Mae prinder meddyginiaethau a phrisiau cynyddol bellach yn her barhaus i wasanaethau iechyd ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru.
Er mai ffactorau byd-eang, ar y cyfan, sydd wrth wraidd y sefyllfa hon, ac er mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am sicrhau parhad y cyflenwad o feddyginiaethau, mae yna oblygiadau i gleifion, presgripsiynwyr, a fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru.
Mae'r erthygl hon yn ystyried pa feddyginiaethau y mae prinder ohonynt, y ffactorau sy'n cyfrannu at brinder a phrisiau cynyddol, a'r sefyllfa yng Nghymru.
Pa feddyginiaethau sydd wedi mynd yn brin?
Cyrhaeddodd nifer y meddyginiaethau sydd wedi mynd drwy gyfnodau o brinder yn y DU uchafbwynt yn 2024 cyn gostwng yn 2025. Serch hynny, ers dechrau 2026, mae'r ffigur wedi dechrau codi eto.
Nifer cyfartalog yr achosion wythnosol o brinder meddyginiaethau yn y DU

Ffynhonnell: Rhwydwaith Gofal Iechyd MIMS
Fel arfer, dim ond ffracsiwn bach o feddyginiaethau a effeithir gan gyfnodau o darfu ar y cyflenwad, ond gall yr effaith ar gleifion fod yn sylweddol os nad oes dewis clinigol arall ar gael.
Mae therapi amnewid ensymau pancreatig (PERT) yn enghraifft o hyn, yn bennaf y brand Creon® a ddefnyddir gan bobl sydd â chanser y pancreas, ffibrosis systig, a phancreatitis cronig i gefnogi’r system dreulio. Mae'r prinder wedi bod yn ddigon sylweddol i gyflwyno Protocol Prinder Difrifol, sef mesur ffurfiol gan Lywodraeth y DU sy'n galluogi i fferyllwyr cymunedol gyflenwi cynhyrchion eraill sy'n briodol o safbwynt clinigol.
Mae protocolau prinder difrifol ar waith ar gyfer Creon® ers mis Mai 2024, a disgwylir i'r prinder barhau tan 2027. Er bod yna gynhyrchion eraill ar gyfer PERT, ni ellir eu cyfnewid yn rhwydd ac nid ydynt ar gael yn rhwydd bob amser, ac mae rhai cleifion wedi sôn eu bod wedi dechrau bwyta un pryd o fwyd yn unig bob dydd er mwyn dogni’r capsiwlau.
Cafwyd rhybudd gan Parkinson's UK hefyd y bydd anawsterau cyflenwi'n effeithio ar nifer o’r meddyginiaethau ar gyfer clefyd Parkinson hyd at ganol a diwedd 2026. Gall hyn effeithio’n sylweddol ar bobl sydd â chlefyd Parkinson, oherwydd y gall newid rhwng brandiau achosi i symptomau ddychwelyd.
Mae enghreifftiau diweddar eraill yn cynnwys meddyginiaethau a ddefnyddir i drin ADHD, epilepsi, a diabetes math 2. Mae cyfyngiadau cyflenwi hefyd wedi effeithio ar feddyginiaethau a ragnodir yn eang fel aspirin, co-codamol a ramipril, sy'n dangos nad meddyginiaethau arbenigol yn unig sy’n agored i gyfnodau o brinder.
Beth sy'n achosi prinder meddyginiaethau?
Mae cadwyni cyflenwi meddyginiaethau yn systemau byd-eang a chymhleth sy'n cael eu rheoleiddio'n helaeth, felly bydd unrhyw brinder yn broblem fyd-eang. Isod ceir rhai o'r achosion a nodir gan amlaf.
Gweithgynhyrchu dwys dramor
Mae'r DU yn dibynnu’n helaeth ar gynhyrchwyr dramor ar gyfer meddyginiaethau a'r cynhwysion fferyllol actif a ddefnyddir i’w creu. Yn ôl adroddiad ym mis Chwefror 2026 gan Bwyllgor Gwasanaethau Cyhoeddus Tŷ'r Arglwyddi, mae’r rhan fwyaf o’r cynhwysion actif a ddefnyddir ym meddyginiaethau'r GIG yn dod o Tsieina, India, neu ffynonellau unigol eraill. Nodwyd hefyd, er mai meddyginiaethau generig yw tua 80% o bresgripsiynau'r GIG, mai dim ond tua chwarter sy'n cael eu cynhyrchu yn y DU, gyda'r mwyafrif yn cael eu cynhyrchu mewn mannau eraill yn Ewrop ac Asia.
Felly, gall cau un ffatri, torri un rheoliad, neu oedi’r cludiant yn un o’r canolfannau gweithgynhyrchu hyn effeithio'n gyflym ar argaeledd yn y DU. Problemau ar y cam gweithgynhyrchu yw’r rheswm a roddir i’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer y rhan fwyaf o achosion o darfu.
Sioc geo-wleidyddol
Mae pandemig COVID-19, y rhyfel yn Wcráin, a'r aflonyddwch yng Nghulfor Hormuz sy'n gysylltiedig â'r rhyfel yn Iran i gyd wedi dangos pa mor ddibynnol yw’r DU ar gadwyni cyflenwi rhyngwladol hir. Dywedir bod y rhyfel yn Iran wedi cynyddu cost rhai meddyginiaethau presgripsiwn tua 30%, yn bennaf am fod y cynnydd ym mhrisiau petrol a diesel yn treiddio i’r costau gweithgynhyrchu a chludo.
Cynnydd o ran galw
Gall lefel y galw gynyddu’n gynt nag y gall gweithgynhyrchwyr ddarparu meddyginiaethau. Roedd cynnydd o fwy na 90% yng Nghymru o ran nifer y presgripsiynau ar gyfer Therapi Adfer Hormonau (HRT) rhwng 2015 a 2022, a hynny’n rhannol oherwydd ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, gan arwain at sawl cyfnod o brinder triniaethau menopos.
Yn yr un modd, mae cynnydd sydyn yn y defnydd o agonistiau GLP-1 fel semaglwtid ar gyfer colli pwysau wedi cyfyngu’r cyflenwad byd-eang.
Gall diagnosau newydd, newidiadau i ganllawiau clinigol, a sylw yn y cyfryngau i gyd achosi newidiadau sydyn yn lefel y galw nad oes modd i gynhyrchwyr eu bodloni’n gyflym.
Pwysau masnachol
O gymharu â gwledydd tebyg, caiff cyfran lai o gyfanswm gwariant iechyd y DU ei gwario ar feddyginiaethau, ac mae cyrff diwydiant wedi dadlau bod hyn yn lleihau'r cymhelliant i gyflenwyr flaenoriaethu marchnad y DU dros gyrchfannau mwy proffidiol. Yn 2025, gwnaeth AstraZeneca, Eli Lilly, ac MSD (Merck) ohirio neu roi’r gorau i fuddsoddiadau arfaethedig yn y DU a oedd yn werth bron £2 biliwn gyda’i gilydd.
Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod y gall prisiau isel greu risg o ran cydnerthedd hirdymor y cyflenwad o feddyginiaethau. Yn fwy diweddar, mae Cytundeb Ffyniant Economaidd y DU a’r Unol Daleithiau wedi arwain at rywfaint o fuddsoddiad newydd yn y sector.
Rhwystrau rheoleiddiol
Ers 2021, mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi awdurdodi meddyginiaethau newydd ar wahân i'r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd. Mae amseroedd cymeradwyo wedi bod yn arafach fel arfer, a all leihau'r amrywiaeth o opsiynau eraill sydd ar gael pan fydd cyfnodau o brinder.
Pam mae prisiau meddyginiaethau'n codi?
Mae llawer o'r un ffactorau sy'n achosi prinder hefyd yn gwthio prisiau meddyginiaethau i fyny, yn enwedig yn y farchnad meddyginiaethau generig. Yn wahanol i feddyginiaethau sydd wedi’u brandio, nid yw prisiau meddyginiaethau generig yn destun cap ledled y DU a gallant amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar y farchnad fyd-eang.
Ym mis Ebrill 2026, y rhybuddiodd y Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol fod cost rhai meddyginiaethau a ragnodir amlaf wedi codi 14 i 15 o weithiau ers dechrau'r flwyddyn, gyda phris pecyn 100 tabled o barasetamol yn codi o 41c i £1.99 erbyn diwedd mis Mawrth.
Mae'r codiadau hyn o ran prisiau wedi rhoi pwysau sylweddol ar fferyllfeydd cymunedol. Mae'r prisiau a gaiff eu had-dalu i fferyllfeydd am weinyddu presgripsiynau'r GIG wedi'u nodi yn y Tariff Cyffuriau misol, sy'n gosod cyfradd ad-daliad sefydlog ar gyfer pob meddyginiaeth y mae’n berthnasol yng Nghymru a Lloegr. Pan fydd pris y farchnad agored y mae’n rhaid i fferyllfa ei dalu am feddyginiaeth yn codi uwchlaw cyfradd y Tariff Cyffuriau, bydd y fferyllfa'n gweinyddu ar golled. Mae’r Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol wedi nodi y gall y GIG dalu cyn lleied ag 20% o gost rhai o’r meddyginiaethau a weinyddir amlaf.
Gall Fferylliaeth Gymunedol Cymru ofyn am gonsesiwn gan Lywodraeth Cymru i bontio'r bwlch, gan addasu’r ad-daliad yn unol â’r pris uwch ar gyfer y mis dan sylw. Er bod y mecanwaith hwn ar gael, mae’r Company Chemists' Association wedi nodi bod pedwar o bob 10 fferyllfa yng Nghymru yn amhroffidiol yn 2025. Yn ôl y Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol, roedd 60% o berchnogion fferyllfeydd yng Nghymru wedi ailforgeisio eu tai neu ddefnyddio cynilion personol i aros ar agor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Beth yw'r sefyllfa yng Nghymru?
Mae’r cyfrifoldeb am sicrhau parhad y cyflenwad o feddyginiaethau i'r DU yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU, tra bod y cyfrifoldeb am reoli effaith unrhyw anawsterau ar gleifion yng Nghymru wedi'i ddatganoli. Felly, nid oes llawer o ddulliau ar gael i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael ag achosion sylfaenol unrhyw gyfnodau o brinder.
Pan fydd problemau cyflenwi, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chymheiriaid yn y DU, rheoleiddwyr, y diwydiant fferyllol a GIG Cymru er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar bobl. Mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Medi 2024, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y pryd fod y cyflenwad o feddyginiaethau ADHD ac HRT wedi gwella’n rhannol oherwydd y gwaith cydlynu hwn.
Mae Prif Swyddog Fferyllol Cymru hefyd yn cyhoeddi llythyrau prinder meddyginiaethau i feddygon teulu a fferyllfeydd pan fydd materion newydd yn codi, gan ddarparu cyngor clinigol ar driniaethau amgen.
Ar gyfer cleifion, mae gan Lywodraeth Cymru dudalen benodedig ar y we am brinder meddyginiaethau i roi gwybodaeth am feddyginiaethau penodol, y rhesymau am gyfnodau o brinder, a’r dyddiadau pryd y disgwylir i broblemau gael eu datrys. Ar ben hynny, mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) wedi cyhoeddi taflenni gwybodaeth i gleifion am reoli cyfnodau o brinder.
Mae'n annhebygol y bydd prinder meddyginiaethau a phwysau prisiau yn lleihau'n sylweddol yn y dyfodol agos. Gall Llywodraeth Cymru gydgysylltu'r ymateb yng Nghymru, rhoi cyngor i glinigwyr, a sicrhau bod gwybodaeth ar gael i gleifion, ond mae achosion sylfaenol yr anawsterau, a'r pwerau sydd eu hangen i fynd i'r afael â nhw, y tu hwnt i'w rheolaeth i raddau helaeth. Serch hynny, bydd y canlyniadau’n parhau i gael eu teimlo yng Nghymru.
Erthygl gan John Hitchcock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru