Diwygio’r Senedd: geirfa

Cyhoeddwyd 06/06/2022   |   Amser darllen munudau

Ers 2004, mae cyfres o adroddiadau wedi argymell y dylai maint y Senedd gynyddu o’i 60 Aelod presennol. Mae ein herthygl, Diwygio’r Senedd – y stori hyd yma yn sôn am ychydig o'r hanes hwn.

Sefydlwyd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ym mis Hydref 2021 i lunio cynigion i’w cynnwys ym Mil Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r Senedd. Mae’r erthygl hon yn esbonio rhai o’r termau allweddol a ddefnyddiwyd yn adroddiad y Pwyllgor hwnnw, Diwygio ein Senedd. Mae ein herthygl ar Ddiwygio ein Senedd yn crynhoi ei chanfyddiadau allweddol a’r camau nesaf ar gyfer Diwygio’r Senedd.

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod yn y Senedd ar 8 Mehefin.

Y prif dermau

Adolygu ffiniau

Fel arfer, caiff ffiniau etholaethau at ddibenion etholiadau’r DU eu hadolygu o bryd i'w gilydd i wneud yn siŵr eu bod yn adlewyrchu ffactorau fel newidiadau mewn poblogaeth. Mae’r Pwyllgor yn argymell adolygiad symlach o ffiniau ar gyfer etholiad 2026, adolygiad llawn o’r ffiniau cyn etholiad 2031 ac adolygiadau cyfnodol ar ôl hynny. Mae’n dweud y dylai Bil Diwygio’r Senedd nodi’r paramedrau ar gyfer adolygiadau yn y dyfodol ac y dylai’r cyfrifoldeb ar gyfer cynnal adolygiadau fod yn nwylo’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol i Gymru.

Cwotâu rhywedd

Mae cwotâu rhywedd – yng nghyd-destun etholiadau – yn reolau sy'n mynnu bod nifer neu ganran benodol o rywedd penodol yn cael ei chynrychioli yn y gronfa o ymgeiswyr sy’n sefyll i gael eu hethol. Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai’r Senedd gael ei hethol gyda chwotâu rhywedd statudol integredig.

Cyd-drawiad

Cyd-drawiad yw etholaethau’n rhannu ffiniau ar gyfer gwahanol etholiadau. Er enghraifft, pe bai ffiniau Senedd y DU a ffiniau’r Senedd yr un fath byddent yn cyd-daro. Dywedir bod cyd-drawiad yn ddefnyddiol o ran cynefindra i bleidleiswyr a phleidiau. Roedd ffiniau'r Senedd yn arfer cyd-daro â ffiniau San Steffan tan 2011, pan gafodd y cysylltiad ei dorri. Mae’r Pwyllgor wedi awgrymu – er y bydd manteision i gael rhywfaint o gyd-daro i ddechrau –na ddylid cadw’r cysylltiad hwn yn yr hirdymor, fel nad yw ffiniau’r Senedd yn cael eu heffeithio gan newidiadau i etholaethau San Steffan nad oes gan y Senedd unrhyw reolaeth drostynt.

Cynrychiolaeth Gyfrannol ar sail Rhestr Gaeedig

Math o system etholiadol lle mae pob plaid yn cyflwyno rhestr o'u hymgeiswyr ar gyfer etholaethau aml-aelod. Caiff yr ymgeiswyr buddugol eu cymryd o'r rhestrau yn nhrefn eu safle, a dyrennir seddi'n gymesur gan ddefnyddio fformiwla. Mewn system rhestr gaeedig, mae pleidiau yn cyflwyno rhestr sefydlog yn y drefn o'u dewis. Nid oes gan bleidleiswyr lais yn y modd y trefnir y rhestr, ac yn syml, mae'r pleidleisiwr yn pleidleisio dros restr y blaid. Dyma’r system a argymhellir gan y Pwyllgor. At hynny, dyma’r system a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer seddi rhanbarthol yn y Senedd.

Dull D'Hondt

Fformiwla a ddefnyddir i droi pleidleisiau yn seddi mewn system etholiadol gyfrannol. Mae’r fformiwla eisoes yn cael ei defnyddio ar gyfer seddi rhanbarthol yn y Senedd bresennol. Rhennir nifer y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob plaid â nifer y seddi y mae'r blaid eisoes wedi'u hennill, ynghyd ag un. Er enghraifft, os yw plaid wedi ennill dwy sedd, rhennir nifer y pleidleisiau a enillir â thri. Y blaid sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau ym mhob rownd sy’n ennill y sedd, ac mae hyn yn cael ei ailadrodd hyd nes bod pob sedd wedi’i llenwi. Dyma’r dull a argymhellir gan y Pwyllgor.

Dull Sainte-Laguë

Fformiwla a ddefnyddir i droi pleidleisiau yn seddi mewn system etholiadol gyfrannol. Mae'n debyg i ddull D'Hondt, y prif wahaniaeth yw'r rhannwr a ddefnyddir ym mhob rownd. Yn y dull Sainte-Laguë, rhennir nifer y pleidleisiau â dwywaith nifer y seddi a enillwyd, ynghyd ag un. Er enghraifft, ar ôl ennill sedd sengl, mae'r rownd nesaf yn defnyddio'r rhannwr tri, gan mai un dwbl yw hwn (y sedd a enillwyd yn y rownd gyntaf), ynghyd ag un. Mae hyn yn arwain at ranwyr o un, tri, pump, saith ac yn y blaen ar gyfer pob rownd, hyd nes bod pob sedd wedi'i dyrannu. Ni argymhellwyd y dull hwn gan y Pwyllgor, er bod lleiafrif wedi dadlau o'i blaid.

Etholaethau aml-aelod

Mae etholaethau aml-aelod yn etholaethau sy’n ethol mwy nag un aelod. Mae’r rhestrau rhanbarthol a ddefnyddiwyd hyd yn hyn yn etholiadau’r Senedd yn un enghraifft. Mae’r Pwyllgor yn cynnig y byddai pob etholaeth yn etholiadau’r Senedd yn y dyfodol yn ethol cyfanswm o chwe aelod. Mae hyn yn wahanol i systemau etholiadol 'cyntaf i'r felin' fel yr un a ddefnyddir i ethol Aelodau Seneddol y DU, lle mae un aelod yn unig yn cael ei ethol i gynrychioli etholaeth.

Maint y dosbarth

Maint y dosbarth yw nifer yr aelodau a etholir gan bob etholaeth. Mae’r Pwyllgor Diben Arbennig wedi argymell y dylai chwe aelod gael eu hethol mewn 16 o etholaethau yn etholiadau’r Senedd yn y dyfodol. Byddai hynny’n golygu maint y dosbarth o chwech. Po uchaf yw maint y dosbarth neu nifer yr aelodau sy'n cynrychioli ardal, y mwyaf cyfrannol y mae'r canlyniadau'n debygol o fod. Gall meintiau’r dosbarth sy'n rhy uchel feddu ar y risg o fod yn ‘hypergyfrannol’ gan ganiatáu i bleidiau neu ymgeiswyr â lefelau isel iawn o gefnogaeth gyffredinol ennill seddi.

Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Sefydlwyd y Panel Arbenigol ym mis Chwefror 2017 i roi cyngor gwleidyddol ddiduedd i’r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad ar y pryd, ar nifer yr Aelodau y dylai’r Senedd eu cael, y system etholiadol fwyaf addas i’w defnyddio a materion cysylltiedig eraill. Roedd yn cynnwys chwe academydd, a chafodd ei gadeirio gan yr Athro Laura McAllister. Cyhoeddodd ei adroddiad ym mis Tachwedd 2017.

Paru

Mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylid creu 16 o etholaethau newydd ar gyfer y Senedd. Mae'n dweud y dylent fod yn seiliedig ar baru’r 32 etholaeth newydd ar gyfer Senedd y DU fydd ar waith erbyn 2023. Mae paru yn golygu paru dwy etholaeth wahanol i wneud un newydd. Dywed y Pwyllgor y dylid cynnal adolygiad ffiniau ‘symlach’ at ddibenion paru etholaethau cyn 2026.

Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy

System etholiadol gyfrannol lle mae pleidleiswyr yn rhifo ymgeiswyr yn nhrefn blaenoriaeth mewn etholaethau aml-aelod. Mae gan bob etholwr un bleidlais. Os oes gan ddewis cyntaf pleidleisiwr ddigon o bleidleisiau i ennill sedd, neu os nad oes gan ei ddewis cyntaf obaith clir o ennill, bydd ail ddewis y pleidleisiwr yn cael ei bleidlais. Bydd unrhyw bleidleisiau sy'n fwy na'r cwota ar gyfer yr ymgeisydd buddugol yn symud i ail ddewis y pleidleisiwr. Mae hyn yn parhau nes bod pob sedd yn yr etholaeth wedi'i llenwi. Dyma'r system a argymhellwyd gan y Panel Arbenigol a’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, ond nid gan y Pwyllgor. Roedd lleiafrif ar y Pwyllgor o blaid y dull hwn.

Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd

Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ym mis Medi 2019 i ystyried canfyddiadau'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol. Roedd yn cynnwys Aelodau o’r Senedd o Blaid Cymru, Llafur a Phlaid Brexit (UKIP gynt). Ymddiswyddodd aelod Plaid Brexit cyn i’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd gyhoeddi ei ganfyddiadau. Cyhoeddodd ei adroddiad terfynol ym mis Medi 2020.

Rhestrau ‘am yn ail’

Trefn lle mae rhestr ymgeiswyr plaid yn amrywio rhwng ymgeiswyr gwrywaidd a benywaidd. Mae hyn yn sicrhau bod niferoedd cyfartal o ymgeiswyr gwrywaidd a benywaidd yn ymddangos ar restrau pleidiau. Mae hyn eisoes yn cael ei ddefnyddio gan rai pleidiau yn etholiadau rhanbarthol y Senedd. Mae’r Pwyllgor yn argymell ei ddefnyddio mewn Senedd ddiwygiedig.

Uwchfwyafrif

Y ôl Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’n rhaid i Filiau sy’n ymwneud ag aelodaeth y Senedd, ei hetholaethau a’r systemau ar gyfer dychwelyd Aelodau gael eu pasio gan uwchfwyafrif o Aelodau’r Senedd yn hytrach na mwyafrif syml fel gyda Biliau eraill. Mae hynny’n golygu bod angen i Filiau ar y pynciau hyn gael 40 Aelod o’r Senedd i bleidleisio drostyn nhw wrth gam olaf proses y Bil er mwyn iddyn nhw gael eu pasio. Mae hyn wedi’i nodi’n fanwl yn Adran 111A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mewn sawl man, mae’r adroddiad yn cyfeirio at y ffaith bod mwyafrif y Pwyllgor sydd o blaid argymhelliad yn cynrychioli uwchfwyafrif deddfwriaethol o fewn y Senedd.


Erthygl gan Rhun Davies, Philip Lewis & Nia Moss Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru