llun brechu

llun brechu

Coronafeirws: data brechu

Cyhoeddwyd 25/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/02/2021   |   Amser darllen munudau

Ym mis Ionawr cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth frechu ar gyfer brechlynnau COVID-19. Mae gan y strategaeth dair prif garreg filltir ac amseriadau bras ar gyfer pryd y caiff dos cyntaf o’r brechlyn ei gynnig i boblogaeth oedolion Cymru. Dywed Llywodraeth Cymru y bydd wedi cynnig brechlyn i bob oedolyn cymwys erbyn 31 Gorffennaf 2021.

Mae'r erthygl hon yn rhoi trosolwg o'r data brechu sydd ar gael i'r cyhoedd. Byddwn yn diweddaru'r erthygl hon yn rheolaidd wrth i ragor o ddata ddod ar gael.

Ar adeg ysgrifennu, nid yw’r data ar y cynnydd cyffredinol tuag at gerrig milltir Llywodraeth Cymru yn dal i fod ar gael i'r cyhoedd ar gyfer Cymru gyfan na fesul bwrdd iechyd. Mae yna ddiffyg data ynghylch pwy sy'n cael eu brechu, gyda nifer sylweddol o frechlynnau yn peidio â chael eu categoreiddio mewn grŵp blaenoriaeth.

Ar 18 Chwefror cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ei adroddiad cyntaf ar anghydraddoldebau o ran cymryd brechiadau, ac mae hwn yn rhoi dadansoddiad o frechiadau yn ôl grŵp blaenoriaeth, oedran, rhyw, ethnigrwydd a chwintel amddifadedd. Er enghraifft, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod 71.5% o'r rheini sy'n 80 mlwydd oed neu'n hŷn o grwpiau Pobl Ddu, Asiaidd, Cymysg a Lleiafrifoedd Eraill wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn o'i gymharu ag 85.6% yn y grŵp pobl wyn sy'n 80 mlwydd oed neu'n hŷn.

Mae oedi rhwng yr amser y caiff pobl eu brechlyn a phryd mae’r wybodaeth yn cael ei chyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n dweud na fydd y data a gofnodwyd yn gyflawn erbyn i’r adroddiad dyddiol gael ei gyhoeddi a bydd y nifer a fydd wedi cael y brechlyn yn uwch na’r cyfansymiau hyn.

Faint o bobl sydd wedi cael dos o’r brechlyn?

Erbyn 25 Chwefror 2021, roedd Cymru wedi rhoi 889,270 o ddosau cyntaf o frechlyn COVID-19, sef 28.2 y cant o’r boblogaeth.

Nifer y dosau cyntaf ac ail ddosau gyda chanran cyfanswm y boblogaeth sydd wedi cael eu brechu

Nifer y dosau cyntaf a chanran cyfanswm y boblogaeth sydd wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU

Sylwer: Mae poblogaeth pob un o wleydydd yn y DU yn seiliedig ar ddata diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac felly mae'n cynnwys y rhai dan 16 oed na cynigir brechlyn COVID-19 iddynt.

Mae'r map uchod yn dangos sut mae Cymru'n cymharu â gwledydd eraill y DU o ran canran cyfanswm y boblogaeth sydd wedi cael eu dos cyntaf a’u hail ddos. Mae’r graff isod yn dangos canran y boblogaeth 16 oed a hŷn sydd wedi cael eu dos cyntaf a’u hail ddos o frechlyn dros amser.

Mae’n bosibl y gwelwch chi ganrannau poblogaeth gwahanol yn cael eu defnyddio o ran dosbarthu’r brechlynnau. Mae ambell ffynhonnell yn cymharu dosau o’r brechlyn â chyfanswm y boblogaeth (fel yn y map uchod) tra bod rhai eraill yn cymharu’r dosau â’r boblogaeth sy’n 16 oed a hŷn, gan nad yw’n fwriad ar hyn o bryd i frechu’r rheini sy’n iau nag 16 oed. Rydym yn cyflwyno’r naill a’r llall i ddangos y gwahaniaeth.

Canran y boblogaeth dros 16 oed sydd wedi cael dos cyntaf a’r ail ddos o’r brechiad

Canran y boblogaeth dros 16 oed sydd wedi cael dos cyntaf a’r ail ddos o’r brechiad

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Sut mae'r broses o gyflwyno’r brechlyn yng Nghymru yn mynd rhagddi?

Y garreg filltir gyntaf

Carreg filltir gyntaf y strategaeth frechu oedd cynnig dos cyntaf o frechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 4 erbyn canol mis Chwefror 2021. Roedd hyn yn cynnwys:

  • 1. Pobl sy’n byw mewn cartref gofal ar gyfer oedolion hŷn a’u staff gofalu;
  • 2. Pobl 80 oed a hŷn a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen;
  • 3. Pobl 75 oed a hŷn; a
  • 4. Phobl 70 oed a hŷn a phobl sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol (gwarchod gynt).

Ar 12 Chwefror, cyhoeddodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, ein bod wedi cyflawni’r garreg filltir gyntaf.

Ar hyn o bryd, nid oes digon o ddata ar gael i'r cyhoedd i ddeall faint o bobl ym mhob grŵp blaenoriaeth sydd wedi cael cynnig brechlyn.

Ar 25 Chwefror, mae data Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer y garreg filltir gyntaf yn cynnwys y cynnydd a wnaed ar gyfer rhai o'r grwpiau o bobl yn unig.

Nid yw data Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cynnwys rhif y gweithwyr gofal iechyd neu faint o fewn y grŵp hwn sydd wedi cael brechlyn.

Ar 25 Chwefror, roedd 889,270 o bobl wedi cael y dos cyntaf o’r brechlyn ac roedd 705,322 o’r rheini, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn perthyn i un o’r grwpiau blaenoriaeth.

Canran y bobl sydd wedi cael dos cyntaf o frechlyn fesul grŵp blaenoriaeth ICC

Canran y bobl sydd wedi cael dos cyntaf o frechlyn fesul grŵp blaenoriaeth

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

*Gellir cyfrif maint y grŵp gweithwyr gofal iechyd o dabl 1.2 yn yr adroddiad Gwyliadwriaeth Misol sydd ar gael ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hwn yn rhoi maint grŵp o 139,634 er nad yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi hyn yn benodol fel cyfanswm maint y grŵp.

Dywed Llywodraeth Cymru: “Nid yw derbyn y brechiad yn orfodol, felly mae'n bosibl na fyddwn yn cyrraedd 100% o bob carfan oherwydd y bydd rhai pobl yn dewis peidio â chael y brechlyn.”

Yr ail garreg filltir

Ail garreg filltir y strategaeth frechu yw cynnig dos cyntaf o frechlyn COVID-19 i grwpiau blaenoriaeth 5 i 9 erbyn diwedd mis Ebrill 2021. Mae hyn yn cynnwys:

  • 5. pobl 65 oed a hŷn;
  • 6. pobl dros 16 oed sydd â chyflwr iechyd presennol;
  • 7. pobl 60 oed a hŷn;
  • 8. pobl 55 oed a hŷn; a
  • 9. phobl 50 oed a hŷn.

Dywed Llywodraeth Cymru bod apwyntiadau yn cael eu trefnu ar gyfer y rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 5 a 6 yn gyntaf.

Hyd at 25 Chwefror, nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi dim data ar nifer y bobl sydd wedi cael dos cyntaf o frechlyn yn ôl grwpiau blaenoriaeth 5 i 9.

Sut mae'r broses o gyflwyno’r brechlyn yn mynd rhagddi fesul bwrdd iechyd?

Ar hyn o bryd mae pob bwrdd iechyd lleol yn cyhoeddi data gwahanol, felly nid oes modd gweld yn glir pa gynnydd sy'n cael ei wneud tuag at y garreg filltir gyntaf na’r ail garreg filltir.

Fodd bynnag, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cyhoeddi nifer y dosau y mae pob bwrdd iechyd wedi’u rhoi, a’r gyfran o’r rheini sy’n 70-74 oed, 75-79 oed, 80 oed neu’n hŷn a phreswylwyr cartrefi gofal sydd wedi cael dos cyntaf. Dangoswn hyn y siartiau isod.

Cyfanswm y dosau brechlyn a roddwyd fesul Bwrdd Iechyd Lleol

Cyfanswm y dosau brechlyn a roddwyd fesul Bwrdd Iechyd Lleol

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Canran y preswylion cartrefi gofal, pobl 70-74 oed, 75-79 oed a phobl 80 oed ac yn hŷn sydd wedi cael dos cyntaf o frechlyn yn ôl grŵp blaenoriaeth a fesul bwrdd iechyd lleol eu preswylfa.

Canran y bobl sydd wedi cael dos cyntaf o frechlyn yn ôl grŵp blaenoriaeth a Bwrdd Iechyd Lleol eu preswylfa.

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Diffyg data manwl

Fis Ionawr, fe ysgrifennodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau at weinyddiaethau’r DU, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghylch cyhoeddi data sy’n ymwneud â brechu.

Pwysleisiodd bwysigrwydd y data at ddibenion asesu a yw’r llywodraethau’n bodloni eu targedau ar gyfer brechu.

Mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi galw an fwy o gynnydd yn y meysydd canlynol:

  • mwy o fanylion fesul grŵp oedran, grŵp ethnigrwydd a grwpiau blaenoriaeth y Cydbwyllgor Imiwneiddio a Brechu
  • pa frechlyn mae pobl yn ei gael (Pfizer/BioNTech neu AstraZeneca); a

gwybodaeth ynghylch y rheini sydd wedi cael cynnig brecchlyn a’r rheini sydd wedi derbyn y cynnig, er mwyn deal pam nad yw rhai pobl am gael y brechlyn.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth a data ar y broses ar gyfer cyflwyno brechiad COVID-19, cliciwch ar y lincs canlynol:


Erthygl gan Lucy Morgan, Joe Wilkes and Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru