Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yn credu hynny, ac mae wedi gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) (y Bil).
Nodir yr argymhellion hyn, a'r sail resymegol y tu ôl iddynt, yn Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil, a gyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf 2018.
Cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil Grynodeb o’r Bil sy’n rhoi cefndir y Bil, ei amcanion a’i ddarpariaethau ac sy’n esbonio'r polisi o ddarparu 30 awr o ofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio a chanddynt blant 3 a 4 oed (y cynnig) y mae’r Bil wedi'i gynllunio i’w hwyluso.
Yn gyffredinol, cytunodd pob aelod ond un o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ag egwyddorion cyffredinol y Bil. Gwrthwynebodd Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) AC y Bil oherwydd ei bryderon ynghylch targedu'r ddarpariaeth gofal plant am ddim at rieni sy'n gweithio’n unig, ac roedd hefyd yn credu nad oedd y cynnig gofal plant cyfredol wedi’i werthuso’n ddigonol. Caiff y pryderon hyn, a phryderon eraill a gododd y Pwyllgor, eu hesbonio ymhellach isod.
Bydd pob Aelod Cynulliad yn cael cyfle i drafod egwyddorion cyffredinol y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Medi. Bydd y ddadl i’w gweld ar-lein naill ai’n fyw neu fel recordiad.
Egwyddorion cyffredinol y Bil
Roedd Llywodraeth Cymru wedi nodi mai Bil technegol fyddai hwn a fyddai’n cynnwys dim ond 13 o adrannau byr. Pan gafodd ei holi gan y Pwyllgor, dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, mai diben y Bil yw
... sefydlu, drwy Refeniw a Thollau Ei Mawrhydi, a chan integreiddio â'u gwasanaeth gofal plant, [...] un system unffurf genedlaethol i roi’r cynnig ar waith.
Fodd bynnag, nododd Memorandwm Esboniadol y Bil (EM) mai prif ddiben y Bil yw
cefnogi economi Cymru drwy helpu rhieni, mamau yn arbennig, i ddychwelyd i’r gwaith neu i gynyddu’r oriau y maent yn eu gweithio.
Roedd y Memorandwm Esboniadol hefyd yn cynnwys manylion a chefndir Cynnig arfaethedig Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Pwyllgor:
Mae cyfosod “Bil technegol” fel y’i gelwir gyda’r cynnig gofal plant wedi gwneud y gwaith o graffu ar un yn ddibynnol ar graffu ar y llall, ac wedi pylu’r llinellau wrth geisio sefydlu pwrpas, effaith ac egwyddorion cyffredinol y Bil.
Er mwyn gwella eglurder ynghylch y trefniadau a sefydlir gan y Bil, mae’r Pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi rhagor o fanylion ar y materion a ganlyn, a hynny cyn dadl Cyfnod 1:
- pa “gytundebau ar wahân” y byddai eu hangen rhyngddi hi ei hun a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi pe bai’r cynnig gofal plant arfaethedig yn newid, yn enwedig o ran y cap o £100,000 ar incwm pob rhiant, ar gyfer aelwydydd cymwys (y byddai'r Pwyllgor yn hoffi ei adolygu);
- pa drefniadau fydd ar waith i sicrhau bod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gallu darparu system gwbl ddwyieithog a hygyrch ac i ba raddau y bydd yn gallu cyfeirio rhieni at fathau eraill o gymorth y byddant yn gymwys i’w cael;
- sut yr aeth Llywodraeth Cymru ati i gyfrifo y bydd 40,000 o rieni sy'n gweithio’n gymwys i fanteisio ar y cynnig fel y mae; a
- faint fanteisiodd ar y cynnig gofal plant, a’r gwariant cysylltiedig, pan gafodd y cynllun ei dreialu rhwng mis Mawrth a mis Awst 2018.
Roedd hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru, cyn Cyfnod 3 yn y broses ddeddfwriaethol, i gyhoeddi:
- canlyniadau'r broses o werthuso cynllun peilot y cynnig gofal plant;
- casgliadau ei adolygiad o'r Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, o ran y modd y mae’n atal ysgolion rhag darparu eu gofal plant eu hunain yn uniongyrchol ar eu safle ar hyn o bryd; ac
- Asesiad diwygiedig o’r Effaith ar Hawliau Plant (CRIA), oherwydd teimlai'r Comisiynydd Plant fod y CRIA presennol yn annigonol. O ganlyniad, dylai’r CRIA diwygiedig ystyried effaith y Bil ar bob plentyn, nid dim ond y rhai sy'n gymwys o dan ei ddarpariaethau i fanteisio ar y cynnig gofal plant. Mae'r Pwyllgor hefyd am weld Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig pe bai'r meini prawf cymhwystra ar gyfer y cynnig gofal plant yn newid.
Rhoi’r cynnig ar waith
Amlygodd y Pwyllgor hefyd nifer o bryderon ynghylch cynnig gofal plant arfaethedig Llywodraeth Cymru y bydd y Bil yn ei roi ar waith yn rhannol.
Un o bryderon penodol y Pwyllgor oedd bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r Bil ac yn ceisio rhoi ei gynnig gofal plant ar waith cyn cwblhau’r broses o werthuso’r cynllun peilot a rhannu’r canlyniadau â rhanddeiliaid (penodwyd NatCen ac Arad i ymgymryd â'r gwaith gwerthuso ym mis Awst 2017).
Er nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eto pryd y caiff y gwerthusiad ei gyhoeddi, mae'n disgwyl cyflwyno'r cynnig gofal plant yn llawn erbyn mis Medi 2020. Anogodd y Pwyllgor Lywodraeth Cymru i sicrhau naill ai drwy'r broses werthuso hon, neu drwy unrhyw ddull arall, ei bod yn:
- asesu effaith y cynnig gofal plant ar blant a gaiff eu geni yn yr haf a sicrhau bod y data yma yn cael eu defnyddio wrth baratoi’r cynnig terfynol;
- asesu faint o ddarparwyr yn y rhaglen beilot sy'n codi tâl ychwanegol am fwyd bob dydd (gallant godi hyd at £7.50);
- casglu data ar ôl cyflwyno’r cynnig mewn ardaloedd cefnog, er mwyn gweld ai rhieni sy’n ennill llai na’r cyflog cyfartalog canolrifol sy’n manteisio’n bennaf ar y cynnig drwy Gymru gyfan.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw am sicrhau bod oed ‘plant cymwys’ yn parhau i gael ei adolygu a’i newid wrth ymateb i’r dystiolaeth a’r tueddiadau a ddaw i’r amlwg.
Mae’r Pwyllgor yn pryderu y bydd y cynnig yn creu mwy o alw am ofal plant ac na fydd y ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn gallu ateb y galw hwn. Clywodd dystiolaeth hefyd am yr effeithiau posibl ar blant sy'n gorfod mynd i leoliadau gwahanol i fanteisio ar eu darpariaeth blynyddoedd cynnar a’u cynnig gofal plant, er enghraifft yr angen i blant ifanc gael eu cludo o un lleoliad i’r llall.
Er mwyn osgoi hyn, dywed y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru 'fynd ati ar fyrder i ailystyried gallu ysgolion i ddarparu'r cynnig gofal plant llawn yn uniongyrchol’. Mae hefyd yn galw am gyllid a chymhellion ychwanegol i annog lleoliadau a gynhelir a lleoliadau nas cynhelir i leoli darpariaeth gofal plant a darpariaeth addysg blynyddoedd cynnar yn yr un lle.
Clywodd y Pwyllgor y gallai diffyg staff cymwys addas arwain at brinder gofal plant addas. Yn ôl Gofal Cymdeithasol Cymru, byddai angen 2,637 o weithwyr ychwanegol ledled Cymru i roi'r cynnig ar waith yn llawn. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn dweud mai dim ond drwy sicrhau cynnydd o 700% yn nifer y prentisiaid gofal plant sy'n cael eu hyfforddi dros y ddwy flynedd nesaf y gellir gwneud hyn, neu drwy greu 1,100 o leoedd ychwanegol yn y colegau (cynnydd o 38%) rhwng 2018-2020 a 2019-2021 (a fyddai'n golygu na fyddai rhai ar gael tan 2021).
Awgrymodd y dystiolaeth fod prinder staff yn broblem ddifrifol mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a lleoliadau sy’n darparu ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r Pwyllgor yn gofyn am ymateb manwl gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â ffigurau Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae'r Pwyllgor hefyd yn awyddus i sicrhau nad yw awdurdodau lleol yn gweld y cynnig gofal plant fel cyfle i leihau’r addysg blynyddoedd cynnar y mae'n ei darparu ar hyn o bryd ac mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau diwygiedig i osgoi’r posibilrwydd hwn .
Cyllido'r cynnig gofal plant
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth yn awgrymu y gallai'r model cyllido arfaethedig ar gyfer y cynnig gofal plant arwain at ganlyniadau anfwriadol. Yn benodol, mae'n pryderu am y tâl dyddiol am fwyd o hyd at £7.50 y gall darparwyr ei godi ar rieni. Mae'r Pwyllgor yn teimlo y gall hyn fod yn rhwystr i'r teuluoedd mwyaf difreintiedig. Mae wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ddileu'r hawl i godi’r tâl hwn, gan awgrymu y dylai gynyddu’r gyfradd sylfaenol y mae’n ei thalu i ddarparwyr gofal plant, sef £4.50 yr awr ar hyn o bryd, i’w digolledu os oes angen.
Mae'r Pwyllgor hefyd wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o gost / cyfraddau taliadau mewn lleoliadau a gynhelir a lleoliadau nas cynhelir ar gyfer gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar gyda'r bwriad o greu mwy o gysondeb rhwng y cyfraddau fesul awr. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth sy'n awgrymu y gallai cyllid ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar mewn lleoliadau nas cynhelir amrywio o £1.49 yr awr i £4.47 yr awr. Mae pryderon y gallai'r gwahaniaeth hwn olygu bod darparwyr yn dewis darparu dim ond yr elfen gofal plant o'r cynnig, ar draul addysg blynyddoedd cynnar gwerthfawr.
Gwelliannau posibl
O ystyried ei bryderon ynghylch y Bil a'r cynnig gofal plant cysylltiedig, argymhellodd y Pwyllgor nifer o welliannau i'r Bil.
Roedd rhai o'r argymhellion hyn yn canolbwyntio ar y meini prawf cymhwystra. Roeddent yn cynnwys gwelliant a fyddai'n sicrhau bod y cynnig ar gael i rieni sy'n chwilio am waith drwy ddilyn cwrs addysg neu hyfforddiant cysylltiedig â sicrhau swydd a gwelliant. Mae argymhelliad arall yn ceisio sicrhau bod manylion y cynnig, sef bod rhieni cymwys yn cael gofal plant am gyfnod sy’n cyfateb i 30 awr ym mhob un o 48 o wythnosau mewn unrhyw flwyddyn, yn cael ei roi ar wyneb y Bil.
Roedd nifer o’r gwelliannau’n canolbwyntio ar sicrhau y byddai'r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru fod yn fwy hyblyg o ran pwy fyddai'n gymwys i fanteisio ar y cynnig yn y dyfodol, a faint o ofal plant am ddim fydd ar gael.
Mae'r Pwyllgor hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau i’r rheoliadau a wneir o safbwynt cymhwystra yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddyrchafedig, yn hytrach na'r weithdrefn gadarnhaol sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd o dan y Bil.
Mae'r Pwyllgor o'r farn y bydd y newidiadau hyn yn gwella’r broses o graffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Gwaith craffu ychwanegol
Cyn i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gyhoeddi ei adroddiad ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil, cyhoeddodd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ei adroddiad ar oblygiadau ariannol y Bil ar 16 Gorffennaf 2018. Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol adroddiad ar 28 Mehefin 2018 ar briodoldeb y darpariaethau yn y Bil sy'n rhoi pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth.
Er nad oedd yn ymwneud â'r Bil yn uniongyrchol, cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ei adroddiad 'Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru' ym mis Gorffennaf 2018. Roedd Pennod 4 yn ymdrin â'r Cynnig Gofal Plant. Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion a nodir ym Mhennod 4 o’r adroddiad hwnnw.
Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru