Mae gwanwyn a haf 2026 wedi bod yn eithriadol o boeth a sych yng Nghymru. Gall y tywydd hwn effeithio ar bopeth o iechyd i amaethyddiaeth. Mae newid hinsawdd yn dwysáu'r tywydd eithafol hwn, gan ei wneud yn fwy cyffredin ac yn fwy dwys.
Mae'r erthygl hon yn edrych ar achosion ac effeithiau gwres eithafol yng Nghymru, ynghyd ag ymatebion ac anghenion addasu yn y dyfodol.
Mae cysylltiad agos rhwng gwres eithafol a sychder, a gallwch ddarllen mwy am hynny yn ein herthygl a gyhoeddwyd fis diwethaf.
Beth yw ton wres a pham mae’n digwydd?
Mae'r Swyddfa Dywydd yn diffinio ton wres fel tri diwrnod neu fwy pan fydd y tymheredd aer uchaf dyddiol yn cyrraedd neu'n uwch na throthwy penodol. Y trothwy yw 25°C ym mhob man yng Nghymru ac eithrio'r de-ddwyrain cynhesach, lle mae'n 26°C.
Fel arfer, mae tonnau gwres yn y DU yn digwydd pan fydd systemau gwasgedd uchel sy'n symud yn araf yn dominyddu'r tywydd. Mae'r rhain yn caniatáu i aer poeth barhau am ddiwrnodau neu wythnosau.
Mae newid hinsawdd yn gwneud tonnau gwres yn fwy difrifol
Mae tonnau gwres yn digwydd yn naturiol, ond mae newid hinsawdd a achosir gan weithgarwch dynol yn cynyddu eu hamlder a'u dwyster, ac yn golygu eu bod yn para'n hirach. Byddai ton wres mis Mehefin 2026 yn Ewrop, a dorrodd record, wedi bod yn “bron yn amhosibl” heb gynhesu byd-eang a yrrwyd gan allyriadau nwyon tŷ gwydr o ganlyniad i weithgarwch dynol.
Mae hafau Cymru yn mynd yn boethach. Cofnodwyd y tymheredd uchaf erioed ym mis Gorffennaf 2022 pan gyrhaeddodd Penarlâg, Sir y Fflint, 37.1°C. Yn ôl y tymheredd cyfartalog rhwng mis Mehefin a mis Awst, haf 2025 oedd yr haf poethaf a gofnodwyd erioed. Mae'n bosibl y bydd haf 2026 hyd yn oed yn boethach, er na fydd hynny'n glir tan fis Medi.
Anomaledd tymheredd haf blynyddol yng Nghymru rhwng 1884 a 2025, o gymharu â chyfartaledd 1961-1990

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata’r Swyddfa Dywydd
Mae gwanwyn a haf 2026 wedi bod yn eithriadol o boeth
Mae cofnodion tywydd Cymru yn ymestyn yn ôl dros 140 o flynyddoedd, ond mae 2026 wedi bod yn flwyddyn eithriadol o ran gwres. Erbyn diwedd mis Gorffennaf 2026, roedd Cymru wedi cofnodi:
- ei gwanwyn poethaf erioed;
- ei thymheredd uchaf ac isaf (dros nos) erioed ym mis Mai;
- ei thymheredd uchaf ac isaf (dros nos) erioed ym mis Mehefin;
- ei mis Gorffennaf sychaf a phoethaf ar y cyd,, ei hail fis Mehefin poethaf a’i thrydydd mis Mai poethaf ar y cyd, yn ôl tymheredd cyfartalog;
- ei rhybudd tywydd coch cyntaf erioed i ‘weithredu’ mewn perthynas â gwres eithafol, yn cwmpasu’r rhan fwyaf o dde Cymru; a
- thonnau gwres ddiwedd mis Mai, dechrau mis Mehefin, ac ym mis Gorffennaf.
Erbyn diwedd mis Gorffennaf, cofnododd gorsafoedd tywydd Cymru 14 diwrnod o don wres ar gyfartaledd, er bod hyn yn amrywio'n sylweddol rhwng lleoliadau, fel y dangosir ar y map isod. Ym Mrynbuga, Sir Fynwy, cofnodwyd 32 diwrnod ton wres, sef y nifer uchaf yn unrhyw le yng Nghymru.
Nifer y diwrnodau o don wres a gofnodwyd mewn gorsafoedd tywydd erbyn 31 Gorffennaf 2026

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o Ddata’r Swyddfa Dywydd
Ymhellach i ffwrdd, profodd gorllewin Ewrop ei fis Mehefin poethaf ar gofnod. Yn Ffrainc, mae tymor tanau gwyllt digynsail wedi llosgi ardal sy'n fwy nag Ynys Môn.
Mae gwres eithafol yn effeithio ar bob rhan o’r gymdeithas
Gall gwres eithafol achosi dadhydradu a straen gwres hyd yn oed ymhlith pobl iach. Mae tymereddau uchel yn cynyddu nifer y marwolaethau ychwanegol o ganlyniad i drawiadau ar y galon, strôc a chlefydau'r ysgyfaint, gyda risgiau uwch ymhlith grwpiau mwy agored i niwed fel pobl hŷn a phobl anabl.
Yn ei hasesiad blynyddol cyntaf o farwolaethau sy'n gysylltiedig â gwres, canfu Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnydd sylweddol mewn marwolaethau yn ystod cyfnod poethaf 2024.
Yn ystod ton wres mis Mehefin 2026, cyhoeddodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ddigwyddiadau critigol oherwydd cynnydd sydyn yn y galw am wasanaethau.
Yn ôl asesiad o donnau gwres mis Mai a mis Mehefin 2026, dan arweiniad Coleg Imperial Llundain, bu tua 128 o farwolaethau cysylltiedig â gwres yng Nghymru. Amcangyfrifwyd hefyd fod tua 2,700 o farwolaethau cysylltiedig â gwres ledled Cymru a Lloegr, ac na fyddai 42% ohonynt wedi digwydd oni bai am gynhesu a achoswyd gan weithgarwch dynol.
Mae rheoliadau adeiladu yn ei gwneud yn ofynnol i bob datblygwr ystyried y risg o orboethi, ac mae Llywodraeth Cymru yn mynnu safonau gofynnol uwch ar gyfer cartrefi cymdeithasol. Disgwylir i'r risg o orboethi yn ystod yr haf gynyddu yn y degawdau nesaf, yn enwedig mewn adeiladau a fflatiau mwy newydd, gan gynyddu’r galw am ddulliau oeri goddefol a gweithredol.
Nid oes gofyniad statudol i ysgolion gau yn ystod cyfnodau o wres eithafol, yn wahanol i'r sefyllfa mewn tywydd oer. Serch hynny, caeodd mwy na 700 o ysgolion yng Nghymru yn ystod ton wres mis Mehefin 2026. Mae gan benaethiaid ysgolion ddisgresiwn ynghylch a ddylid agor ysgolion mewn tywydd eithafol, ond gallant ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.
Nid oes llawer o ddata ar gael am systemau oeri gweithredol mewn adeiladau cyhoeddus yng Nghymru. Fodd bynnag, dywedodd dros 90% o staff y GIG a ymatebodd i arolwg ledled y DU gan Doctors' Association UK ym mis Mehefin nad oedd aerdymheru ar gael yn eu gweithleoedd, neu mai cyfyngedig oedd y ddarpariaeth, a'u bod yn gweithio mewn amodau anghyfforddus o boeth. Mae Coleg Brenhinol y Meddygon wedi gofyn i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn systemau awyru ac oeri mewn adeiladau gofal iechyd er mwyn cryfhau eu gallu i wrthsefyll gwres eithafol.
Ar anterth y don wres ym mis Mehefin 2026, cynghorodd Trafnidiaeth Cymru yn erbyn pob taith nad oedd yn hanfodol. Cafodd rhai trenau eu canslo a bu gwasanaethau eraill yn gweithredu ar gyflymder is er mwyn lleihau'r risg o ddifrod i'r trac.
Gall tonnau gwres effeithio ar sefydlogrwydd y grid trydan drwy leihau cynhyrchiant trydan (gan gynnwys o orsafoedd pŵer nwy a ffermydd gwynt), cynyddu'r galw am drydan, (e.e. ar gyfer aerdymheru) a gorlwytho llinellau pŵer. Ar ôl i chwythwyr chwiban godi pryderon ynghylch sefydlogrwydd grid y DU yn ystod ton wres mis Mehefin 2026, dechreuodd Ofgem adolygiad o weithrediad y system ynni yn ystod cyfnodau o wres eithafol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod tywydd poeth a sych yn 2026 wedi lleihau twf glaswellt ac argaeledd porthiant, ac wedi creu pryderon ynghylch lles da byw. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru yn dweud bod y tywydd yn effeithio ar gynnyrch cnydau ac yn gorfodi ffermwyr i ddefnyddio stociau porthiant a neilltuwyd ar gyfer y gaeaf.
Mae amodau ton wres forol wedi parhau ym moroedd Cymru am y rhan fwyaf o haf 2026. Mae moroedd poethach yn effeithio ar ecosystemau, gan newid dosbarthiad rhywogaethau ac effeithio ar bysgodfeydd.
Gall bywyd gwyllt ar dir hefyd gael ei effeithio'n ddifrifol gan wres eithafol a sychder, wrth i ffynonellau bwyd a dŵr sychu a chylchoedd tymhorol newid.
Mae gwres eithafol ynghyd â diffyg glawiad yn creu amodau sy'n ffafriol i danau gwyllt ledaenu. Mae tanau gwyllt yn dinistrio tirweddau a seilwaith, ac mae mwg tanau gwyllt yn peri risgiau i iechyd y cyhoedd.
Cyhoeddodd y Gwasanaethau Tân ac Achub ddigwyddiadau mawr mewn ymateb i danau gwyllt ar Fynydd Conwy ddiwedd mis Gorffennaf; ac ar Fynydd Llanwynno, Rhondda Cynon Taf ddechrau mis Awst. Bu tanau gwyllt mawr hefyd ger Harlech a Blaenafon ym mis Gorffennaf.
Lleoliadau tanau gwyllt yng Nghymru yn 2026, hyd at 3 Awst

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddatganiadau cyhoeddus Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, a De Cymru.
Noder: Mae'r Gwasanaethau Tân ac Achub yn adrodd am ddigwyddiadau mewn gwahanol ffyrdd, ac efallai na fyddant yn gwneud datganiadau cyhoeddus ar gyfer yr holl danau gwyllt y maent yn ymateb iddynt. Felly, mae'n debygol bod y map hwn yn tanamcangyfrif cyfanswm y tanau gwyllt.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn bwriadu adolygu gallu Cymru i fynd i'r afael â thanau gwyllt, yn dilyn pryderon ynghylch diffyg cymorth diffodd tanau o'r awyr yng Ngwynedd.
Gall gwres eithafol effeithio ar yr economi drwy leihau cynhyrchiant gweithwyr, creu problemau iechyd, a niweidio seilwaith.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod y DU wedi colli gwerth ychwanegol gros o £1.2 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 1998 a 2021 oherwydd gostyngiadau mewn cynhyrchiant gweithwyr sy'n gysylltiedig â gwres. Mae astudiaethau rhyngwladol yn awgrymu bod colledion cynhyrchiant sy'n gysylltiedig â gwres yn cael effeithiau gwaeth ar fusnesau bach nag ar fusnesau mawr.
Addasu i'r normal newydd
Mae gwres eithafol yn dod yn fwyfwy cyffredin. Dyblodd nifer cyfartalog y diwrnodau poeth yng Nghymru rhwng diwedd yr 20fed ganrif (1981-2000) a dechrau'r 21ain ganrif (2001-2020), fel y dangosir yn y siart isod. O dan y lefel o gynhesu byd-eang a ragwelir erbyn 2050, gall Cymru ddisgwyl cynnydd pellach o 50% yn nifer y diwrnodau poeth.
Nifer cyfartalog y diwrnodau bob blwyddyn pan oedd y tymheredd uchaf yn uwch na 25°C

*Mae rhagamcanion 2050 a 2100 yn cyfateb i 2°C a 4°C o gynhesu byd-eang, yn y drefn honno. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi gofyn i lywodraethau gynllunio ar sail y gyfradd hon o gynhesu.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o Ddata’r Swyddfa Dywydd
Mae gwres cynyddol a sychder cynyddol yn ddau o risgiau hinsawdd â blaenoriaeth y DU, yn ôl y Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol. Er mwyn addasu'n well i'r risgiau hyn, mae wedi argymell yn ddiweddar y dylai llywodraethau:
- fuddsoddi mewn oeri gweithredol a goddefol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus allweddol, megis ysbytai, ysgolion, carchardai, a chartrefi gofal;
- cyflwyno rheoliadau sy'n pennu uchafswm tymheredd yn y gweithle; a
- chyflymu'r broses o ddarparu mesurau oeri i'r bobl fwyaf agored i niwed;
Nododd Llywodraeth ddiwethaf Cymru ei pholisïau ar gyfer lleihau risgiau o wres eithafol yn ei Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd. Y llynedd, argymhellodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru gyflwyno fframwaith cyfreithiol ar gyfer addasu i newid hinsawdd , er mwyn rhoi addasu ar yr un sail â fframwaith datgarboneiddio presennol Cymru.
Mae gwyddonwyr hinsawdd yn gwbl glir y bydd cynhesu byd-eang yn parhau nes bydd y byd yn cyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr ‘sero net’. Tan hynny, bydd angen cynyddol ar Gymru addasu i donnau gwres, sychder, a llifogydd.
Erthygl gan Dr Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru