Senedd Cymru

Senedd Cymru

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - Crynodeb o’r Bil

Cyhoeddwyd 11/10/2023   |   Amser darllen munudau

Gallai'r Senedd fod ar drothwy’r ad-drefnu mwyaf sylweddol ers ei sefydlu ym 1999 os bydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn dod yn gyfraith.

Byddai’r Bil yn gweld nifer yr Aelodau o'r Senedd yn cynyddu i 96, yn ogystal â newid y ffordd y cânt eu hethol.

O dan gynigion y Bil, byddai'r Senedd yn dychwelyd i dymhorau pedair blynedd a byddai uchafswm nifer y Dirprwy Lywyddion a Gweinidogion Cymru yn cynyddu.

Byddai’r Bil hefyd yn cyflwyno adolygiadau ffiniau ar gyfer etholaethau’r Senedd a byddai’n ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr sy’n sefyll i gael eu hethol i’r Senedd, ac Aelodau o’r Senedd, gofrestru i bleidleisio mewn cyfeiriad yng Nghymru.

Mae’r Crynodeb hwn o'r Bil yn darparu trosolwg o’r darpariaethau yn y Bil, ac yn cyfeirio at ragor o wybodaeth.


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru