Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos hon – 10/11/2026

Cyhoeddwyd 10/11/2026   |   Amser darllen munud

Cwestiynau’r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi’r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a’u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.

Isod ceir canllaw cyflym i’r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi’i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau ar gael yma.

Gallwch wylio’r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn fyw am 13:30 ar Senedd.tv.


Cwestiwn: Mae Gareth Thomas AS yn gofyn am asesiad y Prif Weinidog o Gyfamod y Lluoedd Arfog ar gyfer cyn-filwyr ym Mro Morganwg a Phen-y-bont ar Ogwr.

Gwybodaeth: Mae erthygl gennym o 2021 yn trafod y Cyfamod a sut mae'n effeithio ar bersonél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr, a'u teuluoedd yng Nghymru. Mae erthygl ddiweddar gennym yn edrych ar bwriad i ehangu’r Cyfamod drwy Fil Lluoedd Arfog y DU.

Caiff dadl flynyddol y Cofio ei chynnal yn ddiweddarach heddiw; gellir ei gwylio ar Senedd.tv.


Cwestiwn: Mae John Davies AS yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi fferyllfeydd cymunedol i ymdopi ag amrywiadau mewn prisiau fferyllol.

Gwybodaeth: Mae erthygl ddiweddar gennym yn trafod rhesymau’r pwysau ar gyflenwad meddyginiaethau, ynghyd â’r effaith ar fferyllfeydd cymunedol a chefnogaeth Llywodraeth Cymru.


Cwestiwn: Mae Sam Rowlands AS yn gofyn am asesiad y Prif Weinidog o'r adolygiad annibynnol o wrthsemitiaeth mewn ysgolion a cholegau a'i oblygiadau i Gymru.

Gwybodaeth: Nod yr adolygiad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU, yw ceisio gwella sut mae ysgolion a cholegau yn Lloegr yn delio â gwrthsemitiaeth a mathau eraill o ragfarn hiliol a chrefyddol.


Cwestiwn: Mae Art Wright AS yn gofyn pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith cyn-filwyr.

Gwybodaeth: Mae erthygl ddiweddar gennym yn edrych ar opsiynau i fynd i'r afael â digartrefedd a'r argyfwng tai yn fwy cyffredinol. Rydym wedi cyfeirio o'r blaen at y cymorth ehangach sydd ar gael i gymuned y Lluoedd Arfog.

Caiff dadl flynyddol y Cofio ei chynnal yn ddiweddarach heddiw; gellir ei gwylio ar Senedd.tv.


Cwestiwn: Mae Mair Rowlands AS yn holi ynghylch cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant ym Mangor Conwy Môn.

Gwybodaeth: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i cyflwyno Cynnig Gofal Plant wedi’i ehangu ar gyfer plant rhwng 9 mis a 4 oed. Mae wedi cyflwyno dangosfwrdd ar-lein i fesur cynnydd yn erbyn yr ymrwymiad hwn. Mae erthygl gennym yn bwrw golwg ar drafodaethau ehangach ynghylch gofal plant am ddim yng Nghymru.


Cwestiwn: Mae Tom Montgomery AS yn gofyn am asesiad y Prif Weinidog o gynaliadwyedd y sector addysg bellach.

Gwybodaeth: Ym mis Medi, ymatebodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol i gwestiynau Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynglŷn â nifer y dysgwyr mewn Addysg Bellach, a'r pwysau ariannol sy'n wynebu colegau.


Cwestiwn: Mae Claire Johnson-Wood AS yn gofyn a fydd y Prif Weinidog yn cyflwyno profion llythrennedd a rhifedd wedi’u safnoi o dan amodau rheoledig i fesur cynnydd yn erbyn targedau.

Gwybodaeth: Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol ym mis Medi, gan gynnwys dulliau ar gyfer mesur cynnydd. Perfformiad addysgol Cymru mewn rhifedd, llythrennedd a gwyddoniaeth yw'r isaf yn y DU, yn ôl asesiad diweddar.


Cwestiwn: Mae Iain McIntosh AS yn gofyn pa bwys y mae'r Prif Weinidog yn ei roi ar flaenoriaethu anghenion Cymru a'i thrigolion dros ymrwymiadau gwariant rhyngwladol mewn penderfyniadau gwariant cyhoeddus.

Gwybodaeth: Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei phenderfyniadau gwariant yn ei Chyllideb. Mae’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2027-28 i gael ei chyhoeddi ar 17 Tachwedd. Mae penderfyniadau gwariant rhyngwladol yn destun gwaith craffu gan Bwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol.


Cwestiwn: Mae Anthony Slaughter AS yn gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi terfyn ar newyn yng Nghymru.

Gwybodaeth: Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn y Senedd flaenorol ymchwiliad i fynediad at fwyd iach, maethlon a fforddiadwy. Roedd ei argymhellion i Lywodraeth Cymru yn cynnwys cymorth ariannol aml-flwydd i ddarparwyr bwyd cymunedol a gwella ansawdd prydau ysgol.


Cwestiwn: Mae Becca Martin AS yn gofyn pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o rôl chwarae yn y cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol newydd.

Gwybodaeth: Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol ym mis Medi.


Cwestiwn: Mae John Clark AS yn gofyn sut y bydd y Prif Weinidog yn sicrhau y bydd datblygiadau ynni ym Mangor Conwy Môn yn darparu buddion economaidd a chymunedol i bobl a busnesau lleol.

Gwybodaeth: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi Strategaeth Ynni Genedlaethol y mis hwn a fydd yn anelu at gadw’r gwerth a geir o adnoddau naturiol “mewn ffordd fwy teg i bobl a chymunedau Cymru”.


Cwestiwn: Mae Gareth Beer AS yn gofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu ysgolion ac addysg wledig yn Sir Gaerfyrddin.

Gwybodaeth: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn ddiweddar ar Bapur Gwyn ar Brawfesur Gwledig a Chynaliadwyedd Amgylcheddol sy'n cynnig bod anghenion gwledig yn cael ystyriaeth gyfreithiol wrth i bolisïau gael eu datblygu.

Fel yr eglurir yn ein canllaw ar gynigion trefniadaeth ysgolion, mae rhagdybiaeth statudol yn erbyn cau 'ysgolion gwledig'. Nid yw hyn yn golygu na fydd ysgol wledig byth yn cau, ond bod rhaid wrth gyfiawnhad cryf dros ei chau, a hynny ar ôl i bob posibilrwydd arall gael ei ystyried.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru