Mae perfformiad addysgol Cymru mewn tri maes craidd wedi dirywio ymhellach o'i gymharu â gweddill y DU, fel y nodir gan ganlyniadau rhaglen addysg ryngwladol sefydledig. Fodd bynnag, mae sgoriau Cymru yn agosach at gyfartaledd y gwledydd sy'n cymryd rhan, er bod hyn yn bennaf o ganlyniad i ostyngiad yn y cyfartaledd rhyngwladol.
Beth yw PISA?
Mae’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn gwerthuso systemau addysg gwledydd yn seiliedig ar berfformiad sampl o bobl ifanc 15 oed mewn profion safonol. Y sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) sy’n ei threfnu ac yn ei chynnal bob tair blynedd.
Roedd y cylch blaenorol i fod i ddigwydd yn 2021 ond cafodd ei ohirio am flwyddyn i 2022 oherwydd pandemig COVID-19. Cymerodd mwy na 760,000 o fyfyrwyr ran yn 2025, a hynny ar draws 91 o wledydd.
Mae tri maes craidd yn PISA: darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, gyda gwyddoniaeth yn brif faes yn 2025. Dywed OECD fod PISA yn asesu i ba raddau y mae pobl ifanc 15 oed wedi caffael gwybodaeth a sgiliau allweddol sy’n hanfodol ar gyfer cyfranogiad llawn mewn bywyd cymdeithasol ac economaidd a sut maent yn cymhwyso’u gwybodaeth a’u sgiliau i heriau yn y byd go iawn.
Yn fyd-eang ac yn ddomestig, mae llawer o sylw ar brif sgoriau a safleoedd PISA ar gyfer gwledydd, ond mae’r rhaglen hefyd yn darparu ystod o wybodaeth a gwaith dadansoddi. Diben cyffredinol PISA yw helpu llywodraethau i wella addysg eu pobl ifanc.
Crynodeb o ganlyniadau 2025
Sgoriau PISA Cymru yw’r isaf yn y DU ers blynyddoedd lawer. Maent yn ‘sylweddol’ is na gwledydd eraill y DU ym mhob un o'r tri maes, ac yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD yn y meysydd mathemateg a darllen. Fodd bynnag, nid oes gwahaniaeth sylweddol o’i gymharu â chyfartaledd yr OECD yn y maes gwyddoniaeth.
- Ac eithrio mewn perthynas â gwyddoniaeth yn 2022, dyma yw sgoriau isaf erioed Cymru ym mhob un o’r tri maes ers dechrau cymryd rhan yn PISA yn 2006.
- Mae sgoriau Cymru ym meysydd mathemateg a darllen wedi gostwng ers 2022, a hynny o 10 a saith pwynt yn y drefn honno, tra bod ei sgôr yn y maes gwyddoniaeth wedi codi gan dri phwynt.
- Yn 2022, roedd sgoriau Cymru 10 pwynt yn is na'r wlad isaf nesaf yn y DU yn y maes gwyddoniaeth, oum pwynt yn is yn y maes mathemateg ac 19 pwynt yn is yn y maes darllen. Yn 2025, y gwahaniaeth yw 15 pwynt yn y maes gwyddoniaeth, 11 pwynt yn y maes mathemateg a 23 pwynt yn y maes darllen.
- Yn ôl yn 2018, fe wnaeth perfformiad Cymru wella o'i gymharu â chyfartaledd yr OECD fel nad oedd gwahaniaeth mawr. Yn 2022, roedd sgoriau Cymru unwaith eto'n sylweddol is na chyfartaledd yr OECD, ac mae hyn hefyd yn wir yn 2025 ar gyfer gwyddoniaeth a mathemateg, ond nid ar gyfer darllen.
Mae Anna Brychan AS, Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, yn dweud bod canlyniadau diweddaraf i raddau helaeth yn "adlewyrchu rhai o'r heriau yr ydym eisoes wedi'u hadnabod, [ac] maent yn tanlinellu'r angen i gyflymu ein gwaith i wella llythrennedd a rhifedd". Mae hi hefyd yn dweud “na fydd ymateb byrbwyll i'r canlyniadau ac y bydd cynlluniau ar waith i gefnogi ysgolion i godi safonau”. Er ei bod yn cydnabod “[nad] yw canlyniadau PISA heddiw lle'r hoffem iddynt fod”, mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at effeithiolrwydd cymharol Cymru o ran cefnogi’r dysgwyr mwyaf difreintiedig.
Mae'r adroddiad swyddogol ar ganlyniadau Cymru, a luniwyd gan Sefydliad Addysg UCL a Phrifysgol Rhydychen, yn darparu gwybodaeth a dadansoddiad pellach ynghylch ystod o agweddau ar PISA.
Tabl 1: Sgoriau cymedrig Cymru yn PISA dros amser
| Gwyddoniaeth | Mathemateg | Darllen | |
| 2025 | 476 | 456 | 459 |
| 2022 | 473 | 466 | 466 |
| 2018 | 488 | 487 | 483 |
| 2015 | 485 | 478 | 477 |
| 2012 | 491 | 468 | 480 |
| 2009 | 496 | 472 | 476 |
| 2006 | 505 | 484 | 481 |
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Adroddiadau PISA cenedlaethol, (fersiynau sawl blwyddyn)
Tabl 2: Sgoriau cymedrig gwledydd y DU yn PISA 2025
| Gwyddoniaeth | Mathemateg | Darllen | |
| Cymru | 476 | 456 | 459 |
| Lloegr | 516 | 492 | 497 |
| Gogledd Iwerddon | 492 | 473 | 482 |
| Yr Alban | 491 | 467 | 488 |
| Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd |
482 | 463 | 461 |
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, PISA 2025: adroddiad cenedlaethol Cymru, Medi 2026
Sgoriau PISA Cymru dros amser

Cymharu sgoriau PISA Cymru

Beth yw dylanwad PISA yng Nghymru?
Mae Cymru wedi cymryd rhan yn PISA ers 2006. Mae PISA a’r OECD wedi cael dylanwad sylweddol ar bolisïau addysg yng Nghymru ers dros ddegawd a hanner, ers i ganlyniadau 2009 roi’r hyn a ddisgrifiwyd gan y Gweinidog Addysg ar y pryd yn alwad “i ddeffro system hunanfodlon” a thystiolaeth o “fethiant systemig”. Gofynnodd Llywodraethau blaenorol Cymru i’r OECD helpu i lywio eu dull o wella ysgolion, gydag adroddiadau OECD 2014 a 2017 yn helpu i lunio cynlluniau gweithredu addysg blaenorol ac adroddiad yn 2020 ar gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.
Yn y gorffennol, roedd Llywodraeth Cymru wedi datgan uchelgeisiau i symud Cymru i fyny’r rhestrau rhyngwladol a chynyddu sgoriau ym mhob un o'r tri maes. Fodd bynnag, rhoddwyd y gorau i dargedau meintiol o'r fath ax amcan Llywodraeth flaenorol Cymru, fel y'i nodwyd yn dilyn y canlyniadau diwethaf ym mis Rhagfyr 2023, oedd gwelliant parhaus ym mhob un o'r tri maes.
Ym mis Mehefin, amlinellodd Anna Brychan AS, Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, ei blaenoriaethau wrth ddechrau yn y swydd. Mewn perthynas â chanlyniadau PISA sydd ar ddod, dywedodd:
Mi fyddaf i’n mynd ati yn fwriadus i fynd â’r wybodaeth fwyaf defnyddiol o hwnna. Mae'n ehangach na'r rhifau. Mae yna lot o ddata defnyddiol, ac rwy'n credu y gallwn ni ddefnyddio hynny'n fwriadus i fwydo hefyd ein cynlluniau rhifedd a llythrennedd ni.
Faint o ddisgyblion a wnaeth y profion PISA a sut cawsant eu dewis?
Safodd 3,406 o ddisgyblion 15 oed, mewn 113 o ysgolion ledled Cymru, brofion PISA 2025 ym mis Medi a mis Hydref 2025, a hynny yn ystod ymarfer ar gyfrifiadur am ddwy awr. Roedd y disgyblion hyn ym mlwyddyn 11 ac i fod i gwblhau eu TGAU yn haf 2026. Dyma'r garfan olaf oedd heb astudio’r Cwricwlwm i Gymru, a gyflwynwyd yn raddol rhwng 2022 a 2025. I roi cyd-destun, mae tua 33,000 o ddisgyblion ym mlwyddyn 11 mewn 173 o ysgolion uwchradd a 31 o ysgolion canol yng Nghymru.
Ceir manylion samplu ar gyfer PISA 2025 yn adran 1.3.4 o adroddiad cenedlaethol Cymru.
A yw ysgolion a disgyblion yn paratoi ar gyfer y profion PISA?
Wrth ateb cwestiwn ysgrifenedig y Senedd yn nhymor yr hydref 2025, dywedodd Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y pryd, nad oedd disgwyl i ysgolion a disgyblion baratoi ar gyfer y profion PISA. Cynigiwyd gwersi dewisol wedi'u recordio ymlaen llaw i ysgolion i roi gwybodaeth am y rhaglen a fformat y cwestiynau, ond dywedwyd wrth y disgyblion nad oedd angen paratoi nac adolygu.
Yn seiliedig ar sampl, y bwriad yw i'r rhaglen fod yn giplun o sgiliau pobl ifanc 15 oed ledled y wlad, yn hytrach na phrawf o unrhyw ddisgybl yn unigol. Fe wnaeth y Gweinidog Cabinet ar y pryd ychwanegu nad yw PISA yn cael ei ddefnyddio ar gyfer atebolrwydd ysgolion.
Nid PISA yw'r unig fesur
Gellir dadau bod mesurau eraill o berfformiad addysgol, fel TGAU, Safon Uwch, cymwysterau galwedigaethol ac asesiadau wedi’u personoli mewn darllen a rhifedd i ddisgyblion ym mlynyddoedd 2 i 9 yn bwysicach i'r bobl sy'n eu gwneud a'r gweithwyr proffesiynol sy'n eu haddysgu. Yn wir, mae rhai pobl, yn rhyngwladol ac yng Nghymru, wedi tynnu sylw at ddiffygion PISA.
Fe wnaethom ni gyhoeddi erthyglau fis diwethaf ynglŷn â chanlyniadau TGAU a Safon Uwch, ac mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data blynyddol ar asesiadau wedi’u personoli mewn darllen a rhifedd.
Mae mesur pwysig arall o safonau yn cael ei ddarparu gan yr arolygiaeth addysg, Estyn, sy’n arolygu ac yn adrodd ar ansawdd y ddarpariaeth a'r canlyniadau mewn ysgolion a lleoliadau eraill. Cyhoeddodd Prif Arolygydd Estyn ei adroddiad blynyddol diweddaraf (ar gyfer 2024/25) ym mis Chwefror 2026 a disgwylir iddo gyhoeddi mewnwelediad cynnar ar gyfer 2025/26 dros y misoedd nesaf.
Agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella ysgolion
Rydym wedi ysgrifennu’n flaenorol ynghylch 'cenhadaeth genedlaethol' sawl un o Lywodraethau Cymru i wella ysgolion a chodi safonau. Mae'r angen hwn wedi codi, neu o leiaf wedi dod yn fwy amlwg, yn sgil canlyniadau PISA siomedig. Wrth graffu ar y maes hwn, ysgrifennodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Chweched Senedd at yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd ym mis Ionawr 2026 gyda'i sylwadau a'i argymhellion, a chafodd ymateb ym mis Mawrth. Roedd y materion a godwyd yn cynnwys disgwyliadau cenedlaethol sy'n gysylltiedig ag oedran o ran llythrennedd a rhifedd, yn ogystal â dulliau o addysgu plant sut i ddarllen.
Bydd llawer yn pryderu bod y canlyniadau PISA hyn yn arwydd o heriau mawr i’w goresgyn o hyd, er gwaethaf llawer o fentrau dros nifer o flynyddoedd. Un o chwe blaenoriaeth llywodraethu Llywodraeth newydd Cymru yw “codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu”. Mae'r ymrwymiadau'n cynnwys datblygu 'Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol' newydd, sydd i’w gyhoeddi yn yr hydref hwn.
Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru