Plentyn yn chwarae â thŷ doliau.

Plentyn yn chwarae â thŷ doliau.

Diwygio radical ar gyfer gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal: “Os nad nawr, pryd?”

Cyhoeddwyd 06/07/2023   |   Amser darllen munudau

Dyma gwestiwn Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi iddo ystyried a oes angen ‘diwygiadau radical’ i wasanaethau i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Ddydd Mercher (12 Gorffennaf), bydd yr Aelodau o’r Senedd yn trafod canfyddiadau’r Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru.

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i “ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.” Ar ôl cael gwybod y diweddaraf am y modd roedd y Llywodraeth yn bwrw ymlaen â’r addewid hwn, roedd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc am wybod rhagor.

Siaradodd aelodau’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn helaeth â phlant sydd â phrofiad o fod mewn gofal a rhieni biolegol o bob rhan o Gymru. Yn ogystal ag edrych ar ystadegau allweddol, clywsant hefyd gan amrywiaeth eang o randdeiliaid yn uniongyrchol  gan gynnwys ymarferwyr a rheolwyr, academyddion, y rheoleiddiwr a'r arolygiaeth berthnasol. Clywodd y Pwyllgor hefyd gan farnwyr yr uchel lys sy’n gwneud y dyfarniadau cyfreithiol ynghylch a yw plant yn cael eu rhoi yn y system ofal ai peidio.

Yn ei adroddiad dilynol, soniodd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc am 12 maes polisi y mae’n dweud bod angen eu diwygio’n radical, ac mae’n gwneud 27 o argymhellion “i sbarduno newidiadau brys, mawr eu hangen”.

Bydd yr Aelodau hefyd yn trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad diweddar gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd ynghylch cymorth i rieni sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Un plentyn ym mhob cant

Mae mwy nag un plentyn ym mhob cant yng Nghymru yn derbyn gofal a'r 'wladwriaeth' yw eu rhiant. Ac mae’r nifer wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Y wladwriaeth, felly, sy’n gyfrifol am ble mae'r plentyn yn byw, ei ddiogelwch, ei les emosiynol, ei iechyd, a'i addysg. Yn ôl  canllawiau Llywodraeth Cymru, rhaid i bob awdurdod lleol, fel rhieni corfforaethol, “weithredu ar ran y plant y maent yn gofalu amdanynt fel y byddai unrhyw riant cyfrifol a chydwybodol yn gweithredu”.

Serch hynny, darlun llwm iawn a geir yn yr adroddiad.

Mae amddifadedd, camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl ac anableddau dysgu rhieni i gyd yn rhan o ddarlun cymhleth sydd wedi arwain at gynnydd yn nifer y plant sy’n cael eu rhoi yng ngofal awdurdodau lleol Cymru. Mae cam-drin domestig yn ffactor allweddol ym mywydau 75% o famau biolegol sydd wedi gweld un neu ragor o’u plant yn cael eu cymryd oddi arnynt yn barhaol.

Mae ffactorau niferus yn dylanwadu ar nifer y plant sy’n cael eu rhoi yng ngofal awdurdodau lleol Cymru. Mae cyfraddau’r plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn llawer uwch na’r cyfraddau yn Lloegr. Yn 2021, roedd 115 fesul 10,000 o blant yng ngofal awdurdodau lleol Cymru o’i gymharu â 67 fesul 10,000 yng ngofal awdurdodau lleol yn Lloegr. Mae amrywiaethau sylweddol hefyd, na ellir eu hesbonio, rhwng awdurdodau lleol Cymru hyd yn oed ar ôl ystyried amddifadedd. Yn 2022, yn Nhorfaen roedd y gyfradd uchaf o blant yn derbyn gofal, sef 209 fesul 10,000 o blant ac yn Sir Gaerfyrddin roedd y gyfradd isaf, sef 45 o blant fesul 10,000 o’r boblogaeth o dan 18 oed. 

Nifer y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru

Mae’r graff hwn yn dangos nifer y plant a oedd yn derbyn gofal fel ar 31 Mawrth ym mhob blwyddyn rhwng 2013 a 2022. Mae’r niferoedd fel a ganlyn: 5760 yn 2013, 5745 yn 2014, 5610 yn 2015, 5660 yn 2016, 5960 yn 2017, 6405 yn 2018, 6855 yn 2019, 7165 yn 2020, 7245 yn 2021 a 7080 yn 2022.

Ffynhonnell: StatsCymru Plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol, rhyw ac oedran

A yw'r wladwriaeth yn gwneud 'rhiant da'?

Unwaith y bydd plant yn dechrau ‘derbyn gofal', gwelodd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ei bod yn gyffredin iddynt gael eu symud o un lle i’r llall. Roedd chwarter wedi byw mewn dau leoliad neu ragor yn ystod y flwyddyn flaenorol. Mae llai nag un o bob pump o blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn sicrhau 5 TGAU A*-C neu ragor, gan gynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg, o’u cymharu â hanner yr ‘holl ddisgyblion’. Mae trawma cynnar yn golygu y gall plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal fod bedair gwaith yn fwy tebygol o fod ag iechyd meddwl gwael. Dywed yr adroddiad ei fod yn “fethiant difrifol o ran magu plant corfforaethol” nad yw plant yn cael y cymorth therapiwtig priodol, yn rhannol oherwydd nad yw’r model meddygol o wasanaethau iechyd meddwl yn gallu diwallu eu hanghenion penodol iawn nhw.

Wrth i blant mewn gofal fynd yn hŷn mae’r dystiolaeth yn dangos bod rhai yn cael eu rhoi mewn lleoliadau anghyfreithlon neu heb eu cofrestru a bod eraill yn mynd ar goll. Mae rhai yn cael eu hamddifadu o'u rhyddid am resymau lles neu oherwydd bod risgiau i'w diogelwch. Gelwir y rhain yn Orchmynion Amddifadu o Ryddid a chânt eu hawdurdodi gan lys. Mae prinder llety addas wedi arwain at bryderon ynghylch cynnydd yn nifer y Gorchmynion hyn sydd ar waith ar gyfer plant sydd yng ngofal awdurdodau lleol Cymru. Wrth siarad â'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, dywedodd Barnwr Cyswllt Is-adran Teuluoedd Cymru ar y pryd fod y gorchmynion hyn yn cael eu defnyddio pan rydych chi mewn trafferthion dybryd a’i bod yn “broblem ofnadwy.”

Ar gyfartaledd, bydd pobl ifanc yng Nghymru yn gadael cartref eu rhiant pan fyddant yn 24 oed. Ac eto mae llawer o blant yn gadael gofal y wladwriaeth yn 18 oed, neu'n gynt yn aml. Mae’r adroddiad yn dweud bod llawer o bobl ifanc yn teimlo’u bod yn cyrraedd ‘ymyl y dibyn’ pan ddaw’r cymorth gan y wladwriaeth i ben. Mae gadael gofal yn cael ei ystyried yn “llwybr rhagweladwy i ddigartrefedd” a bydd un o bob pedwar person ifanc yn ddigartref yn y pen draw. 

O ran yr hyn y mae’r adroddiad yn cyfeirio ato fel “cylch gofal”, mae’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn dweud ei fod wedi’i “arswydo” o ddeall y bydd y wladwriaeth yn cymryd o leiaf un plentyn oddi ar chwarter y bobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal. Canfu’r Pwyllgor Deisebau nad oedd y dystiolaeth a gafodd “yn hawdd gwrando arni”, gan gyfeirio at “ragfarn a rhagdybiaeth, a hanesion dirdynnol am unigolion yn ei chael yn anodd adeiladu bywydau gwell iddyn nhw eu hunain a’u hanwyliaid.”

Mae “argyfwng staffio yn wynebu gofal cymdeithasol plant”

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y plant mewn gofal yng Nghymru, ac mae adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn cyfeirio at y ffaith bod y gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio gyda’r plant yn newid yn aml a bod hyn yn peri cryn ofid iddynt.  Yn 2022, roedd 4,774 o swyddi ar gael mewn timau gwaith cymdeithasol plant yng Nghymru. Clywodd y Pwyllgor fod 639 o'r swyddi hynny'n wag, gyda hanner y rhain yn swyddi gwag ar gyfer gweithwyr cymdeithasol cymwys. Clywodd hefyd fod hanner yr holl swyddi gofal cymdeithasol plant yn cael eu llenwi gan staff asiantaeth a bod 86% o'r staff asiantaeth hynny yn llenwi swyddi ar gyfer gweithwyr cymdeithasol cymwys.

Rhan o'r ateb, yn ôl y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, yw cyflwyno deddf newydd i gyfrifo uchafswm y llwythi achosion ar gyfer gweithwyr cymdeithasol plant, yn seiliedig ar y  dull deddfwriaethol a ddefnyddiwyd ar gyfer lefelau staff nyrsio. Mae'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu deddf newydd ochr yn ochr â chynllun cynhwysfawr ar gyfer digonolrwydd y gweithlu.

Ymrwymiad personol gan y Prif Weinidog

Mae Mark Drakeford wedi sôn ers tro am ei ymrwymiad personol i wella profiadau gofal plant, gan gynnwys pwyslais clir ar gadw plant a theuluoedd gyda’i gilydd pan fo’n ddiogel gwneud hynny. Mae Rhaglen Lywodraethu 2021-26 yn cynnwys cyfres o ymrwymiadau gan gynnwys:

  • cyllid i gynorthwyo teuluoedd y mae eu plant mewn perygl o gael eu rhoi yng ngofal yr awdurdod lleol;
  • “dileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal”;
  • cynyddu’r gwasanaethau preswyl sydd ar gael i blant ag anghenion cymhleth a hynny’n agosach at eu cartrefi; a
  • cheisio cryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel ‘rhiant corfforaethol’.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru hefyd Gynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer y pobl ifanc sy'n gadael gofal fel bod pobl ifanc sy'n gadael gofal yn cael cynnig £1,600 y mis (cyn treth) am ddwy flynedd i'w helpu i bontio i fywyd oedolyn.

A yw Llywodraeth y DU yn derbyn bod angen diwygiadau radical?

Gellir dadlau mai’r bwriad i ddatblygu cynllun clir ar gyfer newid cynhwysfawr a systemig oedd ymrwymiad mwyaf arwyddocaol Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phlant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Tystiolaeth yng nghyd-destun yr ymrwymiad hwn oedd y dystiolaeth wannaf, yn ôl y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc. Dyma eiriad yr addewid penodol:

 “ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn gadael gofal.”

Y prinder manylion mewn perthynas â’r ymrwymiad hwn roedd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn ceisio ymdrin ag ef. Mae'r Pwyllgor yn gofyn, 'Os nad nawr, pryd?' y daw’r newidiadau radical ac mae’n gosod her glir gan ddweud:

Dylai unrhyw un sy’n honni bod y wladwriaeth yn gwneud ei waith rhianta corfforaethol yn dda ystyried a fyddent yn hapus i’w plentyn ei hun gael gofal gan y system honno.

Ym mis Mai 2023, llofnododd y Prif Weinidog a chynrychiolwyr pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal  ddatganiad ar y cyd  yn “ymrwymo i ddiwygio gwasanaethau gofal plant a phobl ifanc yn radical”. Dywedodd rhai o'r bobl ifanc hyn hefyd wrth y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc am yr ymrwymiadau yr oeddent am i Lywodraeth Cymru eu rhoi iddynt.

Ar 12 Gorffennaf, bydd y Senedd yn trafod canfyddiadau’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ynghyd â chanfyddiadau’r Pwyllgor Deisebau. O’r 27 o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pump ohonynt yn llawn, wedi derbyn 15 ohonynt yn rhannol ac wedi gwrthod saith ohonynt.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eisoes wedi dweud yn glir bod achos cryf dros gyflwyno diwygiadau radical ac wedi nodi’r hyn y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud i “sbarduno newidiadau brys, mawr eu hangen”.


Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru