Llun ydyw o siambr drafod Hemicycle yn Adeilad Senedd Ewrop ym Mrwsel

Llun ydyw o siambr drafod Hemicycle yn Adeilad Senedd Ewrop ym Mrwsel

Y tu hwnt i benawdau Brexit: Seneddwyr y DU a'r UE yn trafod cydweithredu yn y dyfodol

Cyhoeddwyd 26/05/2022   |   Amser darllen munudau

Yn erbyn cefndir o benawdau anodd a chyfnod cythryblus arall o ran y berthynas rhwng y DU a’r UE, daeth seneddwyr o’r DU a’r UE ynghyd ym Mrwsel ar 12 a 13 Mai. Hwn oedd cyfarfod cyntaf y Cynulliad Partneriaeth Seneddol (PPA), sef fforwm newydd a sefydlwyd o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA).

Buont yn trafod Protocol Gogledd Iwerddon, cydweithredu ym maes diogelwch a'r rhyfel yn Wcrain a chydweithredu yn y dyfodol mewn meysydd fel ynni, newid hinsawdd, ymchwil ac arloesi.

Cynrychiolwyd y Senedd gan aelodau o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Alun Davies AS, a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Sam Kurtz AS.

Beth yw'r fforwm newydd hwn?

Mae Cytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE (TCA) yn sefydlu’r berthynas rhwng y DU a’r UE ar ôl Brexit. Mae'n creu dros 20 o fforymau i oruchwylio’r ffordd y mae’n cael ei weithredu a’i roi ar waith. Un o'r rhain yw'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Senedd y DU a Senedd Ewrop. Dyma’r unig fforwm sy’n darparu ar gyfer gwaith craffu ar y cyd ar y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ac mae ganddo bwerau i wneud argymhellion, gofyn am wybodaeth a chael gwybod am benderfyniadau.

Mae ein herthygl flaenorol yn nodi lleoliad y Cynulliad Partneriaeth Seneddol o fewn strwythur cyffredinol y Cytundeb Masnach a Chydweithredu.

Yr hyn a drafodwyd

Tri mater o arwyddocâd rhyngwladol gafodd y lle blaenaf yn y trafodaethau. Mae cynnwys y trafodaethau hyn yn rhoi cipolwg ar sut y gallai materion nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu orlifo ac effeithio ar ei weithrediad yn y dyfodol.

Protocol Gogledd Iwerddon

Roedd yr anghytuno parhaus ynghylch Protocol Gogledd Iwerddon yn y Cytundeb Ymadael yn amlwg iawn yn y trafodaethau. Clywodd y Cynulliad gan Marôs Sěfčovič, Is-lywydd Comisiwn yr UE a'r Gwir Anrhydeddus Michael Ellis, Gweinidog Cabinet y DU. Mae gweithredu'r Protocol yn fater allweddol i borthladdoedd a busnesau Cymru.

Dywedodd y Comisiynydd Sěfčovič yn glir bod yr UE yn barod i drafod atebion i broblemau ymarferol a achosir gan weithredu’r Protocol ond nad yw ailnegodi yn opsiwn. Gwrthododd Mr Ellis gynigion presennol yr UE a galwodd arno i fabwysiadu safbwynt newydd ar gyfer y trafodaethau parhaus neu rhybuddiodd y gallai'r DU gymryd camau pellach. Ers hynny mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n caniatáu iddi ddatgymhwyso’n unochrog rannau o'r Protocol yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Roberta Metsola, Llywydd Senedd Ewrop, mai rôl allweddol i’r Cynulliad a’i gynrychiolwyr fydd cadw’r drafodaeth yn llifo rhwng eu hetholaethau er mwyn sicrhau perthynas gadarnhaol a sefydlog yn y dyfodol.

Y rhyfel yn Wcrain

Mae effaith y rhyfel yn Wcrain ar ddiogelwch y cyfandir ac ymateb cyfunol y DU a'r UE iddo i'w gweld mewn anerchiadau gan Stefan Saninno, Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaeth Gweithredu Allanol yr UE, a James Heappey, Gweinidog y DU dros y lluoedd arfog.

Trafododd aelodau'r Cynulliad gamau ymarferol sydd angen eu cymryd i gefnogi pobl Wcrain a'r argyfyngau ynni a diogelwch bwyd cysylltiedig. Trafodwyd ffyrdd o ailadeiladu a chryfhau diogelwch yn yr UE-DU a chydweithredu ym maes polisi tramor ar ôl Brexit yn gyffredinol. Mae’r Senedd wedi trafod ymateb Cymru i'r rhyfel yn Wcrain yn aml ers ymosodiad Rwsia, yn enwedig ei hymateb dyngarol.

Diogelwch ynni a newid hinsawdd

Mae prisiau ynni cynyddol a dibyniaeth ar danwydd ffosil o Rwsia wedi amlygu diogelwch ynni yn glir. Trafododd y cynrychiolwyr sut y gallai cydweithredu cryfach rhwng y DU a’r UE helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae ein canllaw yn esbonio sut y cytunodd y DU a’r UE i gydweithredu ym maes yr amgylchedd, hinsawdd ac ynni ar ôl Brexit.

Roedd y pwysigrwydd i’r UE a’r DU barhau i ddangos arweiniad byd-eang ar newid hinsawdd yn bwynt cyffredin a godwyd gan siaradwyr. Mae’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd yn ffurfio elfen hanfodol o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Canolbwyntiodd llawer o siaradwyr ar y rhan hon o gydweithredu rhwng y DU a’r UE ac roeddent yn cymeradwyo ei huchelgais. cMae pwyllgorau’r Senedd wedi bod yn craffu ar rannau o gydweithredu ym maes newid hinsawdd ar ôl Brexit, fel sefydlu cynllun masnachu allyriadau newydd y DU a fframweithiau cyffredin newydd y DU ar ansawdd aer.

Beth yw rôl y Senedd?

Gwahoddwyd y Senedd, ynghyd â deddfwrfeydd datganoledig eraill, i anfon dau sylwedydd i’r cyfarfod. Nid oes gan sylwedyddion hawl awtomatig i siarad ac felly ni allant gyfrannu i drafodaethau. Rhoddir yr un statws i lywodraeth Cymru a’r llywodraethau datganoledig yng nghyfarfodydd y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, gan gynnwys yn ei gorff goruchwylio, y Cyngor Partneriaeth.

Mae Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru wedi dweud bod hon yn sefyllfa anfoddhaol iawn na all Llywodraeth Cymru ei chefnogi’n gredadwy.

Mewn llythyr at Gadeirydd Dirprwyaeth y DU, mae Cadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad y Senedd, wedi mynegi ei obaith y bydd Aelodau’r Senedd yn gallu siarad ar faterion datganoledig yng nghyfarfodydd y Cynulliad Partneriaeth Seneddol yn y dyfodol.

Cynhelir ei gyfarfod nesaf yn Llundain yn hydref 2022.


Erthygl gan Nia Moss a Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru