Dau berson yn rhoi eu pleidleisiau mewn blwch pleidleisio.

Dau berson yn rhoi eu pleidleisiau mewn blwch pleidleisio.

Un o bwyllgorau’r Senedd yn mynegi “amheuon sylweddol” ynghylch y system etholiadol arfaethedig

Cyhoeddwyd 25/01/2024   |   Amser darllen munudau

Mae sut mae Aelodau o’r Senedd yn cael eu hethol wedi bod yn bwnc trafod ers dros 20 mlynedd. Yn dilyn argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd yn 2022, cynigiodd Llywodraeth Cymru system etholiadol â rhestrau caeedig, y gellid ei defnyddio ar gyfer etholiad 2026 ac o hynny ymlaen. Ond ai dyma'r un iawn?

Mae'r Senedd yn cynnal dadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ddydd Mawrth 30 Ionawr. Cyn y ddadl, mae’r erthygl hon yn edrych ar y dystiolaeth a gafwyd gan y Pwyllgor Biliau Diwygio am rinweddau’r system etholiadol a gynigir yn y Bil a’r argymhellion yn ei adroddiad.

Beth mae’r Bil yn ei gynnig?

Mae Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn darparu y dylai Aelodau o’r Senedd gael eu hethol gan ddefnyddio system cynrychiolaeth gyfrannol â rhestrau caeedig.

Yn y system a gynigir yn y Bil, mae pleidiau gwleidyddol yn cyflwyno rhestr drefnus o hyd at wyth ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth. Gall ymgeiswyr annibynnol hefyd sefyll yn yr etholaeth.

Mae pleidleiswyr yn dewis un blaid wleidyddol neu un ymgeisydd annibynnol i bleidleisio drosto. Mae ymgeiswyr pob plaid yn cael eu hethol yn y drefn y cânt eu gosod ar eu rhestr.

Dyrennir seddi gan ddefnyddio'r Fformiwla D'Hondt, mewn ffordd debyg i’r modd y dyrennir seddi rhestr ranbarthol yn system etholiadol bresennol y Senedd.

Beth mae’r Pwyllgor Biliau Diwygio wedi’i ddweud am y system?

Mae’r Pwyllgor Biliau Diwygio wedi mynegi “amheuon sylweddol ynghylch a yw Bil sy’n rhoi rhestrau caeedig ar waith o reidrwydd yn cynrychioli cam cadarnhaol ymlaen i ddemocratiaeth yng Nghymru”. Roedd y Pwyllgor yn argymell y:

Dylai’r Aelod sy’n gyfrifol [y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad] weithio gyda’r holl bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd i ddod i gytundeb ar sut y gellid diwygio’r Bil yng Nghyfnod 2 i sicrhau bod y system etholiadol yn rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr ac yn sicrhau bod Aelodau’r dyfodol yn fwy atebol i’w hetholwyr.

Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor, roedd tystion, gan gynnwys yr Athro Alan Renwick a'r Athro Laura McAllister, yn cydnabod y gallai system â rhestrau caeedig ddarparu canlyniad mwy cymesur na'r system bresennol. Clywodd y Pwyllgor hefyd fod y system yn hawdd ei deall ac yn gyfarwydd i bleidleiswyr a gweinyddwyr etholiadol. Roedd y rhan fwyaf o’r dystiolaeth a ddaeth i law’r Pwyllgor, fodd bynnag, yn mynegi “amheuon a phryderon” am y system a gynigir yn y Bil.

Amlygodd tystion, gan gynnwys yr Athro Alistair Clark, fod y system â rhestrau caeedig yn cyfyngu ar ddewis pleidleiswyr ac yn rhoi gormod o bŵer yn nwylo pleidiau gwleidyddol i ddewis trefn eu hymgeiswyr.

O dan y system â rhestrau caeedig, byddai pleidiau gwleidyddol yn gallu dewis trefn yr ymgeiswyr ar eu rhestr. Nododd tystiolaeth yr Athro Clark i’r Pwyllgor y byddai hyn fel pe bai’n rhoi’r pŵer dros ba ymgeiswyr sy’n cael eu hethol yn y pen draw yn gadarn yn nwylo’r pleidiau gwleidyddol.

Byddai pleidleiswyr yn gallu dewis rhwng pleidiau gwleidyddol yn unig, yn hytrach na gallu rhoi ffafriaeth i ymgeisydd penodol. Dywedodd yr Athro Alan Renwick wrth y Pwyllgor y byddai gorfodi pleidleiswyr i feddwl yn nhermau pleidiau yn unig a’u hatal rhag cael dewis o ran unigolion yn niweidiol i ddemocratiaeth ac i hyder y cyhoedd yn y Senedd.

Beth yw'r dewisiadau eraill?

Y ddau brif ddewis arall a gynigwyd mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor oedd y 'Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy' a'r 'Rhestr Hyblyg'. Dyma hefyd oedd y ddwy system a argymhellwyd gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn 2017. Gwrthododd y Panel Arbenigol y system â rhestrau caeedig oherwydd diffyg dewis i bleidleiswyr ac atebolrwydd i Aelodau unigol yn uniongyrchol i bleidleiswyr.

Rhestr Hyblyg

Mae Rhestr Hyblyg yn caniatáu i bleidleiswyr ddewis rhwng rhestrau o ymgeiswyr a gynigir gan bleidiau gwleidyddol mewn ffordd debyg i'r system â rhestrau caeedig a gynigir yn y Bil. Fodd bynnag, cynhwysir mecanweithiau fel y gall pleidleiswyr ddylanwadu ar y drefn y mae ymgeiswyr yn cymryd seddi a enillwyd gan y blaid.

Y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy

Mae’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) yn system etholiadol gyfrannol lle mae pleidleiswyr yn rhifo ymgeiswyr yn nhrefn blaenoriaeth mewn etholaethau aml-aelod. Mae gan bob etholwr un bleidlais. Os oes gan ddewis cyntaf pleidleisiwr ddigon o bleidleisiau i ennill sedd, neu os nad oes gan ei ddewis cyntaf obaith clir o ennill, bydd ail ddewis y pleidleisiwr yn cael ei bleidlais. Bydd unrhyw bleidleisiau sy'n fwy na'r cwota ar gyfer yr ymgeisydd buddugol yn symud i ail ddewis y pleidleisiwr. Mae hyn yn parhau nes bod pob sedd yn yr etholaeth wedi'i llenwi.

Gwelliant ar y trefniadau presennol?

Roedd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, yn anghytuno â'r sylwadau a wnaed gan gyfranwyr am anfanteision rhestrau caeedig. Dywed bod y system a gynigir yn y Bil yn gwella’r system bresennol.

Wrth drafod manteision democrataidd rhestrau caeedig, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrth y Pwyllgor, gan fod y system yn estyniad o'r system sydd eisoes ar waith, fod dealltwriaeth eisoes o sut mae'n gweithio. Dywedodd hefyd fod y system yn gymesur, felly mae’n sicrhau cynrychiolaeth decach o lawer o wleidyddiaeth yng Nghymru.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrth y Pwyllgor ei fod yn cymryd yr argymhellion a ddaeth gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ac yn eu troi'n ddeddfwriaeth.

Beth nesaf o ran y Bil?

Roedd y Pwyllgor Biliau Diwygio yn argymell, drwy fwyafrif, y dylai’r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd fod “rhesymeg glir” dros gynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd. Nid oedd Darren Millar AS yn cytuno y dylai’r Senedd gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, nac y dylid cynyddu maint y Senedd o gwbl.

Gwnaeth y Pwyllgor 50 o argymhellion, gan gynnwys galw am:

  • newidiadau i'r mecanwaith ar gyfer cynnydd pellach ym maint Llywodraeth Cymru;
  • cryfhau atebolrwydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a ailenwyd;
  • diwygiadau i’r weithdrefn ar gyfer adolygiadau ffiniau etholaethau’r Senedd.

Mae’r Bil wedi’i drafod hefyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Cyllid.

Bydd dadl Cyfnod 1 yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 30 Ionawr, a bydd pleidlais yn cael ei chynnal i weld a yw’r Senedd yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil. Bydd angen cefnogaeth mwyafrif syml i’r Bil yn y bleidlais hon a phleidlais sy’n awdurdodi ei oblygiadau ariannol er mwyn symud ymlaen i’w gyfnod nesaf.

Os bydd y Bil yn mynd rhagddo, Cyfnod 2 fydd y cyfle cyntaf i Aelodau o’r Senedd gyflwyno gwelliannau i’r Bil. Gofynnir i’r Senedd gytuno ar a ddylai trafodion Cyfnod 2 y Bil gael eu cynnal gan Bwyllgor o’r Senedd Gyfan yn hytrach na phwyllgor penodol.


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru