Addurniadol

Addurniadol

Gwneud rheolau y tu allan i’r UE

Cyhoeddwyd 16/06/2022   |   Amser darllen munudau

Ar y cyfan, cyn diwedd cyfnod pontio Brexit, roedd gan y DU a'r UE yr un rheolau. Ers i'r cyfnod ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020, gall rheolau'r DU a'r UE ar gyfer pob math o bethau fod yn wahanol neu aros yr un fath. Mae hyn yn ddarostyngedig i gyfraith ryngwladol, gan gynnwys y Cytundeb Ymadael a’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu.

Gall Cymru, yr Alban a Lloegr hefyd gael yr un rheolau neu reolau gwahanol i'w gilydd. Mae hyn yn ddarostyngedig i drefniadau domestig newydd sy’n cynnwys fframweithiau cyffredin a Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020.

Mae'r trefniadau hyn yn gymwys i Ogledd Iwerddon ond maent yn ddarostyngedig i drefniadau ar wahân Protocol Gogledd Iwerddon, lle mae'n parhau i ddilyn rhai o reolau'r UE.

'Ymwahaniad' yw'r term a ddefnyddir ar gyfer pan fydd rheolau'n wahanol.

'Aliniad' yw'r term a ddefnyddir pan fydd rheolau yr un fath.

Mae ymwahaniad ac aliniad yn arwain at ganlyniadau

Mae llywodraethau'n ystyried sawl ffactor cyn gosod rheolau ar gyfer pob math o bethau, megis masnach a'r amgylchedd. Mae manteision ac anfanteision i gael yr un rheolau neu reolau gwahanol â lleoedd eraill.

Er enghraifft, mae ymwahanu yn caniatáu i lywodraethau wneud rheolau sy'n fwy ymatebol i anghenion lleol, ond mae perygl y bydd hyn yn creu rhwystrau masnach a allai arwain at gostau uwch i fusnesau a defnyddwyr.

Ar y llaw arall, mae alinio yn caniatáu i lywodraethau weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â phroblemau cyffredin, megis materion amgylcheddol trawsffiniol, ond gallai hyn olygu cyfaddawdu eu cynlluniau neu eu huchelgeisiau eu hunain.

Gall llywodraethau naill ai ddewis ymwahanu neu alinio â'i gilydd, neu wneud dim mewn ymateb i newidiadau mewn mannau eraill, gan ganiatáu i ymwahanu ddatblygu. Gelwir hyn yn 'ymwahanu goddefol'.

Map newydd y DU-UE

Mae ein map rhyngweithiol newydd yn dangos gwahanol senarios ar ôl Brexit a'r hyn y maent yn ei olygu o ran ymwahanu ac alinio rhwng pedair gwlad y DU a'r UE.

Mae'n dechrau ar 31 Rhagfyr 2020, pan oedd gan y DU a'r UE yr un rheolau ar y cyfan (gydag ambell eithriad, gan gynnwys ar gyfer hawliau gweithwyr a gwastraff).

Crëwyd y ffeithlun hwn gan Ymchwil y Senedd er mwyn dangos y cyfuniadau uchod. Mae mwy o gyfuniadau'n bosibl.

Gall y DU a'r UE gael rheolau gwahanol nawr

Ar ôl ymadael â’r UE ar 31 Ionawr 2020, parhaodd y DU i ddilyn rheolau'r UE yn ystod cyfnod pontio a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Er mwyn paratoi ar gyfer y cyfnod pontio, cafodd cyfraith yr UE a oedd yn gymwys yn y DU ei throsi'n gyfraith ddomestig a'i galw'n gyfraith yr UE a ddargedwir (REUL). Ers 1 Ionawr 2021, nid oes angen i'r DU bellach ddilyn cyfraith yr UE ac mae ymwahanu rhwng y DU a'r UE eisoes wedi dechrau.

Mae traciwr ymwahanu UK in a Changing Europe yn dangos 27 o achosion o ymwahanu rhwng y DU a'r UE ac 11 o achosion eraill lle mae ymwahanu rhwng y DU a'r UE wedi effeithio ar y berthynas fewnol rhwng pedair gwlad y DU. Mae'r achosion yn cwmpasu ystod eang o feysydd, gan gynnwys lles anifeiliaid, cyflogaeth, polisi tramor, codi’r gwastad, symudedd a theithio.

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno Bil Rhyddid yn sgil Brexit yn fuan i'w gwneud yn haws newid neu ddiddymu REUL a dileu'r statws arbennig sydd ganddo yng nghyfraith y DU. Gallai hyn arwain at fwy o ymwahanu rhwng y DU a'r UE.

Yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, cytunodd y DU a'r UE ar system ar gyfer rheoli ymwahanu rhyngddynt er mwyn cadw cystadleuaeth yn agored ac yn deg. Gelwir hyn yn degwch yn y farchnad. Ymhlith pethau eraill, mae ei reolau'n caniatáu i'r DU a'r UE dalu’r pwyth yn ôl os caiff ymwahanu rhyngddynt effaith sylweddol ar fasnach neu fuddsoddiad. Maent hefyd wedi addo peidio â dirwyn eu safonau amgylcheddol, hinsawdd, llafur a chymdeithasol yn ôl.

Cymru, yr Alban a Lloegr yn mapio eu llwybrau

Caiff Cymru, yr Alban a Lloegr hefyd alinio â'r UE neu ymwahanu oddi wrtho. Disgrifir eu dulliau gweithredu isod:

Mae Gogledd Iwerddon yn dilyn rhai o reolau'r UE o dan y Protocol

Ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, cytunodd y DU a’r UE y byddai Gogledd Iwerddon yn parhau i ddilyn rhai o reolau’r UE, ac y gallai gweddill y DU (fel Prydain Fawr) newid ei rheolau.

Mae hyn yn symud lleoliad archwiliad ar ffin yr UE o ffin Gogledd Iwerddon/Gweriniaeth Iwerddon i fannau cyrraedd yng Ngogledd Iwerddon o Gymru, Lloegr a'r Alban. Dywedir weithiau fod hyn fel petai wedi creu ffin ym Môr Iwerddon.

Mae rheolau'r UE y mae Gogledd Iwerddon yn parhau i'w dilyn i'w gweld yn atodiadau'r Protocol ac maent yn cynnwys rheolau ar gyfer tollau, masnach, yr amgylchedd, bwyd, meddyginiaethau, anifeiliaid, TAW a mwy.

Mae'r trefniadau yn destun anghydfodau rhwng y DU a’r UE a'r Bil Gogledd Iwerddon, os yn pasio.

Rheoli ymwahanu mewnol yn y DU yn mynd rhagddo

Ers Brexit, mae nifer o fecanweithiau domestig newydd wedi cael eu rhoi ar waith i reoli ymwahanu mewnol y DU rhwng Cymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon (yn amodol ar Brotocol Gogledd Iwerddon). Y rhain yw:

Fframweithiau cyffredin

Ers 2017, mae'r DU a llywodraethau datganoledig wedi cytuno i gydweithio mewn rhai meysydd a gwmpaswyd yn flaenorol gan aelodaeth o'r UE. Mae 26 o fframweithiau cyffredin wedi'u cynllunio mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru, megis ar gyfer amaethyddiaeth, pysgodfeydd ac ansawdd aer. Cyhoeddwyd y rhan fwyaf ohonynt ddiwedd 2021 a dechrau 2022 ac maent bellach yn destun gwaith craffu yn y Senedd.

Deddf Marchnad Fewnol 2020

Cafodd Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 ei phasio er mwyn sicrhau y gellir gwerthu neu gydnabod nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau proffesiynol a gaiff eu gwerthu neu eu cydnabod mewn un rhan o'r DU mewn rhan arall. Ni wnaeth y Senedd gydsynio i'r Bil, gyda phwyllgorau o’r farn y byddai'n lleihau effaith ymarferol cyfraith Cymru.

Gall llywodraethau gytuno ar eithriadau i'r Ddeddf, gan gynnwys drwy fframweithiau cyffredin. Eleni daethant i gytundeb ar eithriad ar gyfer gwaharddiadau ar rai eitemau plastig untro.

Gwyntoedd teg neu ddyfroedd dyfnion? Arbenigwyr yn cynghori'r Senedd

Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi cael tystiolaeth gan arbenigwyr drwy Fframwaith Academaidd Brexit y Senedd.

  • Mae’r Athro Catherine Barnard yn rhoi trosolwg o'r posibiliadau ar gyfer ymwahanu rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys sut y gallai ddatblygu rhwng y gwledydd datganoledig a'r UE, ac mae’n esbonio canlyniadau hynny o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu; ac
  • Mae’r Athro Jo Hunt yn cyflwyno adroddiad ar y cyfyngiadau cyfreithiol a pholisi o ran arfer cymhwysedd gan y Senedd a Llywodraeth Cymru ar ôl Brexit yn y meysydd a arferai gael eu cwmpasu gan gyfraith yr UE.

Tu hwnt i'r gorwel

Mae uchelgais Llywodraeth Cymru i gynnal a gwella safonau'r UE lle bo hynny'n bosibl yn golygu cadw llygad barcud ar newidiadau yn yr UE ac yng ngwledydd eraill y DU.

Mae penderfyniadau gofalus o'r fath yn effeithio ar fywyd bob dydd yng Nghymru - o'r amgylchedd i fwyd, ac o fasnach i hawliau dynol. Mae hyn yn gofyn am wneud penderfyniadau ystyriol, neu dderbyn canlyniadau ymwahanu goddefol.


Erthygl gan Sara Moran, Lucy Valsamidis, Nia Moss a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru