Mae ein canllawiau i etholwyr yn ymdrin ag ystod o feysydd polisi allweddol. Maent yn nodi sut y gall y meysydd polisi weithio'n ymarferol yn helpu i ateb cwestiynau cyffredin etholwyr, ac yn dangos y ffordd at gyngor a chymorth ariannol.
Canllawiau i etholwyr
Busnes
Busnesau bach: Canllaw i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gymorth posibl sydd ar gael i fusnesau bach newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli.

Ardrethi annomestig (busnes): Canllawiau i etholwyr
Cyhoeddwyd: Awst 2026
Gofynnir i Ymchwil y Senedd yn rheolaidd am ardrethi busnes, a sut maent yn berthnasol i fusnesau unigol mewn etholaethau a rhanbarthau. Mae’r hysbysiad hwylus hwn yn ceisio ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredi.

Cymunedau a Tai
Cyngor Cyfreithiol: Canllawiau i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae'r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gyngor cyfreithiol sydd ar gael i etholwyr sy'n ceisio cymorth neu gefnogaeth gydag amrywiaeth o faterion cyfreithiol.

Adeiladau cymunedol, mannau addoli a grwpiau ffydd
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae'r canllaw cyllid hwn yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gymorth ariannol sydd ar gael i sefydliadau a grwpiau at ddibenion adeiladu, datblygu, a chynnal a chadw adeiladau cymunedol a mannau addoli. Mae'r canllaw hwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gymorth ariannol sydd ar gael i grwpiau ffydd.

Cefnogaeth wrth ymateb i achosion o gam-drin domestig: Canllaw i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Nod y daflen ffeithiau hon yw cynorthwyo Aelodau o’r Senedd a’u staff i ymateb i bryderon etholwyr ynghylch cam-drin domestig a chyfeirio pobl at ffynonellau perthnasol o gymorth yng Nghymru. Caiff y wybodaeth hon ei darparu i gefnogi gwaith achos ac atgyfeirio yn yr etholaeth. Nid y bwriad yw dibynnu arni fel cyngor cyfreithiol na chyngor proffesiynol.

Cymorth i aelwydydd â biliau ynni a thlodi tanwydd: Canllaw i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae’r canllaw hwn yn cyfeirio at ffynonellau cymorth i aelwydydd sy’n wynebu heriau o ran biliau ynni a/neu dlodi tanwydd. Mae’n cynnwys gwybodaeth am grantiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a chymorth ehangach; cymorth a ddarperir gan gyflenwyr ynni a dŵr; cynlluniau effeithlonrwydd ynni; a ffynonellau eraill o gyngor a chymorth.

Gwaith atgyweirio ac amodau mewn cartrefi rhent: Canllaw i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae'r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth i etholwyr sy'n ceisio ymdopi ag amodau gwael neu broblemau o ran diffyg gwaith atgyweirio mewn cartrefi rhent preifat neu gymdeithasol.

Cymhorthion ac addasiadau yn y cartref: Canllaw i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae’r canllaw hwn i etholwyr yn rhoi trosolwg o’r cymorth sydd ar gael i bobl yng Nghymru y mae angen addasiadau yn y cartref arnynt neu offer i’w helpu i fyw’n annibynnol.

Digartrefedd, troi allan ac adfeddu: Canllaw i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am hawliau tai sylfaenol yng Nghymru a ble i droi i gael cymorth. Mae’n cyfeirio at ffynonellau cymorth sydd ar gael i etholwyr sy’n wynebu digartrefedd, cael eu troi allan o dai rhent, neu’n wynebu adfeddu cartref â morgais.

Diwylliant
Cymorth i’r Celfyddydau: Canllawiau i etholwyr
Cyhoeddwyd: Awst 2026
Mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gymorth ariannol sy’n ymwneud â’r celfyddydau.

Addysg
Cludiant rhwng y cartref a'r ysgol: Canllawiau i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae'r papur hwn yn crynhoi'r sefyllfa gyfreithiol gyfredol o ran dyletswyddau awdurdodau lleol i ddarparu cludiant ysgol am ddim i ddisgyblion. Mae hefyd yn ceisio ateb rhai cwestiynau cyffredin sy’n ymwneud â chludiant i ddysgwyr.

Cynigion trefniadaeth ysgolion: Canllawiau i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae'r papur hwn yn crynhoi'r broses y mae awdurdodau lleol a chyrff perthnasol eraill yn ei dilyn er mwyn ad-drefnu darpariaeth ysgolion, er enghraifft pan fyddant yn dymuno cau neu uno ysgolion.

Derbyniadau i Ysgolion: Canllawiau i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae’r briff hwn yn rhoi ychydig o wybodaeth gefndirol am y broses derbyn i ysgolion ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru, ac yn ateb rhai cwestiynau cyffredin.

Anghenion Dysgu Ychwanegol: Canllawiau i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae’r papur briffio hwn yn rhoi trosolwg o’r system ar gyfer diwallu ‘Anghenion Dysgu Ychwanegol’ (ADY) dysgwyr rhwng 0 a 25 mlwydd oed yng Nghymru.

Addysg Ôl-16
Cymorth ariannol i fyfyrwyr israddedig mewn addysg uwch 2026/27: Canllaw i etholwyr
Cyhoeddwyd : Gorffennaf 2026
Mae'r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy'n bwriadu astudio cwrs addysg uwch israddedig amser llawn neu ran-amser yn 2026/27. Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.

Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig mewn addysg uwch 2026/27: Canllaw i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Bwriad y canllaw hwn yw helpu dysgwyr ôl-raddedig i ddeall pa gymorth ariannol a allai fod ar gael i’w helpu i astudio cwrs addysg uwch.

Cymorth ariannol i fyfyrwyr mewn Addysg Bellach: Canllaw i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae gwahanol fathau o gymorth ariannol y gallai myfyrwyr fod yn gymwys i'w cael ar gyrsiau Addysg Bellach amser llawn neu ran-amser yng Nghymru. Mae addysg bellach yn aml ar gyfer y rhai 16-18 oed, er y gall oedolion astudio hefyd; fel arfer caiff ei gyflwyno trwy golegau lleol a chweched dosbarth ysgolion.
Canllaw cyffredinol i'r hyn sydd ar gael yw'r erthygl hon ac nid yw'n cwmpasu sefyllfa pawb.Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan bob chweched dosbarth neu goleg unigol, a chan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Yr Amgylchedd
Prosiectau amgylcheddol a chyllid: Canllaw i Etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae'r canllaw hwn yn cyfeirio at gefnogaeth a gwybodaeth i etholwyr sydd â diddordeb mewn prosiectau amgylcheddol. Mae'n rhestru ffynonellau cymorth ariannol sy'n ymwneud â newid hinsawdd, ynni, dŵr, datblygu gwledig a gweithredu ar natur yng Nghymru.

Gwasanaethau Iechyd a Gofal
Gwasanaethau niwroddatblygiadol yng Nghymru: Canllawiau i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae’r papur briffo hwn yn rhoi gwybodaeth a data am wasanaethau niwroddatblygiadol yng Nghymru

Cymorth i bobl anabl: Canllawiau i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae'r Canllaw Etholaethol hwn yn cyfeirio at ffynonellau cymorth i bobl anabl. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gymorth cyflogaeth, cyngor ariannol a ffynonellau eraill o gyngor a chymorth.

Talu am wasanaethau gofal a chymorth (gofal cymdeithasol i oedolion): Canllaw i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae’r canllaw hwn ar gyfer etholwyr yn mynd â chi drwy'r broses ar gyfer penderfynu pryd y dylai pobl dalu am wasanaethau gofal cymdeithasol a faint y dylent ei dalu. Mae hefyd yn cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth a chefnogaeth a allai fod yn ddefnyddiol.

Cael mynediad at wasanaethau gofal a chymorth (gofal cymdeithasol i oedolion): Canllaw i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Bydd y canllaw hwn yn eich tywys drwy'r broses gychwynnol, a bydd hefyd yn amlinellu eich hawliau chi a chyfrifoldebau awdurdodau lleol. Yn ogystal, bydd yn cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth a chefnogaeth a allai fod yn ddefnyddio.

Gwneud cwyn am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru: Canllaw i etholwyr
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026
Mae’r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o sut i wneud cwyn am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae hefyd yn cyfeirio at ffynonellau defnyddiol eraill o wybodaeth a chymorth.

Taflen wybodaeth etholaeth: Cymorth iechyd meddwl
Cyhoeddwyd: July 2026
Bwriad yr erthygl hon yw cynnig help llaw i Aelodau o’r Senedd a'u staff i ymateb i bryderon etholwyr ynghylch iechyd meddwl, a chyfeirio pobl at ffynonellau cymorth perthnasol.
