Coronafeirws: y marwolaethau a gofrestrwyd

Cyhoeddwyd 12/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/01/2021   |   Amser darllen munudau

Bob wythnos mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi Ffigurau wythnosol y marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Mae'r data hyn yn rhoi ffigur dros dro ar gyfer nifer y marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys marwolaethau yn ymwneud â'r coronafeirws (COVID-19). Er mwyn caniatáu amser ar gyfer cofrestru a phrosesu, mae'r ffigurau hyn yn cael eu cyhoeddi 11 diwrnod ar ôl i'r wythnos ddod i ben. Felly mae'r ffigurau a gyhoeddwyd ar 12 Ionawr 2021 yn dangos y marwolaethau wythnosol yn 2020 hyd at yr wythnos a ddaeth i ben ar 1 Ionawr 2021.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi’u seilio ar y dyddiad cafodd y farwolaeth ei chofrestru yn hytrach na’r dyddiad y digwyddodd. Mae o leiaf pum diwrnod yn mynd heibio fel arfer rhwng achos o farwolaeth a phryd y caiff ei gofrestru.

Data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (yr wythnos a ddaeth i ben ar 1 Ionawr)

Yr holl farwolaethau a gofrestrwyd a marwolaethau COVID-19

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos yr holl farwolaethau a gofrestrwyd gan gynnwys pobl a fu farw yn y gymuned yn ogystal ag yn yr ysbyty. Mae hyn yn golygu y gallwn weld faint o bobl a fu farw o bob math o achosion, sef rhywbeth y byddem fel arfer yn disgwyl ei weld drwy edrych ar y cyfartaledd dros bum mlynedd. Gelwir cynnydd mewn marwolaethau sy’n uwch na’r cyfartaledd dros y pum mlynedd diwethaf yn ‘farwolaethau ychwanegol’. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer y marwolaethau cofrestredig yn uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd. Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol y dylid dehongli’r tueddiadau yn natganiad yr wythnos hon â gofal:

A decrease between Weeks 51 and 52 is usually observed because of the impact of the Christmas bank holidays. One of the reasons that Week 52 of 2020 was above the five-year average is because it had one bank holiday compared with Week 52 having two bank holidays in four of the five years (2016, 2017, 2018 and 2019) in the five-year average. Week 53, however, included both the Boxing Day and New Year’s Day Bank Holidays, which may account for the decrease in comparison with Week 52. We use the Week 52 five-year average to compare against Week 53 deaths as only one other year in the last five years had a Week 53. Like last week, the trends should therefore be interpreted with caution this week.

Mae’r data hefyd yn dangos nifer y marwolaethau COVID-19 yng Nghymru gan ddechrau yn ystod yr wythnos a ddaeth i ben ar 20 Mawrth 2020.

Ffigurau dros dro ar gyfer y marwolaethau wythnosol a gofrestrwyd yng Nghymru yn 2020 o gymharu â’r cyfartaledd dros y pum mlynedd flaenorol

Ffigurau dros dro ar gyfer y marwolaethau wythnosol a gofrestrwyd yng Nghymru yn 2020 o gymharu â’r cyfartaledd dros y pum mlynedd flaenorol. Ar yr wythnos a ddaeth i ben ar 1 Ionawr 2021, roedd nifer y marwolaethau a gofrestrwyd yn uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Marwolaethau a gofrestrir yn wythnosol yng Nghymru a Lloegr, dros dro (Saesneg yn unig)

Lleoliad marwolaethau COVID-19

Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cael eu cyhoeddi yn ôl awdurdod lleol, yn ôl bwrdd iechyd ac yn ôl lleoliad y farwolaeth, gan gynnwys yn yr ysbyty (acíwt neu gymunedol, nid seiciatrig), gartref, mewn cartref gofal, hosbis neu gyfleuster cymunol arall ac mewn mannau eraill.

O’r wythnos a ddaeth i ben ar 20 Mawrth 2020 i’r wythnos a ddaeth i ben ar 1 Ionawr 2021, roedd 71.6 y cant (3,700) o’r marwolaethau oherwydd COVID-19 wedi digwydd mewn ysbytai, 22.2 y cant (1,145) mewn cartrefi gofal, 4.9 y cant (251) gartref ac 1.4 y cant (73) mewn mannau eraill.

Marwolaethau COVID-19 yn ôl awdurdod lleol a lleoliad y farwolaeth

Mae’r graff isod yn dangos cyfanswm y marwolaethau COVID-19 yng Nghymru o’r wythnos a ddaeth i ben ar 20 Mawrth 2020 hyd at yr wythnos a ddaeth i ben ar 1 Ionawr 2021, ond a gofrestrwyd hyd at 9 Ionawr 2021, yn ôl awdurdod lleol preswyl a lleoliad y farwolaeth. Mae’n dangos mai Rhondda Cynon Taf  sydd â’r nifer fwyaf o farwolaethau COVID-19 ac mai Ynys Môn sydd â’r nifer leiaf. Yr wythnos hon, Caerdydd (33), Rhondda Cynon Taf (33), Sir Gaerfyrddin (31), Abertawe (28) a Phen-y-bont ar Ogwr (25) welodd y nifer uchaf o farwolaethau.

Marwolaethau COVID-19 yn ôl awdurdod lleol preswyl a lleoliad y farwolaeth o 20 Mawrth 2020 hyd at 1 Ionawr 2021, a gofrestrwyd hyd at 9 Ionawr 2021.

Cyfanswm y marwolaethau COVID-19 yng Nghymru o’r wythnos a ddaeth i ben ar 20 Mawrth 2020 hyd at yr wythnos a ddaeth i ben ar 1 Ionawr 2021, ond a gofrestrwyd hyd at 9 Ionawr 2021, yn ôl awdurdod lleol a lleoliad y farwolaeth. Rhondda Cynon Taf sydd â’r nifer fwyaf o farwolaethau COVID-19 ac Ynys Môn sydd â’r nifer leiaf.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Marwolaethau a chofrestriadau marwolaethau yn ôl awdurdod lleol a bwrdd iechyd (Saesneg yn unig)

Marwolaethau’n gysylltiedig â COVID-19 – map rhyngweithiol y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cynhyrchu map rhyngweithiol sy’n dangos nifer y marwolaethau a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod o fis Mawrth i fis Tachwedd 2020, lle nodwyd COVID-19 fel achos ar y ffurflen farwolaeth. Defnyddiwyd Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (MSOAs) fel daearyddiaeth gan fod ganddynt boblogaeth o faint tebyg ac maent yn parhau i fod yn gyson dros gyfnod o amser. Mae 410 o MSOAs yng Nghymru, pob un â phoblogaeth o rhwng 5,000 a 15,000.

Nifer y marwolaethau’n gysylltiedig â COVID-19 mewn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol, marwolaethau a ddigwyddodd rhwng mis Mawrth a Mis Tachwedd 2020. Cymru a Lloegr.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Marwolaethau’n gysylltiedig â COVID-19 – map rhyngweithiol

Pam mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn wahanol i ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru?

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn esbonio bod y ffigurau hyn yn wahanol i’r rhai a gyhoeddwyd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru:

These figures are different from the daily surveillance figures on COVID-19 deaths published by the Department of Health and Social Care (DHSC) on the GOV.UK website, for the UK as a whole and constituent countries. Figures in this report are derived from the formal process of death registration and may include cases where the doctor completing the death certificate diagnosed possible cases of COVID-19, for example, where this was based on relevant symptoms but no test for the virus was conducted.

Mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys y marwolaethau a gofnodwyd ymhlith cleifion ysbytai neu breswylwyr cartrefi gofal lle y mae COVID-19 wedi’i gadarnhau drwy ganlyniad positif mewn prawf mewn labordy a bod y clinigwr yn amau bod hyn yn un o’r ffactorau a achosodd y farwolaeth. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi ffigurau marwolaethau yn ôl bwrdd iechyd lleol ond nid yn ôl awdurdod lleol na lleoliad y farwolaeth.

Os hoffech ddarllen mwy am ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae rhagor o wybodaeth ar ein blog Coronafeirws: ystadegau.


Erthygl gan Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.