Pwy sy’n Poeni? Pam mai diffyg gofal cymdeithasol sy’n cyfrannu fwyaf at oedi cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty

Cyhoeddwyd 06/10/2022   |   Amser darllen munudau

Diffyg capasiti o fewn y system gofal cymdeithasol sy’n cyfrannu fwyaf at oedi cyn rhyddhau cleifion a chyfyngu ar y llif cleifion drwy ysbytai - dyma gasgliad  ymchwiliad diweddar Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd .

Mae'r diffyg cymorth gofal cartref sydd ar gael yn cael effaith ddifrifol ar wasanaethau, cleifion, a'u teuluoedd/gofalwyr. Dywedodd Angela Davies (gofalwr di-dâl) wrth y Pwyllgor fod ei thad wedi treulio saith mis yn yr ysbyty yn aros am becyn gofal yn unig.

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Mae prinder staff gofal cymdeithasol digynsail yn golygu bod oedi yn aml o ran cynnal asesiadau gofal mewn ysbytai, ac nid yw gwasanaethau ar gyfer pecynnau gofal cartref ar gael i alluogi cleifion i gael eu rhyddhau o’r ysbyty yn ddiogel.

Yn ddiweddar, dywedodd arweinwyr GIG Cymru bod argyfwng cenedlaethol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol oherwydd diffyg gweithwyr gofal. Mae GIG Cymru wedi dweud bod hyd at 1,500 o bobl mewn ysbytai yn barod i gael eu rhyddhau, ond ni allant adael oherwydd diffyg gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Dywedodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wrth y Pwyllgor, eu bod wedi cael dros 1,000 o oriau o ofal cartref [cymorth gofal cartref] nad ydynt wedi gallu eu comisiynu, sy'n aros am gymorth yn y gymuned.

Un o'r meysydd sydd wedi cael ei heffeithio fwyaf gan yr oedi o ran trosglwyddiadau yw'r gwasanaeth ambiwlans. Gwelir ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn aml ledled Cymru. Mae hyn yn effeithio ar nifer yr ambiwlansys sydd ar gael i ymateb i alwadau brys, gan arwain at amseroedd aros hir i bobl mewn angen, a chanlyniadau sy’n bygwth bywyd mewn rhai achosion. Disgrifiodd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru y sefyllfa fel un eithafol a pharhaus..

Mynegodd rhanddeiliaid fel Arolygiaeth Gofal Cymru bryderon hefyd bod y diffyg cymorth gofal cartref sydd ar gael wedi arwain at bobl yn cael eu rhoi mewn gofal preswyl. Bwriedir i hyn fod yn fesur dros dro ond yn aml mae’r bobl hyn yn methu dychwelyd adref yn y pen draw.

Er y bwriedir i hyn fod yn fesur tymor byr, mae diffyg capasiti gan nifer o gartrefi gofal i barhau i hyrwyddo annibyniaeth pobl fel y gallant fyw gartref pan fydd pecyn cymorth cartref ar gael. Ein pryder yw bod hyn yn gwrthdroi amcan polisi blynyddoedd lawer o gefnogi pobl i fyw yn eu cartrefi. (Arolygiaeth Gofal Cymru)

Maes arall a oedd yn peri pryder amlwg oedd y pwysau sy'n cael ei roi ar deuluoedd a gofalwyr di-dâl i lenwi'r bylchau o ran darpariaeth gofal. Mae ein herthygl ddiweddar "Dim seibiant i ofalwyr di-dâl..." yn darparu rhagor o wybodaeth.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad oni chymerir camau radical i ddiwygio’r ffordd y caiff gofal cymdeithasol ei ddarparu a’i wobrwyo ac y telir amdano, nid ydym yn debygol o weld unrhyw newid gwirioneddol.

Mae'n dweud bod Pwyllgorau'r Senedd wedi bod yn galw ers tro am gydraddoldeb cyflog ac amodau gwaith staff gofal cymdeithasol gyda’u cymheiriaid yn y GIG. Dywed y bydd y sector yn parhau i’w chael yn anodd i recriwtio a chadw staff nes y bydd hyn yn cael ei sicrhau.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn pwysleisio ei ymrwymiad i wella telerau ac amodau i weithwyr gofal cymdeithasol, ac yn dweud bod darparu'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn fan cychwyn i hyn. Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn parhau i weithio mewn partneriaeth drwy'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol i sicrhau ei bod yn arwain at newid cynaliadwy, hirdymor.

Materion i gadw golwg arnynt

Hawliau gofalwyr di-dâl

Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad y Pwyllgor i gynnal adolygiad cyflym i weld a yw hawliau gofalwyr o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael eu torri. Mynegodd Gofalwyr Cymru bryderon am hyn, gyda gofalwyr yn cymryd mwy o gyfrifoldebau gofal nag y maent efallai'n barod i’w cymryd neu'n gallu ymdopi â hwy oherwydd diffyg gwasanaethau gofal sydd ar gael.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol wedi nodi gofalwyr di-dâl fel maes blaenoriaeth, a bydd yn comisiynu adolygiad yn ystod y flwyddyn ariannol hon o ansawdd ac effeithiolrwydd asesiadau anghenion gofalwyr. Bydd hyn yn ystyried a yw hawliau gofalwyr di-dâl o dan y Ddeddf yn cael eu cadarnhau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd newydd gyhoeddi Siarter ar gyfer Gofalwyr i dynnu sylw at hawliau cyfreithiol presennol gofalwyr di-dâl.

Tâl salwch i weithwyr gofal cymdeithasol

Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o fynd i'r afael â thâl salwch i weithwyr gofal cymdeithasol.

Yn dilyn hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fyddai’r Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol ar gyfer Covid-19 yn cael ei ymestyn ymhellach. eDaeth i ben ar 31 Awst. Roedd y cynllun yn sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol a oedd yn gorfod hunan-ynysu neu aros gartref oherwydd Covid yn cael cyflog llawn. Cyflwynwyd hyn i gydnabod mai dim ond Tâl Salwch Statudol oedd y rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol yn ei gael pan oedd angen iddynt aros i ffwrdd o'r gwaith oherwydd Covid-19, neu ddim incwm o gwbl os nad oeddent yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylid ystyried Covid-19 ochr yn ochr â feirysau anadlol eraill gan fod llai o achosion o Covid-19 yn y gymuned. Cyfeiriodd hefyd at bigiad atgyfnerthu Covid-19 yr hydref sy'n cael ei flaenoriaethu i staff gofal cymdeithasol rheng flaen a phreswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal.

Pwysau'r gaeaf sydd o'n blaenau

Mae undebau fel UNSAIN Cymru wedi rhybuddio y bydd y penderfyniad i ddod â'r cynllun i ben yn achosi cyfyng-gyngor amhosib i lawer o weithwyr gofal y gaeaf hwn, a allai ennyn argyfwng dyfnach mewn gofal.

If there is another, more transmissible or more severe new strain of the virus, tens of thousands of already low paid care workers, will face a double whammy of the cost of living crisis and being plunged into greater poverty simply because they are ill, or to protect our vulnerable. It’s not sustainable and it’s not acceptable.

Mae ein herthygl ddiweddar ar y pwysau costau byw ym maes gofal cymdeithasol yn tynnu sylw at effaith niweidiol y cynnydd mewn costau tanwydd ar y gweithlu gofal cartref.

Mae UNSAIN Cymru ac undebau llafur eraill o'r farn y dylai materion fel tâl salwch priodol i weithwyr gofal fod ar frig yr agenda, ac yn galw ar i weithwyr gofal gael tâl salwch teilwng cyn i bwysau'r gaeaf daro.

Yn ôl Conffederasiwn GIG Cymru, mae arweinwyr y GIG yn disgwyl i'r sefyllfa o ran prinder staff gofal ddirywio yn ystod y gaeaf.

Mae'r materion hyn yn debygol o godi yn y ddadl yn y Senedd ar 12 Hydref 2022 ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai.


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru