Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Geirfa Ddwyieithog

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Geirfa Ddwyieithog

Ail gyfle i'r Senedd drafod gwelliannau i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Cyhoeddwyd 25/04/2024   |   Amser darllen munudau

Bydd trafodion Cyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cael eu cynnal ar 30 Ebrill.

Hwn fydd yr ail gyfle, a’r olaf yn ôl pob tebyg, i Aelodau o’r Senedd ddiwygio’r Bil. Dyma'r trydydd o bedwar cyfnod ym mhroses ddeddfwriaethol y Senedd.

Mae’r erthygl hon yn crynhoi’r prif newidiadau a wnaed i’r Bil yn ystod cyfnod 2 ym mis Mawrth ac yn nodi meysydd lle cynigiodd Llywodraeth Cymru weithio ar welliannau eraill.

Trafodion Cyfnod 2

Trafododd y Pwyllgor o’r Senedd Gyfan 126 o welliannau a gyflwynwyd i'r Bil ar 5 a 6 Mawrth 2024. Derbyniwyd 67 ohonynt – 58 ohonynt yn welliannau gan y llywodraeth. Tynnwyd saith gwelliant yn ôl cyn trafodion Cyfnod 2. Roedd y 51 gwelliant a oedd yn weddill yn aflwyddiannus neu cawsant eu tynnu’n ôl yn ystod y trafodion, fel y nodir yn ddiweddarach yn yr erthygl hon.

Cyflwynwyd 58 o welliannau gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog dros y Cyfansoddiad (“y Cwnsler Cyffredinol”), 49 gan Darren Millar AS, 17 gan Jane Dodds AS, un gan Adam Price AS ac un gan Heledd Fychan AS.

Cynyddu nifer uchaf Gweinidogion Cymru

Cyflwynodd Darren Millar MS welliant i’w gwneud yn ofynnol i reoliadau i gynyddu nifer uchaf Gweinidogion Cymru o 17 i 18 neu 19 gael eu cymeradwyo gan o leiaf dwy ran o dair o gyfanswm yr Aelodau o’r Senedd, yn hytrach na thrwy fwyafrif syml, fel y cynigir yn y Bil fel y’i cyflwynwyd.

Roedd y gwelliant hwn yn llwyddiannus ac yn bwrw ymlaen ag Argymhelliad 7 yn adroddiad cyfnod 1 y Pwyllgor Biliau Diwygio .

Cafodd gwelliant tebyg a gyflwynwyd gan yr un Aelod, a fyddai dileu’r pŵer rheoleiddio hwn, ei drechu. Cynigiodd y Cwnsler Cyffredinol weithio gyda Darren Millar ar welliant a dynnwyd yn ôl i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn ddarostyngedig i gymal machlud, sy’n golygu y byddai’r uchafswm yn dychwelyd i 17 ar ddiwedd tymor pob Senedd.

Enwau ymgeiswyr ar bapurau pleidleisio

Mae gwelliant 51, a gyflwynwyd gan Jane Dodds AS ac a gefnogir gan Darren Millar AS, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod enwau ymgeiswyr yn cael eu cynnwys ar bapurau pleidleisio yn etholiadau’r Senedd. Mae’r gwelliant hwn yn bwrw ymlaen ag Argymhelliad 15 yn adroddiad cyfnod 1 y Pwyllgor Biliau Diwygio.

Bydd llawer o’r manylion ynghylch etholiad nesaf y Senedd yn cael eu cynnwys mewn darn o is-ddeddfwriaeth, sef y Gorchymyn Cynnal Etholiadau. Mae'r gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gynnwys darpariaeth i enwau ymgeiswyr fod ar bapurau pleidleisio.

Cadarnhaodd y Cwnsler Cyffredinol fod Llywodraeth Cymru wedi bwriadu cynnwys enwau ymgeiswyr ar bapurau pleidleisio o’r dechrau un felly roedd yn “hapus i gefnogi” y gwelliant hwn.

Terfynau gwariant ymgyrchu

Un o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol i’r Bil oedd cynnwys adran newydd yn ymwneud â therfynau gwariant ymgyrchoedd etholiadol y Senedd.

Mae’r gwelliant hwn, a gyflwynwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio’r terfynau ar gyfer gwariant ymgyrchu pleidiau gwleidyddol yn etholiadau’r Senedd. Mae'r terfynau presennol wedi'u nodi yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Dim ond gyda chydsyniad y Comisiwn Etholiadol y byddai Gweinidogion Cymru yn gallu arfer y pŵer hwn.

Mae pwerau tebyg eisoes ar gael i Weinidogion y DU eu defnyddio (mewn perthynas ag etholiadau Senedd y DU, etholiadau’r Senedd a Chynulliad Gogledd Iwerddon) ac i Weinidogion yr Alban yn achos etholiadau Senedd yr Alban. Fodd bynnag, nid oedd hwn yn fater a ystyriwyd yn ystod cyfnod craffu cyfnod 1 y Bil.

Anghymhwyso pobl rhag gweithio i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Mae gwelliannau 70 i 74, a gyflwynwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, yn addasu’r rhestr o bobl sydd wedi’u hanghymhwyso rhag bod yn aelodau o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (fel y bydd yn cael ei hailenwi gan y Bil), a rhag bod yn brif weithredwr neu’n ddirprwy gomisiynydd yn y corff hwnnw.

Mae’r gwelliannau hyn yn ymateb i argymhellion 23 a 24 yn adroddiad cyfnod 1 y Pwyllgor Biliau Diwygio i ehangu’r rhestr o’r rhai sydd wedi’u hanghymhwyso i gynnwys cyflogeion pleidiau gwleidyddol a chynghorwyr arbennig a benodwyd i lywodraethau Cymru, yr Alban a’r DU.

Enwau etholaethau a rôl Comisiynydd y Gymraeg

Roedd 14 o welliannau a gyflwynwyd gan y Cwnsler Cyffredinol yn ymwneud ag enwau etholaethau’r Senedd a rôl Comisiynydd y Gymraeg yn y broses o adolygu ffiniau. Roedd hwn yn fater a ystyriwyd gan y Pwyllgor Biliau Diwygio ac mae’r gwelliannau hyn yn ymdrin ag argymhellion 32-35 yn ei adroddiad cyfnod 1.

Mae gwelliannau 92 a 101 yn creu rhagdybiaeth y byddai Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn rhoi un enw, y gellid ei ddefnyddio yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar gyfer pob un o etholaethau’r Senedd, oni bai ei fod yn ystyried y byddai hynny’n annerbyniol. O dan yr amgylchiadau hynny, gallai’r Comisiwn roi enwau gwahanol i’r etholaeth yn y ddwy iaith. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol y byddai effaith y gwelliannau hyn yn ymarferol yn golygu bod yn rhaid i unrhyw enw unigol fod yn dderbyniol i’w ddefnyddio yn y Gymraeg.

Mae gweddill y gwelliannau yn y grŵp hwn wedi’u cyflwyno i gryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg fel ymgynghorai pan fydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd. Mae’r gwelliannau hyn yn ymateb i argymhellion 32 a 35 yn adroddiad cyfnod 1 y Pwyllgor Biliau Diwygio.

Ymateb y Llywodraeth i'r adolygiad

Mae’r gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyflwyno ymateb gerbron y Senedd i adroddiad a gyhoeddir gan bwyllgor Seneddol y gellid ei sefydlu o dan adran 19 o’r Bil i adolygu’r modd y caiff y ddeddfwriaeth ei rhoi ar waith.

Cafodd y newid hwn ei argymell gan y Pwyllgor Biliau Diwygio ac er bod y Cwnsler Cyffredinol yn cydnabod y bydd Gweinidogion Cymru, drwy gonfensiwn, bob amser yn ymateb i adroddiadau Pwyllgorau’r Senedd, dywedodd y byddai’n derbyn y gwelliant i gynnwys y gofyniad ar wyneb y Bil.

Gwelliannau aflwyddiannus

Cafodd y rhan fwyaf o’r gwelliannau a gyflwynwyd gan Aelodau'r Wrthblaid eu trechu. Yn eu plith roedd:

  • Gwelliannau a gyflwynwyd gan Darren Millar AS i gyflwyno system i adalw Aelodau o’r Senedd. Er bod y Cwnsler Cyffredinol yn dweud y gallai weld y byddai’n werth ystyried system ar gyfer y Senedd, nid oedd o blaid y gwelliannau gan nad oedd hwn yn fater syml, meddai, ac roedd angen ei ystyried yn ofalus.
  • Gwelliant a gyflwynwyd gan Adam Price AS i’w gwneud yn drosedd i Aelod o’r Senedd, neu ymgeisydd i fod yn Aelod o’r Senedd, wneud neu gyhoeddi datganiad y maent yn gwybod ei fod yn ffug neu'n dwyllodrus er mwyn camarwain yn fwriadol, a chyda’r bwriad o gamarwain. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol na fyddai’n cefnogi’r gwelliant, ond y byddai’n ysgrifennu at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i awgrymu ei fod yn ystyried y mater hwn. Byddai hyn yn rhan o waith y Pwyllgor hwnnw mewn ymateb i Argymhelliad 50 yn adroddiad cyfnod 1 y Pwyllgor Biliau Diwygio i ddatblygu opsiynau ar gyfer cryfhau atebolrwydd Aelodau unigol.
  • Gwelliant a gyflwynwyd gan Darren Millar AS a fyddai wedi’i gwneud yn ofynnol i gynnal refferendwm cyn i’r ddarpariaeth yn y Bil ddod i rym. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol nad oedd angen hyn gan fod yr achos dros ddiwygio’r Senedd wedi’i gymeradwyo gan dair o’r pedair plaid wleidyddol yn y Senedd ac roedd mwyafrif yr Aelodau o’r Senedd wedi pleidleisio drosto.
  • Gwelliant a gyflwynwyd gan Heledd Fychan AS i’w gwneud yn ofynnol i unrhyw adolygiad a gynhelir o dan adran 19 o’r Bil ystyried y cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau o’r Senedd a phleidiau gwleidyddol i gyflawni eu dyletswyddau. Cynigiodd y Cwnsler Cyffredinol ymgysylltu a thrafod y mater hwn ymhellach ac ni chynigiwyd y gwelliant.

Gallwch wylio trafodion cyfnod 3 y Bil (30 Ebrill) ar Senedd.tv.


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru