Faint o ddinasyddion yr UE a arhosodd yng Nghymru ar ôl Brexit?

Cyhoeddwyd 22/06/2026   |   Amser darllen munudau

Nodyn: Mae’r erthygl hon yn defnyddio’r term “dinasyddion yr UE” i ddisgrifio dinasyddion yr UE, gwladwriaethau’r AEE-EFTA (Gwlad yr Iâ, Norwy a Liechtenstein) a’r Swistir ac aelodau o’u teulu sy’n gymwys ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae dinasyddion Gwyddelig wedi’u heithrio.

Roedd yn rhaid i ddinasyddion yr UE a oedd yn byw yng Nghymru cyn Brexit wneud cais i aros drwy’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE erbyn 30 Mehefin 2021, hyd yn oed os oeddent wedi byw yma ers degawdau. Er bod y dyddiad cau bum mlynedd yn ôl bellach, mae'r cynllun yn parhau i fod ar agor ar gyfer ceisiadau hwyr.

Roedd cytundebau ymwahanu rhwng y DU, yr UE a gwladwriaethau Ewropeaidd eraill yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd camau i ganiatáu i’w dinasyddion aros yn eu gwledydd ar ôl Brexit. Roedd pob gwlad yn gallu penderfynu sut i roi ei dyletswyddau ar waith. Y Cynllun Preswylio’n Sefydog i Ddinasyddion yr UE yw system fewnfudo gyntaf y DU i gael ei chyflwyno ar ffurf ddigidol yn unig. Mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn gyfrifol am gynnal hawliau dinasyddion yr UE mewn meysydd datganoledig.

Mae'r cytundebau ymwahanu yn gwarantu hawliau plant deiliaid statws y cynllun, gan wneud y mater yn un sydd ag effaith hirdymor ac yn un sy'n pontio’r cenhedloedd. Gall methu â chael y statws hwn arwain at golli hawliau i weithio ac i gael tai, yn ogystal â chael mynediad at addysg a budd-daliadau, a gall hyd yn oed arwain at allgludiad.

Arweiniodd cyfuniad o ymwybyddiaeth isel, cymhlethdod, meini prawf mwyfwy cul a data gwael at rybuddion llym o ail Windrush gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Chweched Senedd (“y Pwyllgor”).

Mae'r erthygl hon yn crynhoi'r ystadegau diweddaraf hyd at 31 Mawrth 2026 a chanfyddiadau allweddol y Pwyllgor yn ystod y Chweched Senedd.

Statws Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE wedi'i egluro

Mae ymgeiswyr i’r cynllun yn derbyn un o nifer o ganlyniadau posibl.

I aros yn y DU, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael naill ai statws ‘preswylydd sefydlog’ parhaol (i’r rhai sy’n gallu profi eu bod wedi byw yma ers pum mlynedd yn olynol) neu statws ‘preswylydd cyn-sefydlog’ dros dro (i’r rhai na allant wneud hynny).

Mae newidiadau wedi’u gwneud i statws cyn-sefydlog yn y gorffennol. Mae’r statws hwn bellach yn parhau am gyfnod o bum mlynedd, a gaiff ei ymestyn yn awtomatig am bum mlynedd ychwanegol wrth iddo ddod i ben. Pan fydd gan ddinasyddion sydd â statws cyn-sefydlog dystiolaeth eu bod wedi preswylio yma yn ddigon hir, gallant wneud cais i gael eu huwchraddio i statws preswylydd sefydlog neu gallant gael eu huwchraddio'n awtomatig.

Gall y ddau grŵp fyw, gweithio a chael mynediad at ofal iechyd ond mae gwahaniaethau pwysig rhyngddynt. Er enghraifft, efallai na fydd dinasyddion sydd â statws cyn-sefydlog yn gallu cael mynediad at fudd-daliadau ac na all aelodau o’u teulu ymuno â hwy.

Caiff ceisiadau aflwyddiannus eu categoreiddio fel rhai a wrthodwyd neu rai sy’n annilys, wedi’u tynnu’n ôl neu’n ddi-rym.

Gall 116,000 o ddinasyddion yr UE aros yng Nghymru

Nid oedd neb yn gwybod faint o ddinasyddion yr UE oedd yn byw yn y DU cyn Brexit, felly nid oeddem yn gwybod faint o geisiadau i'w disgwyl.

Ers i’r cynllun gael ei lansio yn 2019, mae 8.9 miliwn o geisiadau wedi dod i law, o gymharu ag amcangyfrif o tua 4 miliwn. Daeth dros 2.8 miliwn o geisiadau i law ar ôl y dyddiad cau ym mis Mehefin 2021.

Mae 134,825 o geisiadau wedi dod i law gan bobl yng Nghymru.

Roedd 116,005 (86%) o ymgeiswyr yn llwyddiannus a gallant aros naill ai yn barhaol neu dros dro. Rhoddwyd statws preswylydd sefydlog i 75,214 a statws cyn-sefydlog i 40,791. Mae hyn yn golygu bod 21,000 yn fwy o ddinasyddion cymwys yng Nghymru hyd yma o gymharu â’r amcangyfrifon cychwynnol, sef 95,000 o ddinasyddion cymwys. Roedd y Swyddfa Gartref yn dal i gael cannoedd o geisiadau hwyr o Gymru bob mis pan stopiodd adrodd ar yr ystadegyn hwn (y cyfanswm erbyn mis Mehefin 2025 oedd 31,207).

Roedd 17,572 (13.2%) o geisiadau yn aflwyddiannus.

Ceisiadau i’r cynllun o Gymru yn ôl dyddiad, ceisiadau a gwblhawyd a chanlyniadau, gan ddangos y canrannau a’r niferoedd

 

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU Tablau data ystadegau y system mewnfudo: Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, Mawrth 2026

Ceisiadau fesul awdurdod lleol

Mae’r map isod yn dangos cyfanswm y ceisiadau fesul awdurdod lleol. Caerdydd sydd â'r mwyaf (32,028) ac Ynys Môn sydd â'r lleiaf (687).

 

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU Tablau data ystadegau y system mewnfudo: Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, Mawrth 2026

Ystadegau Cymru wedi'u tynnu o adroddiadau'r Swyddfa Gartref

Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru a’r Pwyllgor yn y Chweched Senedd o’r farn bod y data am y cynllun ar lefel Cymru yn annigonol. Manylwyd ar hyn yn adroddiad y Pwyllgor yn 2025, Sefydlog ond heb fod yn saff? Dinasyddion yr UE a arhosodd ar ôl Brexit, sydd hefyd yn nodi sut y cafodd ceisiadau am ystadegau gan Lywodraeth Cymru eu “hanwybyddu” gan y Swyddfa Gartref.

Yn y gorffennol, cafodd ystadegau chwarterol eu cyhoeddi ar gyfer y DU, y gwledydd datganoledig a’r awdurdodau lleol. Roedd llai o ystadegau ar gael ar gyfer y gwledydd datganoledig nag ar gyfer y DU. Fodd bynnag, mae newidiadau diweddar wedi dileu’r ystadegau ar lefel ddatganoledig, gan adael data ar lefel y DU ac ar lefel awdurdodau lleol yn unig. Mae hyn yn golygu, er enghraifft:

  • lle darparwyd cyfanswm ar lefel Cymru yn flaenorol, erbyn hyn rhaid dod at y ffigur drwy gyfrifo cyfanswm y data ar gyfer awdurdodau lleol unigol. Mae hyn yn cwmpasu'r holl brif gategorïau, megis canlyniadau ceisiadau a cheisiadau yn ôl math (oedran, gwlad Ewropeaidd ac ati);
  • nid yw’n bosibl gweld, na chyfrifo, ceisiadau hwyr misol fesul gwlad ddatganoledig mwyach. Roedd hwn yn bryder allweddol a fynegwyd yn ystod y Chweched Senedd, oherwydd bod cannoedd o ymgeiswyr o Gymru wedi wynebu meini prawf mwyfwy cul wrth i amser fynd heibio ar ôl y dyddiad cau; ac
  • nid yw’n rhwydd gwneud cymariaethau rhwng y pedair gwlad mwyach.

“Byddai ystadegau cyflawn sy’n benodol i Gymru o fudd cyffredinol”, yn ôl un o bwyllgorau’r Chweched Senedd

Mae adroddiad y Pwyllgor yn dod i’r casgliad nad oedd ystadegau oedd ar gael ar y pryd yn “rhoi darlun cyflawn o Gymru”. Mae’r Pwyllgor yn nodi:

Nid ydym yn gweld unrhyw reswm pam na ddylai Llywodraeth y DU rannu data sy’n benodol i Gymru â Llywodraeth Cymru fel rhan angenrheidiol o’r gwaith o gyflawni’r Cynllun.

Byddai ystadegau cyflawn sy’n benodol i Gymru o fudd cyffredinol i weithrediad y Cynllun yng Nghymru. Hebddo, ni fydd Llywodraeth Cymru byth yn deall yn llawn y grŵp hwn o fwy na 113,000 o ddinasyddion sy’n 3.6% o boblogaeth Cymru, ac y mae ganddo gyfrifoldebau pwysig amdanynt.

Roedd y Pwyllgor yn pwyso ar Lywodraeth y DU i:

  1. rannu’r holl ystadegau sydd ar gael sy’n gysylltiedig â’r Cynllun yng Nghymru â Llywodraeth Cymru; ac
  2. adolygu ei ystadegau cyhoeddedig er mwyn gwella’r wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd ac sy’n ymwneud â’r gwledydd datganoledig.

Y cynllun a'r Seithfed Senedd

Roedd y Pwyllgor am i natur hirdymor y cynllun gael ei chydnabod, gan ddod yn ganolog i’r broses o gynllunio ar lefel y DU ac ar lefel Cymru. Dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru yn y dyfodol dargedu cefnogaeth at grwpiau agored i niwed a'r bobl sy'n debygol o fod yn anymwybodol o'r angen i wneud cais, gan weithio gyda rhanddeiliaid i rannu arbenigedd a sicrhau cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU sy'n deillio o Brexit. Galwodd hefyd ar i un o bwyllgorau’r Senedd yn y dyfodol barhau â'i waith yn ystod tymor y Seithfed Senedd.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan y materion a godwyd yn yr erthygl hon, mae gwasanaeth Settled yn cynnig cyngor achrededig am ddim ar y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE mewn amrywiaeth eang o ieithoedd Ewropeaidd. Gallwch gysylltu â Settled drwy ffurflen atgyfeirio ar-lein, e-bost neu linell gymorth: 0330 223 5336.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru