ystyriodd y broses ar gyfer ystyried eithriadau o’r egwyddorion mynediad i'r farchnad. Cyhoeddodd ei hymateb i'r adolygiad ym mis Gorffennaf 2025. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb ar 17 Gorffennaf 2025.
Yn ôl i'r brigDeddf yr UE (Perthynas yn y Dyfodol) 2020
Mae’r Ddeddf:
- yn gweithredu'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu, y Cytundeb Niwclear Sifil a'r Cytundeb Diogelu Gwybodaeth, mewn cyfraith ddomestig;
- yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru weithredu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu mewn meysydd datganoledig;
- yn gosod gweithdrefnau ar gyfer arfer pwerau Gweinidogion Cymru yn y Senedd; ac
- yn gwneud darpariaeth bellach yn ymwneud â’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r holl ddeddfwriaeth ddomestig gael ei darllen yn unol â’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn ôl-weithredol.
Ni chynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd.Cafodd y Senedd ei galw'n ôl o doriad y Nadolig ar 30 Rhagfyr 2020 i drafod diwedd y cyfnod pontio. Cynhaliwyd pleidlais ar gynnig a oedd yn nodi nad oedd y Senedd mewn sefyllfa i benderfynu ar gydsyniad.
Canlyniad y bleidlais ar y cynnig: O blaid 28, Yn erbyn 24, Ymatal 0.
Cafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol y diwrnod nesaf, sef 31 Rhagfyr 2020.
Yn ôl i'r brigStrwythur rhynglywodraethol newydd y DU
Yn 2018, aeth Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig ati i gomisiynu adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol i sicrhau eu bod yn addas at y diben yn sgil ymadawiad y DU â’r UE. Ym mis Ionawr 2022, daeth y ddwy lywodraeth i gytundeb.
Fe wnaeth yr adolygiad sefydlu strwythur tair haen ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol ffurfiol:
- grwpiau rhyngweinidogol ar lefel portffolio neu adran;
- Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol i drafod materion trawsbynciol, a Phwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid; a
- Chyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig i oruchwylio’r system lywodraethu aml-lefel a grëwyd yn sgil datganoli.
Ymhlith y grwpiau rhyngweinidogol mae grŵp ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein herthygl, Yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol: “cam cyfansoddiadol arwyddocaol ymlaen”?
Yn ôl i'r brigDeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2022
Er mwyn lleihau'r tarfu wrth ymadael â'r UE, newidiodd y DU gyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig a'i galw'n gyfraith yr UE a ddargedwir. Roedd hyn yn golygu bod cyfreithiau cyn Brexit yn parhau i fod ar waith i osgoi bylchau mewn meysydd pwysig fel safonau cynhyrchion, lles anifeiliaid a chyfraith cyflogaeth. Daeth cyfraith yr UE a ddargedwir yn gorff penodol o gyfraith ond mae gwahaniaeth barn am yr hyn y dylid ei wneud am y sefyllfa.
Mae'r Ddeddf yn rhoi rhai o gynlluniau Llywodraeth y DU ar waith ar gyfer cyfraith yr UE a ddargedwir ac yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU wneud newidiadau yn y dyfodol.
Argymhellodd Llywodraeth Cymru y dylai'r Senedd atal ei chydsyniad i'r Bil ym mhob un o'i phump Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Caiff Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol eu gosod yn y Senedd pan fydd Bil y DU yn ymdrin â meysydd polisi sydd wedi’u datganoli i Gymru. Yna bydd yr Aelodau’n pleidleisio ar a ddylai’r Senedd roi cydsyniad i Senedd y DU ddeddfu ar ei rhan ai peidio.
Mae’r Ddeddf:
- yn dirymu rhai o gyfreithiau'r UE a ddargedwir, a daethant i ben ar 31 Rhagfyr 2023. Mae hyn yn cynnwys y 587 o eitemau cyfraith yr UE a ddargedwir a restrir yn Atodlen 1, hawliau sy’n deillio o’r UE, egwyddor goruchafiaeth ac egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE;
- yn ailenwi cyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn weddill yn “gyfraith a gymhathwyd” o 1 Ionawr 2024;
- yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Chymru sy'n ei gwneud yn haws iddynt ddiwygio, diddymu a disodli cyfraith yr UE a ddargedwir a chyfraith a gymhathwyd;
- yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Chymru ail-greu effaith goruchafiaeth cyfraith yr UE a ddargedwir i raddau cyfyngedig mewn perthynas ag offerynnau penodol;
- yn rhoi mwy o ddisgresiwn i lysoedd domestig wyro oddi wrth gyfraith achosion cyfraith yr UE a ddargedwir; ac
- yn diddymu'r Targed Effaith Busnes fel rhan o ddiwygiadau rheoleiddio eraill.
Nid oes unrhyw ofyniad ar Lywodraeth y DU i gael cydsyniad gan Weinidogion Cymru, na’r Senedd, wrth wneud newidiadau mewn meysydd datganoledig.
Mae rhaglen diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir/cyfraith a gymhathwyd Llywodraeth y DU yn mynd rhagddi ac mae trefniant cydsynio anffurfiol ar waith lle y gofynnir am gydsyniad Llywodraeth Cymru, beth bynnag. Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi cydsyniad anffurfiol ar y sail hon i reoliadau’r DU wneud newidiadau mewn meysydd datganoledig, megis yr amgylchedd. Hyd yn hyn, defnyddiwyd offerynnau statudol unigol i ddirymu hyd at 93 darn o gyfraith yr UE a ddargedwir ar y tro.
Cynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd a chafodd cydsyniad ei atal ar 28 Mawrth 2023 a 6 Mehefin 2023.
Canlyniad y bleidlais gyntaf: O blaid 13, Yn erbyn 38, Ymatal 0.
Canlyniad yr ail bleidlais: O blaid 17, Yn erbyn 36, Ymatal 0.
Cafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol ar 29 Mehefin 2023.
Yn ôl i'r brigDiogelu'r Undeb
Tyngodd aelodau o Weithrediaeth Gogledd Iwerddon lw am y tro cyntaf ers dwy flynedd ar 3 Chwefror 2024. Roedd hyn yn dilyn cyhoeddi'r Papur Gorchymyn Safeguarding the Union gan Lywodraeth y DU ar 31 Ionawr a phasio rheoliadau newydd ar 1 Chwefror. Mae'r rhain yn gwneud newidiadau er mwyn mynd i'r afael â phryderon y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP) am Fframwaith Windsor.
Fe wnaeth y ddogfen Safeguarding the Union:
- sefydlu strwythurau llywodraethu newydd rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr;
- newid rheolau masnach i gymell a hybu masnach rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr; a
- darparu dros £3 biliwn i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon i fynd i’r afael â'r pwysau ar gyflogau yn y sector cyhoeddus a darparu fformiwla Barnett wedi’i diweddaru ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Fe wnaeth un rheoliad ymestyn egwyddorion mynediad i'r farchnad Deddf Marchnad Fewnol y DU i nwyddau o Ogledd Iwerddon. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion y DU gyhoeddi canllawiau ar sut i gydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 46 o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020 i roi sylw arbennig i le Gogledd Iwerddon ym marchnad fewnol a thiriogaeth dollau'r DU. Rhaid i weinidogion datganoledig yn awr ystyried y canllawiau hyn wrth ymgymryd â swyddogaethau perthnasol.
Ni chynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd.
Mae mwy o wybodaeth yn ein herthygl, Cymru a Diogelu'r Undeb.
Yn ôl i'r brigModel Gweithredu Targed y Ffin
Model Gweithredu Targed y Ffin yw model ffiniau masnach y DU ar ôl Brexit.
Mae’n nodi sut y bydd mewnforion sy'n cyrraedd Prydain Fawr yn cael eu trin. Datblygwyd y Model gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban a swyddogion o Ogledd Iwerddon. Bydd yn berthnasol i’r holl nwyddau a gaiff eu mewnforio, gan gynnwys mewnforion o’r UE am y tro cyntaf ers Brexit.
Mae hyn yn golygu y bydd rheolaethau masnach a thollau newydd ar waith ym mhorthladdoedd Cymru. Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am reolaethau bioddiogelwch, diogelwch bwyd ac iechydol a ffytoiechydol (SPS) sy’n diogelu iechyd anifeiliaid, planhigion a’r cyhoedd.
Mae'r drefn wedi bod yn destun oedi sawl tro ac nid yw'r holl reolaethau wedi'u cyflwyno. Roedd y drefn i fod i gael ei chyflwyno'n raddol o fis Ionawr 2024 ymlaen, gydag ail gam ym mis Ebrill 2024 a thrydydd cam ym mis Hydref 2024. Roedd amserlen wahanol yn berthnasol i nwyddau yn cyrraedd o ynys Iwerddon – gyda dau gam iddi: 31 Ionawr 2024 a 31 Hydref 2024. Mae hyn yn arbennig o bwysig i Gymru, gan fod ei phorthladdoedd yn creu rhan o’r bont tir rhwng y DU a phorthladdoedd Iwerddon.
Cynlluniwyd tair safleoedd rheoli ffiniau ("BCP") newydd ar gyfer Cymru yng Nghaergybi, Abergwaun a Doc Penfro i brosesu mewnforion ar ôl Brexit.
Roedd y gwaith adeiladu ar y gweill yng Nghaergybi pan oedwyd datblygiad BCP pellach ledled Prydain Fawr mewn disgwyl am gytundeb SPS rhwng y DU a'r UE. Gallai hyn leihau neu hyd yn oed ddileu'r angen am reolaethau masnach.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein herthyglau, Cymru a’r model newydd ar gyfer ffiniau masnach y DU, a Pam fod angen safleoedd rheoli ffiniau ar Gymru?
Yn ôl i'r brigBil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg 2025
Mae'r Ddeddf yn rhoi'r pŵer i Weinidogion y DU gydnabod rhai o ofynion cynnyrch yr UE yn unochrog. Mae angen cydsyniad Gweinidogion Cymru wrth wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig.
Yn ôl Llywodraeth y DU, byddai hyn yn cynnal safonau uchel o ran cynnyrch, yn atal costau ychwanegol i fusnesau ac yn sicrhau sefydlogrwydd rheoleiddiol.
Fe wnaeth adroddiad pwyllgor masnach y Chweched Senedd ar y Bil nodi nifer o bryderon, gan gynnwys symud cyfrifoldeb ar fusnesau i gadw i fyny â newidiadau rheoleiddiol. Daeth i’r casgliad a ganlyn:
…nid yw’r goblygiadau i fasnach Cymru a’r UE yn hysbys. Byddai’r Bil yn grymuso’r Ysgrifennydd Gwladol i ddewis cydnabod nifer amhenodol o reoliadau’r UE ar hyn o bryd neu yn y dyfodol, neu ddim o gwbl.
Dywedodd Llywodraeth Cymru yn y lle cyntaf y byddai effeithiau cadarnhaol i fasnach rhwng Cymru a'r UE ond eglurodd yn ddiweddarach mai budd posibl i fewnforwyr a budd cyfyngedig i allforwyr fyddai hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar gydsyniad yn y Senedd ar 3 Mehefin 2025 a rhoddwyd cydsyniad.
Canlyniad y bleidlais: O blaid 39, Yn erbyn 10, Ymatal 0.
Cafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol ar 21 Gorffennaf 2025.
Yn ôl i'r brigBil Partneriaeth Ewropeaidd (DU)
Mae Bil Partneriaeth Ewropeaidd Llywodraeth y DU yn bwriadu hwyluso’r gwaith o weithredu cytundebau newydd y cytunwyd arnynt gyda’r UE yn awr ac yn y dyfodol.
Mae’r cytundeb Dealltwriaeth Gyffredin rhwng y DU-UE yn paratoi’r ffordd i’r DU ddilyn rheolau’r UE mewn meysydd fel trydan, masnach allyriadau, a bwyd a diod.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein herthygl, Pam y gallai Cymru ddilyn rheolau'r UE?
Yn ôl i'r brigDeddf Aliniad Ewropeaidd (Cymru)
Mae maniffesto etholiadol Llywodraeth newydd Cymru yn cynnwys cynlluniau ar gyfer Deddf Aliniad Ewropeaidd i Gymru yn unig. Y bwriad yw:
Cyflwyno Strategaeth Ewropeaidd newydd, wedi’i hategu gan Ddeddf Cydweddu Ewropeaidd – i’n galluogi i fod yn gyson â safonau blaenllaw Ewrop mewn meysydd sy’n cynnwys diogelu’r amgylchedd, iechyd y cyhoedd, a safonau bwyd.
Cyn yr etholiad ym mis Mawrth 2026, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn credu’n gryf fod manteision aliniad agos yn llawer mwy na’r anfanteision. Hefyd yn rhan o’r maniffesto roedd galwad hirdymor y blaid i'r DU ailymuno â Marchnad Sengl ac undeb tollau'r UE.
Ym mis Ionawr 2025, dywedodd y blaid y byddai’r gyfraith newydd “yn dadwneud difrod Brexit”. Dywedodd Adam Price AS, y llefarydd ar ran Cyfiawnder a Materion Ewropeaidd, y byddai'r ddeddfwriaeth:
[yn] galluogi i gyfraith Cymru gael ei halinio mor agos a chyflym â phosibl gyda safonau Ewropeaidd hanfodol pan fydd er budd gorau Cymru.
Ychwanegodd y byddai:
yn adfer pwerau na ddylem fyth fod wedi rhoi'r gorau iddi a byddai'n galluogi i gyfraith Cymru gael ei halinio mor agos a chyflym â safonau Ewropeaidd hanfodol pan fydd er budd gorau Cymru.Mae angen i Gymru gadw mor agos ag y gallwn at ein ffrindiau a'n cynghreiriaid Ewropeaidd ac aros yn fyw i newidiadau yng ngwleidyddiaeth a pholisi Ewrop i amddiffyn ein cymunedau mewn byd mwy ansicr.
Ar 13 Mai 2026, penodwyd Adam Price AS yn Weinidog Cabinet â chyfrifoldeb am gydlynu materion yn ymwneud â masnach y DU a'r UE.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein herthygl, Pam y gallai Cymru ddilyn rheolau'r UE?
Yn ôl i'r brigDeall masnach nwyddau rhwng Cymru a’r UE ers Brexit
Erthygl gan Sara Moran, Sam Jones, Adam Cooke a Josh Hayman Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru