Cwestiynau’r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi’r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a’u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.
Isod mae canllaw cyflym i’r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi’i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau i’w gweld yma.
Gallwch wylio’r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn fyw am 1:30pm ar Senedd.tv.
Cwestiwn: Mae Gwyn Williams AS yn gofyn pa fuddion a ddaw i drigolion Abertawe yn sgil sefydlu cwmni ynni cyhoeddus cymunedol i Gymru.
Gwybodaeth: Roedd maniffesto Plaid Cymru yn sôn am “sicrhau bod gan bobl a chymunedau fwy o berchnogaeth dros ynni adnewyddadwy yng Nghymru a’u bod yn gweld mwy o fanteision hynny”. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer un cwmni ynni cyhoeddus i Gymru.
Cwestiwn: Mae John Clark AS yn holi ynghylch camau gweithredu i gefnogi busnesau lleol yn ardal Bangor.
Gwybodaeth: Mae ein canllawiau diweddaraf i etholwyr yn cynnwys canllaw i fusnesau bach. Mae’n amlinellu ffynonellau cymorth posibl sydd ar gael i fusnesau bach newydd a phresennol yng Nghymru, ac yn dangos sut i gysylltu â nhw.
Cwestiwn: Mae Adrian Mason AS yn holi ynghylch fforddiadwyedd ffioedd dysgu yng Nghymru.
Gwybodaeth: Trafodir ffioedd dysgu yn ein herthygl 'Yn y fantol: Cyllid Addysg Uwch', a gyhoeddwyd fel rhan o'n cyfres o Faterion Allweddol ar gyfer y Seithfed Senedd. Mae erthygl ddiweddar arall yn edrych ar y system benthyciadau myfyrwyr.
Cwestiwn: Mae Gareth Beer AS yn gofyn am ddatganiad ar amseroedd aros am lawdriniaeth cataract yn Sir Gaerfyrddin.
Gwybodaeth: Cafodd oedi mewn gwasanaethau offthalmoleg ei ystyried gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd, ac fe’i trafodir yn ein herthygl o fis Chwefror: Allan o ffocws: a yw Llywodraeth Cymru yn methu gweld brys ynghylch offthalmoleg?
Cwestiwn: Mae David Hughes AS yn gofyn am amserlen ar gyfer cyflwyno mesurau newydd i amddiffyn rhentwyr yn well.
Gwybodaeth: Mae'r gwahaniaethau rhwng hawliau rhentwyr yng Nghymru a Lloegr yn cael eu nodi yn ein herthygl o'r llynedd: Beth yw ystyr Deddf Hawliau Rhentwyr 2025 i Gymru?
Cwestiwn: Mae Sam Rowlands AS yn holi ynghylch canlyniadau’r Rhaglen Asesu Rhyngwladol Myfyrwyr (PISA) a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Gwybodaeth: Mae PISA yn gwerthuso systemau addysg gwledydd yn seiliedig ar sut mae plant 15 oed yn perfformio mewn profion safonedig. Trafodir canlyniadau PISA Cymru yn ein herthygl, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf: Sut wnaeth Cymru berfformio yn PISA 2025?
Cwestiwn: Mae Elyn Stephens AS yn holi ynghylch trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau bod Port Talbot yn cael cyfran deg o Gronfa Dur y DU.
Gwybodaeth: Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi hyd at £2.5 biliwn yn sector dur y DU drwy'r Gronfa Gyfoeth Wladol. Mae’r Prif Weinidog wedi galw o'r blaen am i gyfran o'r gronfa gael ei chlustnodi ar gyfer Cymru.
Cwestiwn: Mae James Evans AS yn gofyn i'r Prif Weinidog am y wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ailgychwyn triniaeth ffrwythlondeb yn Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru.
Cwestiwn: Mae John Davies AS yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau â Llywodraeth y DU ar sicrhau cyllid teg i Gymru.
Gwybodaeth: Darllenwch sut mae Cymru'n cael ei hariannu ar ein tudalen ar waith craffu ariannol, sy'n cynnwys deunydd ar grant bloc Cymru, fformiwla Barnett a’r fframwaith cyllidol.
Cwestiwn: Mae Cristiana Emsley AS yn gofyn am asesiad y Prif Weinidog o effeithiolrwydd llywodraethu clinigol a diogelu cleifion o fewn GIG Cymru.
Gwybodaeth: Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o drefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru. Am ragor o wybodaeth am y prif drefniadau goruchwylio ar gyfer GIG Cymru, gweler ein herthygl ddiweddar: Deall trefniadau llywodraethu'r GIG yng Nghymru.
Cwestiwn: Mae Steven Rodaway AS yn gofyn pa gymorth mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu i ysgolion ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm Cymru yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf mewn grym.
Gwybodaeth: Mae’r Cynllun 100 Diwrnod Cyntaf ar gael yma. Mae gan Lywodraeth Cymru ddangosfwrdd cynnydd sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd, ac mae hwnnw’n cynnwys adran ar ysgolion. Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi cael ei gyflwyno'n raddol dros y pedair blynedd diwethaf. Mae’r garfan hynaf i'w astudio bellach ym Mlwyddyn 11, sy'n golygu bod pob grŵp blwyddyn ysgol bellach yn ei ddilyn.
Cwestiwn: Mae Lis McLean AS yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i'r trydydd sector.
Gwybodaeth: Mae egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu'r trydydd sector yn cael eu nodi mewn cod ymarfer.
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru