Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos hon – 22/09/2026

Cyhoeddwyd 22/09/2026   |   Amser darllen munud

Cwestiynau’r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi’r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a’u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.

Isod mae canllaw cyflym i’r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi’i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau i’w gweld yma.

Gallwch wylio’r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn fyw am 1:30pm ar Senedd.tv.


Cwestiwn: Mae Andrew RT Davies AS yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE).

Gwybodaeth: Gallwch ddarllen mwy am y prosiect ar wefan GCRE. Rhoddodd Llywodraeth flaenorol Cymru ddiweddariad ar hyn ar ddiwedd y llynedd, ac mae GCRE wedi ysgrifennu’n ddiweddar at Bwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd y Senedd i nodi'r safbwynt diweddaraf.


Cwestiwn: Mae Paul Davies AS yn holi ynghylch blaenoriaethau gofal iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ceredigion Penfro am y deuddeg mis nesaf.

Gwybodaeth: Ym mis Mehefin, nododd Mabon ap Gwynfor AS, y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal. Rydym yn cyhoeddi erthyglau ar ofal iechyd yn rheolaidd ar ein gwefan.


Cwestiwn: Mae Anthony Slaughter AS yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer digwyddiadau tywydd garw ac eithafol y gaeaf hwn.

Gwybodaeth: Mae ein herthyglau diweddar wedi ystyried gwres eithafol, tanau gwyllt a sychder. Y llynedd, gwnaethom gyhoeddi lincs at wybodaeth ddefnyddiol i helpu Aelodau o'r Senedd a'u staff i gefnogi etholwyr cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.


Cwestiwn: Mae Alun Cox AS yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd sy'n ymwneud â datblygu strategaeth fwyd genedlaethol newydd.

Gwybodaeth: Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n datblygu strategaeth fwyd newydd. Cyhoeddodd yn ddiweddar aelodaeth o'r Gweithgor Arbenigol i helpu gyda'i ddatblygu.


Cwestiwn: Mae Adrian Mason AS yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl hŷn gyda chostau byw.

Gwybodaeth: Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod eisiau gwneud budd-daliadau’n symlach ac yn decach i bobl hŷn. Mae hefyd wedi cyhoeddi casgliad o wybodaeth a ffynonellau cymorth mewn perthynas â chostau byw.


Cwestiwn: Mae Marc Jones AS yn gofyn pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i sicrhau bod costau adfer gwastraff sydd wedi'i ddympio'n anghyfreithlon yn cael eu talu gan y bobl sy'n gyfrifol, yn hytrach na threthdalwyr.

Gwybodaeth: Roedd ein briff y llynedd yn trafod tipio anghyfreithlon yng Nghymru, gan gynnwys strategaethau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ef, a chosbau a chamau gorfodi cysylltiedig.


Cwestiwn: Mae Gareth Beer AS yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn lleihau lefelau llygredd afonydd yn Sir Gaerfyrddin.

Gwybodaeth:        Mae ein llinell amser yn tynnu sylw at ddatblygiadau diweddar allweddol o ran perfformiad amgylcheddol ac ariannol Dŵr Cymru. Rydym hefyd wedi ystyried yn ddiweddar ddyfodol sector dŵr Cymru.


Cwestiwn: Mae Llŷr Powell AS yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag amseroedd aros y GIG ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni.

Gwybodaeth: Mae’r data diweddaraf ar amseroedd aros y GIG ar gael yma. Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn galw’r ffigurau yn "siomedig". Mae ein herthygl yn ystyried beth mae ystadegau amseroedd aros y GIG yng Nghymru yn ei fesur.


Cwestiwn: Mae Lindsay Whittle AS yn gofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall menywod gael mynediad at gyfleoedd mewn sectorau twf mawr, gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch, ynni glân, a thechnoleg gwybodaeth.


Cwestiwn: Mae Cai Parry-Jones AS yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Deddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026.

Gwybodaeth: Mae ein hadnoddau ar y ddeddfwriaeth ar gael yma.


Cwestiwn: Mae Kiera Marshall AS yn gofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi trigolion yng Ngwaelod-y-Garth yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd ym mis Gorffennaf.

Gwybodaeth: Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ar y digwyddiad hwn ym mis Gorffennaf. Rydym hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth i gefnogi etholwyr cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.


Cwestiwn: Mae Janet Finch-Saunders AS yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at gyfleusterau sgan PET a phrostadectomi yng ngogledd Cymru.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru