Pam y gallai Cymru ddilyn rheolau'r UE?

Cyhoeddwyd 18/06/2026   |   Amser darllen munudau

Y llynedd, cytunodd Llywodraeth y DU â'r Comisiwn Ewropeaidd i ddilyn rhai o reolau'r UE mewn cytundeb o'r enw y Ddealltwriaeth Gyffredin. Mae trafodaethau ar sut i wneud hyn yn mynd ymlaen ar hyn o bryd. I roi beth bynnag y cytunir arno ar waith yn ddomestig, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu defnyddio ei Bil Partneriaeth Ewropeaidd (“Bil y DU”). Cyn yr etholiad, nid oedd Llywodraeth y DU wedi rhannu Bil drafft gyda llywodraeth flaenorol Cymru.

Mae maniffesto etholiad llywodraeth newydd Cymru hefyd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer Deddf Alinio Ewropeaidd ar gyfer Cymru yn unig (“Bil Cymru”). Nid yw'n glir sut y bydd Bil Cymru yn wahanol i Fil y DU. Efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu nad oes ei angen o gwbl. Yn ogystal â'i waith craffu ar unrhyw ddeddfwriaeth Gymreig, efallai y gofynnir i’r Senedd am gydsyniad i Fil y DU, a deddfwriaeth arall y DU a allai ddilyn.

Mae’r ddwy lywodraeth o’r farn y bydd alinio’n agosach â'r UE yn cynnig cyfleoedd economaidd. Cyn yr etholiad ym mis Mawrth 2026, dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn credu’n gryf fod y manteision yn llawer mwy na’r anfanteision o ran alinio’n agos. Canfu pedwar o bwyllgorau’r Chweched Senedd a oedd yn cydweithio ar gytundeb masnach rhwng y DU a'r UE dystiolaeth o gefnogaeth ymhlith sefydliadau a busnesau Cymru. 

Mae'r erthygl hon yn egluro sut rydym wedi cyrraedd y sefyllfa bresennol ac yn trafod cwestiynau allweddol i’w hystyried cyn i’r ddau Fil posibl gael eu cyflwyno. 

Sut ydym wedi cyrraedd y sefyllfa bresennol?

Mae Brexit yn golygu bod y DU yn rhydd i wyro oddi wrth reolau'r UE. Mae cyfyngiadau ar hyn ym mhrif gytundeb masnach y DU gyda'r UE, sy'n cynnwys ymrwymiadau sy'n rhwymo'n gyfreithiol i beidio â dileu rhai’r safonau a oedd yn bodoli cyn Brexit.

Yn gyffredinol, gall gwahaniaethu alluogi llywodraethau i fod yn fwy ymatebol i anghenion lleol ond gall greu rhwystrau a chynyddu costau. Ar y llaw arall, gall alinio rheolau leihau neu ddileu rhwystrau ond gallai gyfyngu ar ddewisiadau'r llywodraeth.

Yn ystod ac ers Brexit, mae'r DU a'r UE wedi cytuno bob amser i fynd ati ar y cyd i reoli’r gwahaniaethau rhyngddynt. Ceir eglurhad o’r trefniadau ar gyfer hynny yn ein herthygl flaenorol, Cydweddu ai peidio? Cwestiwn Cymru ynghylch yr UE.

Roedd Dealltwriaeth Gyffredin yn wahanol mewn dwy ffordd bwysig sy'n cyflwyno dimensiwn newydd i Brexit. O ran y DU:

  1. cytunodd i ddilyn rhai o reolau'r UE, heb unrhyw rwymedigaeth ar yr UE i wneud yr un peth. Bydd yn gwneud cyfraniad ariannol ‘priodol’ i'r UE i gefnogi’r costau perthnasol sy’n gysylltiedig â gwaith yr UE yn y maes polisi dan sylw;
  2. bydd yn alinio mewn tri maes newydd: (i) rheolaethau masnach iechydol a ffytoiechydol; (ii) masnachu allyriadau; a (iii) masnachu trydan.

A fyddwn yn dilyn holl reolau’r UE?

Ar gyfer Bil y DU, y bwriad yw gweithredu cytundebau’r UE yn y presennol a’r dyfodol. Felly mae'n ymddangos yn debygol y bydd Bil y DU yn dechrau gyda'r tri maes newydd ond y gallai ymestyn i fwy yn y dyfodol. Ar gyfer materion iechydol a ffytoiechydol yn unig, bydd angen i o leiaf 76 o gyfreithiau gael eu mabwysiadu, gyda’r mwyafrif o faterion ar y rhestr yn rhai datganoledig.

Ar gyfer Bil Cymru, mae datganiadau Plaid Cymru drwy gydol 2025, fel yr un hwn, yn disgrifio’n gyson ddychwelyd pwerau i Gymru ac alinio cyfraith Cymru pan fo hynny er budd gorau Cymru. Cyhoeddwyd cynigion penodol hefyd gan Blaid Cymru i alinio ym maes gofal iechyd “i wella safonau’r gwasanaeth iechyd”. Mae ei maniffesto ar gyfer yr etholiad yn awgrymu y gallai'r Bil gwmpasu meysydd penodol:

[…] i’n galluogi i fod yn gyson â safonau blaenllaw Ewrop mewn meysydd sy’n cynnwys diogelu’r amgylchedd, iechyd y cyhoedd, a safonau bwyd.

Mae gan 'UE', 'Ewropeaidd', 'safonau', 'rheoliad' a 'chyfraith' wahanol ystyron a goblygiadau, yn enwedig o ran masnach. Felly, dylai iaith dechnegol Bil Cymru egluro union fwriadau'r llywodraeth. 

Sut y gellid ei wneud?

Mae llawer yn dibynnu ar bob Bil, a'u heffeithiau cyfunol. Elfen bwysig fydd i ba raddau y mae'r Bil cyntaf (Bil y DU, yn ôl pob tebyg) yn llywio’r ail Fil.

Gallai'r opsiynau canlynol ymddangos yn y ddau Fil:

Un opsiwn fyddai alinio'r DU a/neu Gymru yn awtomatig â rheolau'r UE. Fodd bynnag, yn y nodiadau sy'n cyd-fynd ag Araith y Brenin ymddengys eu bod wedi penderfynu peidio â dychwelyd i'r trefniant cyn Brexit ar gyfer Bil y DU, lle roedd cyfraith yr UE yn gymwys yn awtomatig yn y DU drwy Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Gallai Bil Cymru barhau i alinio cyfraith Cymru yn awtomatig mewn meysydd datganoledig.

Opsiwn arall fyddai rhoi pwerau alinio i Weinidogion, sy'n ymddangos fel y dull a ffefrir ar gyfer Bil y DU yn nodiadau Araith y Brenin. Maent yn dweud y bydd Bil y DU yn cynnwys pwerau i gyflwyno cytundebau rhwng y DU a'r UE. Cafodd deddfwriaeth alinio bresennol y DU, fel Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 a Deddf Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg 2025, eu beirniadu gan lywodraeth flaenorol Cymru a phwyllgorau’r Chweched Senedd am roi pwerau mor eang i Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig, gan ganiatáu i Lywodraeth Cymru a'r Senedd gael eu hallgáu o’r broses. Roedd cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Biliau hyn ar lefel y DU hefyd yn gymysg. Gwnaeth llywodraeth flaenorol Cymru wrthwynebu'r Bil cyntaf, ond cefnogodd yr ail, ac roedd pleidleisiau cyfatebol y Senedd yn adlewyrchu hyn.

Gallai trydydd opsiwn gyfuno'r ddau opsiwn cyntaf. Gallai'r naill Fil neu'r llall neu'r ddau alinio'n awtomatig a rhoi pwerau i Weinidogion ar gyfer alinio yn y dyfodol. Mewn meysydd datganoledig, gellid rhoi pwerau i Weinidogion y DU neu Gymru, neu'r ddau.

A fydd gan y DU lais mewn rheolau newydd yr UE?

Archwiliodd ein herthygl flaenorol sut mae aliniad unochrog yn creu risg o ddiffyg democrataidd gan nad yw'r DU wedi'i chynrychioli yn sefydliadau'r UE.

Mae Dealltwriaeth Gyffredin yn dweud y gall y DU roi ei barn ar bolisïau a deddfwriaeth yr UE ar faterion iechydol a ffytoiechydol ac allyriadau ar gam cynnar yn y broses, ac y gall gyfrannu at benderfyniadau'r UE ar fasnachu trydan, ond nid yw'n cynnig unrhyw fanylion pellach ynghylch sut.

Yn ddomestig, mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd Senedd y DU yn cael dweud ei dweud cyn i gyfraith yr UE gael ei chymhwyso yn y DU ac y bydd angen cymeradwyaeth ar gyfer unrhyw gytundebau newydd cyn y gellir arfer pwerau'r Bil. Nid oes sôn am y seneddau datganoledig.

Gwnaeth llywodraeth flaenorol Cymru a phwyllgorau’r Chweched Senedd feirniadu’r rôl a roddwyd i’r cenhedloedd datganoledig mewn cysylltiadau rhwng y DU a'r UE a galwodd am well tryloywder ynghylch penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru neu’n ymwneud â chymhwysedd datganoledig.

Mae maniffesto’r llywodraeth newydd ar gyfer yr etholiad yn galw am i Gymru gael “cymryd rhan”, fel y mae eisoes mewn cyfarfodydd rhynglywodraethol domestig a chyfarfodydd rhwng y DU a’r UE. Fodd bynnag, mae ei statws fel arsylwr yn yr olaf yn golygu nad oes ganddi hawl i bleidleisio na siarad. Eglurir y trefniadau hyn yn ein herthygl o 2021, Sedd wrth y bwrdd: cynrychioli Cymru yn y berthynas newydd rhwng y DU a’r UE, gydag erthygl yn rhoi diweddariad yn 2022, Yr ystafell lle mae popeth yn digwydd: Cymru yn y cysylltiadau rhwng y DU a'r UE

Beth am gyfraniad ariannol y DU at yr UE?

Nid oes llawer yn hysbys am y cyfraniad ariannol y mae'r DU wedi cytuno i'w wneud at yr UE mewn perthynas â dau o'r tri maes (masnachu allyriadau a materion iechydol a ffytoiechydol). Dywedodd llywodraeth flaenorol Cymru ym mis Gorffennaf 2025 fod trafodaethau’n parhau ynghylch a fydd y llywodraethau datganoledig yn cyfrannu.

Heb amheuaeth, bydd cwestiynau’n cael eu codi ynghylch a fyddai’r cyfraniad yn fwy na’r manteision o gael mynediad at farchnad yr UE, a phwy allai gynnal unrhyw ddadansoddiad cost a budd.

A fyddwn yn gwybod am alinio?

Cafodd gwaith monitro gwahaniaethau rhwng y DU a’r UE ers Brexit ei drafod yn rheolaidd yn y Chweched Senedd.

Ym mis Chwefror 2026, dywedodd llywodraeth flaenorol Cymru fod y gwaith i sefydlu aliniad a gwahaniaethau yn y meysydd sydd o fewn cwmpas y trafodaethau presennol rhwng y DU a’r UE yn “agos at ei gwblhau”. Er nad oedd llywodraethau'r DU wedi monitro gwahaniaethau ar y cyd cyn hynny, dangosodd adroddiadau rheolaidd UK in a Changing Europe fod rhai gwahaniaethau wedi codi.

Beth sydd i ddod?

Roedd llywodraeth flaenorol Cymru yn feirniadol o Brexit a cheisiodd berthynas agosach â'r UE. Mae llywodraeth newydd Cymru yn addo Strategaeth Ewropeaidd ac yn dymuno ailymuno â Marchnad Sengl ac undeb tollau’r UE, trefniant nad yw gwlad nad yw’n rhan o’r UE wedi’i gael hyd yn hyn. Mae'r cynigion a drafodir yma yn wahanol iawn i'r trefniant hwnnw, ac i aelodaeth o'r UE yn ehangach.   

Bydd angen ystyried trefn y Biliau yn ofalus hefyd. Gallent greu cymhlethdod mewn trefniadau rhwng y DU a’r UE, fel y rhybuddiodd pwyllgor deddfwriaeth y Chweched Senedd. Roedd llywodraeth flaenorol Cymru o’r farn y byddai Bil y DU yn cwblhau ei daith drwy Senedd y DU erbyn diwedd 2026.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru