Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos hon – 03/11/2026

Cyhoeddwyd 03/11/2026   |   Amser darllen munudau

Cwestiynau’r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi’r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a’u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.

Isod ceir canllaw cyflym i’r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi’i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau ar gael yma.

Gallwch wylio’r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn fyw am 13:30 ar Senedd.tv.


Cwestiwn:  Mae Steve Bayliss AS yn holi ynghylch pa sicrwydd sydd wedi'i geisio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynglŷn â'u trefniadau diogelu a chapasiti ymwelwyr iechyd.

Gwybodaeth: Trafododd y Senedd anghydfod o ran cyflog ymwelwyr iechyd y Bwrdd Iechyd ar 16 Medi 2026. Roedd y ddadl yn ymdrin â'r anghydfod, diogelu a'r adolygiad arfaethedig o ymweliadau iechyd.


Cwestiwn: Mae Louise Emery AS yn holi ynghylch effaith cyllideb yr hydref Llywodraeth y DU ar fusnesau bach manwerthu, lletygarwch a hamdden yng Nghymru.

Gwybodaeth: Ymatebodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid i gyllideb yr hydref mewn datganiad. Yng nghyllideb yr hydref, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gefnogaeth bellach i gefnogi busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn Lloegr gyda'u biliau ardrethi busnes.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ostyngiad o 30% i filiau ardrethi busnes ar gyfer busnesau lletygarwch a hamdden yng Nghymru, i'w gyflawni drwy leihau'r lluosydd ardrethi busnes yn yr un modd ag y mae ar gyfer manwerthwyr llai. Cyflwynir y gefnogaeth hon ym mis Ebrill 2027.


Cwestiwn: Mae Claire Archibald AS yn holi beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cynaliadwyedd economaidd fferyllfeydd cymunedol.


Cwestiwn: Mae Sam Rowlands AS yn holi sut mae'r Prif Weinidog yn hyrwyddo cydweithrediad ac yn meithrin cysylltiadau cryfach rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth: Mae ein hadroddiadau monitro a gaiff eu diweddaru’n rheolaidd yn casglu gwybodaeth allweddol ac yn rhoi trosolwg o ddatblygiadau polisi allweddol diweddar, gan gynnwys ar gyfer materion cyfansoddiadol.


Cwestiwn: Mae Alun Cox AS yn holi pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran gweithredu system fudd-daliadau i Gymru.

Gwybodaeth: Mae System Budd-daliadau Cymru yn nifer o raglenni Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi aelwydydd incwm isel, ac a ddarperir yn ogystal â system nawdd cymdeithasol Llywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth flaenorol Cymru wedi sefydlu grŵp llywio i fwrw ymlaen â gwaith i greu system fwy cydgysylltiedig, a gwireddu ymrwymiadau Siarter Budd-daliadau Cymru. Mae'r llywodraeth bresennol wedi comisiynu academyddion o Brifysgol Caerdydd i adolygu effeithiolrwydd Budd-daliadau Cymru ar hyn o bryd, er mwyn symleiddio prosesau o'u cwmpas yn fwy. Disgwylir i’r adroddiad gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2026.


Cwestiwn: Mae Claire Johnson-Wood AS yn holi ynghylch trafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal ynghylch gwasanaethau cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc.

Gwybodaeth: Mae ein herthygl ddiweddar, Iechyd meddwl yng Nghymru: beth mae'r data yn ei ddangos?, yn edrych ar yr hyn y mae data sydd ar gael yn ei ddweud wrthym am iechyd meddwl yng Nghymru, gan gynnwys lefelau angen, galw am wasanaethau a mynediad atynt, anghydraddoldebau a chanlyniadau, a bylchau yn y sylfaen dystiolaeth.

Yn ogystal â hyn, mae ein taflen wybodaeth etholaeth: Cymorth iechyd meddwl, yn cyfeirio at ffynonellau cymorth perthnasol.


Cwestiwn: Mae Andrew Griffin AS yn holi ynghylch digonolrwydd cyllid ar gyfer cyfleusterau chwaraeon cymunedol yng nghefn gwlad Cymru.

Gwybodaeth: Canfu dadansoddiad Ymchwil y Senedd (yn 2025) fod cyllid ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru ymhlith yr isaf yn Ewrop.

Cyhoeddodd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon yn ddiweddar fuddsoddiad ychwanegol o £2 filiwn mewn cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru.


Cwestiwn: Mae Vikki Howell AS yn holi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddarparu addysg bellach ym Mhontypridd Cynon Merthyr.

Gwybodaeth:  Ym mis Medi, ymatebodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol i gwestiynau gan Bwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch nifer y dysgwyr mewn Addysg Bellach, a'r pwysau ariannol sy'n wynebu colegau.


Cwestiwn: Mae Jane Dodds AS yn holi ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i ganfyddiadau Ymchwiliad COVID-19 y DU ar effaith ymweliadau cyfyngedig ar bobl hŷn mewn cartrefi gofal.

Gwybodaeth: Roedd Modiwl 6 o'r Ymchwiliad COVID-19 yn edrych ar effaith y pandemig ar y sector gofal cymdeithasol i oedolion ledled y DU. Cyhoeddwyd yr adroddiad Modiwl 6 ar 20 Hydref. Darparodd Llywodraeth Cymru ymateb cychwynnol i'r adroddiad ar yr un diwrnod, ac mae'n ofynnol iddi gyhoeddi ymateb llawn o fewn chwe mis.


Cwestiwn: Mae Lynne Neagle AS yn holi am ddiweddariad ar gamau gweithredu sy'n deillio o'r Uwchgynhadledd Tanau Gwyllt ar 22 Hydref 2026.

Gwybodaeth: Yn dilyn yr uwchgynhadledd, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ar Danau Gwyllt a’r Gallu i Wrthsefyll Newid Hinsawdd.

Ar gyfer cyd-destun ehangach, mae ein herthyglau diweddar yn trafod gwres eithafol yng Nghymru, gan gynnwys ei achosion, ei effeithiau a'i addasiadau, a thonnau gwres ac iechyd.

Ochr yn ochr â hyn, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i wydnwch yn erbyn tanau gwyllt yng Nghymru.


Cwestiwn: Mae John Davies AS yn holi pa ystyriaeth mae'r Prif Weinidog wedi'i roi i sicrhau sofraniaeth ddigidol Cymru.


Cwestiwn: Mae Benjamin Hodge Mckenna AS yn holi pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r stryd fawr yn Afan Ogwr Rhondda.

Gwybodaeth: Yn ddiweddar, sefydlodd Llywodraeth Cymru Dasglu Canol Trefi i nodi “camau gweithredu a all herio'r dirywiad, a'r newid yn y defnydd i gynyddu’r nifer sy’n eu defnyddio, cefnogi busnesau Cymru, denu buddsoddiad a chryfhau bywiogrwydd hirdymor ein trefi a chanol ein dinasoedd”.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru