A photograph of a dried up reservoir in Bannau Brycheiniog.

A photograph of a dried up reservoir in Bannau Brycheiniog.

Tywydd poeth ac iechyd: a fydd Cymru’n gallu addasu i gynnydd mewn tymheredd?

Cyhoeddwyd 19/10/2026   |   Amser darllen munud

Roedd haf 2026 yn un heb ei ail. Cafwyd tywydd eithriadol o boeth a sych yng Nghymru a chofnodwyd tonnau gwres swyddogol ym mis Mai, Mehefin, Gorffennaf ac Awst.

Mae tywydd poeth yn peri risgiau iechyd sylweddol a gallant roi straen ychwanegol ar wasanaethau iechyd a gofal. Yn ôl amcangyfrifon y Swyddfa Dywydd cafwyd dros 2,700 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru a Lloegr yn ystod tywydd poeth mis Mai a Mehefin 2026.

Cyfrannodd y tywydd poeth at fwy o alw mewn adrannau brys. Yn ystod tywydd poeth mis Mehefin 2026, cyhoeddodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ddigwyddiadau critigol. Rhybuddiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro y gallai apwyntiadau gael eu gohirio oherwydd y gwres eithafol. Ym mis Mai a mis Mehefin, cafodd mwy na 1,000 o lawdriniaethau eu canslo oherwydd y gwres ledled Cymru a Lloegr.

Dywed y Swyddfa Dywydd bod newid hinsawdd a achosir gan bobl, wedi gwneud tonnau gwres yn llawer mwy tebygol eleni, ac mae ei ragolygon yn dangos y bydd hafau'r DU yn parhau i fynd yn boethach. Mae’r erthygl hon yn bwrw golwg ar ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal Cymru wrth i’r hinsawdd gynhesu, gan holi a ydym yn barod i wynebu tymereddau uwch.

Effaith gwres uchel ar iechyd

Gall tywydd difrifol o boeth fod yn beryglus. Gall afiechydon sy'n gysylltiedig â gwres, fel crampiau gwres, gorflinder gwres a thrawiad gwres, effeithio ar unrhyw un. Fodd bynnag, mae rhai grwpiau mewn mwy o berygl nag eraill.

Mae grwpiau risg uchel yn cynnwys y grwpiau a ganlyn:

  • Pobl dros 65 oed
  • Plant o dan 5 oed;
  • Menywod beichiog
  • Pobl â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes
  • Pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain neu mewn cartrefi gofal
  • Pobl sy’n cymryd meddyginiaethau penodol
  • Pobl sy'n treulio llawer o amser yn yr awyr agored neu mewn mannau poeth, fel y rhai sy'n gweithio tu allan neu bobl ddigartref

Mae gwres yn gallu gwneud cyflyrau iechyd difrifol yn fwy tebygol, gan gynnwys trawiadau ar y galon, strôc, problemau anadlu a chlefyd yr arennau. Mae hefyd yn cael effaith ar iechyd meddwl a llesiant. Mae tystiolaeth bod gwres uchel yn golygu bod mwy o bobl yn mynd i’r ysbyty oherwydd salwch meddwl a'r risg o hunanladdiad. Yn ystod cyfnod o wres mawr  yn 2024, gwelwyd cynnydd o 90% yn y nifer o dderbyniadau seicolegol a seiciatrig i adrannau brys yn ardaloedd trefol Cymru.

Marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwres

Mae tymheredd sy’n uwch na 25ºC yn gysylltiedig â risg uwch o farwolaethau sy'n gysylltiedig â gwres, ac mae gwres uwch fyth yn gysylltiedig â risg hyd yn oed yn fwy o farwolaeth.

Yn 2025, cyhoeddwyd Adroddiad Gwyliadwriaeth Blynyddol cyntaf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn monitro marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwres. Er na phrofodd Cymru don wres yn 2024, canfu’r adroddiad fod cyfnod byr o wres yn gysylltiedig â chynnydd ystadegol arwyddocaol mewn marwolaethau fesul niwrnod. Cofnodwyd y cyfraddau marwolaeth uchaf ymhlith pobl 85 oed a hŷn. Roedd y gyfradd farwolaethau mewn ardaloedd trefol fwy na theirgwaith yn uwch nag mewn rhanbarthau gwledig, mwy na thebyg o ganlyniad i’r effaith ‘Ynys Wres Drefol’. Fodd bynnag, daeth Iechyd Cyhoeddus Cymru i'r casgliad bod angen dadansoddiad pellach i sefydlu i ba raddau yr oedd marwolaethau'n cael eu hachosi gan wres.

Cadarnhaodd Nerys Evans AS, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gwneud “adolygiad cyflym” o effaith gwres haf 2026 ar farwolaethau, er mwyn llywio cynlluniau tymor hir.

Effaith gwres uchel ar wasanaethau iechyd a gofal

Gall seilwaith ffisegol gwasanaethau iechyd gael trafferth ymdopi mewn tymheredd uchel. Mae gorboethi mewn cyfleusterau gofal iechyd yn gyffredin ledled y DU, gan gynnwys mewn mannau clinigol. Gall offer hanfodol, fel peiriannau radiotherapi, sganwyr MRI, a systemau TG fethu.

Mae'r amodau hyn yn effeithio ar lesiant a chynhyrchiant staff. Codwyd pryderon difrifol am amodau gwaith yn ystod haf 2026 gan sawl corff sy’n cynrychioli gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Nododd adroddiad gan Goleg Brenhinol y Meddygon fod amodau yn ofnadwy mewn wardiau a oedd eisoes yn orlawn ac yn dioddef o orboethi. Dywedodd Coleg Brenhinol y Nyrsys y gall gwisgoedd anghyfforddus, hen systemau gwresogi a diffyg dŵr yfed greu amgylcheddau gwaith peryglus. Mewn arolwg gan Gymdeithas Meddygon y DU dywedodd 94% o’r ymatebwyr nad oedd ganddynt systemau aerdymheru neu fod ganddynt systemau oedd yn gweithio’n rhannol, ac fe ddisgrifiodd 83% eu gweithle fel un “poeth iawn neu beryglus o boeth”.

Mae pobl hŷn yn arbennig o agored i niwed. Rhybuddiodd Cymdeithas Geriatreg Prydain fod gwres poeth yn arbennig o heriol i wasanaethau gofal cymdeithasol gan nad oes cyfleusterau digonol mewn cartrefi gofal nac yng nghartrefi preifat pobl. Yn ystod haf 2025, canfu arolwg o staff mewn cartrefi gofal yn y DU fod 66% o’r ymatebwyr yn cwyno eu bod yn rhy boeth deirgwaith neu fwy pob dydd, a bod hyn yn cael effaith ar eu gallu i gyflawni tasgau ac ar iechyd a chysur y preswylwyr.

Canfu adroddiad ar gyfer Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol y DU (CCC) fod diffyg tystiolaeth feintiol ar effaith gwres mawr ar allu cyflenwi gwasanaethau gofal iechyd, cynhyrchiant y gweithlu, a gwydnwch seilwaith, yn awgrymu bod angen mwy o ymchwil i ddeall y risgiau.

Addasiadau ar gyfer y dyfodol

Mae adroddiad CCC, A Well-Adapted UK – the Fourth Independent Assessment of UK Climate Risk, yn darogan, oni chymerir camau gweithredu, y bydd marwolaethau ychwanegol oherwydd gwres yn ystod cyfnodau o dywydd poeth yn y DU, yn cynyddu o ffigwr sy’n sefyll rhwng 1,400 a 3,000 ar hyn o bryd i ffigwr rhwng 3,000 a 10,000 erbyn 2050.

Dywed CCC fod gwneud addasiadau effeithiol yn bosibl a gall hynny gyfyngu ar effaith gwres cynyddol ar iechyd y cyhoedd a gwneud gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy gwydn.

Mae argymhellion CCC yn cynnwys:

  • Mesurau oeri mewn adeiladau iechyd a gofal cymdeithasol, mesurau goddefol fel inswleiddio, bleindiau, gwneud y mwyaf o fannau gwyrdd, ac oeri gweithredol, fel aerdymheru.
  • Gofal iechyd ataliol, fel ymweliadau personol gan weithwyr gofal iechyd â phobl sydd â'r risg uchaf yn ystod cyfnodau o dywydd poeth.
  • Addasiadau gweithredol ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, megis hyfforddiant i'r gweithlu, cynlluniau parhad busnes, a chynllunio brys i helpu gwasanaethau i weithredu'n ddiogel yn ystod tywydd eithafol.

Mae camau gweithredu i fynd i'r afael â newid hinsawdd wedi dechrau yng Nghymru. Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o ganlyniad i newid hinsawdd yn 2023. Yn 2024, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd a Phecyn Cymorth Addasu i'r Hinsawdd ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae rhaglen genedlaethol iechyd a gofal cymdeithasol i daclo’r argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru yn darparu trosolwg strategol i'r sector.

Mae pwysau tebyg i bwysau'r gaeaf yn dod yn risg drwy gydol y flwyddyn

Gallai galw sy'n gysylltiedig â gwres, roi pwysau ychwanegol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig ar adrannau brys, ochr yn ochr â'r pwysau sy'n nodweddiadol o fisoedd y gaeaf.

Mewn datganiad ar barodrwydd gaeaf, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS, y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno dull "gydol blwyddyn" o baratoi ar gyfer pwysau tymhorol erbyn 2030. Dywedodd bod hyn yn golygu symud y tu hwnt i “ganolbwyntio’n gul ar y gaeaf, gan ddefnyddio dull cynllunio parhaus sy'n seiliedig ar ddata, lle mae modd addasu i risgiau sy'n newid drwy gydol y flwyddyn.”

Ystadau sy'n heneiddio a chostau addasu

Dywed CCC y gall addasu ystadau iechyd a gofal cymdeithasol gyda mesurau oeri goddefol a gweithredol, sicrhau gostyngiadau mawr mewn risg a bod yn fwy cost-effeithiol. Bydd angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol i ôl-ffitio adeiladau presennol neu adeiladu seilwaith newydd.

Fodd bynnag, un rhan yn unig o'r 'drafodaeth gyhoeddus' y galwodd y Gweinidog Cabinet amdani ynghylch a ddylai GIG Cymru barhau i gynnal “ystadau sy’n adfeilio” neu fuddsoddi mewn adeiladau newydd, yw mesurau addasu.

Dywed Cydffederasiwn y GIG y gall oedran a chyflwr presennol ystad GIG Cymru effeithio ar ddiogelwch, cynhyrchiant a phrofiad cleifion. Mae yna eisoes waith cynnal a chadw gwerth £1.5 biliwn wedi ôl-gronni. Mae’r galw i addasu adeiladau er mwyn ymdopi â chynnydd mewn tymheredd yn straen ychwanegol ar gyllidebau cyfalaf.

Paratoi gwasanaethau ar gyfer dyfodol poethach

Yn ôl y rhagolygon hinsawdd, erbyn 2050, bydd lefel y cynhesu byd-eang yn golygu y gallai Cymru weld 50% yn fwy o ddiwrnodau gyda thymereddau uwch na 25ºC. Gallai mwy o dywydd poeth gynyddu risgiau i iechyd y cyhoedd a rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau iechyd a gofal.

Gall mesurau addasu leihau'r risgiau hyn. Felly, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru a chyrff iechyd a gofal ystyried sut i gydbwyso pwysau presennol ar wasanaethau, gyda pharatoadau ar gyfer newid hinsawdd.


Erthygl gan Angharad Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru