Cyfamod y Lluoedd Arfog: 10 mlynedd yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd 05/11/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'n 10 mlynedd ers ymgorffori egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog yng nghyfraith y DU. Wrth i'r Senedd drafod cofio a chefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru, mae'r erthygl hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd y Cyfamod, beth mae'n ei olygu a sut mae'n effeithio ar bersonél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru.

Rhwymedigaeth Foesol

Caiff Cyfamod y Lluoedd Arfog, ei ddiffinio fel y rhwymedigaeth foesol rhwng y genedl ac aelodau o Wasanaeth y Llynges, y Fyddin, y Llu Awyr Brenhinol, a'u teuluoedd. Ar hyn o bryd mae'r Cyfamod yn cefnogi 3,300 o bersonél sy'n gwasanaethu a thua 140,000 o gyn-filwyr ledled Cymru.

Cyflwynwyd y Cyfamod yn wreiddiol fel y Cyfamod Milwrol yn 2000. Cyfeiriodd at y rhwymedigaethau cydfuddiannol rhwng Llywodraeth y DU a'i Lluoedd Arfog. Yn 2011, cafodd Cyfamod y Lluoedd Arfog (fel y daeth i gael ei adnabod wedyn) ei ymgorffori'n ffurfiol yn y gyfraith fel rhan o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2011.

Sefydlwyd y cyfamod â dwy egwyddor sylfaenol allweddol:

  • atal unrhyw un sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog rhag bod o dan anfantais o'i gymharu â dinasyddion eraill wrth dderbyn gwasanaethau cyhoeddus neu fasnachol; a
  • bod ystyriaeth arbennig yn briodol mewn rhai achosion, yn enwedig i'r rhai sydd wedi rhoi'r mwyaf megis y rhai sydd wedi'u hanafu neu sydd mewn profedigaeth.

Sefydlodd Deddf y Lluoedd Arfog 2011 ofyniad cyfreithiol i adroddiad blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog, gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU. Mae'r adroddiad yn nodi sut mae personél y lluoedd arfog a chyn-filwyr yn cael eu cefnogi. Roedd hyn yn caniatáu i Senedd y DU a'r cyhoedd weld sut yr oedd y Cyfamod yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cymuned y lluoedd arfog yn uniongyrchol.

Sut mae'r Cyfamod yn gweithio?

Mae'r Cyfamod yn addo cefnogaeth ar draws ystod o feysydd gan gynnwys addysg, mynediad at ofal iechyd, dechrau gyrfa newydd a chymorth ariannol.

Boed rhywun yn gadael y lluoedd arfog ac am ddechrau gyrfa newydd neu os oes angen help ar berson sydd wedi'i anafu i gael mynediad at y gofal iechyd corfforol neu feddyliol priodol; diben y Cyfamod yw sicrhau nad ydynt o dan anfantais. Gall ddarparu cyllid ar gyfer cymorth ychwanegol y gallai fod ei angen ar blant personél y lluoedd arfog neu leihau'r beichiau ariannol a allai fod yn gysylltiedig â gwasanaethu dramor. Mae’r ddwy hyn yn enghreifftiau o'r Cyfamod ar waith.

Gall sefydliadau ymuno â'r Cyfamod drwy wneud addewidion wedi'u teilwra, a allai gynnwys pethau fel gwasanaethau penodol neu ostyngiadau. Er enghraifft, addewid i warantu cyfweliad swydd i gyn-filwyr os ydynt yn bodloni'r meini prawf yn achos asiantaeth recriwtio, neu gall ysgol addo darparu cymorth ychwanegol i blant personél y lluoedd arfog o ran lleoliad. Gall yr addewidion hyn hefyd gynnwys gwella eu dealltwriaeth eu hunain a'u cwsmeriaid yn uniongyrchol o wahanol anghenion personél y lluoedd arfog.

Mae Adroddiad Blynyddol Cyfamod Lluoedd Arfog y DU 2020 yn nodi bod dros 5,800 o sefydliadau wedi llofnodi'r Cyfamod. Mae hefyd yn nodi bod £123 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn gwelliannau i Letyau Teuluoedd y Gwasanaeth a’u moderneiddio, a dyfarnwyd cyfanswm o £6 miliwn i 102 o elusennau milwrol i'w galluogi i barhau â'u gwaith yn ystod pandemig COVID.

Y Cyfamod yn y gymuned

Yn ogystal â sefydliadau preifat a chyhoeddus, mae nifer o brosiectau cymunedol ledled y DU sy'n cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. Ariennir y rhain drwy Gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n derbyn £10 miliwn y flwyddyn ac a sefydlwyd i ariannu rhaglenni ar draws pedair thema allweddol:

  1. Gwasanaethau gofal iechyd nad ydynt yn rhai craidd i gyn-filwyr
  2. Cael gwared ar rwystrau i fywyd teuluol
  3. Cymorth ychwanegol, yn y Gwasanaeth ac ar ôl hynny, i'r rhai sydd angen help.
  4. Mesurau i integreiddio cymunedau milwrol a sifiliaid a chaniatáu i gymuned y Lluoedd Arfog gymryd rhan fel dinasyddion.

Dros y cyfnod rhwng 2015 a 2020, fel rhan o'r Rhaglen Grantiau Lleol, gwnaeth Ymddiriedolaeth y Gronfa Gyfamod 718 o ddyfarniadau gwerth £11.6 miliwn. Diben y grantiau hyn o hyd at £20,000 oedd cefnogi gwasanaethau integreiddio cymunedol ac roeddynt yn cynnwys gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn a chyn-filwyr, sesiynau cerddoriaeth greadigol ar gyfer teuluoedd y lluoedd arfog a phrosiectau'n gysylltiedig ag iechyd.

Y Cyfamod yng Nghymru

Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i'r Cyfamod; gyda Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ym mhob awdurdod, sy'n aelod etholedig, i hyrwyddo buddiannau cymuned y Lluoedd Arfog. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) hefyd wedi datblygu Prosiect Cenedlaethol Cymru, gan dynnu sylw at yr amrywiaeth o waith y mae gwahanol awdurdodau lleol ledled Cymru yn ei wneud fel rhan o'r Cyfamod.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hadroddiad blynyddol ar Gyfamod y Lluoedd Arfog ar gyfer 2020. Mae’r adroddiad yn disgrifio’r cyflawniadau allweddol dros 10 mlynedd yng Nghymru, gan gynnwys, ymhlith eraill:

  • Mwy o ddarpariaeth ariannu ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr, sy'n galluogi cyn-filwyr â phroblemau iechyd meddwl i gael cymorth priodol.
  • Ariannu Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog tan 2023 i ymgorffori canllawiau’r Cyfamod mewn Awdurdodau Lleol ledled Cymru.

A oes lle i wella?

Roedd Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog, yn croesawu’r adroddiad a chynnydd Llywodraeth Cymru o dan y Cyfamod. Y grŵp sy'n rhoi cyngor ar sut y gall gwasanaethau cyhoeddus ddiwallu anghenion cymuned y lluoedd arfog. Fodd bynnag, cyflwynodd y grŵp 8 blaenoriaeth allweddol hefyd i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â nhw yn ystod tymor y Senedd hon. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • datblygu cynllun cenedlaethol i weithredu newidiadau o Ddeddf y Lluoedd Arfog
  • ymrwymo i ariannu'r gronfa cefnogi plant y lluoedd arfog mewn addysg i Gymru yn barhaol; ac
  • ymestyn blaenoriaeth tai i gwmpasu 5 mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth milwrol.

Fodd bynnag, mae pryderon o hyd ynghylch effaith y Cyfamod. Un thema allweddol y canfu’r Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr yng Nghymru (2020) gan ymatebwyr oedd nad oedd y Cyfamod yn cael ei weithredu na'i gynnal yn briodol. Roedd hyn yn amrywio o ddiffyg ymwybyddiaeth o'r Cyfamod ei hun i ddiffyg darpariaeth o ran tai i gyn-filwyr. Pan gyhoeddwyd yr ymarfer cwmpasu, dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y pryd y bydd:

... yn llywio sut rydym yn targedu cefnogaeth yn y dyfodol ac yn y pen draw yn ceisio gwella'r dull y bydd y Llywodraeth hon a sefydliadau partner yn ei gymryd i gefnogi ein cyn-filwyr a Chymunedau'r Lluoedd Arfog...

Roedd Cyllideb yr hydref 2021 yn cynnwys cyllid i sefydlu Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru. Bydd y rôl yn gweithio i wella bywydau a chyfleoedd cymuned cyn-filwyr Cymru tra'n cydnabod eu cyfraniad i Luoedd Arfog y DU. O ganlyniad, gallai hyn gynyddu gwelededd y Cyfamod a mynd i'r afael â phryderon cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru nad yw'r Cyfamod yn cael ei weithredu'n briodol.

Cryfhau'r Cyfamod

Mae Bil y Lluoedd Arfog 2021 Llywodraeth y DU yn cyflwyno dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i roi sylw dyledus i egwyddorion y Cyfamod pan maent yn cyflawni swyddogaethau ym maes tai, gofal iechyd ac addysg. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r Cyfamod, nod hyn hefyd yw gwella'r modd y cyflawnir addewidion. Fodd bynnag mae rhanddeiliaid wedi galw am i'r Bil fynd ymhellach a hefyd gynnwys, ymhlith meysydd eraill o dan ei gwmpas, cyflogaeth, gofal cymdeithasol a phensiynau.

O ystyried y bydd y cynigion yn effeithio ar feysydd polisi datganoledig, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Senedd ar gyfer y Bil ac mae wedi cyflwyno dau Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Mae dadl gan y Llywodraeth wedi'i threfnu ar gyfer dydd Mawrth 9 Tachwedd ar gofio a chefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Bydd y newidiadau deddfwriaethol yn ymgorffori'r Cyfamod ymhellach yng nghyfraith y DU, a gobaith Llywodraeth y DU yw y bydd hefyd yn cadw'r ddyletswydd gofal rhwng y genedl a chymuned y Lluoedd Arfog.


Erthygl gan Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru