Cymru a’r model newydd ar gyfer ffiniau masnach y DU

Cyhoeddwyd 04/10/2023   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei model newydd ar gyfer ffiniau masnach.   

Mae Model Gweithredu Masnach y Ffin (y Model) yn nodi sut y bydd mewnforion sy'n cyrraedd Prydain Fawr yn cael eu trin. Datblygwyd y Model ar y cyd gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban a swyddogion o Ogledd Iwerddon. Bydd yn berthnasol i’r holl nwyddau a gaiff eu mewnforio, gan gynnwys mewnforion o’r UE am y tro cyntaf ers Brexit.  

Bydd rheolaethau masnach a thollau newydd ar waith ym mhorthladdoedd Cymru. Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am reolaethau bioddiogelwch a diogelwch bwyd a rheolaethau iechydol a ffytoiechydol (SPS) yng Nghymru.  

Bydd y system yn cael ei chyflwyno'n raddol o fis Ionawr 2024 ymlaen, gyda’r ail gam yn cael ei roi ar waith ym mis Ebrill 2024 a’r trydydd cam ym mis Hydref 2024. Mae amserlen wahanol yn berthnasol i nwyddau sy'n cyrraedd o ynys Iwerddon - sy’n cynnwys dau gam; Ionawr 2024 a Hydref 2024. Mae hyn yn arbennig o bwysig i Gymru, gan fod ei phorthladdoedd yn creu rhan o’r bont tir rhwng y DU a phorthladdoedd Iwerddon. 

Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif mai cost y Model newydd i fewnforwyr fydd £330 miliwn y flwyddyn a hynny mewn perthynas â’r holl nwyddau a gaiff eu mewnforio o’r UE, a bydd cynnydd o 0.2% mewn chwyddiant bwyd dros dair blynedd hefyd. Bydd hyn, meddai, yn dibynnu'n fawr ar y modd y mae busnesau'n addasu eu modelau busnes a'u cadwyni cyflenwi i integreiddio’r systemau rheoleiddio newydd. 

Mae'r Model yn esbonio bod y £330 miliwn yn cyfateb i oddeutu 0.13% o werth cyffredinol mewnforion o’r UE ac y gallai’r canlyniadau economaidd a fyddai’n deillio o achos difrifol o glefyd planhigion neu anifeiliaid (sef digwyddiadau y mae rheolaethau masnach yn ceisio’u hatal) fod yn llawer mwy difrifol.  

Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar nwyddau sy'n cyrraedd Cymru o ynys Iwerddon ac mae’n dilyn ein herthygl ddiwethaf, Pam fod angen swyddi rheoli ffiniau ar Gymru?  

Pryd fydd y Model yn dechrau? 

Mae cynlluniau ar y gweill i greu Safleoedd Rheoli Ffiniau newydd i brosesu mewnforion ym mhorthladdoedd Caergybi, Doc Penfro ac Abergwaun. Dylent fod yn gwbl weithredol erbyn 31 Hydref 2024. 

Mae Adran 2 o'r Model yn creu amserlen i’r porthladdoedd ar arfordir y gorllewin sy’n wahanol i amserlen porthladdoedd gweddill Prydain a hynny oherwydd y cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth gludo nwyddau o ynys Iwerddon. Bydd angen y gwiriadau a'r gofynion a ganlyn mewn perthynas â nwyddau sy'n cyrraedd Cymru o ynys Iwerddon, ond bydd y rhain yn amrywio’n ôl natur y nwyddau a’r modd y cânt eu cludo.   

31 Ionawr 2024 

  1. Hysbysu awdurdodau ymlaen llaw, cyn i rai nwyddau gyrraedd. 
  2. Rheolaethau tollau llawn 
  3. Tystysgrifau iechyd a ffytoiechydol ar gyfer cynhyrchion glanweithiol a ffytoiechydol (SPS) risg ganolig.   

31 Hydref 2024 

  1. Cofnodi, nodi a chynnal gwiriadau ffisegol o gynhyrchion anifeiliaid, planhigion, cynhyrchion planhigion risg ganolig a bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid.  
  2. Datganiadau Diogelwch a Diogeledd ar gyfer mewnforion o'r UE   

Disgwylir y bydd prosesau mewnforio symlach yn dechrau mewn perthynas â holl fewnforion y DU ym mis Hydref 2024.  Er enghraifft, bydd angen llai o wybodaeth orfodol a bydd y defnydd o Ffenestr Fasnach Sengl newydd y DU yn cael gwared ar rywfaint o ddyblygu yn achos setiau data cyn cyrraedd, fel Diogelwch a Diogeledd, SPS, a datganiadau tollau a gyflwynwyd ymlaen llaw. 

Nwyddau sy'n cyrraedd Cymru o ynys Iwerddon  

Oherwydd ei daearyddiaeth, mae Cymru mewn sefyllfa unigryw gan fod ei phorthladdoedd ar arfordir y gorllewin yn cysylltu â phorthladdoedd Iwerddon, yn yr UE. Mae nwyddau sy’n symud rhwng y ddwy wlad felly’n cael eu hystyried yn fewnforion / allforion rhwng y DU ar UE ac maent yn ddarostyngedig i reolau masnach rhyngwladol a'r DU-UE Cytundeb Masnach a Chydweithredu. 

Fodd bynnag, mae nwyddau o Ogledd Iwerddon hefyd yn teithio tua’r de ar ynys Iwerddon i ddefnyddio’r llwybrau môr rhwng Cymru ac Iwerddon, ac i fanteisio ar bont dir y DU sydd i’w gweld ar y map isod.  

Mae nwyddau sy’n symud o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr yn wynebu llai o rwystrau na nwyddau o Iwerddon/yr UE o dan delerau Brexit, ac mae'r Model newydd yn ystyried hyn. Mae masnach rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr yn cael ei llywodraethu'n bennaf gan gytundebau rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys Protocol Gogledd Iwerddon a Fframwaith Windsor, a deddfau domestig pwysig fel Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 

Mae'r Model yn esbonio’r rheolau sy’n berthnasol i nwyddau sy’n cael eu mewnforio’n anuniongyrchol o Ogledd Iwerddon i Gymru, drwy Iwerddon, a’r rheolau sy’n berthnasol i nwyddau sy’n cael eu mewnforio’n uniongyrchol i Gymru o Iwerddon.  

Mae’r map yn dangos ynys Iwerddon, Prydain Fawr a thir mawr Ewrop. Mae llinellau toredig ar draws y map sy'n dangos llwybrau masnach rhwng y tair ardal ddaearyddol, gan gynnwys llwybrau llongau rhwng Cymru ac Iwerddon (rhwng Dulyn a Chaergybi, Rosslare ac Abergwaun a Rosslare a Doc Penfro).

Nwyddau sy’n cael eu mewnforio’n anuniongyrchol o Ogledd Iwerddon i Gymru, drwy Iwerddon  

Wrth benderfynu pa reolau sy'n berthnasol i nwyddau sy'n teithio o Ogledd Iwerddon i Gymru, drwy Iwerddon, rhaid ystyried a ydynt yn 'nwyddau cymwys o Ogledd Iwerddon'.  

Yn gyffredinol, mae nwyddau sydd mewn cylchrediad rhydd yng Ngogledd Iwerddon, neu nwyddau sydd wedi cael eu prosesu yng Ngogledd Iwerddon, yn nwyddau cymwys. Nid yw nwyddau cymwys yn ddarostyngedig i reolaethau SPS, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig, fel rhywogaethau sydd mewn perygl. Mae Llywodraeth y DU yn cadw rhestr o nwyddau sy'n cael mynediad dirwystr rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, a chaiff ei diweddaru'n rheolaidd. 

Os nad yw nwyddau’n bodloni’r meini prawf hyn, cânt eu hystyried yn nwyddau nad ydynt yn gymwys ac mae rheolaethau tollau a SPS yn berthnasol. Mae nwyddau mewn rhai categorïau penodol, fel alcohol a thybaco, bob amser yn ddarostyngedig i reolaethau tollau.  

Bydd y dyddiad y bydd nwyddau nad ydynt yn gymwys yn cael eu gwirio’n ffisegol yn cael ei gadarnhau yn nhymor yr hydref 2023 a dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, yn ddiweddar y byddai’r trafodaethau’n dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf.  

Rheolau symlach ar gyfer nwyddau cymwys o Ogledd Iwerddon 

Yn ôl y Model, bydd y telerau ffafriol a roddir i nwyddau cymwys sy’n symund yn uniongyrchol rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr yn cael eu hymestyn i nwyddau cymwys sy’n symund yn anuniongyrychol rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, drwy Iwerddon. Dywed: 

yn y mwyafrif helaeth o achosion ni fydd angen i chi bellach gwblhau datganiadau tollau mewnforio electronig ar gyfer eich symudiadau nwyddau. 

Yn ôl esboniad y Gweinidog:

Roedd yn arbennig o dda gennyf sicrhau cytundeb gan Lywodraeth y DU i addasu diffiniad Nwyddau Cymwys o Ogledd Iwerddon, i leihau'r cymhellion i fasnachwyr geisio osgoi rheolaethau iechydol a ffytoiechydol drwy symud nwyddau i Brydain Fawr o Iwerddon drwy Ogledd Iwerddon. Dylai hyn wella bioddiogelwch yn sylweddol a lleihau'r risg o fasnach yn cael ei ddargyfeirio o borthladdoedd Cymru.

Bydd prosesau’n cael eu symleiddio fel bod angen i gludwyr nwyddau ddatgan eu bod yn cludo nwyddau cymwys a bod ganddynt ddogfennau i brofi hynny, os gofynnir iddynt eu dangos. Bydd angen iddynt hefyd fod â dogfennau teithio’n nodi cyrchfan derfynol y nwyddau cymwys i ddangos mai dim ond drwy Iwerddon y cawsant eu cludo.   

Bydd Llywodraeth y DU yn diweddaru canllawiau ar y gofynion hyn cyn 31 Ionawr 2024 ac mae’n addo rhoi digon o amser i fasnachwyr a chludwyr nwyddau ddeall y trefniadau newydd.  

Y camau nesaf 

Mae'r Model yn esbonio y bydd deddfwriaeth yn cael ei "hymgorffori a'i chryfhau ymhellach" i sicrhau masnach ddirwystr rhwng Gogledd Iwerddon a Chymru mewn perthynas â nwyddau cymwys.    

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn pryderu am ddadleoli a dargyfeirio masnach ers peth amser. Mae’r Gweinidog wedi sôn am ei ymdrechion i liniaru'r rhain, gan gynnwys drwy gyflwyno dulliau cyffredin o ymdrin â’r arfordir gorllewinol. Wrth gyhoeddi'r Model, dywedodd "ein bod wedi datblygu model sy'n gweithio i Gymru". 

Bydd yn bwysig i'r Senedd wybod a fydd ymdrechion y Gweinidog yn llwyddo. Bydd yr Aelodau’n cael cyfle i’w holi am y mater hwn pan fydd yn ymddangos nesaf gerbron Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. 


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru