Mae benthyciadau myfyrwyr wedi cael sylw mawr dros y misoedd diwethaf gyda llawer o bobl yn gofyn pa mor 'deg' ydyn nhw, yn enwedig benthyciadau Cynllun 2. Er i Lywodraeth y DU roi’r gorau i fenthyciadau Cynllun 2 Lloegr yn 2023, mae israddedigion Cymru yn dal i’w cymryd .
Sut mae benthyciadau myfyrwyr yn gweithio?
Cyllid Myfyrwyr Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am asesu ceisiadau myfyrwyr am gyllid a phenderfynu ar eu cymhwysedd ar ran Llywodraeth Cymru. Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr sydd yn talu'r benthyciadau a'r grantiau i sefydliadau a myfyrwyr, ac yn rheoli cyfrifon myfyrwyr gan gynnwys ymdrin ag ad-daliadau trwy'r system dreth.
Bydd sut a phryd y bydd myfyrwyr yn ad-dalu eu benthyciadau yn dibynnu ar bryd y dechreuon nhw eu cwrs a'r math o gynllun sydd ganddynt. Yng Nghymru, mae tri chynllun ad-dalu:
- Cynllun 1: Myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs cyn 1 Medi 2012;
- Cynllun 2: Myfyrwyr a ddechreuodd gwrs israddedig ar neu ar ôl 1 Medi 2012; ac
- Ôl-raddedigion / Cynllun 3: Myfyrwyr a ddechreuodd gwrs Meistr neu Ddoethuriaeth ôl-raddedig ar neu ar ôl 1 Awst 2018.
Mae cynlluniau ad-dalu gwahanol ledled y DU. Roedd myfyrwyr a ddechreuodd gyrsiau israddedig yn Lloegr rhwng 1 Medi 2012 a 31 Gorffennaf 2023 ar Gynllun 2; ers hynny, mae myfyrwyr newydd ar Gynllun 5.
Trothwyon incwm a chyfraddau llog
Llywodraeth Cymru sy’n pennu trothwyon ad-dalu a chyfraddau llog ar gyfer myfyrwyr Cymru.
Mae trothwyon ad-dalu yn effeithio'n uniongyrchol ar fyfyrwyr gan mai dyma'r swm y gallant ei ennill cyn gorfod ad-dalu eu benthyciad. Yn debyg i dreth incwm, mae cyfnodau o rewi'r trothwyon yn annog mwy o fyfyrwyr i wneud ad-daliadau ac yn cynyddu'r arian sy'n mynd i Drysorlys EF.
Codir llog ar bob cynllun benthyciad o’r diwrnod y gwneir y taliad cyntaf i'r myfyriwr neu'r sefydliad nes bod y benthyciad myfyriwr wedi'i ad-dalu'n llawn neu wedi'i ddiddymu. Gan fod ad-daliadau’n ddibynnol ar incwm, nid yw newidiadau i gyfraddau llog yn effeithio ar swm yr ad-daliadau, dim ond ar gyfanswm balans y benthyciad.
Benthyciadau Cynllun 2 yng Nghymru
Fel arfer, y cyfraddau llog a godir ar fenthyciadau Cynllun 2 tra bod myfyrwyr yn astudio yw'r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) plws 3%. Fodd bynnag, unwaith y bydd yn rhaid i fyfyrwyr ad-dalu, mae'r gyfradd llog a godir yn amrywiol ac yn ddibynnol ar incwm. Yn 2026/27, rhaid talu llog yn seiliedig ar enillion fel a ganlyn:
- £29,385 neu lai = Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI);
- rhwng £29,385 a £52,885 = graddfa symudol sydd rhwng RPI ac RPI plws 3%;
- dros £52,885 = fel arfer RPI plws 3%.
Mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw cyfradd llog benthyciad myfyrwyr yn uwch na'r llog cyfartalog a godir ar fenthyciadau masnachol (cyfradd y farchnad bresennol). Pan gododd cyfraddau llog ar ôl pandemig Covid, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gap ar y gyfradd llog i gadw at y gofynion hynny.
Pan fydd rhaid dechrau ad-dalu benthyciad myfyriwr, yn y mis Ebrill ar ôl i fyfyrwyr adael neu orffen eu cwrs, byddant yn ad-dalu 9% o'u hincwm dros y trothwy (£29,385 ar hyn o bryd ar gyfer 2026/27) gydag ad-daliadau yn cael eu casglu gan CThEF drwy'r system dreth. Os yw incwm myfyriwr yn llai na'r trothwy, ni fydd yn gwneud ad-daliadau.
30 mlynedd ar ôl i fyfyriwr ddechrau gwneud ad-daliadau, bydd unrhyw fenthyciad Cynllun 2 ynghyd â llog sy'n weddill yn cael ei ddiddymu.
Newidiadau yn y dyfodol
Cynyddodd Llywodraeth y DU y trothwy ad-dalu Cynllun 2 yn Lloegr i £29,385 ar gyfer 2026-27 a dywedodd y bydd yn cael ei rewi ar y lefel honno am dair blynedd o fis Ebrill 2027. Er bod y trothwy ad-dalu yng Nghymru wedi cynyddu yn unol â’r trothwy yn Lloegr ar gyfer 2026-27, dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru nad oedd ganddi “unrhyw fwriad o rewi’r trothwyon a dilyn Lloegr”. Fodd bynnag, bydd hwn yn benderfyniad i Lywodraeth newydd Cymru.
Ym mis Ebrill 2026, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn gosod cap o 6% ar gyfraddau llog ar fenthyciadau Cynllun 2 o 1 Medi 2026 ymlaen. Cytunodd Llywodraeth flaenorol Cymru mewn egwyddor â chynllun Llywodraeth y DU i gapio cyfraddau llog ond dywedodd fod “unrhyw benderfyniad ffurfiol […] yn fater i Lywodraeth nesaf Cymru”.
Sut mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo arian ar gyfer cyllid myfyrwyr?
Er mai Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu sut i ddyrannu ei hadnoddau, Trysorlys EF sy’n gyfrifol am reolaethau o ran cyllido’r system cyllid myfyrwyr yng Nghymru.
Mae’r Trysorlys yn ariannu dyraniad Llywodraeth Cymru ar gyfer benthyciadau myfyrwyr newydd yn llawn ar yr amod bod trefniadau cyllid myfyrwyr Cymru (a'u cost) yn lled debyg i'r trefniadau yn Lloegr. Os yw Llywodraeth Cymru yn dymuno cynnig cynllun mwy hael neu os daw’r Trysorlys i’r casgliad fod y cynllun yng Nghymru yn costio mwy na'r cynllun yn Lloegr, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ariannu'r gost ychwanegol o'i chyllideb bresennol, sydd felly yn lleihau'r swm sydd ganddi i'w gwario ar bolisïau datganoledig eraill.
Y Trysorlys sydd hefyd yn dyrannu’r cyllidebau a ganlyn nad ydynt yn arian parod ac sydd wedi'u clustnodi (sy'n golygu na all Llywodraeth Cymru eu defnyddio ar gyfer unrhyw beth arall):
- gwerth unrhyw fenthyciadau newydd nad yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fyfyrwyr eu had-dalu. Gelwir hyn yn gost Cyfrifyddu Adnoddau a Chyllidebu neu daliadau 'RAB', mae’r Trysorlys yn penderfynu ar y dyraniad hwn drwy ddefnyddio Fformiwla Barnett;
- y newid blynyddol yng ngwerth y benthyciadau a roddwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Gelwir hwn yn 'dâl stoc', a’r Trysorlys sy’n ei dalu ar yr amod ei fod o fewn amrediad rhesymol.
Y model newydd ar gyfer prisio benthyciadau myfyrwyr
Mae rhoi gwerth ar asedau benthyciadau myfyrwyr Llywodraeth Cymru, sef y swm y disgwylir i fyfyrwyr ei ad-dalu, yn gofyn am broses fodelu gymhleth.
Ar 31 Mawrth 2025, rhoddodd Llywodraeth flaenorol Cymru werth o £8.9 biliwn ar asedau benthyciadau myfyrwyr. Fodd bynnag, yn y flwyddyn ariannol ganlynol, mae'n defnyddio’r model newydd a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU i amcangyfrif gwerth asedau benthyciadau myfyrwyr. Dangosodd y model hwn fod enillion myfyrwyr yn y dyfodol yn debygol o fod yn is gan leihau'r swm y byddant yn ei ad-dalu o'i gymharu â'r hen fodel a chynyddu'r tâl stoc yn sylweddol am y flwyddyn.
Dyrannodd y Trysorlys gyllid ychwanegol nad yw'n arian parod o £2.4bn i Lywodraeth flaenorol Cymru ar gyfer y cynnydd amcangyfrifedig ar gyfer tâl stoc yn 2025-26.
Ai dyma ddiwedd y Trysorlys yn ariannu cyllid myfyrwyr Cymru yn llawn?
Hyd yn hyn, mae’r Trysorlys wedi ariannu benthyciadau myfyrwyr yn llawn ar y sail bod y costau yng Nghymru yn lled debyg i’r costau yn Lloegr. Ym mis Ionawr 2026, dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru fod gweithredu o fewn terfynau’r Trysorlys yn her o ran rhoi cymorth parhaus i fyfyrwyr yng Nghymru.
Ym mis Mawrth 2026, dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru wrth Bwyllgor Cyllid y Chweched Senedd fod y Trysorlys wedi cadw llygad barcud ar y maes polisi hwn ac wedi tynhau’r rheolau yn y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd:
[…] the thing for us to watch in the coming months is whether our system is more generous than systems elsewhere, and when it starts to cost us real money as well.
Hefyd, ym mis Mawrth 2026, dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru fod Cymru bellach yn gweithredu’n agos i’r sefyllfa o ran cyffelybu â’r Trysorlys ar gyfer cyhoeddi benthyciadau myfyrwyr newydd.
Nododd Llywodraeth flaenorol Cymru y gall tâl RAB ar gyfer 2025-26 fod yn fwy na'r hyn y bydd y Trysorlys yn ei gwmpasu ac, yn amodol ar gadarnhau'r alldro terfynol, efallai y bydd gofyn i Lywodraeth Cymru dalu £7.7 miliwn o'i choffrau ei hun ar gyfer gwariant dydd i ddydd.
Beth mae hyn yn ei olygu i Lywodraeth newydd Cymru?
Fel y nodwyd eisoes, er mwyn i’r Trysorlys ei hariannu'n llawn, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu’r system cyllid myfyrwyr o fewn rheolaethau penodol ac mae trefniant cyllid myfyrwyr Cymru yn agos at fynd yn groes i’r rheolaethau hyn. Bydd yn her i Lywodraeth newydd Cymru o ran cwrdd â'r gormodedd pe bai’r Trysorlys yn dod i’r casgliad ei bod wedi gwneud hynny.
Mae eto i’w benderfynu a yw'r trefniadau presennol, a ddisgrifiwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru fel “y pecyn cymorth ariannol mwyaf hael i fyfyrwyr yn y DU”, am fod yn gynaliadwy yn ariannol yn y dyfodol. Bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru wneud penderfyniadau am y cynllun hirdymor ar gyfer cyllid myfyrwyr.
Erthygl gan Lucy Yarham a Joanne McCarthy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru