rygbi

rygbi

Cyfres y DU a’r UE: Y Cytundeb Masnach a Chydweithredu Tegwch yn y Farchnad

Cyhoeddwyd 07/03/2022   |   Amser darllen munudau

Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn sefydlu’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

Mae’r gyfres newydd hon ar y DU a’r UE yn crynhoi rhannau allweddol o’r Cytundeb a’i oblygiadau i Gymru.

Mae’r canllaw hyn yn egluro’r tegwch yn y farchnad rhwng y DU a’r UE ar ôl Brexit, a gaiff ei grynhoi isod.

Cefndir

Mae gan y DU a’r UE drefniadau newydd ar waith sy’n anelu at gynnal cystadleuaeth agored a theg rhyngddynt o ran masnach a buddsoddi, mewn modd sy’n gydnaws â datblygu cynaliadwy. Gelwir hyn yn ‘degwch yn y farchnad’.

Yr hanfodion

Cyn diwedd cyfnod pontio Brexit, yr un oedd rheolau’r DU a’r UE. Nawr bod y cyfnod pontio wedi dod i ben, gall eu rheolau ar gyfer pob math o bethau amrywio neu aros yr un peth.

'Dargyfeirio' yw'r term a ddefnyddir pan fo rheolau'n wahanol.

'Aliniad' yw'r term a ddefnyddir pan fydd rheolau yn aros yr un fath.

Mae'r DU a'r UE am sicrhau 'tegwch yn y farchnad' rhyngddynt o ran masnach a buddsoddi. Drwy wneud hyn, maent yn gobeithio cadw'r gystadleuaeth rhyngddynt yn agored ac yn deg.

Mecanweithiau

Ar gyfer y system newydd hon, mae’r DU a’r UE wedi cytuno i ddefnyddio cyfuniad o fecanweithiau.

Y mecanweithiau yw:

  • Dim atchwelyd
  • Mesurau dargyfeirio ac ail-gydbwyso
  • Rheolau, gan gynnwys safonau llafur a chymdeithasol, yr amgylchedd a newid hinsawdd a rheolau cymorthdaliadau
  • Ymrwymiadau rhyngwladol
  • Datrys anghydfodau

Mae'r rhain yn allweddol i ddeall darpariaethau Tegwch yn y Farchnad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Mae gwahanol fecanweithiau'n berthnasol i wahanol rannau o Degwch yn y Farchnad, gan wneud y rhan hon o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn gymhleth.

Datblygu cynaliadwy

Ategir Tegwch yn y Farchnad gan ymrwymiad i weithredu mewn modd sy’n ffafriol i ddatblygu cynaliadwy.

Amlinellodd y DU a’r UE eu dealltwriaeth gyffredin o ddatblygu cynaliadwy i gwmpasu:

  • datblygu economaidd;
  • datblygu cymdeithasol; a
  • diogelu'r amgylchedd.
Beth mae tegwch yn y farchnad yn ei olygu i Gymru?

Gan fod y Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn cyflwyno’r posibilrwydd o ddargyfeirio (gwahaniaethau) neu aliniad (tebygrwydd) o ran safonau a rheolau rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, bydd hyn hefyd yn berthnasol i Gymru.

Yn ogystal â dargyfeirio ac alinio rhwng y DU a’r UE, mae pedair gwlad y DU yn gallu dargyfeirio neu alinio oddi wrth ei gilydd mewn meysydd datganoledig a lywodraethwyd neu a gydlynwyd yn flaenorol gan yr UE. Er enghraifft, gall fod gan Gymru reolau gwahanol i’r Alban neu Loegr.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru