Bwriad yr adroddiad monitro hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o’r Senedd a rhanddeiliaid sydd â diddordeb am ddatblygiadau polisi allweddol sy’n ymwneud â materion cyfansoddiadol.
Mae’r adroddiad yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 7 Mai 2026 a 2 Medi 2026.Gan mai hwn yw adroddiad cyntaf y Seithfed Senedd, mae datblygiadau cyn yr etholiad sy’n debygol o barhau i fod yn berthnasol hefyd wedi’u cynnwys.
Cyn yr etholiad:
Ym mis Mawrth 2026, rhoddodd Llywodraeth flaenorol Cymru y wybodaeth ddiweddaraf am ei hymrwymiad i “gryfhau[’r] setliad datganoli”.
Yn y datganiad ysgrifenedig, nododd Llywodraeth Cymru:
- ei bod wedi cytuno ar ddatganiad ar y cyd â Llywodraeth y DU, gan gynnwys ymrwymiadau i ddatganoli cyfrifoldebau dros ariannu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid lleol ac ehangu rôl oruchwylio Llywodraeth Cymru yn y gwasanaethau hyn;
- ei bod wedi cytuno, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru, i lunio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar y gwasanaeth prawf erbyn diwedd 2026;
- ei bod wedi cytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Llywodraeth y DU ar ddiwygio’r rheilffyrdd;
- ei bod wedi cytuno â Llywodraeth y DU ar sut y bydd ei hymrwymiad i ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth y tu hwnt i Ganolfannau Byd Gwaith i Gymru yn cael ei gyflawni;
- bod y Grŵp ar Ddyfodol Ystâd y Goron yng Nghymru wedi cyhoeddi ei adroddiad interim.
Nododd Llywodraeth flaenorol Cymru gytundebau eraill â Llywodraeth y DU cyn yr etholiad, gan gynnwys:
- cynnal ymgynghoriad ar y cyd ar ddatganoli pwerau i gyflwyno Treth Tir Gwag i’r Senedd; a
- Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ynghylch cyllid a ddarperir i gyflawni’r Cronfeydd Twf Lleol yng Nghymru.
Dyfarnodd yr Uchel Lys yn achos Bwrdd Milgwn Prydain Fawr v Gweinidogion Cymru, Comisiwn y Senedd a’r Llywydd.
Gwrthododd y Llys hawliad am adolygiad barnwrol a oedd yn herio penderfyniad Gweinidogion Cymru i gyflwyno Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) i’r Senedd. Dadleuodd y Bwrdd y dylai Gweinidogion Cymru fod wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn cyflwyno’r Bil.
Dywedodd y barnwyr mai’r Senedd, yn gyffredinol, sy’n penderfynu ar ei phen ei hun ar y weithdrefn i’w mabwysiadu wrth ddeddfu, ac felly na fyddai’n briodol, yn gyffredinol, i’r llysoedd ystyried cwynion gweithdrefnol am y modd yr oedd y Senedd wedi ystyried y Bil.
Ar ôl yr etholiad:
Ym mis Mehefin 2026, amlinellodd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies AS, ei flaenoriaethau.
Mae’r rhain yn cynnwys datblygu ysgol lywodraethu er mwyn sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer arweinyddiaeth a gallu mewn gwasanaethau cyhoeddus, galw am Fil Cymru newydd i ddiwygio’r setliad cyfansoddiadol a sefydlu comisiwn cenedlaethol sefydlog ar y cyfansoddiad.
Ym mis Mehefin 2026, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i adroddiad blynyddol Ystâd y Goron.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn “parhau i weithio'n adeiladol gydag Ystâd y Goron a Llywodraeth y DU ar ein huchelgais o ddatganoli'n llawn ar gyfer Ystâd y Goron”.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ysgol lywodraethu genedlaethol i Gymru, sef Arwain.
Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn Estyn, fydd yn cadeirio bwrdd llywio Arwain. Roedd hyn yn un o ymrwymiadau Plaid Cymru ar gyfer ei 100 diwrnod cyntaf ar ôl ffurfio llywodraeth.
Ym mis Mai 2026, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw risg gyfreithiol y Cwnsler Cyffredinol.
Mae’r canllawiau ar gyfer cyfreithwyr sy’n cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch a yw penderfyniadau arfaethedig yn gyfreithlon.
Ar 2 Medi 2026, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar y cynnydd o ran yr ymrwymiadau a wnaed fel rhan o’i chynllun ar gyfer ei 100 diwrnod cyntaf.
Roedd yr ymrwymiadau yn y cynllun a oedd yn ymwneud â’r cyfansoddiad yn cynnwys:
- Pwyso ar Lywodraeth y DU am Fil Cymru newydd a sicrhau ei fod yn addas at y diben ac yn cael ei roi ar waith cyn gynted â phosibl;
- Dechrau’r gwaith o sefydlu Comisiwn Cenedlaethol sefydlog ar y Cyfansoddiad;
- Pwyso ar Lywodraeth y DU i lunio a rhoi ar waith fformiwla ariannu newydd sy’n seiliedig ar anghenion.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi dangosfwrdd i helpu i olrhain cynnydd o ran ei blaenoriaethau.
Daeth Andy Burnham AS yn Brif Weinidog y DU ar 20 Gorffennaf 2026.
Mae penodiadau allweddol i’w Gabinet sy’n ymwneud â Chymru yn cynnwys:
- Stephen Kinnock AS yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru;
- Anna McMorrin AS yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru;
- Claire Hughes AS yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Cymru ac Arglwydd Iau y Trysorlys;
- Hamish Falconer AS yn Weinidog Gwladol (y Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol a Chysylltiadau Ewropeaidd) ar y cyd yn Swyddfa’r Cabinet a’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Hefyd ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Swyddfa’r Cabinet bapur polisi ar ddiwygio gweithrediad y wladwriaeth, a oedd yn nodi gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer sicrhau twf da ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Mae’r papur yn canolbwyntio’n bennaf ar ddatganoli yn Lloegr, ond mae’n nodi bod yn rhaid iddo fod yn strategaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan ac yn ymrwymo i weithio gyda’r llywodraethau datganoledig a rhanddeiliaid lleol a rhanbarthol i ystyried sut y gellir lledaenu manteision grymuso ardaloedd lleol i bob rhan o’r wlad.
Ym mis Medi 2026, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad llafar i Dŷ’r Cyffredin ar gyfeiriad ei lywodraeth.
Dywedodd fod diddordeb mewn sut y gallai model lleol o ddatganoli edrych ym mhob un o wledydd y DU, ac y byddent yn trafod hynny â hwy mewn cyfarfod arbennig o’r Cyngor Economaidd Cenedlaethol y mis canlynol.
Yn ddiweddarach yn y datganiad, dywedodd y Prif Weinidog y gallai model o ddatganoli lleol weithio yn yr Alban, yng Nghymru ac o bosibl yng Ngogledd Iwerddon, a’i fod yn barod i’w gefnogi.
Ym mis Awst 2026, adroddwyd bod y Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn barod i gael y drafodaeth ynghylch datganoli rheolaeth dros blismona i Gymru.
Adroddwyd ei fod wedi dweud bod y diwygiadau ehangach i blismona yn golygu ei bod yn amser da i edrych ar y materion hynny.
Mae Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi yn cynnal ymchwiliad i fesurau diogelu cyfansoddiadol y DU.
Bydd yr ymchwiliad yn mynd ati i nodi:
- y mesurau diogelu cyfansoddiadol sy’n bodoli yn system y DU;
- y cryfderau, gwendidau a pheryglon mwyaf arwyddocaol o ran sut y maent yn gweithredu;
- ffyrdd o wneud rhwydwaith y DU o fesurau diogelu yn fwy effeithiol.
Mae’r ymchwiliad yn derbyn tystiolaeth hyd at 28 Medi 2026.
Ar 3 Mehefin 2026, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfansoddiad sesiwn dystiolaeth gyda Nick Thomas-Symonds AS, Gweinidog y Cyfansoddiad a Chysylltiadau Ewropeaidd yn Swyddfa’r Cabinet ar y pryd.
Roedd y drafodaeth yn cynnwys a yw datganoli wedi bod yn llwyddiant, cysylltiadau rhynglywodraethol, y memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar Gonfensiwn Sewel a fframweithiau cyffredin.
Cysylltiadau rhynglywodraethol
Yn dilyn penodiad Andy Burnham AS yn Brif Weinidog, croesawodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, y cyfle i “ailddiffinio'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU”.
Ychwanegodd y Prif Weinidog ei fod yn gobeithio y gallai’r ddau “rannu’r un ymrwymiad o ran datganoli pwerau o San Steffan trwy gryfhau, yn hytrach nag osgoi, senedd genedlaethol Cymru”.
Cyfarfu’r Prif Weinidog a Phrif Weinidog Cymru yn Glasgow ar 23 Gorffennaf 2026. Yn y cyfarfod, nododd y Prif Weinidog ei ymrwymiad i gydweithio â Llywodraeth Cymru ac i berthynas sy’n seiliedig ar barch at ei gilydd.
Cyfarfu Prif Weinidog Cymru hefyd â Phrif Weinidog yr Alban, John Swinney ASA. Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn:
…hyderus y gallwn adeiladu'r berthynas fwyaf cynhyrchiol a chadarnhaol rhwng llywodraeth Cymru a'r Alban ers dyfodiad datganoli.
Cynhaliwyd cyfarfod o’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yn Belfast ym mis Mehefin 2026. Mae’r Pwyllgor yn rhan o haen ganol y strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol.
Yn y cyfarfod, pwysleisiodd Llywodraeth Cymru “ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydweithredu â Llywodraethau y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon, tra'n pwyso’r achos dros Fil Cymru newydd i roi pwerau i Gymru ar yr un lefel â'r Alban, a galw am gyllid teg i Gymru”.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddata chwarterol ar gyfarfodydd rhynglywodraethol ym mis Gorffennaf 2026.
Mae’r data yn dangos, rhwng 1 Hydref 2025 a 31 Rhagfyr 2025:
Ten IGR Review forum meetings took place on topics including health inequalities, public safety, election security, digital innovation in justice, and violence against women and girls. Outside formal IGR structures, there were a further 102 meetings including bilaterals and ministerial visits.
Cyn yr etholiad:
Ar 10 Mawrth 2026, cymeradwyodd y Senedd reoliadau i ddileu’r gofrestr agored yng Nghymru.
Mae’r rheoliadau yn datgymhwyso’r gofyniad i Swyddogion Cofrestru Etholiadol lunio cofrestrau golygedig o etholwyr llywodraeth leol, neu ddarparu cofrestrau o’r fath neu ran ohonynt i unrhyw berson am ffi.
Roedd hyn yn ofynnol cyn y gellid cyflwyno cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig (gweler isod), o dan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024. Daw’r rheoliadau i rym ar 1 Hydref 2026.
Ar 17 Mawrth 2026, cymeradwyodd y Senedd Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio Absennol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026.
Ymhlith pethau eraill, mae’r rheoliadau yn newid y cyfnod y gall person wneud cais i bleidleisio drwy’r post mewn etholiadau’r Senedd neu etholiadau llywodraeth leol, ac yn ei gwneud yn bosibl cyflwyno ceisiadau am bleidleisio absennol ar-lein ar gyfer yr etholiadau hyn.
Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth Llywodraeth Cymru adroddiad cynnydd.
Canolbwyntiodd y Grŵp ar addysg a gwybodaeth ddemocrataidd ac ar gynnwys y cyhoedd rhwng etholiadau. Galwodd y Grŵp ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwaith a ddechreuwyd gan y Grŵp yn parhau ar ôl gwanwyn 2026.
Comisiynodd Llywodraeth Cymru ddau adroddiad hefyd, ar gais y Grŵp:
- Adolygiad o’r dystiolaeth ar brif ffrydio democratiaeth gyfranogol a chydgynghorol yng Nghymru, a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Ddemocrataidd;
- Adolygiad o’r dystiolaeth ar gynnwys dinasyddion yn y gwaith o ddrafftio datganiad o egwyddorion cyfansoddiadol a llywodraethu i Gymru, a gynhaliwyd gan Dr Alex Prior (Prifysgol South Bank Llundain).
Ar ôl yr etholiad:
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod rheoliadau i ganiatáu cyflwyno trefniadau cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Sian Gwenllian AS, y byddai’r rheoliadau “yn helpu i wella cywirdeb a chyflawnder y gofrestr etholiadol llywodraeth leol, gan fod yn gam pwysig tuag at gryfhau ein democratiaeth.” Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn cymryd tystiolaeth gan randdeiliaid ar y rheoliadau ar adeg ysgrifennu’r adroddiad.
Anfonodd Cyngor Ewrop ddirprwyaeth i arsylwi’r etholiadau a gynhaliwyd yn y DU ar 7 Mai 2026, gan gynnwys etholiad y Senedd.
Rhoddodd y ddirprwyaeth asesiad cadarnhaol ar y cyfan, ond nododd rai pryderon, gan gynnwys rhai ynghylch cynllun gorsafoedd pleidleisio a chofrestru pleidleiswyr.
Mae Bil Cynrychiolaeth y Bobl yn mynd rhagddo drwy Senedd y DU. Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae wedi cyrraedd yr ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Bydd y Bil yn gwneud nifer o newidiadau i etholiadau yng Nghymru, gan gynnwys:
- gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau Senedd y DU;
- diweddaru’r rheolau ynghylch cofrestru pleidleiswyr;
- diwygio ymgyrchoedd etholiadol a gwariant gwleidyddol;
- ehangu swyddogaethau gorfodi’r Comisiwn Etholiadol.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil ar 16 Mehefin 2026 a 4 Awst 2026. Nid yw wedi gwneud argymhelliad eto ynghylch a ddylai’r Senedd gydsynio i’r darpariaethau perthnasol yn y Bil.
Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Llywodraeth y DU adroddiad yr adolygiad annibynnol o wrthsefyll dylanwad ariannol tramor ac ymyrraeth mewn gwleidyddiaeth yn y DU (Adolygiad Rycroft).
Mae’r Adroddiad yn gwneud 17 o argymhellion, y rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl i Senedd y DU. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hymateb ym mis Gorffennaf 2026, gan dderbyn yr argymhellion naill ai’n llawn neu mewn egwyddor.
Hefyd ym mis Gorffennaf 2026, cynhaliodd Tŷ’r Cyffredin ddadl ar ymyrraeth o dramor yng ngwleidyddiaeth y DU. Ymrwymodd Llywodraeth y DU ar y pryd i weithio’n gyflym gyda chyrff gorfodi’r gyfraith, y Comisiwn Etholiadol, awdurdodau erlyn, y llywodraethau datganoledig a phleidiau gwleidyddol i ddatblygu cynigion.
Cyn yr etholiad:
Ym mis Chwefror 2026, rhoddodd Llywodraeth flaenorol Cymru y wybodaeth ddiweddaraf am ail gam y gwaharddiadau ar gynhyrchion plastig untro.
Roedd y datganiad ysgrifenedig yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn “ymrwymo i weithio ar y cyd drwy'r brosesau Fframwaith Cyffredin i gytuno ar waharddiad y UKIMA sydd ei angen ar gyfer y ddeddfwriaeth hon”. Ychwanegodd nad oedd, oherwydd hyn, ddigon o amser i roi’r gwaharddiadau ar waith cyn diwedd tymor blaenorol y Senedd.
Ym mis Mawrth 2026, cymeradwyodd y Senedd reoliadau i alluogi Cynllun Dychwelyd Ernes, ar gyfer dychwelyd cynwysyddion diodydd i’w hailgylchu a’u hailddefnyddio.
Ym mis Chwefror 2026, nododd datganiad ysgrifenedig Llywodraeth flaenorol Cymru ar y rheoliadau fod Llywodraeth flaenorol y DU wedi dewis gwyro oddi wrth y cwmpas y cytunwyd arno, sef cynnwys gwydr yn y cynllun. O ganlyniad, bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru geisio eithriad o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU. Cytunodd Llywodraeth y DU i’r eithriad.
Ym mis Mawrth 2026, cwblhawyd tri fframwaith cyffredin: taliadau hwyr; diogelwch ac ansawdd gwaed; ac organau, meinweoedd a chelloedd (ac eithrio embryonau a gametau). Daeth hyn â chyfanswm y fframweithiau a gwblhawyd gyda chyfraniad gan Lywodraeth Cymru i bedwar o blith 26.
Dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru ei bod yn “gobeithio y bydd rhagor o fframweithiau yn y categori hwn yn gallu cael eu cwblhau a’u cymeradwyo gan bob un o'r pedair llywodraeth, gan gynnwys fframweithiau yn ymwneud â Gwrtaith, Caffael Cyhoeddus a Sylweddau Ymbelydrol.”
Ym mis Ionawr 2026, awgrymodd Llywodraeth flaenorol y DU fod deg fframwaith arall yn barod i gael eu symud ymlaen i’r cam cyhoeddi.
Ym mis Mawrth 2026, ymatebodd Llywodraeth flaenorol Cymru i argymhellion y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a wnaed yn ei adroddiad ar Fframweithiau Cyffredin ym mis Mai 2023.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru 13 o argymhellion yn llawn, derbyniodd 5 mewn egwyddor a gwrthododd 3.
Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Swyddfa’r Farchnad Fewnol ei phedwerydd adroddiad blynyddol.
Mae’r adroddiad yn nodi bod “gweithrediad marchnad fewnol y DU yn sefydlog ac mae'r farchnad fewnol, yn ei chyfanrwydd, yn parhau i weithredu'n effeithiol yn gyffredinol”. Ychwanegodd fod “angen cydweithrediad agos rhwng llywodraethau mewn perthynas â sectorau penodol lle rydym wedi arsylwi'r potensial i wahaniaethau rheoleiddiol ddod i'r amlwg”.
Ar ôl yr etholiad:
Ym mis Gorffennaf 2026, cyhoeddodd Swyddfa’r Farchnad Fewnol adolygiad o’r rhyngweithio rhwng Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 a Rheoliadau Ansawdd Aer (Safonau Tanwyddau Solet Domestig) 2020 Lloegr.
Canfu’r adolygiad:
…if the current regulatory status quo is maintained then customers in England will continue to purchase increasing quantities of uncertified fuels, with a consequent risk of worsening air quality in England.
Ychwanegodd y byddai eithriad o’r Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad yn amod angenrheidiol er mwyn galluogi’r Rheoliadau Tanwyddau Solet Domestig i gael yr effaith a fwriadwyd.
Ym mis Awst 2026, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod Exchange for Change wedi’i benodi’n Sefydliad Rheoli Ernes y Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru.
Bydd Exchange for Change hefyd yn rheoli’r cynlluniau dychwelyd ernes yng ngweddill y DU. Cadarnhaodd y Gweinidog Cabinet y bydd y cynllun yn cynnwys cynwysyddion diodydd plastig (PET), metel a gwydr o’r diwrnod cyntaf, ond, yn unol â’r rheoliadau a gymeradwywyd gan y Senedd, y bydd cyfnod pontio o bedair blynedd yn weithredol ar gyfer cynwysyddion gwydr. Bydd hyn yn eu heithrio o’r gofynion labelu a bydd ganddynt ernes o sero ceiniog.
Cyn yr etholiad:
Ym mis Chwefror 2026, ysgrifennodd Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Dr Andrew Goodall, at Mark Isherwood AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar y pryd, gyda gwybodaeth am ddatblygu a chyflwyno deddfwriaeth.
Nododd y llythyr fod Is-adran Ddeddfwriaeth ganolog dan arweiniad Uwch Was Sifil wedi’i chyflwyno.
Nododd hefyd themâu agenda ddiwygio barhaus y gwasanaeth sifil yn y maes hwn, gan gynnwys datblygu gwell dealltwriaeth o’r llyfr statud a sicrhau deddfwriaeth lai o faint â ffocws mwy penodol.
Ar ôl yr etholiad:
Ym mis Gorffennaf 2026, amlinellodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth AS, “gam cyntaf y ddeddfwriaeth” y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chyflwyno i’r Senedd.
Roedd y datganiad yn cynnwys ymrwymiadau ynghylch diwygio dŵr, tai a datblygu hawl gymunedol i brynu. Mae Ymchwil y Senedd wedi llunio crynodeb o’r ymrwymiadau.
Ym mis Gorffennaf 2026, cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol egwyddorion diwygiedig gan Lywodraeth Cymru ynghylch deddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig.
O ran Confensiwn Sewel, nododd y Cwnsler Cyffredinol:
…safbwynt [Llywodraeth Cymru] o hyd yw bod angen mesurau diogelu statudol yn y pen draw i ddiogelu'r setliad datganoli, ond byddwn hefyd yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar ei hymrwymiad yn ei maniffesto i ddatblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar Gonfensiwn Sewel.
Yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth, rhyddhaodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar ei gallu a’i chapasiti i ddatblygu deddfwriaeth, a gynhaliwyd yn 2022.
Canfu’r adroddiad fod uchelgeisiau deddfwriaethol Gweinidogion wedi’u llesteirio gan gyfuniad o broblemau o ran sgiliau a chapasiti, yn ogystal ag aneffeithlonrwydd posibl yn y broses. Mae’n awgrymu 25 o opsiynau ar gyfer newid, gan gynnwys pum ‘opsiwn allweddol’.