Coridor ysbyty, mae nyrsys yn siarad ac yn gofalu am gleifion

Coridor ysbyty, mae nyrsys yn siarad ac yn gofalu am gleifion

Deall trefniadau llywodraethu’r GIG yng Nghymru

Cyhoeddwyd 01/06/2026   |   Amser darllen munudau

Cyn dod yn Weinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, awgrymodd Mabon ap Gwynfor AS y byddai diwygio trefniadau llywodraethu’r GIG Cymru yn flaenoriaeth gynnar iddo. Aeth ati i gomisiynu a chyhoeddi adroddiad a oedd yn dadlau dros atebolrwydd cliriach a threfniadau cryfach ar gyfer goruchwylio a rheoli perfformiad, gan gynnwys sicrhau Gweithrediaeth GIG fwy annibynnol.

Mae'r erthygl hon yn egluro beth mae trefniadau llywodraethu yn ei olygu yn ymarferol, yn amlinellu'r prif drefniadau goruchwylio sydd eisoes ar waith, ac yn tynnu sylw at faterion y gallai Aelodau fod eisiau eu trafod wrth graffu ar unrhyw raglen ddiwygio.

Beth yw trefniadau llywodraethu’r GIG?

Yn syml, mae trefniadau llywodraethu’n ymwneud â phwy sy'n gyfrifol am benderfyniadau, sut mae perfformiad yn cael ei fonitro, sut mae sefydliadau'n cael eu dwyn i gyfrif a sut mae Gweinidogion yn sicrhau bod y system yn cyflawni canlyniadau.

Yn GIG Cymru, mae trefniadau llywodraethu’n gweithredu ar sawl lefel:

  • Llywodraeth Cymru (cyfeiriad strategol, cyllid, goruchwyliaeth)
  • Perfformiad a Gwella GIG Cymru (Gweithrediaeth GIG Cymru gynt) a chyrff cenedlaethol (cydgysylltu a sicrwydd)
  • Byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd (cyflawni ac atebolrwydd lleol)

Bwriad fframweithiau llywodraethu yw sicrhau bod sefydliadau'n darparu gofal diogel ac effeithiol, yn defnyddio arian cyhoeddus yn briodol ac yn gwella perfformiad dros amser.

Mae cyfres esboniadol Cydffederasiwn GIG Cymru yn darparu cyflwyniadau hygyrch i'r pynciau hyn, gan gynnwys:

Sut mae'r GIG wedi'i strwythuro yng Nghymru

Sut mae'n cael ei ariannu

Fframweithiau cynllunio ac uwchgyfeirio

Beth mae datblygiadau diweddar yn ei awgrymu o ran cynlluniau i ddiwygio trefniadau llywodraethu?

Mae datblygiadau diweddar yn awgrymu bod unrhyw raglen o ddiwygio trefniadau llywodraethu yn debygol o ganolbwyntio’n llai ar ad-drefnu strwythurol a mwy ar sut mae GIG Cymru yn cael ei oruchwylio yn ymarferol.

Ym mis Hydref 2024, penododd Llywodraeth flaenorol Cymru Grŵp Cynghori Gweinidogol allanol i adolygu effeithiolrwydd y trefniadau presennol ar gyfer gwella perfformiad a chynhyrchiant GIG Cymru. Roedd adroddiad y grŵp, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2025, yn cynnwys 29 o argymhellion, gan ddod i’r casgliad y byddai gwelliant yn dibynnu’n rhannol ar amcanion cliriach, atebolrwydd cryfach, rheoli perfformiad yn fwy craff a gwneud defnydd gwell o ddata.

Ynghyd â phwyslais blaenorol y Gweinidog Cabinet ar drefniadau llywodraethu'r GIG, mae'r datblygiadau hyn yn awgrymu diwygiadau sydd â'r nod o egluro pwy sy'n gyfrifol am gyflawni, cryfhau’r broses o graffu ar berfformiad, gwella arweinyddiaeth y byrddau iechyd a gwneud risgiau a chynnydd yn fwy gweladwy. Maent hefyd yn awgrymu ffocws cryfach ar y cwestiwn a yw trefniadau goruchwylio presennol yn darparu her a chefnogaeth amserol ar y lefel genedlaethol a’r lefel leol.

Nid yw hynny ynddo'i hun yn dynodi rhaglen newid sefydledig. Fodd bynnag, mae'n rhoi arwydd cliriach o gyfeiriad y daith: disgwyliadau mwy penodol; trefniadau monitro agosach; atebolrwydd cryfach; a mwy o dryloywder ynghylch perfformiad, risg a gwelliant.

Beth yw'r fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio?

Defnyddiodd Llywodraeth flaenorol Cymru Fframwaith Goruchwylio ac Uwchgyfeirio i adolygu perfformiad ac asesu risg ar draws sefydliadau GIG Cymru.

Mae'r fframwaith yn nodi sut mae pryderon yn cael eu nodi a lefel yr ymyrraeth a all ddilyn, yn ogystal â'r meini prawf posibl ar gyfer isgyfeirio sefydliadau. Mae'n berthnasol ar draws byrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac awdurdodau iechyd arbennig, a'i fwriad yw darparu strwythur cyson ar gyfer goruchwylio, sicrwydd ac ymyrraeth.

Mae pum lefel o uwchgyfeirio yn y fframwaith:

 

 Lefel 1 – Trefniadau arferol

Mae sefydliadau'r GIG yn gyfrifol am gynnal trefniadau llywodraethu priodol a sicrhau bod y rhain yn effeithiol ac yn darparu gofal diogel o ansawdd.

 

 Lefel 2 – Maes sy’n peri pryder

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â sefydliad y GIG i archwilio natur a lefel y pryder. Disgwylir i’r sefydliad perthnasol ymateb i'r pryderon hynny.

 

Lefel 3 – Monitro uwch

Mae hyn yn berthnasol pan fydd pryderon difrifol wedi'u nodi. Disgwylir i sefydliadau’r GIG roi prosesau effeithiol ar waith i ymdrin â materion sy’n peri pryder, tra bod Llywodraeth Cymru yn cydgyslltu gweithgarwch, yn arsylwi, yn herio ac yn adolygu cynnydd.

 

Lefel 4 – Ymyrraeth wedi'i thargedu

Mae Llywodraeth Cymru, cyrff eraill y GIG neu gyrff adolygu allanol yn gweithio gyda sefydliadau lle mae pryderon difrifol wedi'u nodi. Gall cefnogaeth gynnwys mentora am gyfnod cyfyngedig, cyngor gan unigolion profiadol sydd ag arbenigedd clinigol neu arbenigedd ym maes llywodraethu, a gwaith adolygu.

 

Lefel 5 – Mesurau arbennig

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall Llywodraeth Cymru ganfod pryderon difrifol iawn ynghylch un o sefydliadau’r GIG. Gall Gweinidogion Cymru ymyrryd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, gan gynnwys drwy ddarparu cymorth wedi'i dargedu neu drwy atal neu ddileu pwerau a dyletswyddau aelodau o'r bwrdd. Bwriedir i'r pwerau ffurfiol hyn fod yn ddewis olaf pan nad yw ymyrraeth arall yn debygol o lwyddo.

Beth yw statws uwchgyfeirio sefydliadau'r GIG ar hyn o bryd?

Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru ddiweddariadau rheolaidd ar statws uwchgyfeirio sefydliadau'r GIG yng Nghymru. Roedd y wybodaeth ddiweddaraf, a gyhoeddwyd ar 9 Ebrill 2026, yn dangos bod pob bwrdd iechyd yng Nghymru o dan ryw fath o ymyrraeth.

Tabl 1: Statws uwchgyfeirio Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Iechyd Arbennig yng Nghymru ar 9 Ebrill 2026

Sefydliad 

Statws

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio, a pherfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â gofal brys a gofal mewn argyfwng.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Lefel 5 (ers mis Chwefror 2023).

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Lefel 4.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â gofal wedi'i gynllunio. Lefel 4 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â gofal brys a gofal mewn argyfwng.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â gofal wedi'i gynllunio. Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio; perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â gofal brys a gofal mewn argyfwng; gwasanaethau eiddilwch (gan gynnwys offthalmoleg); a heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â gofal wedi'i gynllunio a gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio; perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â chanser; heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd; gofal brys a gofal mewn argyfwng; a gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau newyddenedigol.

Ymhlith ymddiriedolaethau ac awdurdodau iechyd arbennig, roedd Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru i gyd ar Lefel 1. Iechyd a Gofal Digidol Cymru oedd yr eithriad, gan aros ar Lefel 4.

Rhoddwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig (Lefel 5) ym mis Chwefror 2023 mewn ymateb i bryderon difrifol ynghylch trefniadau llywodraethu, arweinyddiaeth a pherfformiad. Mae’r Gweinidog Cabinet wedi nodi’n gyhoeddus y bydd y bwrdd iechyd yn cael rhagor o amser i ddangos gwelliant, ac ar ôl hynny gellid ystyried newidiadau sefydliadol mwy sylfaenol os bernir bod y cynnydd a wnaed yn annigonol.

Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru adroddiadau rheolaidd ar gynnydd y bwrdd iechyd, ochr yn ochr â fframweithiau uwchgyfeirio penodol i'r sefydliad ar gyfer pob bwrdd iechyd ac ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Cyfarfodydd atebolrwydd cyhoeddus

Ochr yn ochr â'r trefniadau uwchgyfeirio ffurfiol hyn, rhwng mis Hydref 2025 a mis Mawrth 2026, cynhaliodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y pryd, gyfres o gyfarfodydd atebolrwydd cyhoeddus gyda byrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac awdurdodau iechyd arbennig.

Canolbwyntiodd y cyfarfodydd hyn ar gyflawniad gweithredol yn ystod y flwyddyn, cyflawniad yn erbyn cynlluniau sefydliadol, y sefyllfa ariannol a’r rhagolygon ariannol, ansawdd a diogelwch, a risgiau i gyflawni.

Ar ôl cynnal y cyfarfodydd hyn, cafodd myfyrdodau arnynt eu cyhoeddi gan Ysgrifennydd y Cabinet.

Beth yw'r ystyriaethau allweddol ar gyfer gwaith craffu?

Ymddengys bod y pwyslais ar lywodraethu yn adlewyrchu barn y gallai rhai o heriau presennol y GIG o ran perfformiad fod yn gysylltiedig, o leiaf yn rhannol, â sut mae'r system yn cael ei harwain, ei goruchwylio a'i dwyn i gyfrif. Yn y cyd-destun hwnnw, mater allweddol i’w drafod fydd beth yw nod diwygio trefniadau llywodraethu yn ymarferol.

  • Pa broblemau penodol o ran trefniadau llwodraethu y mae Llywodraeth Cymru yn ceiso ymdrin â nhw?
  • Sut fydd newidiadau i drefniadau llywodraethu yn gwella canlyniadau i gleifion, fel amseroedd aros neu fynediad at ofal? Pa ddangosyddion fydd yn dangos llwyddiant?
  • Pa mor gyflym y dylai gwelliannau fod yn weladwy?
  • A fydd newidiadau i sut a phryd y caiff sefydliadau eu huwchgyfeirio?
  • Sut fydd diwygiadau i drefniadau llywodraethu yn cryfhau arweinyddiaeth o fewn byrddau iechyd?
  • A fydd data newydd neu well yn cael eu cyhoeddi i gefnogi gwaith craffu?
  • Beth sy'n digwydd os nad yw mesurau arbennig a threfniadau ymyrraeth presennol yn arwain at welliant digonol?

Mae'n rhy gynnar i ddweud yn union beth fydd dull gweithredu’r Llywodraeth newydd yn ei olygu i drefniadau llywodraethu’r GIG. Felly, mae'n debygol y bydd y cwestiynau allweddol i helpu i lywio gwaith craffu yn y maes hwn yn dod yn gliriach unwaith y bydd unrhyw gynigion wedi'u nodi mewn rhagor o fanylder.


Erthygl gan Rebekah James a Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru