Mae amseroedd aros y GIG yn parhau i fod yn ganolog i bolisi iechyd yng Nghymru ac mae yn aml yn destun trafod yn y Senedd. Er bod y prif ffigurau yn bwysig ar gyfer dangos pwysau yn y system, nid ydynt bob amser yn cyfleu profiad llawn cleifion.
Yn benodol, mae cwestiynau yn cael eu codi yn rheolaidd am sut mae ystadegau ynghylch amseroedd aros, yn adlewyrchu profiadau pobl sy'n derbyn triniaeth y tu allan i Gymru. Mae'r mater hwn yn arbennig o berthnasol yn ardaloedd y ffin fel rhannau o Bowys a rhannau o ogledd Cymru, lle mae llawer o drigolion yn defnyddio gwasanaethau ysbytai yn Lloegr.
Mae'r erthygl hon yn edrych ar beth a fesurir gan ystadegau amseroedd aros y GIG yng Nghymru, sut mae’r ystadegau yn cymharu â rhai Lloegr, a'r hyn sy'n hysbys am ofal iechyd trawsffiniol. Gweler hefyd ‘Yr hyn y mae angen i chi ei wybod am ofal iechyd trawsffiniol: Cymru a Lloegr’.
|
Mae gofal iechyd trawsffiniol yn cynnwys gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol, gyda chleifion yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn y ddau gyfeiriad. Fodd bynnag, at ddibenion deall ystadegau amseroedd aros, y prif ffocws yma yw gofal ysbyty, oherwydd dyna sut mae atgyfeiriadau at lwybrau triniaeth a’r rhan fwyaf o’r data ynghylch rhestrau aros trawsffiniol yn cael eu cofnodi. |
Beth mae ystadegau amseroedd aros y GIG yn ei fesur?
Fel arfer yng Nghymru, mesurir amseroedd aros ar gyfer gofal wedi'i gynllunio trwy ddefnyddio llwybrau gofal sy’n cofnodi’r amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT). Ers y pandemig, rhoddwyd mwy o sylw i dargedau adfer, fel y nodir yng Nghrynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: Mawrth ac Ebrill 2026.
Ym mis Mawrth 2026, roedd tua 666,700 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth gyda GIG Cymru.
Fodd bynnag, mae'r ystadegau hyn yn seiliedig ar weithgarwch o fewn GIG Cymru fel darparwr (hynny yw, mesurir gofal a ddarperir yng Nghymru, nid yr holl ofal a dderbynnir gan gleifion Cymru). Maent yn:
- cofnodi amseroedd aros ar gyfer gofal a ddarperir gan ddarparwyr yng Nghymru; ac yn
- adlewyrchu perfformiad yn erbyn targedau Llywodraeth Cymru.
Ond nid ydynt yn cofnodi yn llawn y wybodaeth a ganlyn:
- amseroedd aros a brofir gan holl drigolion Cymru; na
- thriniaethau a ddarperir y tu allan i Gymru.
Mae gofal iechyd trawsffiniol yn bwysig
Nid mater ymylol yw gofal trawsffiniol. Mae'n rhan o’r drefn o ddarparu gwasanaethau, gyda llawer o gleifion yn defnyddio ysbytai mewn ardaloedd dros y ffin yn Lloegr am resymau daearyddol a chyfluniad y gwasanaeth. Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos fel a ganlyn:
- ym mis Mawrth 2025, roedd tua 30,000 o drigolion Cymru ar restrau aros y GIG yn Lloegr; ac
- yn 2024–25, cleifion o Gymru oedd i gyfrif am 64,300 o dderbyniadau ysbyty yn Lloegr.
Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod nifer sylweddol o gleifion o Gymru yn cael gofal y GIG y tu allan i GIG Cymru. Fodd bynnag, nid ydynt yn dangos yr holl driniaethau a gafwyd y tu allan i Gymru, fel gofal arbenigol a ddarparwyd gan y GIG yn Lloegr neu driniaeth wedi’i hariannu’n breifat.

Mae tystiolaeth gan Llais Cymru (y corff annibynnol sy'n cynrychioli barn a buddiannau pobl Cymru mewn perthynas â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau gofal cymdeithasol) yn awgrymu bod tua 15–20% o bobl Cymru yn defnyddio gwasanaethau'r GIG yn Lloegr, gyda chyfradd llawer uwch mewn ardaloedd ger y ffin.
Gall hyn olygu y bydd cleifion mewn gwahanol rannau o Gymru yn defnyddio ysbytai yn Lloegr. I gleifion yn y dwyrain a ger canol y ffin, mae hyn yn golygu Ysbyty Sirol Henffordd ac Ysbyty Brenhinol Amwythig, gyda chleifion yn y gogledd yn mynd i Ysbyty Iarlles Caer.
Pam mae hyn yn bwysig ar gyfer dehongli amseroedd aros
Gan fod prif ystadegau amseroedd aros GIG Cymru yn cael eu hadrodd yn seiliedig ar ddarparwyr, yn hytrach na lle mae pobl yn byw, nid ydynt yn cofnodi’n uniongyrchol brofiad llawn trigolion Cymru, gan gynnwys y rhai sy’n cael triniaeth gan ddarparwyr y tu allan i’w bwrdd iechyd lleol. Er enghraifft:
- nid yw'r tua 30,000 o drigolion o Gymru ar restrau aros GIG Lloegr yn cael eu cynnwys ym mhrif gyfansymiau GIG Cymru ar gyfer cyfnodau rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT); a
- gall eu hamseroedd aros fod yn wahanol i gyfartaleddau Cymru.
Caiff hyn yr effaith ganlynol:
- perfformiad y system sy’n cael ei adlewyrchu gan y data yng Nghymru, nid profiad llawn y claf; a
- mewn ardaloedd fel Powys, lle mae llifau gofal trawsffiniol yn arbennig o uchel, gall y prif ystadegau fod yn llai cynrychioliadol oni bai eu bod yn cael eu darllen ochr yn ochr â data trawsffiniol a gyhoeddir ar wahân.
Powys a gofal trawsffiniol
Mae Powys yn enghraifft glir o hyn. Nid oes gan y sir ysbyty cyffredinol dosbarth, felly mae preswylwyr yn aml yn teithio i ardaloedd cyfagos i gael gofal ysbyty, gan gynnwys i fyrddau iechyd eraill yng Nghymru ac i Loegr. Ym Mhowys, mae gofal trawsffiniol yn elfen reolaidd o’r gofal a ddarperir, yn hytrach nag eithriad.
Dywed cofnodion o gyfarfod bwrdd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ym mis Medi 2025, fod cleifion yn wynebu arosiadau hir am driniaeth yn Lloegr (gweler tudalen 14), gan gynnwys 331 o gleifion a oedd yn aros mwy na 52 wythnos gydag Ysbyty Amwythig a Telford, ac 824 o gleifion gydag Ysbyty Robert Jones ac Agnes Hunt, gan nodi bod 56 ohonynt wedi aros mwy na 104 wythnos.
Yn yr un cyfarfod, nodwyd y gall comisiynu gofal trawsffiniol greu pwysau ariannol hefyd. Nododd y bwrdd iechyd na chafwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn groes i’r disgwyl blaenorol, i wneud iawn am gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â chomisiynu gofal gan GIG Lloegr, a bod hynny wedi cyfrannu at orwariant y bwrdd yn ystod y flwyddyn. Nododd hefyd fod GIG Lloegr wedi cynyddu tariffau am ofal heb ei gynllunio 13%.
Mewn tystiolaeth ysgrifenedig at Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin, tynnodd BMA Cymru sylw at raddfa gofal iechyd trawsffiniol ar gyfer trigolion Powys. Ar wahân i hynny, mewn dadl yn Neuadd San Steffan, dywedwyd bod bron i 40% o gyllideb Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael ei wario ar wasanaethau a ddarperir yn Lloegr.
Mae'r pwysau hyn hefyd wedi bod yn destun dadleuon gwleidyddol ynghylch tegwch a sut mae cyfrif arosiadau trawsffiniol. Mewn sesiwn graffu gyffredinol ym mis Chwefror 2026, fe wnaeth Russell George AS, Aelod o'r Senedd dros Bowys ar y pryd gwestiynu ffordd Llywodraeth Cymru o gyfleu amseroedd aros ym Mhowys, gan ddadlau y gallai ystadegau sy'n seiliedig ar ddarparwyr y gofal awgrymu nad oedd neb ym Mhowys wedi bod yn aros mwy na dwy flynedd, er bod rhai o drigolion Powys oedd yn cael eu trin mewn ysbytai yn Lloegr wedi aros yn hwy na hynny.
Dywedodd James Evans AS yn y Cyfarfod Llawn, fod gofal i’w etholwyr mewn rhannau o Bowys yn cael ei ohirio yn Lloegr am nad oedd y bwrdd iechyd yn gallu bodloni'r gofynion cyllido i dalu am y llawdriniaethau hynny.
Gyda’i gilydd, mae'r pwyntiau hyn yn dangos pam mae Powys yn aml yng nghanol dadleuon ynghylch tegwch, cyllid a sut y dylid dehongli perfformiad amseroedd aros mewn system drawsffiniol.
Cymariaethau â Lloegr
Mae cymariaethau rhwng amseroedd aros y GIG yng Nghymru ag amseroedd aros Lloegr yn gyffredin ond yn gymhleth. Mae'r gwahaniaethau allweddol yn cynnwys y pwyntiau a ganlyn:
- mae’r targedau’n wahanol (er enghraifft, mae targed safonol 18 wythnos yn Lloegr ond targedau adfer sydd yng Nghymru); a
- mae gwahaniaethau o ran cwmpas y data ac o ran methodoleg.
Mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi rhybuddio bod systemau'r GIG ledled y DU yn defnyddio gwahanol ddiffiniadau, systemau data a dulliau adrodd. Gall hyn wneud cymariaethau uniongyrchol yn heriol ac o bosibl yn gamarweiniol.
Bwlch yn y data
Er gwaethaf graddfa’r gofal trawsffiniol, nid yw prif ystadegau amseroedd aros GIG Cymru a gyhoeddwyd yn darparu un prif fesur cyfunol sy'n cwmpasu'r driniaeth a ddarperir yng Nghymru a'r driniaeth a dderbynnir gan drigolion Cymru yn Lloegr. Cyhoeddir rhywfaint o ddata trawsffiniol a data yn seiliedig ar breswyliad ar wahân gan Lywodraeth Cymru ac ar StatsCymru, ond nid yw'r rhain yn cael eu cyflwyno fel rhan o brif ffigurau safonol GIG Cymru ar gyfer amseroedd aros. Mae hyn yn golygu y gall yr ystadegau sydd ar gael barhau i adael darlun anghyflawn o anghydraddoldebau rhwng gwahanol rannau o Gymru oni bai bod ffynonellau ar wahân sy'n seiliedig ar breswyliad ac elfennau trawsffiniol yn cael eu hystyried ochr yn ochr â'r prif ffigurau.
Gan fod amseroedd aros y GIG yn parhau i fod yn fater pwysig, efallai y byddai gwerth mewn dangos yn gliriach bod data Cymru yn adlewyrchu gweithgarwch darparwyr, neu mewn cyhoeddi data ynghylch amseroedd aros trawsffiniol yn fwy rheolaidd. Gallai'r camau hyn wella dealltwriaeth y cyhoedd a hyrwyddo trafodaeth fwy gwybodus.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru