Coronafeirws: gwybodaeth a chymorth i bobl Cymru

Cyhoeddwyd 02/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/07/2021   |   Amser darllen munudau

Mae gan bobl yng Nghymru lawer o gwestiynau o hyd am y coronafeirws yn ymwneud â hawliau cyflogaeth, budd-daliadau, cymorth i fusnesau, teithio, bwyd, manwerthu, addysg a llawer mwy.

Bydd Ymchwil y Senedd yn ateb cwestiynau’r Aelodau a’u staff trwy’r broses ymholiadau arferol, ond rydym hefyd wedi casglu rhai lincs ynghyd i wybodaeth ddibynadwy i helpu pobl Cymru.

Mae’n bwysig iawn dilyn arweiniad o ffynonellau swyddogol sydd ag enw da. Dylid defnyddio’r tudalennau hyn fel prif ffynonellau ar gyfer gwybodaeth, yn hytrach na gwefannau newyddion neu gyfryngau cymdeithasol.

Mae gan Lywodraeth Cymru dudalen we ar gyfer ei holl wybodaeth am y coronafeirws, a thudalen benodol i fynd i’r afael â chamwybodaeth – coronafeirws: y ffeithiau. Mae ganddi hefyd ganllawiau ar gadw’n ddiogel a chadw pellter cymdeithasol, coronafeirws a’r gyfraith, hunanynysu a phrofi ac olrhain.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun rheoli’r coronafeirws, gyda lefelau rhybudd diwygiedig. Gellir gweld y newidiadau diweddar i’r cyfyngiadau, yn ogystal â’r newidiadau sydd ar ddod, ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae gan Ymchwil y Senedd linell amser o’r ymateb yng Nghymru sy’n tynnu sylw at y datblygiadau allweddol i gael mwy o wybodaeth.

Budd-daliadau

Gallwch ddarllen crynodeb o’r budd-daliadau sydd ar gael i bobl yng Nghymru yn ein herthygl.

Cymorth i fusnesau

Gallwch ddarllen crynodeb o’r cymorth i fusnesau sydd ar gael yng Nghymru yn ein herthygl.

Gofal plant
Llysoedd, carchardai a chyfiawnder
Addysg

Ysgolion

Prifysgolion, addysg bellach a phrentisiaethau

Iechyd a gofal cymdeithasol

Gallwch ddarllen ein herthyglau ar y rhaglen frechu, data brechu, ystadegau ar gyfer achosion a marwolaethau, y marwolaethau a gofrestrwyd, Profi, Olrhain, Diogelu, y coronafeirws a’r GIG ac iechyd meddwl.

Profi ac olrhain cysylltiadau

Brechlyn

Mynediad at wasanaethau

Gofal cymdeithasol

Gweithwyr iechyd a gofal

Llywodraeth Leol
Trafnidiaeth a theithio

Teithiau tramor

Y sector gwirfoddol

Erthygl gan Lorna Scurlock, Lucy Morgan, Lucy Valsamidis a Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddarllen ein herthyglau ar y coronafeirws a thrwy danysgrifio i’n rhestr bostio.