Coronafeirws: budd-daliadau lles

Cyhoeddwyd 22/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Diweddarwyd yr erthygl hon ddiwethaf ar 16 Tachwedd 2020.

Mae llawer o bobl wedi colli incwm neu wedi colli eu swyddi oherwydd y pandemig, ac mae’n bosibl y bydd angen iddynt hawlio budd-daliadau i gael deupen y llinyn ynghyd.

Mae'r erthygl hon yn rhoi trosolwg o'r prif fudd-daliadau y gallai pobl eu hawlio (yn dibynnu ar eu hamgylchiadau), a ffynonellau cyngor arbenigol.

Rydym hefyd wedi diweddaru ein herthygl ar gymorth busnes, sy'n rhoi trosolwg o'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Y Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal i bobl o oedran gweithio, sydd yn gweithio neu’n ddi-waith, ac ar incwm isel.

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli chwe budd-dal presennol ar sail prawf modd. Rhaid i bob ymgeisydd newydd ar gyfer y budd-daliadau hyn hawlio’r Credyd Cynhwysol, ac mae hawlwyr presennol yn cael eu symud yn raddol i’r Credyd Cynhwysol.

Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys lwfans ‘safonol’ ac arian ychwanegol ar gyfer aelwydydd â phlant, ac at ddibenion gofal plant. At hynny, mae’n bosibl y bydd aelwydydd sy'n cynnwys pobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd hefyd yn cael arian ychwanegol bob mis. Gallai pobl mewn tai rhent hefyd fod yn gymwys i gael help gyda chostau tai.

Nid yw Credyd Cynhwysol ar gael i aelwydydd sy’n meddu ar dros £16,000 o gynilon.

Gellir gwneud cais ar gyfer Credyd Cynhwysol ar-lein, ond mae'r taliad cyntaf yn cymryd hyd at bum wythnos i'w dalu (sy'n un o nodweddion dyluniad y budd-dal, yn hytrach na chyfnod prosesu). Mae taliadau ymlaen llaw ar gael, ond mae'n rhaid eu talu'n ôl.

Gall pobl yng Nghymru wneud cais i'r Gronfa Cymorth Dewisol i gael help gyda chostau hanfodol os ydyn nhw mewn caledi ariannol wrth aros am eu taliad Credyd Cynhwysol cyntaf (gweler y manylion isod).

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ‘ar ei newydd wedd’ ar gael i bobl y mae eu hanabledd neu eu cyflwr iechyd yn effeithio ar faint y gallan nhw weithio, p'un a oes ganddynt swydd ai peidio.

Ni ellir hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yr un pryd â thâl salwch statudol, ond gellir ei hawlio ochr yn ochr â Chredyd Cynhwysol, neu yn lle Credyd Cynhwysol.

Mae cyfradd sylfaenol Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gwerth hyd at £58.90 yr wythnos i bobl dan 25 oed, a £74.35 yr wythnos i bobl dros 25 oed. Gellir ychwanegu cydrannau eraill at y budd-dal o dan amgylchiadau penodol.

Nid yw’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ond ar gael i bobl sydd wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ystod y 2 i 3 blynedd diwethaf. Gellir gwneud cais am y lwfans ar-lein.

Lwfans Ceisio Gwaith ‘ar ei newydd wedd’

Efallai y bydd pobl sy'n ddi-waith neu sy’n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos yn gallu hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ‘ar ei newydd wedd’ os ydyn nhw wedi gwneud digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol dros y ddwy flynedd flaenorol.

Mae Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) ar ei newydd wedd yn daliad fesul pythefnos y gellir ei hawlio ar ei ben ei hun neu ar yr un pryd â Chredyd Cynhwysol. Nid yw cyfalaf na chynilion hawlydd (a chyfalaf, cynilion ac incwm y partner) yn cael eu hystyried. Gellir gwneud cais am y lwfans ar-lein.

Cronfa Cymorth Dewisol

Mae Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau nad oes angen eu talu yn ôl i bobl ar incwm isel yng Nghymru:

  • sydd angen help gyda chostau hanfodol (fel bwyd, nwy, trydan, dillad a theithio brys) yn dilyn ‘achos o argyfwng’ neu sydd mewn caledi ariannol eithafol am resymau sy’n cynnwys oedi cyn talu budd-daliadau, neu
  • sydd angen cymorth i fyw'n annibynnol yn hytrach nag mewn cartref gofal neu ysbyty.

Er nad yw'r grant wedi'i ddylunio ar gyfer diffygion ariannol parhaus, gallai gynnig cymorth i bobl sy’n profi caledi wrth iddynt aros am eu taliad Credyd Cynhwysol (neu fudd-dal arall) cyntaf. Gellir gwneud cais am y lwfans ar-lein.

£500 – Cymorth gyda Hunanynysu

Gall pobl sy’n cael budd-daliadau penodol, y mae’n ofynnol arnyn nhw i hunanynysu wneud cais am daliad o £500 fel cymorth yn sgil colli enillion os nad ydyn nhw’n gallu gweithio gartref. Gellir cyflwyno cais (trwy awdurdodau lleol) o 3pm ar 16 Tachwedd ymlaen, a gellir ôl-ddyddio’r cais hyd at 23 Hydref.

Mae gwybodaeth bellach i’w chael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gostyngiadau i’r dreth gyngor

Mae’n bosibl y bydd gan bobl yng Nghymru’r hawl i dalu llai o’r dreth gyngor os yw’r coronafeirws yn effeithio ar eu hincwm, neu os ydyn nhw’n cael budd-daliadau penodol. Mae gan Lywodraeth Cymru holiadur gwirio cymhwysedd ar-lein. I wneud cais am ostyngiad, dylai pobl gysylltu â'u cyngor lleol.

Taliadau disgresiwn at gostau tai

Mae Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai yn rhoi cymorth byrdymor i bobl sy'n cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol ac sy'n cael trafferth gyda chostau tai.

Cynghorau lleol sy’n gweinyddu Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai (gyda chryn ddisgresiwn), er mai Llywodraeth y DU sy’n gosod y rheolau cyffredinol. Mae gan Shelter Cymru gyfleuster chwilio i ddod o hyd i fanylion cyswllt Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai ar gyfer pob cyngor yng Nghymru, er mwyn i bobl wneud cais.

Cronfa Cymorth Gofalwyr

Ar 20 Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gronfa Cymorth Gofalwyr newydd. Bydd yn darparu grantiau gwerth hyd at £300 at hanfodion, gan gynnwys: bwyd, eitemau i’r cartref fel dodrefn neu nwyddau gwyn, neu electroneg fel gliniadur i gal mynediad at gymorth a gwasanaethau. Bydd rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael yn fuan ar carers.org/wales

Taliadau Cymorth Profedigaeth

Mae Taliadau Cymorth Profedigaeth ar gael i bobl o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth y bu farw eu gŵr, gwraig neu bartner sifil ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017.

Gall pobl fod yn gymwys os talodd eu partner gyfraniadau Yswiriant Gwladol am o leiaf 25 wythnos, neu y bu farw oherwydd damwain yn y gwaith neu glefyd a achoswyd gan waith.

Mae’n cynnwys taliad gwerth rhwng £2,500 a £3,500, ac yna hyd at 18 taliad misol gwerth naill ai £100 neu £350. Telir y gyfradd uwch i bobl â phlant dibynnol.

Nid yw'r taliad yn effeithio ar gymhwysedd i gael budd-daliadau eraill am flwyddyn ar ôl y taliad cyntaf. Mae gwybodaeth am sut i wneud cais ar-lein.

Help gyda chostau angladd

Gall Taliadau Costau Angladd helpu pobl ar incwm isel gyda chostau angladd. Gellir gwneud cais am hyn dros y ffôn neu trwy'r post.

Budd-daliadau eraill

Gall pobl fod yn gymwys i gael budd-daliadau eraill, gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau unigol.

Er enghraifft, lle mae rhywun yn rhoi'r gorau i weithio er mwyn gofalu am rywun yn amser llawn, gallai fod yn gymwys i gael Lwfans Gofalwyr. Gallai rhywun dros 65 oed sydd angen gofal gael Lwfans Gweini. Gall rhywun o oedran pensiwn y wladwriaeth sydd ar incwm isel fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn. Gallai rhywun ag anabledd hawlio Taliad Annibyniaeth Bersonol os nad ydyn nhw eisoes yn gwneud hynny.

Newidiadau i'r system fudd-daliadau

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y mwyafrif helaeth o fudd-daliadau lles (heblaw am ostyngiadau i’r dreth gyngor a'r Gronfa Cymorth Dewisol). Mae ganddi dudalen benodol ar gyfer rhoi gwybodaeth ynghylch y coronafeirws a hawlio budd-daliadau, ac mae’r dudalen yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd.

Gwnaeth Llywodraeth y DU nifer o newidiadau i'r system nawdd cymdeithasol ar ddechrau'r pandemig, megis cynyddu Credyd Cynhwysol £20, a fydd yn para tan fis Ebrill 2021. Mae rhai o'r newidiadau, megis atal asesiadau ar gyfer budd-daliadau salwch ac anabledd, yn cael eu hailddechrau'n raddol mewn gwahanol ffyrdd.

Mae esboniad llawn o'r newidiadau tymor byr, tymor canolig a pharhaol a wnaed i’r system fudd-daliadau o ganlyniad i'r pandemig ar gael yn y papur briffio hwn o Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin (rhan 2).

Cyngor

Mae'r system fudd-daliadau yn un gymhleth, a dylai pobl gysylltu â gwasanaeth cynghori budd-daliadau arbenigol er mwyn helpu i bennu’r hyn y gallent fod yn gymwys i’w gael. Mae ystod o wasanaethau cynghori ynghylch budd-daliadau yng Nghymru, â’r canlynol yn eu plith:


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy'n nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru'n rheolaidd.