Chwalu'r rhwystrau: gofal plant a chyflogaeth rhieni

Cyhoeddwyd 29/03/2022   |   Amser darllen munudau

Yn ogystal â bod â rôl bwysig o ran datblygu plant, tynnodd y pandemig sylw at y rôl mae gofal plant yn ei chwarae wrth gefnogi’r economi. Mae diffyg gofal plant fforddiadwy yn rhwystr mawr i weithio, yn enwedig ar gyfer mamau. Mae “Gwasanaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant o safon fyd-eang sy’n darparu ar gyfer plant wrth gefnogi rhieni i weithio” yn cael ei ystyried yn allweddol i gyflawni nod Llywodraeth Cymru i ddod yn arweinydd byd ym maes cydraddoldeb rhywiol.

Cyn i'r Senedd drafod adroddiad ar ofal plant a chyflogaeth rhieni y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol mae’r erthygl hon yn edrych pa mor bell ar hyd y trywydd hwn y mae Cymru, ym mhle mae’r bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant, ac ar ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol.

Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cymorth gofal plant

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ariannu sawl math o ddarpariaeth gofal plant ar gyfer gwahanol grwpiau oedran, mewn gwahanol ardaloedd:

  • Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i 10 awr yr wythnos o ofal meithrin Cyfnod Sylfaen o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed nes iddynt ddechrau yn yr ysgol amser llawn. Yn ymarferol mae llawer o awdurdodau lleol yn cynnig rhagor.
  • O dan ‘Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru mae’r rhan fwyaf o rieni sy’n gweithio yn gymwys i gael 30 awr o ofal plant yr wythnos am ddim ar gyfer plant 3 a 4 oed, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r 30 awr yn cynnwys o leiaf 10 awr o addysg gynnar yr wythnos ac uchafswm o 20 awr yr wythnos o ofal plant.
  • Mae’r rhaglen Dechrau'n Deg yn darparu gofal plant am ddim i rieni plant 2 a 3 oed sy’n byw yn yr ardaloedd a ddiffinir fel yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru am 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos. Mae’r ddarpariaeth hon ar gael am 39 wythnos y flwyddyn, gydag o leiaf 15 o sesiynau yn ystod gwyliau'r ysgol.

Yn ei Rhaglen Lywodraethu, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ariannu gofal plant ar gyfer rhagor o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu ar gyrion gwaith. Yn dilyn hynny, fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio, bydd darpariaeth gofal plant a ariennir yn cael ei hymestyn i bob plentyn dwy flwydd oed. Ar 15 Mawrth, nododd Llywodraeth Cymru fanylion cam cyntaf yr ehangu hwn – sef, ymestyn y rhaglen Dechrau’n Deg yn ddiweddarach eleni.

A yw'r ddarpariaeth gofal plant bresennol yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran rhywedd?

Mae’r bwlch rhwng gorffen cyfnod mamolaeth statudol a dechrau darpariaeth gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn effeithio ar yrfaoedd rhieni, yn enwedig mamau. Ym mis Tachwedd dywedodd Chwarae Teg wrth y Pwyllgor:

By this point, many parents have already made decisions about how to change their working patterns to accommodate caring responsibilities. This often results in women reducing their hours or leaving the workforce entirely.

Canfu gwaith ymchwil gan Arad, er bod llawer o rieni wedi gallu cynyddu eu henillion neu weithio’n hyblyg, roedd rhai yn cwestiynu i ba raddau y mae’r Cynnig Gofal Plant yn cymell rhieni i ddechrau gweithio neu ddychwelyd i weithio. Roedd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn cyflwyno darlun cymysg hefyd, gan wneud sylw y gall diffyg darpariaeth ar gyfer plant o dan dair oed; anghysondeb o ran argaeledd a hyblygrwydd gofal ledled Cymru; a diffyg gwybodaeth hygyrch gyfyngu ar yr effaith y mae darpariaeth gofal plant yn ei chael ar gyflogaeth mamau.

Gan edrych ar brofiadau rhyngwladol, awgryma Asiantaeth Cydraddoldeb Rhywiol Sweden bod gofal plant wedi bod yn un o bileri polisi cydraddoldeb rhwng y rhywiau Sweden ers y 1970au. Mae dull gweithredu hirdymor o ran gofal plant a ariennir yn gyhoeddus wedi arwain at lefel uwch o gyflogaeth o ran menywod, a gwelwyd yr effeithiau mwyaf pan oedd cyllid ar gael i famau di-waith.

A oes mynediad cyfartal at ofal plant?

Amlygodd ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i Ofal plant a chyflogaeth rhieni fylchau o ran mynediad at ddarpariaeth gofal plant, a daeth i’r casgliad; “Yn ogystal â’r symudiad i ehangu darpariaeth gofal plant am ddim, sydd i’w groesawu, mae’n rhaid cael mwy o gamau gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion hyn.”

Canfu Astudiaeth Carfan y Mileniwm fod plant o’r teuluoedd tlotaf oddeutu 10 mis y tu ôl i blant o gefndiroedd mwy cefnog o ran eu datblygiad erbyn iddynt droi’n dair blwydd oed. Dywedodd y Comisiynydd Plant na ddylai buddsoddiad ar raddfa fawr, fel y Cynnig Gofal Plant, eithrio plant o deuluoedd nad ydynt yn gweithio, gan fod hyn yn atgyfnerthu’r anghydraddoldebau hyn.

Canfu’r Arolwg Gofal Plant 2022 nad oedd gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru ddigon o ofal plant ym mhob rhan o'i awdurdod ar gyfer plant ag anableddau. Mae pryderon eang am y ddarpariaeth ar gyfer plant ag anableddau. Mae'r pryderon hyn yn cynnwys anawsterau wrth ddod o hyd i ddarpariaeth; canlyniadau negyddol y pandemig; a chyfleusterau nad ydynt bob amser yn addas.

Mae rhanddeiliaid yn awgrymu nad oes digon o gynrychiolaeth o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn y gweithlu gofal plant, a bod enghreifftiau o ddiffyg ymwybyddiaeth ddiwylliannol ymhlith darparwyr. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal gwaith ar ddiffyg cynrychiolaeth cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn y gweithlu gofal plant. Bydd yn cynnwys camau i leihau anghydraddoldebau gofal plant yn ei Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.

Er gwaethaf buddsoddiad blaenorol gan Lywodraeth Cymru, mae pryderon o hyd am fynediad cyfyngedig at ddarpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg, ac anawsterau i recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg.

“Ry’n ni ar gontractau oriau sero ac yn gwarchod y dyfodol.”

Mae yna hefyd bryderon eang ynghylch lefel ansicr y gwaith, a chyflogau isel o fewn y sector, a bod hyn yn cyfrannu at y prinder llafur. Fel y dywedodd un gweithiwr rheng flaen wrth y Pwyllgor Cydraddodeb a Chyfiawnder Cymdeithasol “Rydym ar gontractau oriau sero ac yn gwarchod y dyfodol”.

Mae cyflogwyr yn y sector gofal plant wedi awgrymu y byddai cael cyfradd uwch yr awr o dan y Cynnig Gofal Plant gan Lywodraeth Cymru yn eu galluogi nhw i godi cyflogau. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y gyfradd fesul awr yn cynyddu o £4.50 yr awr i £5 o fis Ebrill ymlaen.

Wrth ehangu ei darpariaeth gofal plant, mae Llywodraeth yr Alban wedi canolbwyntio ar sicrhau bod pob gweithiwr gofal plant yn cael eu talu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol. Yn yr un modd â Chymru, nid yw cyfraith cyflogaeth wedi’i ddatganoli i’r Alban, sy’n ei gwneud yn anos cyflawni hyn. Argymhellodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y dylai Llywodraeth Cymru ddysgu oddi wrth y dull a ddefnyddiwyd yn yr Alban, i’w galluogi i osod amserlen ar gyfer talu Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf i weithwyr gofal plant yng Nghymru.

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: gofal plant o dan y chwyddwydr

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Mawrth 8 Mawrth, Cyfarfu aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol â chynrychiolwyr o CWLWM, Women Connect First a Single Parent Wales i drafod adroddiad y Pwyllgor.

Croesawodd y Panel adroddiad y Pwyllgor ac ehangiad y Cynnig Gofal Plant ond hefyd: nododd sawl maes sy’n peri pryder, gan gynnwys:

  • Sicrhau bod rhieni cymwys yn manteisio ar y Cynnig Gofal Plant.
  • Cynyddu lefelau cyflog i adlewyrchu’r cymwysterau sydd eu hangen, a chyflog rolau tebyg o fewn y proffesiwn addysgu.
  • Herio'r 'diffyg parch' a ddangosir tuag at y sector.
  • Darparu rhagor o gefnogaeth i'r rhieni hynny sy'n gweithio oriau annodweddiadol, i sicrhau y ceir mynediad cyfartal at ofal plant fforddiadwy sydd o ansawdd da.

Beth am y dyfodol?

Mewn perthynas ag ehangu’r Cynnig Gofal Plant i blant dwy flwydd oed, dywedodd Llywodraeth Cymru:

Er bod y polisi wrthi'n cael ei lunio o hyd, pan gaiff ei weithredu'n llawn, y ddarpariaeth gofal plant i blant 2 oed yng Nghymru fydd yr un fwyaf hael o bob un o wledydd y DU.

Bydd rhanddeiliaid a rhieni yn awyddus i glywed rhagor o fanylion am sut y caiff yr ymrwymiad hwn ei gyflawni. Mae sefydliadau fel y Mudiad Meithrin a Chwarae Teg wedi croesawu’r cam i ymestyn y Cynnig Gofal Plant. Fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn aneglur faint o effaith a gaiff yr ehangu ar anghydraddoldebau rhywedd o ran cyflogaeth rhieni, yn enwedig os bydd rhai o’r rhwystrau a amlygwyd gan y Pwyllgor yn parhau.

Gallwch wylio'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Senedd TV ar 30 Mawrth.


Erthygl gan Claire Thomas a Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru