Gwelodd Cymru dymor tanau gwyllt difrifol yn ystod haf 2026, ynghyd â llawer o orllewin Ewrop. Bydd datganiad llafar ddydd Mawrth 15 Medi gan Lywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i Aelodau o'r Senedd drafod y tanau gwyllt hyn.
Mae'r crynodeb hwn yn rhoi gwybodaeth gefndirol am y tymor tanau gwyllt hanesyddol a gafwyd eleni, camau polisi i fynd i'r afael â risgiau, ac opsiynau hirdymor ar gyfer meithrin gwydnwch.
Os hoffech ragor o wybodaeth, mae Ymchwil y Senedd hefyd wedi cyhoeddi erthyglau ar effeithiau ehangach gwres eithafol a sychder yn ddiweddar.
Cyfrifoldeb dros reoli tanau gwyllt
- Mae rheoli tanau gwyllt wedi'i ddatganoli i Gymru. Llywodraeth Cymru sy’n goruchwylio‘r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru (y Gogledd, y Canolbarth a'r Gorllewin, a'r De) ac mae ganddi gyfrifoldeb am bolisi rheoli tir.
- Mae’r pedwar Fforwm Cymru Gydnerth lleol hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth baratoi ar gyfer argyfyngau fel tanau gwyllt ac ymateb iddynt.
Trosolwg o danau gwyllt haf 2026
- Nid yw’r ystadegau manwl ar gyfer 2026 ar gael eto o ran tanau gwyllt ar lefel Cymru, ond mae’r data ar lefel y DU hyd at 1 Medi yn dangos bod 28,299 hectar o dir wedi'i losgi, sy’n golygu mai eleni yw’r ail uchaf erioed yn barod.
- Erbyn canol mis Awst, roedd y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru a Lloegr wedi ymateb i fwy o danau gwyllt nag yn ystod 2025 gyfan, er mai 2025 oedd y flwyddyn fwyaf difrifol o ran tanau gwyllt yn y DU ar gofnod.
- Datganodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru bedwar digwyddiad mawr yn gysylltiedig â thanau gwyllt ym mis Gorffennaf ac Awst, yn:
- Mynydd y Dref;
- Mynydd Llanwynno, Rhondda Cynon Taf;
- Cronfa Ddŵr Llangynidr, ger Glynebwy; a
- Rhandirmwyn, Sir Gaerfyrddin.
Lleoliadau tanau gwyllt yng Nghymru yn 2026, hyd at 31 Awst

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddatganiadau cyhoeddus Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, a De Cymru a phapurau newydd lleol.
Noder: Mae'r Gwasanaethau Tân ac Achub yn adrodd am ddigwyddiadau mewn gwahanol ffyrdd, ac efallai na fyddant yn gwneud datganiadau cyhoeddus ar gyfer yr holl danau gwyllt y maent yn ymateb iddynt. Felly, mae'n debygol bod y map hwn yn tanamcangyfrif cyfanswm y tanau gwyllt. Mae rhai pwyntiau wedi'u gwrthbwyso i wella darllenadwyedd.
- Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gymorth milwrol i gefnogi’r gwaith o ddiffodd y tanau ym mis Awst. Cafodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru gymorth cydfuddiannol gan wasanaethau cyfatebol yn Lloegr ar gyfer nifer o danau gwyllt mawr hefyd.
- Mewn ardaloedd gwledig gall tanau gwyllt ddinistrio tirweddau amaethyddol a thirweddau sy'n gyfoethog o ran natur. Mewn ardaloedd adeiledig gallant ddifrodi cartrefi, busnesau, a seilwaith.
- Mae mwg tanau gwyllt yn effeithio'n negyddol ar ansawdd aer yn lleol, a gall lludw halogi dŵr. Mae llosgi llystyfiant hefyd yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr, sy'n cyfrannu at newid hinsawdd.
Beth sy'n achosi tanau gwyllt?
- Mae tanau gwyllt yn dibynnu ar dri ffactor allweddol: y tanwydd sydd ar gael, amodau tywydd, a ffynhonnell tanio.
- Haf 2026 oedd y poethaf yng Nghymru ar gofnod, ac un o'i sychaf (gan gynnwys y Gorffennaf sychaf erioed).
Tymheredd haf blynyddol yng Nghymru rhwng 1884 a 2025, o gymharu â chyfartaledd 1961-1990

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o Ddata’r Swyddfa Dywydd.
- Mae newid hinsawdd yn gwneud hafau Cymru yn boethach ac yn sychach, sy’n creu amodau sy'n addas ar gyfer tanau gwyllt yn fwy rheolaidd. Mae tanau gwyllt nawr yn digwydd am fwy o'r flwyddyn ac mewn mwy o leoedd nag y gwnaethon nhw yn y gorffennol.
- Mae'r rhan fwyaf o danau gwyllt yn y DU yn dechrau oherwydd gweithredoedd dynol. Nid oes set ddata gyhoeddus fanwl o ffynhonnell tanau gwyllt ar gael ar gyfer Cymru, ond mae tystiolaeth o Loegr a'r Alban yn awgrymu bod y rhan fwyaf o danau gwyllt yn dechrau o danio cychwynnol bwriadol.
- Mewn astudiaeth yn 2011, canfu bod ardaloedd mwyaf difreintiedig cymoedd de Cymru yn anghymesur o debygol o ddioddef tanau gwyllt, yn ôl pob tebyg oherwydd tanio bwriadol.
Ymatebion i danau gwyllt
- Soniodd Llywodraeth Cymru am ei chynlluniau i leihau risgiau o danau gwyllt mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig ym mis Awst 2026, gan ddweud ei bod yn gwneud yr hyn a ganlyn:
- mynd i'r afael ag arferion rheoli tir;
- ariannu rhaglenni ymyrraeth ieuenctid;
- cynnull uwchgynhadledd ar danau gwyllt yn ddiweddarach yn 2026.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau ddatganiad ar danau gwyllt yr haf hwn:
- Ar 22 Gorffennaf dywedodd y byddai'n adolygu gallu Cymru i ymladd tanau gwyllt, yn dilyn pryderon am ddiffyg cymorth i ddiffodd tanau o'r awyryng Ngwynedd. Dywedodd yn ddiweddarach y byddai'n trafod dull cydgysylltiedig o ddiffodd tanau o'r awyr gyda llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill.
- Ar 14 Awst dywedodd bod y Prif Weinidog wedi mynychu cyfarfod Ystafell Briffio Swyddfa'r Cabinet (COBR) ar danau gwyllt ac amlygodd rôl negeseuon cyhoeddus wrth eu hatal.
- Gwnaeth Llywodraeth y DU wahardd gwerthu barbeciws tafladwy dros dro ym mis Awst, a chyhoeddodd Rybudd Argyfwng yn rhybuddio pobl rhag gwneud unrhyw beth a allai sbarduno tân.
- Mae Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC) ledled y DU wedi galw am greu strategaeth hirdymor ar gyfer tanau gwyllt a fyddai’n cynnwys timau tanau gwyllt arbenigol a chapasiti pwrpasol ar gyfer diffodd tanau o’r awyr.
Sut allai Cymru ddod yn fwy gwydn yn erbyn tanau gwyllt?
- Oherwydd cynhesu a achosir gan bobl, rhagwelir y bydd nifer y diwrnodau gyda pherygl uchel iawn o danau gwyllt yn dyblu erbyn 2050, o'i gymharu â 1981-2010, gyda risg arbennig mewn ardaloedd rhostir yng Nghymru.
- Roedd Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd flaenorol Llywodraeth Cymru yn 2024 yn cydnabod y risg gynyddol o danau gwyllt. Dywedodd y bydd risgiau'n cael eu rheoli trwy Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru a'r tasglu aml-asiantaeth Ymgyrch Dawns Glaw.
- Mae'r NFCC yn tynnu sylw at y ffaith nad oes pot cyllid pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub i ymladd tanau gwyllt ac mae’n gofyn am yr hyn a ganlyn:
- digon o adnoddau ar gyfer mynd i’r afael â thanau gwyllt;
- gwell ansawdd data ar risgiau sy'n newid;
- cydweithio gwell wrth wneud penderfyniadau.
- Gall rheoli tirweddau mewn ffyrdd penodol leihau gallu tanau gwyllt i ddechrau a lledaenu. Mae'r rhan fwyaf o dir Cymru yn eiddo preifat, ond mae Llywodraeth Cymru yn dylanwadu ar y ffordd o’i reoli, er enghraifft drwy'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a grantiau pwrpasol.
- Gallai dulliau o wella gwytnwch yn erbyn tanau gwyllt ar raddfa tirwedd gynnwys yr hyn a ganlyn:
- Cynyddu storio dŵr ar y tir (neu 'ail-wlychu') i greu rhwystrau i’r tân, a all hefyd wella gwytnwch yn erbyn sychder a lleihau'r perygl o lifogydd.
- Roedd mawndiroedd wedi'u hail-wlychu yng nghoedwig Tywi a Chwm Elan yn wydn i danau gwyllt yn 2025 a 2026. Roedd y ddau adferiad wedi'u hariannu gan raglen Llywodraeth Cymru.
- Mae tystiolaeth o Ogledd America yn awgrymu bod gwlyptiroedd a grëwyd gan afancod yn gwrthsefyll tanau gwyllt ac yn cynnig lloches i rywogaethau eraill.
- Lleihau llwythi tanwydd, fel llystyfiant sydd wedi sychu, i gyfyngu ar allu tanau gwyllt i ledaenu.
- Gellir rheoli llystyfiant trwy bori dethol a llosgi dan reolaeth.
- Gellir gwneud coetiroedd yn fwy gwydn trwy integreiddio rhwystrau tân a phlannu coed llydanddail.
- Cynyddu storio dŵr ar y tir (neu 'ail-wlychu') i greu rhwystrau i’r tân, a all hefyd wella gwytnwch yn erbyn sychder a lleihau'r perygl o lifogydd.
- O ystyried bod y rhan fwyaf o danau gwyllt yn y DU yn cael eu cychwyn gan bobl, gall addysg a chodi ymwybyddiaeth leihau risgiau.
- Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn arwain menter Llethrau Llon yng nghymoedd de Cymru – lle mae awdurdodau yn ymgysylltu â chymunedau mewn ardaloedd sy'n agored i danau gwyllt.
Erthygl gan Dr Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru