cy

cy

Beth mae Bil y Lluoedd Arfog yn ei olygu i Gymru?

Cyhoeddwyd 13/07/2026   |   Amser darllen munudau

Yn ystod y misoedd nesaf, gofynnir i’r Aelodau o'r Senedd bleidleisio ynghylch rhoi cydsyniad i ddarpariaethau ym Mil y Lluoedd Arfog a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU.

Os caiff ei basio, byddai'r Bil yn cyflwyno newidiadau i Gyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac yn sefydlu gwasanaeth tai newydd i’r Weinyddiaeth Amddiffyn fyddai’n gyfrifol am wella tai y lluoedd arfog ledled y DU.

Mae'r erthygl hon yn nodi pam mae angen cydsyniad y Senedd ac yn edrych ar rai o brif fesurau’r Bil sy'n berthnasol i lunwyr polisi yng Nghymru.

Pam mae angen cydsyniad y Senedd?

Bil Llywodraeth y DU yw Bil y Lluoedd Arfog . Fe'i cyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Ionawr 2026, ac ar hyn o bryd mae'n mynd ar ei hynt drwy'r broses graffu yn San Steffan. Mae Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin wedi cyhoeddi papur briffio yn egluro prif fesurau’r Bil.

Mae'r Bil yn ymdrin yn bennaf â materion amddiffyn a gedwir yn ôl gan San Steffan, ond mae'n cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â materion datganoledig. Er y gall Senedd y DU ddeddfu o hyd ar faterion datganoledig, mae confensiwn Sewel yn darparu nad yw fel arfer yn gwneud hynny heb gydsyniad y Senedd.

Mae Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer darpariaethau i ehangu Cyfamod y Lluoedd Arfog, a fyddai’n effeithio ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru a rhai cyrff cyhoeddus datganoledig. Yn y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil, mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau bod angen cydsyniad ar gyfer agweddau eraill ar y Bil hefyd.

Sut fyddai'r Bil yn newid Cyfamod y Lluoedd Arfog?

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn mynegi'r rhwymedigaeth foesol sydd rhwng y genedl, y Llywodraeth a'r lluoedd arfog.

Ar hyn o bryd, mae’r gyfraith yn gosod dyletswydd ar rai cyrff cyhoeddus i roi sylw dyledus i egwyddorion y Cyfamod wrth gyflawni swyddogaethau penodol (a elwir weithiau'n Ddyletswydd Cyfamod).

Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog yn rhwymedigaeth gyfreithiol sy'n berthnasol i gyrff penodedig. Wrth arfer rhai swyddogaethau, rhaid i'r cyrff hyn roi sylw priodol i’r materion a ganlyn:

  • rhwymedigaethau unigryw, a chyfaddawdau, y lluoedd arfog;
  • yr egwyddor ei bod hi’n ddymunol dileu anfanteision i bobl Gwasanaeth yn deillio o fod yn aelodau, neu fod yn gyn-aelodau o’r lluoedd arfog, ac
  • yr egwyddor fod modd cyfiawnhau darpariaeth arbennig i bobl Gwasanaeth oherwydd yr effeithiau ar bobl sy’n aelodau, neu’n gyn-aelodau o’r lluoedd arfog.

Pe bai'n cael ei basio, byddai'r Bil yn estyn y Ddyletswydd Cyfamod i Lywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig.

Mae awdurdodau lleol, cyrff addysg a chyrff iechyd yng Nghymru eisoes yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd hon. Fodd bynnag, mae'r Bil yn estyn y ddyletswydd, i bob pwrpas, drwy ei gwneud yn ofynnol i bob corff penodedig ystyried y Cyfamod wrth arfer unrhyw swyddogaethau sy'n ymwneud â rhestr estynedig o 12 maes polisi allweddol.

Yn ôl y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Bil, nod y newidiadau hyn yw sicrhau bod anghenion cymuned y lluoedd arfog yn cael eu hystyried gan bob lluniwr polisi a lluniwr penderfyniadau perthnasol.

Sut groeso gafodd y newidiadau arfaethedig?

Bu cefnogaeth eang i estyn y Ddyletswydd Cyfamod yn ystod y gwaith craffu ar y Bil.

Mae sefydliadau sy’n cynrychioli cyn-filwyr fel y Lleng Brydeinig Frenhinol, Help for Heroes a Cobseo - the Confederation of Service Charities wedi awgrymu y dylai'r newidiadau helpu i sicrhau dull mwy cyson a chynhwysfawr o ddarparu gwasanaethau i gyn-aelodau o’r lluoedd arfog. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datgan ei chefnogaeth i estyn Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Fodd bynnag, daeth ymchwiliad i’r Cyfamod gan Bwyllgor Amddiffyn Tŷ'r Cyffredin yn 2025 i’r casgliad na fyddai newid deddfwriaethol yn unig yn mynd i’r afael â’r problemau o ran gweithredu anghyson. Awgrymodd y Pwyllgor y gellid gwella hyn drwy gyflwyno’r mesurau a ganlyn:

  • sefydlu safonau a mecanweithiau clir a chadarn ar gyfer atebolrwydd;
  • gwella canllawiau i'r rhai sy'n darparu gwasanaethau; a
  • hwyluso rhannu gwybodaeth er mwyn hyrwyddo arfer gorau.

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor Arbennig Tŷ’r Cyffredin a oedd yn craffu ar y Bil yn gynharach eleni, awgrymodd Ken Skates AS, Cyn-ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, y byddai cydweithio rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn hanfodol er mwyn sicrhau dull cydlynol o gefnogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog.

Mae llywodraethau lleol a llywodraethau datganoledig hefyd wedi dadlau y dylai Llywodraeth y DU ddarparu cyllid ychwanegol, ochr yn ochr â'r Ddyletswydd Cyfamod estynedig. Yn gynharach eleni, awgrymodd Llywodraeth flaenorol yr Alban a Llywodraeth flaenorol Cymru y gallai fod costau ychwanegol yn gysylltiedig â hyfforddiant a diweddaru polisïau ac arferion. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y byddai estyn cwmpas y Ddyletswydd yn cael effaith sylweddol ar gynghorau yng Nghymru.

Sut bydd y Bil yn effeithio ar dai’r Weinyddiaeth Amddiffyn?

Un o nodau eraill y Bil yw cyflawni ymrwymiadau Llywodraeth y DU i sicrhau gwelliannau sylweddol i dai teuluoedd y lluoedd arfog ac i gefnogi adeiladu tai ledled y DU.

Er mwyn cyflawni hyn, byddai'r Bil yn sefydlu Gwasanaeth Tai Amddiffyn newydd, gyda phwerau i ddarparu gwell gwasanaeth tai i bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd. Mae dros 47,000 o aelwydydd i deuluoedd y lluoedd arfog ledled y DU, gan gynnwys tua 800 yng Nghymru.

Byddai gan y Gwasanaeth Tai Amddiffyn hefyd bwerau i ysgogi gweithgarwch datblygu ac adfywio ar dir Amddiffyn, gan gynnwys rheoli cyllid a chaffael, a chael gwared ar dir. Mynegodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Chweched Senedd bryder y gallai cynlluniau i ddefnyddio tir Amddiffyn “o bosibl fynd yn groes i strategaethau creu lleoedd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol” a gofynodd y Pwyllgor beth fyddai’r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio yn y sefyllfa hon.

Wrth ysgrifennu at y Pwyllgor, dywedodd Cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ei fod yn “…sicr y byddai unrhyw ddatblygiad a gyflwynir gan y GTA [y Gwasanaeth Tai Amddiffyn] yn ddarostyngedig i ganiatâd cynllunio” ac y byddai angen felly i gynigion gyd-fynd â’r cynlluniau datblygu lleol perthnasol neu gael eu hymgorffori ynddynt.

Beth nesaf?

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ym Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil y Lluoedd Arfog ei bod yn cefnogi egwyddorion y Bil. Dywed y bydd yn cyflwyno argymhelliad ynghylch y Memorandwm Cydsyniad hwn, a rhai eraill, unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi “dadansoddi effaith ehangach rhaglen ddeddfwriaethol y DU ar Gymru”.

Cyfeiriwyd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol a Phwyllgor Deddfwriaeth y Senedd ar gyfer gwaith graffu. Bydd y Pwyllgorau’n cyhoeddi adroddiadau ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn 23 Hydref, ac mae’n debygol y cynhelir pleidlais ar y Memorandwm yn y Senedd yn fuan wedyn.

Yn y cyfamser, bydd y Bil yn parhau ar ei hynt drwy broses ddeddfwriaethol San Steffan. Gallwch olrhain unrhyw ddatblygiadau ar wefan Senedd y DU.


Erthygl gan Gwennan Hardy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru