Iechyd meddwl yng Nghymru: beth mae’r data yn ei ddangos?

Cyhoeddwyd 01/09/2026   |   Amser darllen munud

Mae iechyd meddwl yn broblem fawr sy’n effeithio ar bobl o bob oed a chefndir yng Nghymru. Er y gall unrhyw un gael profiad o iechyd meddwl gwael, mae tystiolaeth yn dangos bod rhai grwpiau, gan gynnwys pobl sy’n byw mewn tlodi ac sydd dan anfantais mewn ffyrdd eraill, yn dioddef yn anghymesur. Mae pryderon ynghylch y galw cynyddol am wasanaethau, amseroedd aros hir, pwysau’r gweithlu, ac anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd meddwl wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ar yr un pryd, mae’n parhau i fod yn heriol deall pa mor eang yw’r angen am wasanaethau iechyd meddwl.

Daw data iechyd meddwl yng Nghymru o ystod o ffynonellau, gan gynnwys arolygon poblogaeth a data ynghylch gwasanaethau iechyd. Er bod y rhain yn rhoi gwybodaeth bwysig am iechyd meddwl a llesiant meddyliol a’r defnydd o wasanaethau, nid ydynt yn rhoi darlun cynhwysfawr o’r angen am wasanaethau, mynediad at gymorth, a chanlyniadau.

Beth rydym ni’n ei wybod?

Mae tua un o bob pum oedolyn yn cael problem iechyd meddwl gyffredin, megis gorbryder neu iselder. Nid oes gan Gymru arolwg poblogaeth sy’n cyfateb i arolwg poblogaeth Lloegr Arolwg Afiachedd Seiciatrig Oedolion (APMS), sy’n rhoi amcangyfrifon cynhwysfawr o lefelau cyflyrau iechyd meddwl. O ganlyniad, defnyddir canfyddiadau o’r APMS yn aml i ddangos tueddiadau ehangach. Canfu’r arolwg diweddaraf fod 20.2% o oedolion yn Lloegr yn byw gyda chyflwr iechyd meddwl cyffredin yn 2023-24, a bod y lefelau wedi cynyddu dros amser, yn enwedig ymhlith pobl iau. Gall y duedd hon adlewyrchu’n rhannol newidiadau mewn ymwybyddiaeth a rhoi gwybod am symptomau iechyd meddwl, yn ogystal â newidiadau yn iechyd meddwl y boblogaeth.

Mae tystiolaeth yn dangos yn gyson berthynas agos rhwng iechyd meddwl ac anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd ehangach. Canfu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd y gall ffactorau fel tlodi, diffyg diogelwch tai, gwahaniaethu, a mathau eraill o anfantais gynyddu’r risg o iechyd meddwl gwael a chyfrannu at ganlyniadau anghyfartal.

Mae ystod o ffynonellau data hefyd yn tynnu sylw at y canlynol:

Ble mae’r bylchau yn y data?

Er gwaethaf yr ystod o ystadegau sydd ar gael, mae bylchau pwysig yn parhau.

Mae data iechyd meddwl yn cael eu casglu gan wahanol sefydliadau at wahanol ddibenion, sy’n golygu nad oes un darlun cyfunol o iechyd meddwl yng Nghymru. Mae gwybodaeth yn aml ar gael ar gyfer gwasanaethau unigol yn hytrach na’r system gyfan, gan ei gwneud yn anodd deall sut mae pobl yn symud rhwng gwasanaethau neu a ydynt yn cael gofal amserol ac effeithiol.

Mae yna hefyd gyfyngiadau sylweddol mewn data canlyniadau. Mae llawer o ystadegau yn canolbwyntio ar weithgarwch - fel atgyfeiriadau, apwyntiadau, neu dderbyniadau - yn hytrach nag a yw gwasanaethau yn gwella iechyd meddwl a llesiant meddyliol pobl.

Mae bylchau hefyd yn parhau yn ein dealltwriaeth o sut mae anghenion a phrofiadau iechyd meddwl yn amrywio ar draws gwahanol grwpiau poblogaeth. Gall hyn ei gwneud yn anoddach nodi anghydraddoldebau, deall anghenion sydd heb eu diwallu, ac asesu a yw gwasanaethau’n cyrraedd y rhai a all fod yn wynebu’r perygl mwyaf o gael iechyd meddwl gwael, neu a yw ymdrechion i leihau anghydraddoldebau yn cael effaith.

Gwella’r sylfaen dystiolaeth

Yn 2024, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru ddangosfwrdd ystadegau iechyd meddwl sy’n dod â data ynghyd o ystod o ffynonellau sy’n cwmpasu iechyd cyhoeddus, gofal sylfaenol, gofal eilaidd, addysg a chyllid. Er bod hyn wedi gwella mynediad at wybodaeth bresennol, nid yw’n datrys pryderon hirsefydlog ynghylch ansawdd, cysondeb a chyflawnrwydd y data sylfaenol.

Mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi tynnu sylw at wendidau sylweddol mewn data iechyd meddwl yng Nghymru, gan gynnwys casglu data tameidiog ac anawsterau wrth ddatblygu darlun cynhwysfawr o’r angen am wasanaethau, y defnydd o wasanaethau, a chanlyniadau. Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, ymrwymodd Llywodraeth flaenorol Cymru i ddatblygu set ddata genedlaethol graidd ynghylch iechyd meddwl fel rhan o’i Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol (Ebrill 2025). Bwriad y set ddata yw cysylltu gwybodaeth ar draws gwasanaethau, gan ei gwneud yn bosibl olrhain teithiau cleifion a darparu darlun mwy cyflawn o anghenion a chanlyniadau iechyd meddwl.

Fodd bynnag, nododd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau fod cynnydd wedi bod yn araf a bod heriau yn parhau o ran gweithredu, gan gynnwys amrywiad mewn systemau data lleol, seilwaith TG cyfyngedig, cyfyngiadau ar gyllid a’r gweithlu, ac absenoldeb gofyniad cyfreithiol i sefydliadau fabwysiadu’r set ddata newydd.

Mae’r cynllun cyflawni sy’n cyd-fynd â’r Strategaeth Iechyd Meddwl yn cynnwys ymrwymiad i orfodi set ddata graidd ynghylch iechyd meddwl ar gyfer gwasanaethau o fewn y flwyddyn gyntaf ar ôl ei weithredu. Yn ei hadolygiad yn 2026, daeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau i’r casgliad bod data iechyd meddwl yng Nghymru wrth ‘groesffordd’. Er ei bod yn croesawu’r set ddata graidd arfaethedig fel rhywbeth hanfodol i fynd i’r afael â bylchau hirsefydlog mewn tystiolaeth a gwella’r broses o gynllunio gwasanaethau, pwysleisiodd y byddai angen arweinyddiaeth gref, atebolrwydd clir, adnoddau digonol a dull safonol a gorfodol o gasglu data er mwyn ei gweithredu’n llwyddiannus.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i gomisiynu archwiliad cynhwysfawr o ffynonellau data iechyd yng Nghymru. Er y gallai hyn nodi bylchau a gwella dealltwriaeth o’r dirwedd ehangach ar gyfer data iechyd, mae’n parhau i fod yn aneglur i ba raddau y bydd yn mynd i’r afael â’r heriau penodol a nodwyd gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau neu sut y bydd yn rhyngweithio â’r set ddata graidd arfaethedig ynghylch iechyd meddwl a’r ymdrechion ehangach i wella tystiolaeth iechyd meddwl.

Mae gwell data iechyd meddwl yn bwysig, nid yn unig ar gyfer deall lefelau angen, ond hefyd ar gyfer asesu a yw gwasanaethau ac ymyriadau yn gwella canlyniadau. Mae hyn yn debygol o ddod yn fwyfwy pwysig wrth i Lywodraeth Cymru geisio diwygio gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys drwy gynlluniau ar gyfer mynediad agored, cymorth ar yr un diwrnod a gwasanaethau cymunedol mwy modern. Heb wybodaeth gyson am deithiau a chanlyniadau cleifion, bydd yn anodd asesu a yw’r newidiadau hyn yn gwella mynediad at gymorth, yn lleihau anghydraddoldebau, ac yn cyflawni canlyniadau gwell. Felly, mae gwella data iechyd meddwl yn debygol o barhau i fod yn fater pwysig i atebolrwydd Llywodraeth Cymru a gwaith craffu’r Senedd.


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru