Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): tudalen adnoddau

Cyhoeddwyd 20/09/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/01/2024   |   Amser darllen munudau

Cafodd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ei gyflwyno i’r Senedd ar 18 Medi 2023.

Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau allweddol gan Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith o graffu ar y Bil. Caiff ei ddiweddaru wrth i’r Bil fynd drwy broses ddeddfu’r Senedd.

Gallwch ddilyn hynt y Bil ar dudalen Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Yno ceir y Bil ei hun a’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys y Nodiadau Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Cyhoeddiadau Ymchwil y Senedd

Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru