Deall masnach nwyddau rhwng Cymru a’r UE ers Brexit

Cyhoeddwyd 18/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/06/2026

Ers 1 Ionawr 2021, mae cytundeb masnach y DU a’r UE wedi gosod y rheolau ar gyfer masnach rhyngddynt. Gelwir y cytundeb yn Gytundeb Masnach a Chydweithredu. Yn 2025, roedd yr UE yn cyfrif am 47% o fasnach nwyddau rhyngwladol Cymru yn ôl gwerth a 60% yn ôl cyfaint. 

Mae’r canllaw hwn yn rhan o’n cyfres masnach ryngwladol. Mae’n egluro:

  • Lle mae’r UE ar y rhestr o bartneriaid masnachu Cymru;
  • Pa nwyddau y mae Cymru’n eu masnachu â’r UE;
  • Pa sectorau yng Nghymru sy’n dibynnu fwyaf ar fasnachu â’r UE;
  • Masnach cyn ac ar ôl Brexit;
  • Sawl busnes yng Nghymru sy’n masnachu â’r UE;
  • Pam roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn credu bod Brexit yn effeithio’n anghymesur ar Gymru o’i gymharu â gweddill y DU.

Erthygl gan Sara Moran a Josh Jenkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru