Llinell amser coronafeirws: yr ymateb yng Nghymru

Cyhoeddwyd 18/07/2023   |   Amser darllen munudau

Mae’r llinell amser yn tynnu sylw at ddatblygiadau allweddol yng Nghymru mewn ymateb i COVID-19.

Mae fersiwn PDF a fersiwn Excel o’r llinell amser hon ar gael i chi ei lawrlwytho.

Rydym yn cychwyn llinell amser newydd i adlewyrchu’r Senedd newydd a Llywodraeth newydd Cymru yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2021. Mae ein llinell amser flaenorol ar gyfer y Bumed Senedd yn dal ar gael.

Mae’r wybodaeth swyddogol ddiweddaraf am y coronafeirws, gyda chyngor ar gyfer y cyhoedd, ar gael drwy glicio ar y lincs isod:

Cyfarfod Pwyllgor COVID-19 Cymru

11 Gorffennaf 2023

Bydd Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 yn cyfarfod am y tro cyntaf. Sefydlwyd y Pwyllgor ar 16 Mai 2023 i edrych ar adroddiadau ar bob cam o Ymchwiliad COVID-19 y DU ac i ystyried unrhyw fylchau a nodwyd yng ngwaith paratoi ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn ystod y pandemig a ddylai fod yn destun archwilio pellach.

Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi clywed tystiolaeth gan Gymru

03-04 Gorffennaf 2023

Fel rhan o Fodiwl 1 ar gydnerthedd a pharatoi, clywodd Ymchwiliad Covid-19 y DU gan:

3 Gorffennaf: Syr Frank Atherton (Prif Swyddog Meddygol Cymru); a Dr Andrew Goodall (cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chyn-Brif Weithredwr GIG Cymru)

4 Gorffennaf: Dr Andrew Goodall; Dr. Quentin Sandifer (Iechyd Cyhoeddus Cymru); Vaughan Gething (cyn-Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 2016-2021 a chyn-Ddirprwy Weinidog Iechyd 2014-2016); a Mark Drakeford (Prif Weinidog Cymru)

Nid yw COVID-19 bellach yn argyfwng iechyd byd-eang

05 Mai 2023

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn datgan nad yw COVID-19 bellach yn argyfwng iechyd cyhoeddus o bryder rhyngwladol. Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol WHO "Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu bod y bygythiad byd-eang sy’n deillio o COVID-19  wedi dod i ben. (...) Y peth gwaethaf y gallai unrhyw wlad ei wneud nawr yw defnyddio'r newyddion hyn fel rheswm i beidio â bod yn wyliadwrus, i ddatgymalu'r systemau y mae wedi'u hadeiladu, neu anfon y neges at ei phobl nad oes angen poeni o gwbwl am COVID-19. Beth mae'r newyddion hyn yn ei olygu yw ei bod hi'n bryd i wledydd symud o'r modd argyfwng i’r modd rheoli COVID-19 ochr yn ochr â chlefydau heintus eraill".

Y Gweinidog Iechyd yn rhoi’r diweddaraf i Aelodau’r Senedd ynghylch COVID-19

20 Medi 2022

Y Gweinidog Iechyd yn gwneud datganiad ynghylch COVID-19. Dywedodd “Er ein bod mewn sefyllfa sefydlog ar hyn o bryd, rydym ni'n gwybod bod gan firysau tymhorol a COVID-19 y potensial i ychwanegu'n sylweddol at bwysau'r gaeaf sydd yn wynebu'r GIG. (… ) Mae brechu'n parhau i gynnig yr amddiffyniad gorau rhag COVID-19 a'r ffliw, ac mae ein rhaglen frechu anadlol dros y gaeaf, a lansiwyd ar 1 Medi, yn cyfuno'r rhaglenni brechu COVID-19 a'r ffliw eleni i sicrhau'r nifer fwyaf o bobl sy'n manteisio ar y ddau frechlyn. (…) Y gaeaf hwn, byddwn yn cryfhau ein system wyliadwriaeth er mwyn adnabod unrhyw waethygiad yn y sefyllfa o ganlyniad i amrywiolion newydd sy'n peri pryder a firysau anadlol eraill.”

Diwedd ar brofion llif unffordd am ddim

29 Gorffennaf 2022

Y Gweinidog Iechyd yn cadarnhau y bydd darparu profion llif unffordd am ddim i aelodau'r cyhoedd sydd â symptomau COVID-19 yn dod i ben o 1 Awst. “Mae hyn yn cyd-fynd â’n cynllun pontio hirdymor COVID-19 Cymru o bandemig i endemig, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth. Mae hefyd yn sicrhau ein bod yn diogelu adnoddau ar gyfer tonnau posibl yn y dyfodol yn ystod yr hydref/gaeaf a allai, ochr yn ochr â thywydd oerach a firysau anadlol eraill, ddarparu heriau a risgiau ychwanegol.”

Cyhoeddi cynlluniau brechu ar gyfer y gaeaf

15 Gorffennaf 2022

Cyhoeddi strategaeth brechu anadlol Llywodraeth Cymru ar gyfer gaeaf 2022-2023, gan nodi cynlluniau i amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed rhag COVID-19 a’r ffliw.

Ymchwiliad i COVID-19 y DU yn dechrau

28 Mehefin 2022

Mae cylch gorchwyl ymchwiliad COVID-19 y DU wedi’i gychoeddi a bydd yr ymchwiliad yn dechrau ar ei waith yn swyddogol. Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, “Rwy’n credu bod y cylch gorchwyl yn awr yn sicrhau y bydd yr ymchwiliad yn ystyried y camau a gymerwyd yng Nghymru a’r cydberthynas rhwng y rhain a’r penderfyniadau a wnaed ar draws y DU”.

Ymestyn profion COVID-19 yng Nghymru

24 Mehefin 2022

Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd y bydd profion llif unffordd ar gael, am ddim, i bobl â symptomau COVID-19 tan 31 Gorffennaf 2022 yn dilyn cynnydd mewn achosion o COVID-19 drwy’r DU.

Y cyfyngiadau COVID-19 olaf yng Nghymru yn dod i ben

27 Mai 2022

Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi, o ddydd Llun 30 Mai, y bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn dod i ben. Mae hyn yn cwblhau’r broses raddol o lacio cyfyngiadau cyfreithiol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pobl i wisgo gorchuddion wyneb yn y lleoliadau hyn, a hynny i amddiffyn staff a phobl sy'n agored i niwed. Dywedodd y Prif Weinidog “Nid yw’r pandemig ar ben, ond mae’r sefyllfa iechyd y cyhoedd ar hyn o bryd yn cyd-fynd â sefyllfa COVID Sefydlog fel y nodwyd yn ein cynllun Gyda'n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel. (…) Rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus o’r bygythiad yn sgil amrywiolion newydd ac amrywiolion sy’n dod i’r amlwg, a byddwn yn barod i ymateb os gwelwn ledaeniad cyflym o’r feirws sy’n achosi niwed helaeth.”

Cyngor dros dro ar frechlynnau COVID-19 yr hydref

19 Mai 2022

Mae’r Cydbwyllgor Imiwneiddio a Brechu yn cyhoeddi cyngor dros dro ynghylch rhaglen frechu COVID-19 hydref 2022. Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi derbyn y cyngor hwn. Mae'r Cydbwyllgor yn argymell bod un dos o'r brechlyn yn cael ei gynnig i’r canlynol: preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn; gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen; pobl 65 oed a throsodd; oedolion 16 i 65 oed mewn grŵp risg clinigol. 

Gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal yn parhau am y tro

6 Mai 2022

Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi, yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau, y bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau am dair wythnos arall. “Mae cyfraddau achosion Covid yn parhau i fod yn uchel, felly bydd cadw’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal yn helpu i ddiogelu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, staff ac ymwelwyr.”

Adolygu'r cyfyngiadau sy'n parhau

13 Ebrill 2022

Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau’r coronafeirws, mae'r Prif Weinidog yn cadarnhau na fydd angen i fusnesau/sefydliadau gynnal asesiadau risg penodol mwyach mewn perthynas â’r coronafeirws. Ystyrir nad oes angen i awdurdodau lleol fod â’r pŵer i gau neu reoli mangreoedd/digwyddiadau mwyach; bydd y Rheoliadau perthnasol yn dod i ben ar 18 Ebrill. Am y tro, rhaid parhau i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Newidiadau i brofion mewn cartrefi gofal

28 Mawrth 2022

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amserlen sy’n dangos y newidiadau yn nhrefniadau Profi, Olrhain, Diogelu Cymru. Daw’r profion asymptomatig rheolaidd i’r cyhoedd i ben yng Nghymru ar 31 Mawrth 2022. Gweler erthygl Ymchwil y Senedd Newidiadau i brofion COVID-19 i gael rhagor o wybodaeth. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi Cynllun pontio gofal cymdeithasol, sy'n nodi newidiadau i fesurau atal a rheoli heintiau mewn cartrefi gofal.

Cyfyngiadau yn parhau i gael eu llacio

25 Mawrth 2022

Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau’r coronafeirws, mae'r Prif Weinidog yn cadarnhau y bydd y mesurau dan sylw yn parhau i gael eu llacio. Fodd bynnag, yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion a phwysau cynyddol ar y GIG, bydd y newid hwn yn cael ei roi ar waith mewn modd mwy pwyllog na’r hyn a nodwyd yn flaenorol. O 28 Mawrth ymlaen, ni fydd angen defnyddio gorchuddion wyneb mwyach yn ôl y gyfraith mewn lleoliadau manwerthu ac ar drafnidiaeth gyhoeddus (er y bydd cyngor a ddarperir o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i argymell eu defnyddio). Bydd y gofyniad i hunanynysu hefyd yn dod yn ganllaw yn hytrach na gofyniad cyfreithiol. Bydd y taliad hunanynysu o £500 yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin. Bydd dau ofyniad cyfreithiol pwysig yn parhau: bydd yn rhaid gwisgo gorchuddion wyneb o hyd mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, a bydd yn rhaid i fusnesau barhau i gynnal asesiadau risg mewn perthynas â’r coronafeirws.

Ymchwiliad cyhoeddus COVID-19 ledled y DU: cylch gorchwyl

10 Mawrth 2022

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cylch gorchwyl drafft ar gyfer yr ymchwiliad cyhoeddus i bandemig COVID-19 ledled y DU.  Dywedodd y Prif Weinidog: “Cyn iddo gael ei gyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sylwadau ar y cyd i Brif Weinidog y DU i sicrhau y bydd profiadau pobl Cymru’n cael eu hystyried yn briodol ac yn drylwyr yn yr ymchwiliad ac y bydd tîm yr ymchwiliad yn craffu’n briodol ar y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’r gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru.”

Newidiadau i’r gyfundrefn brofi

8 Mawrth 2022

Mewn datganiad yn y Cyfarfod Llawn, mae’r Gweinidog Iechyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am newidiadau i’r gyfundrefn brofi. “Rhwng diwedd mis Mawrth a mis Mehefin, byddwn ni'n symud yn raddol mewn dull cam wrth gam o sefyllfa lle mae profion PCR a phrofion llif unffordd ar gael i bawb. Ni fydd profion PCR yn cael eu defnyddio mwyach ar gyfer profi symptomau. Yn hytrach, bydd profion llif unffordd ar gael i'w harchebu am ddim ar-lein i bobl â symptomau.”

Cynllun hirdymor ar gyfer byw gyda COVID-19

4 Mawrth 2022

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei gynllun hirdymor ar gyfer pontio o 'bandemig i endemig'. Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd ymateb Cymru i’r coronafeirws yn newid o dan ddau senario cynllunio craidd – ‘Covid Sefydlog’ a ‘Covid Brys’. Disgwylir mai ‘Covid Sefydlog’ fydd y senario fwyaf tebygol.

Newid i’r rheoliadau ynghylch gorchuddion wyneb

28 Chwefror 2022

Bydd y gofyniad cyfreithiol yng Nghymru i wisgo gorchuddion wyneb mewn llawer o fannau cyhoeddus dan do yn dod i ben heddiw. Bydd yn parhau i fod yn ofynnol gwisgo gorchudd wyneb mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal.

Strategaeth frechu wedi'i diweddaru

24 Chwefror 2022

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei strategaeth frechu COVID-19 wedi’i diweddaru.

Cynllun Lloegr ar gyfer byw gyda COVID-19

21 Chwefror 2022

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei chynllun ar gyfer byw gyda COVID-19. Caiff pob un o’r cyfyngiadau domestig sy’n weddill yn Lloegr ei ddileu ar 24 Chwefror 2022. Mae’r gofyniad cyfreithiol i hunanynysu ac olrhain cysylltiadau arferol yn dod i ben. O ddechrau mis Ebrill, bydd Llywodraeth y DU yn dod â phrofion symptomatig ac asymptomatig am ddim i’r cyhoedd i ben. Brechlynnau fydd y llinell amddiffyn gyntaf yn erbyn Covid-19 o hyd.

Dim angen Pàs COVID domestig mwyach

17 Chwefror 2022

Mae’r gofyniad cyfreithiol i ddangos Pàs COVID i fynd i leoliadau a digwyddiadau penodol yng Nghymru bellach wedi wedi cael ei godi. “Bydd y Pàs COVID rhyngwladol yn dal i fod yn rhan bwysig o’r trefniadau ar gyfer gwneud teithiau rhyngwladol yn ddiogel. Dylai teithwyr edrych beth yw rheolau’r wlad y maen nhw am fynd iddi, gan gynnwys edrych a oes trefniadau gwahanol ar gyfer plant.”

Brechlyn i blant 5 i 11 oed

15 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd yn cadarnhau ei bod hi wedi derbyn cyngor diweddaraf y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu y dylid cynnig brechiad COVID-19 i bob plentyn rhwng 5 ac 11 oed. Dywedodd y Gweinidog “Byddwn yn annog pob teulu sydd â phlant rhwng pump ac 11 oed, nad ydynt mewn unrhyw grwpiau risg glinigol, i fynd i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael gwybodaeth am frechu ac i ddechrau sgwrs ynghylch a ydynt eisiau manteisio ar y cynnig hwn”.

Cyffur gwrthfeirysol newydd ar gyfer y rhai sydd fwyaf agored i niwed

14 Chwefror 2022

Caiff meddyginiaeth wrthfeirysol newydd ei gynnig i bobl sydd fwyaf agored i’r risg o fynd yn ddifrifol wael os cânt brawf bositif am COVID-19. Bydd modd i’r driniaeth gyfunol newydd, sef nirmatrelvir/ritonavir (Paxlovid), gael ei gymryd gartref.

Pasys COVID a rheolau gorchuddion wyneb i newid

11 Chwefror 2022

Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o'r cyfyngiadau coronafeirws, mae'r Prif Weinidog yn cadarnhau y bydd rhai newidiadau. O 18 Chwefror, ni fydd angen y Pàs Covid domestig ar gyfer digwyddiadau mawr a chlybiau nos, sinemâu a theatrau. O 28 Chwefror, ni fydd yn ofynnol i oedolion a phlant 11 oed a hŷn wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoedd dan do, ac eithrio lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, siopau a thrafnidiaeth gyhoeddus. “Bydd ein canllawiau yn parhau i argymell y dylid gwisgo gorchuddion wyneb.” 

Lefel rhybudd 0

28 Ionawr 2022

Ar y dyddiad hwn, bydd Cymru yn cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd 0. Mae rhai mesurau yn parhau i fod ar waith, gan gynnwys gorchuddion wyneb gorfodol yn y mwyafrif o fannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae canllawiau manwl ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yma. Dywedodd y Prif Weinidog “Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf yn cael ei gynnal erbyn 10 Chwefror, pan fydd holl fesurau lefel rhybudd sero yn cael eu hadolygu”.

Heintiau COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty

26 Ionawr 2022

Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi cyllid o fwy na £4.5 miliwn i ymchwilio i achosion o heintiau COVID-19 a gafwyd mewn ysbytai yng Nghymru a dysgu oddi wrthynt. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi fframwaith cenedlaethol i’w ddefnyddio gan fyrddau iechyd.

Cyfnod hunanynysu wedi'i leihau

25 Ionawr 2022

O 28 Ionawr 2022, bydd pobl sy'n cael prawf COVID-19 positif yn gallu rhoi’r gorau i hunanynysu ar ôl pum diwrnod llawn, yn amodol ar ddau brawf llif unffordd negatif. Dywedodd y Gweinidog Iechyd, “Bydd cyfnod hunanynysu byrrach yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a busnesau drwy leihau’r pwysau ar y gweithlu o ganlyniad i absenoldebau staff cysylltiedig â COVID”. Bydd y cymorth ariannol drwy’r Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu yn dychwelyd i’r gyfradd wreiddiol o £500 i gydnabod y cyfnod hunanynysu byrrach.

Newidiadau i’r cyngor ynghylch teithio rhyngwladol

25 Ionawr 2022

Mae Llywodraeth Cymru yn newid ei chyngor ynghylch teithio rhyngwladol, ac ni fydd mwyach yn cynghori pobl mai dim ond ar gyfer teithiau hanfodol y dylent deithio dramor. “Yn hytrach, rydym yn gofyn i bawb sy’n ystyried trefnu gwyliau dramor feddwl am eu hamgylchiadau personol a theuluol ac am ffyrdd o ddiogelu ei gilydd os byddant yn penderfynu teithio dramor eleni. Rydym yn annog pawb sy’n agored i niwed i gymryd camau ychwanegol i ddiogelu eu hunain.” Bydd y gofynion o ran profion i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru o 11 Chwefror 2022 ymlaen yn newid hefyd.

Parhau i lacio cyfyngiadau COVID yn raddol

21 Ionawr 2022

Cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd Cymru yn parhau i symud yn ôl yn raddol i lefel rhybudd 0 ar sail data iechyd y cyhoedd a gostyngiadau yn nifer y cleifion COVID-19 mewn ysbytai,. “Heddiw, (21 Ionawr), byddwn yn symud i lefel rhybudd sero ar gyfer pob gweithgaredd awyr agored. O ddydd Gwener nesaf, 28 Ionawr, byddwn yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero, oni bai fod y sefyllfa iechyd gyhoeddus yn gwaethygu”.

Cynllun i lacio cyfyngiadau yng Nghymru

14 Ionawr 2022

Cyhoeddodd y Prif Weinidog ddull graddol o lacio mesurau rhybudd lefel 2. O 15 Ionawr, gall hyd at 500 o bobl fod yn bresennol mewn digwyddiad awyr agored. Os bydd yr amodau’n caniatáu, o 21 Ionawr bydd pob gweithgaredd awyr agored yn newid i lefel rhybudd 0, ac o 28 Ionawr bydd pob gweithgaredd dan do a phob mangre yn symud i lefel rhybudd 0. Bydd y rheolau hunanynysu ar gyfer pobl sy'n cael canlyniad positif am COVID ac ar gyfer gwisgo masgiau yn y mwyafrif o leoedd cyhoeddus dan do yn parhau i fod ar waith ar ôl 28 Ionawr. Bydd y cylch adolygu 3 wythnos yn cael ei ailgyflwyno ar 10 Chwefror, pan fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r holl fesurau sy’n weddill.

Cymru yn parhau ar lefel rhybudd 2

7 Ionawr 2022

Yn dilyn yr adolygiad wythnosol diweddaraf o reoliadau’r coronafeirws, cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd 2, gyda’r mesurau presennol ar waith am y tro.

Newidiadau o ran teithio rhyngwladol – profi

5 Ionawr 2022

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, yn unol â’r penderfyniadau a wneir yn rhannau eraill y DU, ei bod wedi cytuno “yn anfoddog” i ddileu’r gofynion i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn a phobl dan 18 oed wneud prawf cyn ymadael a phrawf PCR diwrnod 2 pan fyddant yn cyrraedd y DU (gellir cymryd prawf llif unffordd yn lle hynny ar ddiwrnod 2). Mae’r gofynion ar gyfer teithwyr sydd heb eu brechu yn aros yr un fath.

Blaenoriaethu profion PCR

5 Ionawr 2022

Cyhoeddwyd newidiadau i brofion PCR, gyda'r nod o leihau pwysau ar y system a chynyddu mynediad i'r rhai sydd â symptomau:

  1. Dylai pobl sydd heb eu brechu ac sydd wedi’u nodi fel cyswllt i achosion positif wneud prawf llif unffordd ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth yn hytrach na phrawf PCR ystod y cyfnod o hunanynysu.
  2. Ni chynghorir pobl asymptomatig sy'n cael prawf llif unffordd positif i gael prawf PCR dilynol i gadarnhau'r canlyniad, oni bai eu bod mewn grŵp sy'n agored i niwed yn glinigol.

Gweler canllawiau Llywodraeth Cymru ar brofi a hunanynysu i gael rhagor o wybodaeth.

Newidiadau i'r cyfnod hunanynysu

30 Rhagfyr 2021

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y byddai’r cyfnod ynysu 10 diwrnod yn cael ei leihau i saith diwrnod, yn seiliedig ar gyngor gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA). Cafodd ei roi mewn grym ar 31 Rhagfyr 2021. Rhaid i bobl sydd wedi cael prawf positif hunanynysu am saith diwrnod, a chymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnod 6 a phrawf arall 24 awr yn ddiweddarach.

Newidiadau i’r rheolau hunanynysu ar gyfer cysylltiadau agos pobl sydd wedi cael prawf positif

23 Rhagfyr 2021

Cyhoeddwyd newidiadau i’r gofynion hunanynysu ar gyfer pobl sydd wedi dod i gysylltiad agos ag achosion COVID-19 positif. Ni fydd angen i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn, plant 5-18 oed a’r rheini sy’n cymryd rhan mewn treial brechlyn clinigol a nodwyd fel cyswllt agos ag achos positif o COVID-19 ynysu. Yn lle hynny, dylent gymryd profion llif unffordd am 7 diwrnod rhag ofn.

Mae’r cyngor i blant dan 5 oed, ac ar gyfer cysylltiadau heb eu brechu yn aros yr un fath.

Cymorth brys i fusnesau

23 Rhagfyr 2021

Nododd Gweinidog Economi Cymru fanylion pellach am becyn cymorth gwerth £120 miliwn ar gyfer y sectorau y mae symud i lefel rhybudd 2 wedi effeithio arnynt, gan gynnwys digwyddiadau, clybiau nos, lletygarwch, hamdden, busnesau twristiaeth a manwerthu.  

Cymru yn symud i lefel rhybudd 2

22 Rhagfyr 2021

Cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai Cymru yn symud i lefel rhybudd 2 ar ŵyl San Steffan. Mae’r mesurau yn cynnwys:

  • Gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr ym mhob lleoliad sydd ar agor i’r cyhoedd ac ym mhob gweithle.
  • Bydd y 'rheol chwe pherson' yn berthnasol i leoliadau fel lletygarwch, sinemâu a theatrau.
  • Bydd angen i bob lleoliad trwyddedig gymryd mesurau ychwanegol i ddiogelu cwsmeriaid a staff, gan gynnwys gwasanaeth gweini wrth y bwrdd a chasglu manylion cyswllt.
  • Bydd gorchuddion wyneb yn ofynnol mewn lleoliadau lletygarwch bob amser heblaw pan fo pobl yn eistedd.
  • Ni fydd digwyddiadau mawr yn cael eu caniatáu o dan do nac yn yr awyr agored. Y nifer mwyaf o bobl a fydd yn cael ymgynnull mewn digwyddiad o dan do fydd 30 a 50 yn yr awyr agored.

Bydd eithriad ar gyfer chwaraeon tîm - caiff hyd at 50 o wylwyr ymgynnull yn yr awyr agored, yn ychwanegol at y rhai sy'n cymryd rhan. Mae eithriad hefyd ar gyfer digwyddiadau sy’n cynnwys plant a phobl ifanc o dan 18 oed.

Y wybodaeth ddiweddaraf am frechu – plant a phobl ifanc

22 Rhagfyr 2021

Cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) gyngor brechu newydd ar gyfer plant a phobl ifanc, gan gynnwys brechlynnau ar gyfer plant rhwng 5 ac 11 oed mewn grwpiau risg, dosau atgyfnerthu ar gyfer pobl ifanc 16-17 oed, a dosau atgyfnerthu ar gyfer pobl ifanc 12-15 oed yr ystyrir eu bod mewn perygl. Dywedodd y Gweinidog Iechyd y byddai GIG Cymru yn nodi plant cymwys 5 i 11 oed ac yn dechrau cynnig apwyntiadau yn y flwyddyn newydd. Bydd pobl ifanc o dan 18 oed yn cael apwyntiad pan fyddant yn dod yn gymwys.

Cynnal digwyddiadau chwaraeon y tu ôl i ddrysau caeedig

20 Rhagfyr 2021

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi fesurau newydd ar gyfer digwyddiadau chwaraeon dan do ac awyr agored, mewn ymateb i gynnydd pellach mewn achosion Omicron. Cadarnhaodd hefyd y byddai Cronfa Diogelu Chwaraeon Gwylwyr gwerth £3 miliwn ar gael i gefnogi clybiau a lleoliadau chwaraeon y mae'r mesurau yn effeithio arnynt. 

Adroddiadau’r Grŵp Cynghori ar COVID-19 a Phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

16 Rhagfyr 2021

Mae adroddiad cryno Grŵp Cynghori’r Prif Weinidog ar COVID-19 a Phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol: adroddiad cryno wedi’i gyhoeddi. Sefydlwyd y Grŵp Cynghori ym mis Ebrill 2020 mewn ymateb i dystiolaeth gynyddol o effaith anghymesur COVID-19 ar leiafrifoedd ethnig. Mae adroddiadau hefyd wedi’u cyhoeddi gan Is-grŵp economaidd-gymdeithasol ac is-grŵp asesu risg y Grŵp Cynghori.  

Cyngor i “gadw Cymru'n ddiogel” dros y Nadolig

16 Rhagfyr 2021

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru “ganllawiau cryf” ar gyfer cyfnod y Nadolig, cyn y daw’r cyfyngiadau newydd i rym ar ŵyl San Steffan. Mae'r canllawiau’n gofyn i bobl gael eu brechu, defnyddio profion llif unffordd cyn mynd allan, a gadael amser rhwng digwyddiadau cymdeithasol, ac mae’n ailadrodd negeseuon cyhoeddus am gwrdd yn yr awyr agored, cadw pellter cymdeithasol, gwisgo mygydau a golchi dwylo.  

Teithio rhyngwladol – newidiadau i’r rhestr goch

14 Rhagfyr 2021

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, yn unol â’r penderfyniadau a wneir yn rhannau eraill y DU, ei bod wedi cytuno i dynnu pob un o’r 11 gwlad sydd ar y rhestr goch o’r rhestr honno. Ychwanegwyd y gwledydd hyn at y rhestr yn sgil lledaeniad yr amrywiolyn Omicron. “Dair wythnos yn unig ar ôl iddo ddod i sylw Sefydliad Iechyd y Byd, mae omicron wedi lledaenu o gwmpas y byd, ac mae bellach wedi hen gyrraedd y DU”. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori pobl i beidio â theithio dramor oni bai bod hynny’n hanfodol.

Cyflwyno’r brechiad atgyfnerthu yn gyflymach

13 Rhagfyr 2021

Eglurodd y Prif Weinidog nod Cymru i gynnig apwyntiad i bob oedolyn cymwys am frechiad atgyfnerthu erbyn diwedd y flwyddyn.

Lefel rhybudd COVID-19 y DU yn codi i lefel 4

12 Rhagfyr 2021

Yn dilyn cynnydd cyflym yn nifer yr achosion o Omicron, mae'r Prif Swyddogion Meddygol yn y DU wedi argymell y dylid codi lefel rhybudd COVID-19 y DU o lefel 3 i lefel 4. Mae lefel rhybudd 4 y DU yn golygu bod COVID-19 yn mynd ar led yn gyffredinol, bod lefel y trosglwyddiad yn uchel, a bod pwysau uniongyrchol sylweddol neu gynyddol ar wasanaethau gofal iechyd yn gyffredinol. Mae lefel rhybudd y DU yn disgrifio bygythiad y feirws yn hytrach na lefel y cyfyngiadau sydd eu hangen. Mae system lefelau rhybudd ar wahân ar gyfer cyfyngiadau yng Nghymru.

Omicron yn “ddatblygiad sy’n peri pryder”

10 Rhagfyr 2021

Yn yr adolygiad diweddaraf o rheoliadau cyfyngiadau’r coronafeirws, dywed y Prif Weinidog fod amrywiolyn newydd Omicron yn “ddatblygiad sy’n peri pryder”, gan nodi bod “rhaid inni fod yn barod i weld achosion yn cynyddu’n gyflym iawn”. Dywedodd mai “Brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau. Rydym wedi ehangu’r rhaglen frechu, yn unol â’r cyngor diweddaraf gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a byddwn yn cynnig brechlyn atgyfnerthu i bawb dros 18 oed sy’n gymwys erbyn diwedd mis Ionawr”. Bydd Cymru yn aros ar lefel rhybudd 0, ond cyngor Llywodraeth Cymru bellach yw y dylai pobl gael prawf llif unffordd cyn mynd allan, ymweld â’u ffrindiau a’u teulu, neu deithio, a dylen nhw wisgo gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus, gan gynnwys yn y sinema a’r theatr, ac mewn tafarndai a bwytai, ac eithrio pan fyddan nhw’n bwyta neu’n yfed. Mae’r canllawiau diweddaraf ar ddefnyddio gorchuddion wyneb a lle mae’n ofyniad cyfreithiol eu gwisgo ar gael yma.

Profion i ganfod Omicron

9 Rhagfyr 2021

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd gynlluniau i gynyddu’r gallu i brofi er mwyn canfod achosion o amrywiolyn Omicron yng Nghymru.

Defnyddio therapïau COVID yng Nghymru

8 Rhagfyr 2021

Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd treial ar draws y DU yn ymchwilio i fanteision y feddyginiaeth wrthfeirysol molnwpirafir mewn pobl sy’n wynebu risg yn sgil COVID-19, cafwyd diweddariad gan y Gweinidog Iechyd ar fynediad at feddyginiaethau ar gyfer trin COVID-19 yng Nghymru.

Brechiad atgyfnerthu i bob oedolyn

7 Rhagfyr 2021

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru y bydd brechiad atgyfnerthu yn cael ei gynnig i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Ionawr.

Newidiadau o ran teithio rhyngwladol

5 Rhagfyr 2021

Cadarnhaodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, y byddai Nigeria yn mynd ar y rhestr goch ar gyfer teithio o 6 Rhagfyr 2021. Hefyd, cafodd gofyniad prawf 48 awr cyn gadael ei ailgyflwyno ar gyfer pob teithiwr. Mae camau tebyg yn cael eu cymryd ledled y DU.

Achos cyntaf o Omicron yng Nghymru

3 Rhagfyr 2021

Cadarnhawyd achos o amrywiolyn Omicron yng Nghymru. Mae'r achos, a ganfuwyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn gysylltiedig â theithio rhyngwladol.

Omicron - gorchuddion wyneb mewn ysgolion

29 Tachwedd 2021

Mewn ymateb i bryderon am yr amrywiolyn Omicron, cyhoeddodd Gweinidog Addysg Cymru y dylai’r holl staff a’r holl ddysgwr mewn ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion wisgo gorchuddion wyneb bellach tra byddant dan do lle na ellir cadw pellter corfforol. “Mesur rhagofalus dros dro yw hwn a fydd ar waith ar gyfer yr wythnosau o’r tymor sy'n weddill ac ar yr adeg honno bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu”.

Newidiadau o ran teithio rhyngwladol - mwy o brofion

29 Tachwedd 2021

Er mwyn helpu i atal amrywiolyn newydd Omicron rhag lledaenu, cytunodd y Gweinidog Iechyd byddai angen o 30 Tachwedd 2021 i bob teithiwr a frechwyd yn llawn sy’n cyrraedd Cymru, gan gynnwys teithwyr dan 18 oed, hunanynysu a chael prawf PCR ar ddiwrnod 2 neu cyn hynny. “Rydym hefyd yn ystyried a fydd angen prawf PCR ar ddiwrnod 8”. Gallant roi’r gorau i hunanynysu unwaith y byddant wedi cael canlyniad prawf negyddol. Yn achos teithwyr sydd heb gael eu brechu ac sy'n dychwelyd o wledydd nad ydynt ar y rhestr goch, mae’r gofyniad i gael prawf PCR ar ddiwrnodau 2 ac 8 ac i hunanynysu am 10 diwrnod yn aros yn ddigyfnewid. Bydd rheolau tebyg yn berthnasol ym mhob rhan o'r DU. Mae'r Gweinidog wedi ailbwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori pobl i beidio â theithio dramor oni bai bod hynny’n hanfodol.

Amrywiolyn Omicron – pedair gwlad arall yn ne Affrica yn cael eu hychwanegu i'r rhestr deithio goch

27 Tachwedd 2021

Angola, Malawi, Mozambique a Zambia hefyd â chysylltiad ag amrywiolyn Omicron (B.1.1.529) ac yn symud i'r rhestr goch o 28 Tachwedd 2021. 

Yr achosion cyntaf o amrywiolyn Omicron yn ymddangos yn y DU

27 Tachwedd 2021

Mae dau achos o amrywiolyn B.1.1.529 (Omicron) wedi eu canfod yn y DU. Ar 25 Tachwedd 2021, cafodd B.1.1.529 ei ddynodi gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) i fod yn amrywiolyn sy’n destun ymchwiliad. Ar 27 Tachwedd 2021, fe'i dynodwyd yn amrywiolyn pryder ar 27 Tachwedd 2021.sy’n destun pryder.

Newidiadau i reolau teithio rhyngwladol mewn ymateb i amrywiolyn newydd Omicron

26 Tachwedd 2021

Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi y bydd chwe gwlad yn ne Affrica yn symud i'r rhestr goch o heddiw ymlaen ar ôl achosion yno o amrywiolyn coronafeirws newydd B.1.1.529 (Omicron). Ni chaniateir i deithwyr o Botswana, Eswatini, Lesotho, Namibia, De Affrica na Zimbabwe ddod i Gymru, ond yn hytrach rhaid iddynt gyrraedd drwy borthladd mynediad yn Lloegr neu'r Alban a mynd i gyfleuster cwarantin rheoledig am 10 diwrnod. Rhaid iddynt hefyd wneud prawf PCR ar ôl cyrraedd ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8. Mae camau tebyg yn cael eu cymryd ar draws y DU.

Cymru yn parhau i fod ar lefel rhybudd sero

18 Tachwedd 2021

Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o reoliadau’r coronafeirws, cyhoeddodd y Prif Weinidog  y bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero. Dywedodd “Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu Cymru a’i chadw ar agor. Mae hyn yn golygu cadw’r opsiwn i ymestyn y defnydd o’r Pàs COVID mewn lleoliadau lletygarwch y gaeaf hwn, os bydd nifer yr achosion, a’r pwysau ar y GIG, yn cynyddu”.

Cyngor ynghylch brechlynnau ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed ac ymestyn y rhaglen pigiadau atgyfnerthu

15 Tachwedd 2021

Y Gweinidog Iechyd yn rhoi diweddariad ar gyhoeddiadau gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Mae’r Cydbwyllgor wedi cynghori y dylid cynnig ail ddos o frechlyn COVID-19 i bobl ifanc 16-17 oed nad ydyn nhw mewn grŵp 'risg'. Cynghorwyd y dylid hefyd cynnig brechlyn atgyfnerthu COVID-19 i bobl 40-49 oed, os oes 6 mis neu ragor wedi pasio ers eu hail ddos.

Pasys COVID ar gyfer sinemâu a theatrau

15 Tachwedd 2021

O heddiw ymlaen, bydd angen pasys COVID y GIG i fynd i mewn i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru. Dyma wybodaeth ar sut i gael eich Pàs COVID y GIG.

Y Senedd yn pleidleisio i ymestyn y defnydd o basys COVID

9 Tachwedd 2021

Gwnaeth Aelodau o’r Senedd gymeradwyo ymestyn Pàs COVID y GIG i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru o ddydd Llun 15 Tachwedd ymlaen.

Newidiadau i deithio rhyngwladol – Brechlynnau 'Defnydd Brys' Sefydliad Iechyd y Byd

8 Tachwedd 2021

Y Gweinidog Iechyd sy’n cyhoeddi yn unol â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud yng ngweddill y DU, y bydd angen i bobl a gafodd frechlynnau â statws rhestru Defnydd Brys Sefydliad Iechyd y Byd mewn gwlad sy'n rhoi tystysgrifau brechlyn cydnabyddedig gymryd prawf ail ddiwrnod yn unig (gall hynny fod yn prawf llif unffordd) ar ôl iddyn nhw gyrraedd Cymru. Y brechlynnau sydd â statws rhestru Defnydd Brys Sefydliad Iechyd y Byd ar hyn o bryd yw Sinopharm, Sinovax a Covaxin. Daw’r newidiadau hyn y rym ar 22 Tachwedd 2021.

Parhau ar lefel rhybudd 0 ond rhai mesurau cryfach

29 Hydref 2021

Yn dilyn yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o reoliadau cyfyngiadau’r coronafeirws, cyhoeddodd y Prif Weinidog  y bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero, ond gyda rhai mesurau cryfach. Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau i'r canllawiau hunanynysu o 29 Hydref 2021 - gofynnir i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn a phlant a phobl ifanc rhwng pump a 17 oed hunanynysu os oes gan rywun ar eu haelwyd symptomau neu ganlyniad prawf positif am COVID-19 nes eu bod wedi cael canlyniad prawf PCR negatif. Bydd yn rhaid i bobl nad ydynt wedi cael eu brechu hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl dod i gyswllt â rhywun sydd wedi profi'n bositif. O 15 Tachwedd 2021, bydd yn ofynnol i gael pàs COVID y GIG i gael mynediad i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.

Newidiadau o ran teithio rhyngwladol

28 Hydref 2021

Yn unol â newidiadau mewn rhannau eraill o'r DU, mae’r Gweinidog Iechyd yn cytuno i ddileu'r saith gwlad sydd ar ôl o'r rhestr goch ar gyfer teithio rhyngwladol, ac yn ychwanegu 35 o wledydd ychwanegol at y rhestr o wledydd yr ydym yn cydnabod eu brechiadau a’u hardystiadau ar gyfer teithio rhyngwladol. Mae'r newidiadau hyn yn gymwys o 1 Tachwedd 2021 ymlaen.

Newidiadau i'r trefniadau profi ar gyfer teithio rhyngwladol

22 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd yn cadarnhau, yn unol â newidiadau sy’n cael eu gwneud yng ngweddill y DU, y bydd pob oedolyn yng Nghymru sydd wedi'u brechu'n llawn, a'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc dan 18 oed sydd wedi teithio o wledydd nad ydynt ar y rhestr goch, yn gallu cymryd prawf llif unffordd (yn lle’r gofyniad presennol i gymryd prawf PCR) ar ddiwrnod 2, neu cyn hynny, ar ôl iddynt gyrraedd y DU. Daw'r newidiadau i rym yng Nghymru ar 31 Hydref 2021. Dywed y Gweinidog “rwyf wedi penderfynu'n gyndyn am resymau ymarferol mai cyd-fynd yn agos â threfniadau Llywodraeth y DU yw'r opsiwn mwyaf addas. Rydym yn parhau i annog pobl i deithio am resymau hanfodol yn unig”.

Cynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

21 Hydref 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol 2021 i 2022, gan nodi sut y mae'n bwriadu bodloni gofynion iechyd a gofal dros fisoedd y gaeaf. Mae cyllid ychwanegol o £ 42 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol yn cael ei gyhoeddi hefyd. Mae cynllun y gaeaf yn cyd-fynd â dogfennau eraill gan gynnwys cynllun rheoli’r coronafeirws, sy'n nodi ymateb ehangach Llywodraeth Cymru i'r pandemig.

Pobl Cymru yn cael eu heffeithio gan ganlyniadau prawf COVID-19 anghywir

15 Hydref 2021

Arweiniodd materion technegol mewn labordy yn Lloegr at roi canlyniadau PCR COVID-19 anghywir i rai pobl rhwng 8 Medi a 12 Hydref 2021. Mae’r UKHSA yn amcangyfrif ei fod yn bosibl fod canlyniadau anghywir wedi cael eu rhoi i oddeutu 4,000 o bobl Cymru y cafodd eu profion eu prosesu yn y labordy yr effeithiwyd arno. Cafodd y rhan fwyaf o’r profion hyn eu cymryd mewn safleoedd profi ar draws ardal Gwent a Chwm Taf Morgannwg. Bydd gwasanaeth Profi ac Olrhain y GIG yn cysylltu â’r rhai yr effeithiwyd arnynt ac yn eu cynghori ymhellach.

Strategaeth frechu COVID-19 wedi'i diweddaru

12 Hydref 2021

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd strategaeth frechu COVID-19 wedi'i diweddaru, a chadarnhaodd y bydd y rhan fwyaf o’r rheini sy'n gymwys yn cael cynnig eu brechiad atgyfnerthu erbyn 31 Rhagfyr 2021. Mae'r strategaeth hefyd yn cadarnhau, erbyn 1 Tachwedd 2021, y bydd cynigion yn cael eu gwneud ar gyfer un dos i bob person ifanc 12-15 oed a brechiad atgyfnerthu i breswylwyr cartrefi gofal a staff iechyd a gofal. Mae system archebu ddigidol yn cael ei datblygu i alluogi pobl i drefnu apwyntiadau ar-lein.

Angen pasys COVID i fynd i glybiau nos a digwyddiadau

11 Hydref 2021

O'r dyddiad hwn, bydd angen i bobl yng Nghymru ddangos pàs COVID y GIG i fynd i ddigwyddiadau mawr, clybiau nos a lleoliadau tebyg, i brofi eu bod wedi cael cwrs llawn y brechlyn neu wedi cael prawf negatif.

Mae Cymru ar lefel rhybudd sero o hyd.

8 Hydref 2021

Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o reoliadau cyfyngiadau’r Coronafeirws, cyhoeddodd y Prif Weinidog  y bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero am y tair wythnos nesaf. Yr unig newid sylweddol i fesurau lefel rhybudd sero yw pasys COVID gorfodol i oedolion sydd am fynd i rai lleoliadau a digwyddiadau o 11 Hydref 2021 ymlaen.

Cynllun rheoli’r coronafeirws - diweddariad

8 Hydref 2021

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi diweddariad i gynllun rheoli’r coronafeirws, , sy’n cynnwys dwy senario o ran cynllunio dros y gaeaf. Yn y senario gyntaf, sef Covid Sefydlog, bydd Cymru yn aros ar lefel rhybudd sero drwy'r hydref a'r gaeaf, a bydd busnesau i gyd yn gallu aros ar agor. Ar hyn o bryd, hon yw’r senario fwyaf tebygol. Mae'r ail senario, Covid Brys, wedi'i chynllunio i ddelio ag unrhyw newidiadau sydyn yn y sefyllfa, fel ymddangosiad amrywiolyn newydd sy'n lledaenu'n gyflym neu lefelau imiwnedd yn gostwng ymhlith y rhai sydd wedi’u brechu. Galli hynny gynyddu'r pwysau ar y GIG. 

Newidiadau o ran teithio rhyngwladol

7 Hydref 2021

Y Gweinidog Iechyd yn cytuno i dynnu rhagor o wledydd oddi ar y rhestr goch (o 11 Hydref 2021) ond mae'n pwysleisio bod risgiau ynghlwm wrth y newidiadau hyn. “Maent yn cynyddu’r cyfle i heintiadau newydd ac amrywiolion newydd, na fydd y brechlynnau’n effeithiol yn eu herbyn, gyrraedd y DU a Chymru.  Rydym yn gofyn i Lywodraeth y DU roi sicrwydd y bydd yn cynnal systemau gwyliadwriaeth cyson a chadarn sy’n gallu canfod amrywiolion peryglus yn gynnar ac y gellir gwyrdroi’r mesurau i lacio cyfyngiadau yn gyflym pe bai’r sefyllfa yn gwaethygu’n rhyngwladol”.

Y Senedd yn pleidleisio o blaid cyflwyno pasys COVID i fynd i glybiau nos a digwyddiadau mawr

5 Hydref 2021

Y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau Amddiffyn Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bobl ddangos pas COVID y GIG i fynd i mewn i sefydliadau risg uchel fel clybiau nos, a digwyddiadau mawr o 11 Hydref 2021 ymlaen.

Profion COVID-19 i blant a phobl ifanc a staff sy’n gweithio mewn darpariaeth addysg arbennig.

5 Hydref 2021

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn diwygio cyngor i ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau sydd o dan 18 oed ac sy’n byw o dan yr un to â rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19.  O 11 Hydref 2021 ymlaen, yn ogystal â chymryd prawf PCR ar Ddiwrnod 2 a Diwrnod 8, argymhellir y dylent gymryd profion llif unffordd bob dydd am saith diwrnod. Hefyd, yn dilyn cyngor gan ei grŵp cynghori ar brofion, ni fydd Llywodraeth Cymru mwyach yn argymell bod plant o dan 5 oed heb symptomau yn cael prawf COVID-19. Cyhoeddir hefyd y bydd yn ofynnol i staff sydd wedi’u brechu ac sy’n gweithio mewn darpariaeth addysg arbennig ac sy’n cael eu nodi fel cyswllt ag achos positif, ar yr aelwyd neu fel arall, yn gorfod cael prawf PCR negatif cyn mynd i’r gwaith ac yna bydd yn ofynnol iddynt gymryd profion llif unffordd bob dydd. 

Ymateb deddfwriaethol Gweinidogion Cymru i bandemig y coronafeirws

4 Hydref 2021

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad sy’n cynnwys yr holl is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru i ymateb i bandemig y coronafeirws rhwng 10 Awst 2020 a 31 Awst 2021.

Cadarnhad o newidiadau o ran teithio rhyngwladol a galwadau i gadw’r profion PCR

27 Medi 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd, yn yr un modd â gwledydd eraill y DU, yn uno'r rhestrau teithio gwyrdd ac oren ac yn dileu'r gofyniad am brawf cyn ymadael ar gyfer pobl sydd wedi cael eu brechu'n llawn. Mae'n mynegi eto ei phryder ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU i symud oddi wrth brofion PCR ar gyfer teithwyr sy'n dychwelyd ar ddiwrnod dau. “Mae rhoi gwahanol ofynion profi ar waith ym mhedair gwlad y DU yn arwain at heriau cyfathrebu a gorfodi, yn enwedig gan fod cymaint o deithwyr o Gymru’n dychwelyd i’r DU drwy borthladd neu faes awyr yn Lloegr. Yr ateb mewn gwirionedd yw cadw’r profion PCR diwrnod dau ar draws y Deyrnas Unedig. Byddwn yn dal i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i ailgyflwyno profion ar gyfer y DU gyfan, ac yn parhau i archwilio’r dystiolaeth am drefn brofi i Gymru yn unig.”

Y Prif Swyddog Meddygol yn annog menywod beichiog i gael y brechlyn COVID

18 Medi 2021

Mae'r Prif Swyddog Meddygol Cymru yn apelio  ar i fenywod beichiog dderbyn y cynnig i gael eu brechu rhag COVID-19. Mae hyn yn dilyn cynnydd yn nifer y menywod beichiog, nad ydynt wedi cael eu brechu, sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn dioddef salwch difrifol o ganlyniad i ddal COVID-19. “Gallwch gael y brechlyn COVID-19 ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd. Hoffwn annog pobl i gysylltu â’u bwrdd iechyd os nad ydyn nhw wedi manteisio ar eu cynnig. Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos mai’r brechlyn yw’r amddiffyniad gorau rhag COVID-19, ac mae gweithwyr proffesiynol meddygol yn cytuno â hynny yn llwyr.”

Pasys COVID i fynd i glybiau nos a digwyddiadau

17 Medi 2021

Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y bydd angen i oedolion yng Nghymru ddangos Pàs COVID y GIG o 11 Hydref 2021 ymlaen i fynd i glybiau nos a digwyddiadau, gan gynnwys: digwyddiadau dan do, digwyddiadau heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl; digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl; unrhyw ddigwyddiad lle bydd mwy na 10,000 o bobl yn bresennol. Bydd Pasys COVID y GIG yn cael eu defnyddio i ddangos bod person wedi'u brechu'n llawn, neu eu bod wedi cael canlyniad prawf llif ochrol negyddol yn ystod y 48 awr blaenorol.  

Newidiadau o ran teithio rhyngwladol

17 Medi 2021

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU  newidiadau o ran teithio rhyngwladol i Loegr o 4 Hydref 2021.  Bydd teithwyr sydd wedi'u brechu'n llawn ac sy'n dod o wledydd nad ydynt ar y rhestr goch yn gallu defnyddio’r profion llif ochrol rhatach ar yr ail ddiwrnod ar ôl dychwelyd yn lle’r profion PCR, ac ni fydd angen iddynt gymryd prawf cyn gadael mwyach. Mae wyth cyrchfan wedi’u tynnu oddi ar y rhestr goch, gan gynnwys Twrci a Phacistan. Cadarnhaodd Gweinidog Iechyd Cymru ei bod wedi cytuno â’r newidiadau yn y rhestr goch (a ddaw ai rym ar 22 Medi), ac y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y newidiadau arfaethedig i’r profion gofynnol: “Gan fod Cymru'n rhannu ffin agored â Lloegr, a bod y rhan fwyaf o deithwyr i Gymru yn cyrraedd drwy byrth y tu allan i Gymru, nid yw'n effeithiol cael trefniadau polisi iechyd ar y ffiniau ar wahân ar gyfer Cymru. (…) Byddwn yn ystyried yn ofalus newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i’r mesurau iechyd ar y ffiniau, sy’n cynnwys dileu’r gofyniad i gael prawf cyn ymadael a chyflwyno profion llif unffordd yn lle profion PCR ar yr ail ddiwrnod ar ôl i deithwyr ddychwelyd i’r DU.   Bydd ein hystyriaethau wedi’u seilio ar dystiolaeth gadarn a’n prif nod o hyd fydd lleihau’r risg i iechyd y cyhoedd yng Nghymru”.

Brechlyn i blant a phobl ifanc 12-15 oed

14 Medi 2021

Derbyniodd y Gweinidog Iechyd argymhelliad pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU y dylid cynnig dos cyntaf o frechlyn COVID-19 Pfizer-BioNTech i bob plentyn a pherson ifanc 12-15 oed nad ydynt wedi’u cynnwys eisoes yng nghyngor presennol y JCVI (y Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio). “Mae Swyddogion Meddygol y DU wedi penderfynu bod y manteision tebygol ychwanegol o leihau’r tarfu addysgol, a'r gostyngiad canlyniadol o ran niwed i iechyd y cyhoedd yn cynnig digon o fantais ychwanegol i argymell o blaid brechu'r grŵp oedran hwn.  Mae hyn yn ychwanegol at y fantais fach ar lefel unigol a nodwyd eisoes gan y Cyd-bwyllgor.”

Pigiadau atgyfnerthu yn yr hydref

14 Medi 2021

Derbyniodd y Gweinidog Iechyd argymhelliad y Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (y JCVI) i gynnig pigiad atgyfnerthu COVID-19 i’r rhai a oedd yn gymwys ac a gafodd eu brechu yn ystod cyfnod cyntaf rhaglen frechu COVID-19 (grwpiau blaenoriaeth 1-9). Dylid sicrhau bod chwe mis wedi mynd heibio ers eu hail ddos. Nod yr ymgyrch hon i roi pigiad atgyfnerthu yn yr hydref yw “lleihau mynychder COVID-19 ymhellach a sicrhau’r amddiffyniad gorau posibl i’r rhai sydd yn y perygl mwyaf o gael haint difrifol, a hynny cyn misoedd y gaeaf”. 

Cyllid adfer ar ôl COVID-19 ar gyfer gofal cymdeithasol

14 Medi 2021

Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol  gronfa adfer ar ôl COVID-19 gwerth £48 miliwn i helpu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dyrannwyd £40 miliwn i awdurdodau lleol i helpu’r sector gofal cymdeithasol i ymdrin â’r problemau parhaus sy’n eu hwynebu oherwydd y pandemig.   Bydd £8 miliwn arall yn ariannu nifer o flaenoriaethau penodol, gan gynnwys ymestyn y gronfa cymorth i ofalwyr; mynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith pobl hŷn; buddsoddi yn llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol a gwasanaethau preswyl ar gyfer plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Dewis ehangach o brofion COVID ar gael i deithwyr rhyngwladol

12 Medi 2021

Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd y bydd pobl sy’n dychwelyd i Gymru o dramor ar ôl 21 Medi yn gallu archebu profion PCR gan amrywiaeth ehangach o ddarparwyr. “Daw'r newid hwn wrth i safonau newydd a hapwiriadau gael eu cyflwyno, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â phryderon a materion hirsefydlog am y farchnad ar gyfer profion PCR ar gyfer pob teithiwr sy'n dychwelyd i'r DU”.

Y cyngor diweddaraf ar frechu plant rhwng 12 a 15 oed

3 Medi 2021

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn argymell ehangu'r rhestr o gyflyrau iechyd sylfaenol penodol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 12 a 15 oed y dylid cynnig brechiad COVID-19 iddynt.

Yn achos plant heb gyflyrau iechyd sylfaenol, cyngor y JCVI yw nad oes digon o dystiolaeth o fudd i gefnogi brechu pob plentyn iach rhwng 12 a 15 oed ar hyn o bryd. Mae'n nodi nad yw cylch gwaith y JCVI yn cynnwys ystyried effeithiau ehangach brechu ar gymdeithas, gan gynnwys buddion addysgol. “The government may wish to seek further views on the wider societal and educational impacts from the Chief Medical Officers of the UK 4 nations”. Y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn cadarnhau ei bod hi, ynghyd â chenhedloedd eraill y DU, wedi gofyn i Brif Swyddog Meddygol Cymru ddarparu canllawiau ‘cyn gynted â phosibl’ ar y manteision clinigol a’r manteision iechyd ehangach sy’n gysylltiedig â brechu’r grŵp oedran hwn.

Brechiadau pellach i unigolion y mae eu system imiwnedd yn ddifrifol wan

2 Medi 2021

Y Gweinidog Iechyd yn croesawu cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) y dylid cynnig trydydd 'dos cynradd' o frechlyn COVID-19 i COVID-19 i unigolion, 12 oed neu hŷn, a oedd yn imiwnoataliedig iawn ar adeg ei dos cyntaf neu ail o’r brechlyn, neu’r ddau. “Y rheswm dros hyn yw na fydd rhai unigolion sy’n ddifrifol imiwnoataliedig oherwydd cyflyrau iechyd isorweddol neu triniaethau meddygol penodol yn cyrraedd imiwnedd llawn o ganlyniad i’r ddau frechiad gyntaf o’r brechlyn COVID-19. Mae angen amddiffyniad ychwanegol ar yr unigolion hyn”.

Buddsoddiad i wella ansawdd yr aer mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion

30 Awst 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi buddsoddiad mewn technoleg i wella ansawdd aer a diheintio mewn lleoliadau addysg. “Bydd £3.31m yn cael ei ddarparu ar gyfer peiriannau diheintio oson newydd, i leihau amseroedd glanhau, gwella’r broses ddiheintio a lleihau costau. Disgwylir i'r cyllid gyflenwi mwy na 1,800 o beiriannau, o leiaf un ar gyfer pob ysgol, coleg a phrifysgol yng Nghymru”.

Cafwyd adroddiad diweddarach fod Llywodraeth Cymru yn dweud y byddai'n cymryd cyngor arbenigol cyn i unrhyw broses gaffael ddechrau.

Fframweithiau penderfyniadau rheoli heintiau ar gyfer ysgolion a cholegau

27 Awst 2021

Cyhoeddi fframweithiau penderfyniadau rheoli heintiau COVID-19 lleol ar gyfer ysgolion a cholegau. Dylai rhai mesurau craidd fod ar waith, ni waeth beth fo lefel y risg, a gellir teilwra ymyriadau eraill i adlewyrchu amgylchiadau a risgiau lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y dylid mabwysiadu’r dull hwn cyn gynted â phosibl ar ôl dechrau’r tymor, ac erbyn 20 Medi ar yr hwyraf.

Dim newidiadau i reolau COVID-19 yng Nghymru

27 Awst 2021

Yn yr adolygiad diweddaraf o reoliadau cyfyngiadau’r coronafeirws, mae’r Prif Weinidog yn cadarnhau na fydd unrhyw newidiadau sylweddol i’r rheolau yng Nghymru. Mae'n annog pobl i barhau i gymryd rhagofalon i ddiogelu eu hunain ac eraill, gan dynnu sylw at y cynnydd yn nifer yr achosion coronafeirws ledled Cymru. Gellir dod o hyd i gyngor y Prif Swyddog Meddygol ar yr adolygiad diweddaraf o'r cyfyngiadau yma. Bydd y rheoliadau yn cael eu hadolygu eto ar 16 Medi 2021.

Tynnu plant a phobl ifanc oddi ar y rhestr gwarchod cleifion

25 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd yn dweud nad yw plant a phobl ifanc bellach yn cael eu hystyried yn hynod fregus yn glinigol yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o dystiolaeth. “Er bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr gwarchod cleifion, ceir nifer bach yn y grŵp hwn o hyd a allai fod wedi’u cynghori gan eu harbenigwyr eu hunain i ynysu neu i leihau eu cysylltiadau cymdeithasol oherwydd eu cyflwr meddygol neu’r driniaeth y maent yn ei derbyn. Mewn achosion o’r fath, cynghorir plant a phobl ifanc i barhau i ddilyn cyngor eu clinigydd eu hunain”.

Rhagor o gyllid COVID-19 ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

19 Awst 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu £551 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys £411 miliwn ar gyfer costau parhaus delio â’r pandemig hyd at fis Ebrill 2022 a £140 miliwn ar gyfer adferiad a mynd i’r afael ag amseroedd aros.

Cymru yn symud i lefel rhybudd sero

5 Awst 2021

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi y bydd Cymru yn symud i'r lefel rhybudd sero newydd ar 7 Awst 2021. Ni fydd unrhyw derfynau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n cael cwrdd, gan gynnwys dan do, a bydd pob busnes yn cael agor. Bydd rhai amddiffyniadau yn parhau i fod ar waith, gan gynnwys hunan-ynysu ar gyfer pobl â symptomau COVID-19 neu sydd wedi cael canlyniad prawf positif, a bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus dan do yng Nghymru (yr eithriad nodedig yw lletygarwch). Hefyd o 7 Awst 2021, ni fydd angen i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn a phlant a phobl ifanc o dan 18 oed ynysu mwyach os cânt eu nodi fel rhywun sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun â COVID-19. Mae cyngor y Prif Swyddog Meddygol i'r Prif Weinidog ar yr adolygiad diweddaraf hwn o'r cyfyngiadau i’w weld yma.

Cynyddu’r taliad cymorth hunan-ynysu

4 Awst 2021

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans yn cyhoeddi y bydd taliad cymorth hunan-ynysu gan Lywodraeth Cymru yn cynyddu o £500 i £750 o 7 Awst 2021, i'w adolygu gan Weinidogion ymhen tri mis. Mae'r taliad yn helpu pobl y mae gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru wedi dweud wrthynt i hunan-ynysu oherwydd eu bod wedi profi'n bositif, bod ganddynt symptomau coronafirws neu eu bod yn gyswllt agos nad ydynt wedi'u brechu'n llawn.

Diweddariad ar y cyngor brechu i blant a phobl ifanc

4 Awst 2021

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn cynghori y dylid cynnig dos cychwynnol o frechlyn Pfizer-BioNTech i bob person 16 ac 17 oed nad ydynt wedi cael eu brechu. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod bellach yn gweithio gyda'r GIG ar drefniadau i gynnig y brechlyn i bob person 16 ac 17 oed yn unol â chyngor y JCVI.

Newidiadau i’r rheolau hunanynysu i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn

29 Gorffennaf 2021

Mae'r Prif Weinidog yn cadarnhau, o 7 Awst 2021, na fydd yn rhaid i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn hunanynysu mwyach os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos rhywun sydd wedi dal y coronafeirws. Bydd plant a phobl ifanc dan 18 oed hefyd wedi'u heithrio o'r angen i hunanynysu os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos rhywun sydd wedi cael canlyniad positif i brawf. O 7 Awst, bydd swyddogion olrhain cysylltiadau yn darparu gwasanaeth 'rhybuddio a hysbysu' i unigolion sydd wedi'u brechu'n llawn os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos, a fydd yn atgyfnerthu negeseuon allweddol ynghylch lleihau risg Covid-19 i eraill.

Gwahoddir plant dan 18 oed i gael eu brechliad COVID-19 cyntaf

29 Gorffennaf 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi, yn dilyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (CBIB), fod oedolion ifanc 17 a 9 mis oed a hŷn yn cael eu gwahodd i gael eu brechiad COVID-19 yng Nghymru. “Y bwriad wrth ddechrau’r broses cyn bod y bobl ifanc yn 18 oed yw sicrhau bod cynifer â phosibl ohonynt yn manteisio ar y cyfle i gael y brechlyn wrth iddynt deithio ymhellach a dod yn fwy annibynnol. Bydd llawer yn dechrau gweithio neu’n dechrau yn y brifysgol yn nhymor yr hydref”. Hefyd, yn dilyn cyngor CBIB, mae byrddau iechyd yn gweithio i nodi a gwahodd plant a phobl ifanc 12 oed a hŷn sydd mewn mwy o berygl o fod mewn cyflwr difrifol ar ôl dal COVID-19 i gael eu brechu.

Newidiadau i ofynion cwarantin i deithwyr rhyngwladol sydd wedi'u brechu

28 Gorffennaf 2021

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi, o 2 Awst 2021, y caiff teithwyr o'r UE a'r UD sydd wedi'u brechu'n llawn ymweld â'r DU heb orfod hunanynysu ar ôl cyrraedd. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai'r penderfyniad hwn hefyd yn cael ei weithredu ar gyfer Cymru. Nododd y Gweinidog Iechyd, er bod Llywodraeth Cymru yn “gresynu at” benderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu gofynion cwarantin, y “byddai'n aneffeithiol i gyflwyno trefniadau ar wahân ar gyfer Cymru” oherwydd y ffin agored â Lloegr.

Cyngor i bobl sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol

27 Gorffennaf 2021

Yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru, serch y cynnydd yn nifer achosion y coronafeirws a’r camau i lacio cyfyngiadau yng Nghymru, ni chynghorir pobl sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol i warchod eu hunain ar hyn o bryd. “Cafodd y cyngor i bobl eithriadol o agored i niwed yn glinigol i ddilyn mesurau gwarchod ei rewi ar 01 Ebrill 2021. Ers hynny, mae’r rhai ar y rhestr o gleifion a warchodir wedi’u cynghori i ddilyn yr un rheolau â dinasyddion eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, dylent gymryd gofal ychwanegol i leihau eu risg o ddod i gysylltiad â’r feirws. Fe fydd yna rai eithriadau, megis cleifion sydd wedi cael cyngor penodol gan eu clinigydd i warchod eu hunain. Mae’n debygol y byddent wedi cael cyngor o’r fath er gwaethaf y pandemig, a dylent barhau i ddilyn y cyngor personol hwnnw os cawsant eu cynghori i wneud hynny gan eu clinigydd”. Mae copi o’r llythyr a anfonwyd at bawb sydd ar y rhestr warchod ar gael yma.

Cynllun adfer gofal cymdeithasol

22 Gorffennaf 2021

Llywodraeth Cymru yn lansio ei fframwaith ar gyfer adferiad gofal cymdeithasol, gan amlinellu’r blaenoriaethau uniongyrchol a’r blaenoriaethau tymor byr ar gyfer adferiad y sector gofal cymdeithasol. Hefyd, cyhoeddodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, gamau i lacio cyfyngiadau mewn cartrefi gofal. “Er bod rhai mesurau, megis profi ymwelwyr ar gyfer ymweliadau dan do a chynnal asesiadau risg ar gyfer ymweliadau, yn parhau yn eu lle, mae cyfyngiadau eraill wedi cael eu llacio ymhellach. Nid oes bellach angen i breswylwyr ynysu pan fyddant yn dychwelyd ar ôl aros dros nos yn rhywle arall, a chaniateir diddanwyr mewn ardaloedd dan do mewn cartref er mwyn galluogi preswylwyr i ailgydio yn y gweithgareddau maent yn eu mwynhau”.

Cyngor ar frechlynnau i blant a phobl ifanc

19 Gorffennaf 2021

Y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn cyhoeddi rhagor o gyngor ar frechu plant a phobl ifanc. Mae’r cyngor yn nodi y dylai plant sy’n wynebu risg uwch o gael clefyd COVID-19 difrifol gael cynnig y brechlyn Pfizer-BioNTech. Mae hyn yn cynnwys plant 12 i 15 oed sydd â niwroanableddau difrifol, syndrom Down, system imiwnedd gwan ac anableddau dysgu lluosog neu ddifrifol. Mae'r JCVI hefyd yn argymell y dylid cynnig y brechlyn i blant a phobl ifanc rhwng 12 a 17 oed sy'n byw gyda pherson sydd â system imiwnedd gwan. Ar hyn o bryd, nid yw'r JCVI yn cynghori brechu plant fel rheol y tu allan i'r grwpiau hyn. Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru “Yn unol â gwledydd eraill y DU, mae Llywodraeth Cymru'n croesawu'r cyngor hwn gan JCVI.”

Dod â chyfyngiadau i ben yn Lloegr

19 Gorffennaf 2021

Lloegr yn symud i Gam 4 o'i map ar gyfer dod allan o’r cyfnod clo. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o gyfyngiadau cyfreithiol i reoli COVID-19 wedi'u codi, a bod canllawiau wedi’u cyflwyno yn eu lle sy’n rhoi’r pwyslais ar arfer barn unigol a chymryd cyfrifoldeb personol.

O ddydd Llun 19 Gorffennaf, bydd pob rhan o'r Alban yn symud i lefel 0, gydag addasiadau i rai cyfyngiadau. Dywedodd Prif Weinidog yr Alban ei bod yn gobeithio symud y tu hwnt i lefel 0 ar 9 Awst, fel y nodwyd ganddi’n flaenorol. Dywedodd mai dyna yw ei disgwyliad o hyd.

Cyhoeddi newidiadau teithio rhyngwladol

14 Gorffennaf 2021

O 19 Gorffennaf ymlaen, ni fydd angen i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn na phobl ifanc o dan 18 oed hunanynysu mwyach wrth ddychwelyd o wledydd ar y rhestr oren. Bydd angen iddynt gymryd profion cyn gadael ac ar yr ail ddiwrnod ar ôl iddynt gyrraedd y DU. Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru "yn parhau i rybuddio yn erbyn teithio rhyngwladol yr haf hwn, heblaw am resymau hanfodol. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi nodi heddiw, rydym yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu’r rheol y dylai oedolion sydd wedi cael eu brechu'n llawn hunanynysu wrth ddychwelyd o wledydd sydd ar y rhestr oren. Fodd bynnag, ni fyddai’n ymarferol i ni gyflwyno polisi iechyd gwahanol o ran y ffiniau.” 

Bydd Cymru yn symud yn llwyr i lefel rhybudd un o 17 Gorffennaf ymlaen

14 Gorffennaf 2021

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun rheoli’r coronafeirws wedi’i ddiweddaru. Y Prif Weinidog yn cyhoeddi y bydd newidiadau i’r cyfyngiadau yng Nghymru o 17 Gorffennaf 2021 gan gynnwys: caniatáu i hyd at chwe pherson gwrdd dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau; caniatáu digwyddiadau dan do wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 1,000 o bobl yn eistedd neu 200 o bobl yn sefyll, ac; ailagor canolfannau sglefrio iâ. Bydd y cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n gallu ymgynnull yn yr awyr agored yn dod i ben. Dywedodd,  "Byddwn yn ystyried a yw’n bosibl i Gymru symud i lefel rhybudd sero newydd ar 7 Awst yn dilyn yr adolygiad nesaf o’r cyfyngiadau.  (...) Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol o dan do, ac eithrio mewn lleoliadau lletygarwch.  Rydym yn disgwyl y byddwn yn llacio’r gofynion hyn yn raddol - gan ddechrau gyda lleoliadau lletygarwch o 7 Awst.” Mae cyngor y Prif Swyddog Meddygol ar yr adolygiad 21 diwrnod o gyfyngiadau COVID-19 ar gael yma.

Ymestyn y cynllun taliadau cymorth ar gyfer hunanynysu

13 Gorffennaf 2021

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd y cynllun taliadau cymorth £500 i gefnogi pobl ar incwm isel os oes rhaid iddynt hunanynysu yn cael ei ymestyn tan fis Mawrth 2022.

Mae gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofynnol

11 Gorffennaf 2021

Cyn yr adolygiad 21 diwrnod nesaf o'r rheoliadau coronafeirws (dydd Mercher 14 Gorffennaf 2021), mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn orfodol mewn rhai mannau "tra bo’r coronafeirws yn parhau i beri bygythiad i iechyd y cyhoedd". Mae hyn yn cynnwys trafnidiaeth gyhoeddus a lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Newidiadau mewn ysgolion ar gyfer tymor yr hydref

9 Gorffennaf 2021

Mae Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg, yn gwneud datganiad ar weithredu ysgolion a cholegau yng Nghymru o fis Medi. Mae'r newidiadau'n cynnwys: ni fydd angen gorchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth mwyach; ni fydd angen 'grwpiau cyswllt' mwyach ar gyfer disgyblion ysgol na dysgwyr llawn amser mewn colegau, a; bydd amseroedd sesiwn arferol yn ailddechrau. Bydd 'fframwaith penderfyniadau rheoli heintiau COVID-19 lleol' ar gyfer ysgolion a cholegau yn cael ei gyhoeddi ar ddechrau tymor yr Hydref.

Cyrraedd trydedd carreg filltir

2 Gorffennaf 2021

Mae Eluned Morgan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cyhoeddi bod mwy na 75 y cant o oedolion dan 50 wedi cael eu dos cyntaf o frechlyn COVID-19, felly’n cyrraedd y drydedd garreg filltir, a’r olaf.

Cyfnod nesaf y rhaglen frechu

30 Mehefin 2021

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn cyhoeddi cyngor ynghylch trydydd cyfnod rhaglen frechu COVID-19. Mae’n cynghori y dylid lansio ymgyrch yr hydref i roi brechlynnau atgyfnerthu ym mis Medi i “sicrhau bod y rheini sydd fwyaf agored i niwed gan haint difrifol yn cael eu hamddiffyn cymaint ag sy’n bosibl”. Bydd y rhai sy’n cael cynnig o drydydd dos yn dilyn y grwpiau blaenoriaeth ar gyfer y dos cyntaf a’r ail ddos yn bennaf.

Cymorth i bobl sy’n cael trafferth yn talu eu rhent

30 Mehefin 2021

Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn cyhoeddi Grant Caledi i Denantiaid gwerth £10m. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai diben y grant yw “helpu pobl sydd wedi syrthio i ddyled o wyth wythnos neu fwy gyda’u taliadau rhent rhwng 1 Mawrth 2020 a 30 Mehefin 2021”.

Ymestyn mesurau i warchod busnesau rhag cael eu troi allan

28 Mehefin 2021

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, yn cyhoeddi y bydd busnesau yng Nghymru y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt bellach yn cael eu gwarchod rhag cael eu troi allan hyd nes ddiwedd mis Medi 2021. Yn wreiddiol, roedd disgwyl i’r moratoriwm ar fforffedu tenantiaethau busnes oherwydd methiant i dalu rhent ddod i ben ar 30 Mehefin 2021.

Nodi statws brechu COVID drwy bàs COVID digidol y GIG

25 Mehefin 2021

O’r dyddiad hwn ymlaen, bydd pobl yng Nghymru yn gallu dangos eu statws brechu COVID drwy ddangos pàs COVID digidol y GIG ar eu ffôn, llechen neu liniadur os oes yn rhaid iddynt fynd ar daith ryngwladol frys ac os ydynt yn bodloni gofynion brechu y wlad y maent yn teithio iddi. Mae llythyrau pàs COVID y GIG wedi bod ar gael yng Nghymru ers mis Mai i’r bobl sydd wir angen teithio’n rhyngwladol. Bellach, y pàs digidol fydd y dewis diofyn i brofi statws brechu wrth deithio’n rhyngwladol. Bydd llythyrau’n parhau i fod ar gael ar gyfer unrhyw un sydd heb fynediad at bàs digidol.

Rhagor o wledydd yn cael eu hychwanegu at restr werdd y DU ar gyfer teithio rhyngwladol

24 Mehefin 2021

Mae Malta, Madeira, Ynysoedd Baleares, nifer o diriogaethau tramor y Deyrnas Unedig ac ynysoedd y Caribî, gan gynnwys Barbados, wedi’u hychwanegu at restr werdd Llywodraeth y DU ar gyfer teithio rhyngwladol. Mae Eritrea, Haiti, Gweriniaeth Dominica, Mongolia, Tiwnisia ac Uganda wedi’u hychwanegu at y rhestr goch. Mae Cymru’n parhau i ddilyn yr un dull golau traffig â gweddill y DU. Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, yn pwysleisio’r cyngor gan Lywodraeth Cymru y dylai pobl fynd ar wyliau gartref: “Rydym yn cynghori’n gryf o hyd na ddylai pobl deithio dramor oni bai bod hynny’n hanfodol, a hynny oherwydd y risg o ddal y coronafeirws, yn enwedig amrywiolynnau newydd sy’n peri pryder”.

Saib o ran llacio cyfyngiadau

17 Mehefin 2021

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, sy’n cyhoeddi saib o 4 wythnos o ran llacio cyfyngiadau’r Coronafeirws, oherwydd yr amrywiad delta newydd. Dywed y bydd y saib yn caniatáu i fwy o bobl gael eu hail ddos o’r brechlyn, ac yn helpu i atal cynnydd mewn salwch difrifol wrth i achosion ddechrau cynyddu eto.

Cefnogi pobl â COVID hir

15 Mehefin 2021

Y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, sy’n amlinellu sut y bydd y llywodraeth yn gweithio gyda GIG Cymru i gefnogi pobl sy’n dioddef o COVID hir. Yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf, mae 50,000 o bobl yng Nghymru yn profi COVID hir ac mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif y bydd 9,400 o'r bobl hynny wedi’u cyfyngu o ran eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig brechlyn yn gynharach na’r disgwyl

13 Mehefin 2021

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, yn cadarnhau y bydd pob oedolyn cymwys yng Nghymru wedi cael cynnig brechlyn erbyn dydd Llun 14 Mehefin – chwe wythnos yn gynharach na’r disgwyl.

Cynllun peilot ‘canolfannau cymorth COVID’

11 Mehefin 2021

Mae canolfannau sy’n cynnig ystod o gymorth i bobl sydd wedi gorfod hunan-ynysu a phobl y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt fwyaf yn cael eu cyflwyno fel rhan o gynllun peilot mewn rhannau o Ogledd Cymru. Mae’r cynllun hwn yn rhan o raglen Profi, Olrhain, Diogelu Cymru.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth frechu

7 Mehefin 2021

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei strategaeth frechu COVID-19. Mae’r Gweinidog Iechyd yn dweud ei bod yn hyderus y bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd carreg filltir 3 (pob oedolyn yn cael cynnig dos cyntaf erbyn diwedd mis Gorffennaf 2021) tua phedair wythnos yn gynnar. O ran yr ail ddos, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd pob un sydd wedi cael y dos cyntaf yn cael cynnig ail ddos erbyn diwedd mis Medi 2021. Mae’r Llywodraeth hefyd yn bwriadu ailgynnig y brechlyn i unrhyw un oedd heb fanteisio ar y cynnig cyntaf. Bydd system ar-lein yn cael ei llunio yn yr hydref 2021 i ganiatáu i bobl wneud a newid apwyntiadau. Mae’r diweddariad ar y strategaeth hefyd yn nodi sut y mae Cymru yn paratoi ar gyfer unrhyw benderfyniadau gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch pigiadau atgyfnerthu a chamau i frechu plant, yn dilyn penderfyniad yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd i gymeradwyo brechlyn i frechu plant dros 12 oed.

Y DU yn cymeradwyo brechlyn Pfizer ar gyfer plant 12-15 oed

4 Mehefin 2021

Mae Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd y DU (MHRA) yn cymeradwyo’r defnydd o frechlyn COVID-19 Pfizer/BioNTech ar gyfer plant 12 i 15 oed.

Symud yn raddol i lefel rhybudd un

4 Mehefin 2021

Mae Prif Weinidog Cymru yn cadarnhau y gall hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored o ddydd Llun 7 Mehefin 2021 ymlaen, ac y gall cynulliadau a digwyddiadau mwy wedi’u trefnu gael eu cynnal yn yr awyr agored. Gall hyd at dair aelwyd ffurfio aelwyd estynedig. “Bydd gweithredu mewn dau gam fel hyn yn galluogi rhagor o bobl i gael eu brechu a chwblhau eu cwrs dau ddos – ar adeg pan fo pryderon cynyddol ynghylch lledaeniad amrywiolyn delta o’r feirws ar draws y Deyrnas Unedig.”

Gwlad Portiwgal yn symud i’r rhestr oren ar y system goleuadau traffig ar gyfer teithio rhyngwladol

3 Mehefin 2021

Am 04:00 o'r gloch ddydd Mawrth 8 Mehefin, mae gwlad Portiwgal (gan gynnwys Madeira a'r Azores) yn symud i'r rhestr oren, sy'n golygu bod angen i deithwyr sy'n dychwelyd i Gymru o Bortiwgal hunanynysu ar ôl dod yn ôl. Mae hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa ledled y DU. Daw'r penderfyniad yn sgil pryder cynyddol ynghylch lledaeniad amrywiolion newydd o’r coronafeirws. Ychwanegwyd saith gwlad arall – Afghanistan, Swdan, Sri Lanka, Bahrain, Trinidad a Thobago, Costa Rica a'r Aifft – at y rhestr goch.

Parhau i olrhain cysylltiadau yng Nghymru hyd at fis Mawrth 2022

2 Mehefin 2021

Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, yn cyhoeddi y bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru Cymru yn parhau hyd at fis Mawrth 2022. Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi cyllid ychwanegol gwerth £32 miliwn yn y gwasanaeth.

Cefnogwyr pêl-droed yn cael eu hannog i aros gartref

28 Mai 2021

Mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn annog cefnogwyr i gefnogi tîm pêl-droed Cymru o gartref yn hytrach na theithio dramor. Mae Cymru ar fin chwarae gemau yn Ffrainc, Azerbaijan a'r Eidal, ond mae pob un o’r gwledydd hyn ar y rhestr oren o wledydd ar gyfer teithio rhyngwladol i’r DU, ac o’r DU. Dywedodd y Prif Weinidog: 'Ein cyngor pendant yw na ddylech deithio – mae Ffrainc, Azerbaijan a’r Eidal ar y rhestr oren oherwydd bod y feirws yn cylchredeg yno'.

Profion COVID yn cael eu hannog ar gyfer pobl sy'n cael gwyliau yng Nghymru

26 Mai 2021

Mae'r Prif Weinidog yn annog unrhyw ymwelwyr sy'n bwriadu dod ar wyliau i Gymru o ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws, gan gynnwys rhannau o Loegr sydd â lefelau uchel o amrywiolyn delta, i gael profion cyn iddynt deithio ac yn ystod eu gwyliau. Dim ond y rhai sy’n cael canlyniadau negyddol, ac sy’n rhydd o unrhyw symptomau o’r coronafeirws, ddylai deithio. Gweler y wybodaeth ynghylch sut i gael profion llif unffordd.  

Tystysgrif frechu ar gyfer teithio rhyngwladol brys

24 Mai 2021

Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, yn cyhoeddi y gall trigolion Cymru wneud cais am dystysgrif frechu ar gyfer teithio rhyngwladol brys. Gall pobl sy'n byw yng Nghymru ofyn am dystysgrif os ydyn nhw wedi cael dau ddos o’r brechlyn COVID-19; os oes angen iddynt deithio ar frys i wlad sy’n gofyn am dystysgrif brechu; ac os nad oes modd iddynt naill ai ddefnyddio cwarantin na darparu profion i fodloni’r gofynion ar gyfer mynd i mewn i wlad. Cyngor Llywodraeth Cymru yw y dylid teithio dramor dim ond os yw'n hanfodol.

Cyllid i adfer gwasanaethau’r GIG a gofal cymdeithasol

20 Mai 2021

Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £100m i roi hwb i’r gwaith o adfer y system iechyd a gofal ar ôl y pandemig. ‘Bydd yr arian ar gyfer cyfarpar, staff, technoleg newydd yn ogystal â ffyrdd newydd o weithio’n helpu byrddau iechyd i wella gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal yn y gymuned ac yn yr ysbytai drwy gynyddu capasiti a lleihau amseroedd aros wrth iddynt ailddechrau darparu gofal nad yw’n ofal brys yn dilyn y pandemig’.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu

19 Mai 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu, gan dynnu sylw at y ffaith bod holl fyrddau iechyd Cymru yn awr yn cynnig y brechlyn i oedolion 18 oed a hŷn. Mae hefyd yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn monitro ‘amrywiolyn India’ (VOC-21APR-02) yn ofalus yng Nghymru.  Yn unol â chyngor diweddaraf y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym yn gweithio gyda’n timau rheoli achosion lleol a’n byrddau iechyd i hwyluso’r dasg, yn amodol ar gyflenwadau, o ddarparu ail ddos o’r brechlyn i bobl yn gynharach os bydd hynny’n golygu y bydd llai yn cael eu heintio, yn cael salwch difrifol ac yn treulio cyfnodau yn yr ysbyty’.

Teithio rhyngwladol yn ailddechrau

17 Mai 2021

O ddydd Llun 17 Mai ymlaen, gall teithio rhyngwladol ailddechrau o dan system goleuadau traffig wedi'i alinio â Lloegr a'r Alban. Bydd gwledydd yn cael eu pennu fel bod yn wledydd gwyrdd, oren neu goch. Ni fydd yn rhaid i bobl sy'n dychwelyd o wledydd ar y rhestr werdd gael eu gosod dan gwarantîn pan fyddan nhw’n dychwelyd. Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pobl i deithio dramor at ddibenion hanfodol yn unig.

Mae gwybodaeth bellach ar deithio tramor a thystysgrifau brechiad er mwyn teithio ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Cymru yn symud i lefel rhybudd 2

14 Mai 2021

Yn dilyn yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o reoliadau cyfyngiadau’r Coronafeirws, y Prif Weinidog sy’n cadarnhau y bydd Cymru gyfan – o ddydd Llun 17 Mai ymlaen – yn symud i lefel rhybudd 2. Yn ogystal ag ailagor lletygarwch dan do, gall lleoliadau adloniant dan do ailagor a gall nifer cynyddol o bobl fynd i weithgareddau dan do ac awyr agored sydd wedi'u trefnu.

Ailagor lletygarwch dan do a chefnogaeth bellach

11 Mai 2021

Y Prif Weinidog sy’n cadarnhau – o 17 Mai ymlaen – bydd chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol yn gallu cwrdd y tu mewn, mewn caffis, tafarndai a bwytai.

Llywodraeth Cymru sydd hefyd yn cyhoeddi y bydd busnesau sy'n dal i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau’r Coronafeirws yn gallu hawlio hyd at £25,000 mewn cefnogaeth i dalu costau parhaus hyd at ddiwedd mis Mehefin 2021. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Digwyddiadau peilot yn mynd rhagddynt

11 Mai 2021

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, sy’n cyhoeddi rhestr arfaethedig o ddigwyddiadau prawf peilot, a fydd yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae hi’n gweithio gyda phartneriaid i ddarparu digwyddiadau peilot y byddant, yn eu tro, yn datblygu prosesau ac arweiniad ar gyfer cynnal digwyddiadau yn ddiogel eto.

Y DU yn gostwng lefel rhybudd COVID-19

10 Mai 2021

Pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU sy’n cytuno i ostwng lefel rhybudd COVID-19 y DU o lefel rhybudd 4 i lefel rhybudd 3. Roedd y DU ar lefel rhybudd 5 ym mis Ionawr, ac fe ostyngodd hynny i lefel rhybudd 4 ym mis Chwefror. Mae lefel rhybudd 3 yn golygu bod y feirws mewn cylchrediad cyffredinol. Mae'r lefel rhybuddio hon yn y DU yn ymwneud â'r bygythiad yn sgil y feirws ac yn lefel sydd ar wahân i'r lefelau rhybuddio sy'n sail i'r cyfyngiadau yng Nghymru.

Diweddariad ar y brechlyn AstraZeneca

7 Mai 2021

Llywodraeth Cymru sy’n cyhoeddi y bydd yn rhoi’r newid yn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd ar waith, ac yn cynnig dewis arall i'r rheini sydd o dan 40 oed (heb unrhyw ffactorau risg clinigol) yn hytrach na brechlyn AstraZeneca. Dylai'r rheini sydd eisoes wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn AstraZeneca dderbyn yr ail ddos.


Erthygl gan Lucy Morgan, Philippa Watkins and Rebekah James, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru